Rheoliadau Ceffylau (Safonau Sootechnegol) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Ceffylau (Safonau Sootechnegol) (Cymru) 2006, ISBN 0110914015. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol— Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ceffylau (Safonau Sootechnegol) (Cymru) 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 30 Medi 2006. Dehongli 2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—
(b) sydd wedi'i gydnabod i'r diben hwn o dan reoliad 3;
(b) y cofnodir neu y cofrestrir ceffylau ynddo neu ynddi gan grybwyll eu holl hynafiaid sy'n hysbys.
(2) Yn y Rheoliadau hyn mae i ymadroddion nas diffinnir ynddynt ac sy'n digwydd ym Mhenderfyniad y Comisiwn 92/353/EEC[3] neu Benderfyniad y Comisiwn 96/78/EC[4] yr ystyr sydd iddynt at ddibenion y Penderfyniadau hynny. Meini prawf cydnabyddiaeth 3. —(1) Er mwyn cael ei gydnabod neu ei chydnabod yn gorff cydnabyddedig, rhaid i gorff neu gymdeithas—
(b) cadw llyfr gre neu lunio un o'r newydd; ac (c) bodloni'r meini prawf y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
(2) Yn ddarostyngedig i reoliad 4, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gydnabod unrhyw gorff neu gymdeithas sy'n bodloni'r meini prawf a geir ym mharagraff (1).
(b) yn methu cydymffurfio â rheoliad 6; neu (c) yn methu cydymffurfio â rheoliad 7.
(2) Os oes corff cydnabyddedig eisoes yn bodoli mewn cysylltiad â brid penodol o geffyl, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wrthod cydnabod corff neu gymdeithas sy'n cynrychioli'r un brid o geffyl—
(ii) yn rhoi yn y fantol y gwaith o redeg y corff cydnabyddedig sy'n bodoli eisoes; neu (iii) yn rhoi yn y fantol raglen gwella neu ddethol y corff cydnabyddedig sy'n bodoli eisoes; neu
(b) os yw corff cydnabyddedig sy'n bodoli eisoes yn caniatáu i geffylau o'r brid hwnnw gael eu cofnodi mewn adran o'i lyfr gre sy'n llyfr y mae'r corff yn ei gadw'n unol â'r rheolau a osodir gan y corff cydnabyddedig sy'n cadw'r llyfr gre lle y cofnodir tarddiad y brid hwnnw.
(3) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â pharagraff (1) neu (2) yn gwrthod cydnabod corff neu gymdeithas, neu'n tynnu cydnabyddiaeth yn ôl oddi wrtho neu oddi wrthi, rhaid iddo roi'n ysgrifenedig i'r corff hwnnw neu i'r gymdeithas honno y rhesymau am wrthod cydnabyddiaeth neu am ei thynnu'n ôl. Rhannu prif adran llyfr gre 6. Rhaid i gorff cydnabyddedig beidio â rhannu prif adran ei lyfr gre ac eithrio yn ddosbarthau gwahanol yn ôl rhinweddau'r ceffylau. Cofnod gorfodol ym mhrif adran llyfr gre 7. —(1) Rhaid i gorff cydnabyddedig gofnodi ceffyl ym mhrif adran ei lyfr gre—
(b) os yw pedigri'r ceffyl hwnnw wedi'i sefydlu'n unol â rheolau ei lyfr gre; ac (c) os nodir bod y ceffyl hwnnw'n ebol wrth droed yn unol â rheolau ei lyfr gre, sy'n rheolau y mae'n rhaid iddynt gynnwys o leiaf ofyniad am dystysgrif egluro.
(2) Os yw ceffyl yn gymwys i'w gofnodi mewn adran atodol o lyfr gre yn unol â'r meini prawf a geir yn rheoliad 8, rhaid i gorff cydnabyddedig ganiatáu i epil y ceffyl hwnnw gael ei gynnwys ym mhrif adran ei lyfr gre.
(b) os yw'r corff cydnabyddedig yn barnu bod y ceffyl hwnnw'n cydymffurfio â safon y brid; ac (c) os yw'r ceffyl hwnnw'n bodloni'r gofynion ynghylch isafswm perfformiad a geir yn y rheolau yn ei lyfr gre.
Rhaglenni croesfridio
(b) sy'n pennu pa fridiau y caniateir iddynt gymryd rhan yn y rhaglen honno.
Cofnodi ceffylau a gofrestrir mewn llyfrau gre eraill
(b) yw corff cydnabyddedig wedi rhannu prif adran ei lyfr gre yn unol â rheoliad 6,
rhaid i'r corff cydnabyddedig gofnodi'r ceffyl yn y dosbarth yn ei lyfr gre y mae'r ceffyl hwnnw'n bodloni meini prawf y dosbarth hwnnw. Dull gweithredu cyrff cydnabyddedig 1. —(1) Rhaid i gorff neu gymdeithas sy'n cadw llyfr gre lle y cofnodir tarddiad brid neu sy'n llunio un o'r newydd, fod wedi sefydlu—
(b) system ar gyfer nodi ceffylau; (c) diffiniad o nodweddion y brid y mae'r llyfr gre yn ymdrin ag ef; (ch) diffiniad o amcanion sylfaenol ei ddull o ddethol; a (d) llinachau a gofnodir mewn un llyfr gre arall neu fwy, lle y bo'n angenrheidiol.
(2) Rhaid i gorff neu gymdeithas sy'n cadw llyfr gre, neu sy'n llunio un o'r newydd, ond nad yw'n cadw llyfr gre lle y cofnodir tarddiad y brid, gydymffurfio â'r egwyddorion a sefydlwyd o dan baragraff (1) gan y corff neu'r gymdeithas sy'n cadw'r llyfr gre lle y cofnodir tarddiad y brid.
(b) gallu darparu'r data angenrheidiol ar gyfer cyflawni rhaglen gwella, dethol neu raglen sicrhau parhad; ac (c) bod wedi sefydlu system ar gyfer darparu data sy'n caniatáu i geffylau gael eu gwerthuso at ddiben gwella, dethol a sicrhau parhad brid.
Trin bridwyr heb gamwahaniaethu (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 92/353/EEC (OJ Rhif L 192, 11.07.1992, t. 63) a Phenderfyniad y Comisiwn 96/78/EC (OJ Rhif L 19, 25.01.1996, t. 39). Maent yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Ceffylau (Safonau Sootechnegol) 1992 (O.S. 1992/3045). Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r meini prawf y mae'n rhaid i gorff neu gymdeithas eu bodloni er mwyn iddo gael ei gydnabod neu iddi gael ei chydnabod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") at ddiben cadw llyfr gre (rheoliad 3(1) a'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn). Rhaid rhoi cydnabyddiaeth swyddogol i unrhyw gorff neu gymdeithas sy'n bodloni'r meini prawf hyn (rheoliad 3(2)). Mae Rheoliad 4 yn nodi o dan ba amgylchiadau y caiff y Cynulliad Cenedlaethol wrthod rhoi cydnabyddiaeth i gorff neu gymdeithas, neu y caiff dynnu cydnabyddiaeth yn ôl oddi wrtho neu oddi wrthi. Rhaid rhoi gwybod i'r corff yn ysgrifenedig bod unrhyw gydnabyddiaeth wedi'i gwrthod neu'i thynnu'n ôl. Mae rheoliad 5 yn caniatáu i berson wneud sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol os gwrthodwyd rhoi cydnabyddiaeth neu os tynnwyd hi'n ôl o dan reoliad 4. Mae rheoliad 6 yn caniatáu i gorff cydnabyddedig rannu prif adran ei lyfr gre yn ddosbarthau gwahanol yn ôl rhinweddau'r ceffylau, ond mae'n ei wahardd rhag gwneud hynny am resymau eraill. Mae rheoliad 7 yn pennu o dan ba amgylchiadau y mae'n rhaid i gorff cydnabyddedig gofnodi ceffyl ym mhrif adran ei lyfr gre. Caniateir i gorff cydnabyddedig gofnodi ceffyl mewn adran atodol o'i lyfr gre os yw'r ceffyl hwnnw'n bodloni isafswm meini prawf penodol (rheoliad 8); cofnodi ceffyl ym mhrif adran ei lyfr gre er mwyn iddo gymryd rhan mewn rhaglen croesfridio (rheoliad 9); a chofnodi ceffyl a gofrestrwyd mewn llyfr gre arall ym mhrif adran ei lyfr gre ei hun (rheoliad 10). Paratowyd arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Adran Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. Notes: [1] O.S. 2005/2766.back [3] OJ Rhif L192, 11.7.92, t. 63.back [4] OJ Rhif L019, 25.1.96, t. 39.back
ISBN 0 11 091401 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 13 October 2006 |