Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu a Chigydda) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu a Chigydda) (Cymru) 2006, ISBN 011091399X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 15(4), 32(2) a 88(2) Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu a Chigydda) (Cymru) 2006. (2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 29 Awst 2006. (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru. Diwygio Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu a Chigydda) 1992 2. Yn erthygl 2(1) (cymhwyso adran 32 Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981) Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu a Chigydda) 1992[2] ar ôl "Epizootic haemorrhagic virus disease" mewnosoder "Equine infectious anaemia". Diwygio Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu) 1996 3. Yn Rhan I o Atodlen 1 (Clefydau Penodedig) Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu) 1996 [3] ar ôl "Epizootic haemorrhagic virus disease" mewnosoder "Equine infectious anaemia". Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) Deddf Llywodraeth Cymru 1998[4]. Jane Hutt Y Trefnydd a'r Gweinidog dros Gydraddoldebau a Phlant 16 Awst 2006 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu a Chigydda) 1992 (O.S. 1992/3159) drwy ychwanegu "equine infectious anaemia" i'r rhestr clefydau y mae adran 32 Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 yn gymwys iddynt (ac y gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru beri i anifeiliaid gael eu cigydda oddi tano). Mae erthygl 3 yn diwygio Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu) 1996 (O.S. 1996/2628) drwy ychwanegu "equine infectious anaemia" i'r rhestr clefydau penodedig y mae'r darpariaethau hysbysu yn erthygl 3 o'r Gorchymyn hwnnw yn gymwys iddynt. Notes: [1] 1981 p.22, fel y'i diwigiwyd gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 (p.42), ac O.S. 2003/1734. Trosglwyddwyd pwerau Ysgrifennydd Gwladol Cymru, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") yn rhinwedd O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd pwerau Ysgrifennydd Gwladol yr Alban i'r Gweinidog Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan O.S. 1999/3141 ac yna fe'u trosglwyddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan O.S. 2002/794. Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i'r Cynulliad Cenedlaethol gan O.S. 2004/3044.back [2] O.S. 1992/3159, a ddiwigiwyd gan O.S. 2003/130; mae offerynnau diwygio eraill, nad ydynt yn berthnasol.back [3] O.S. 1996/2628; Offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1998/1645 a 2003/130.back
ISBN 0 11 091399 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 4 October 2006 |