Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2006, ISBN 0110913884. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 22, 42(6) a 43(1) o Ddeddf Addysg Uwch 1998[1], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 14 Gorffennaf 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn—
Diwygio'r Prif Reoliadau
" mae i "ffioedd" yr ystyr a roddir i "fees" yn adran 41(1) o Ddeddf 2004 ac eithrio yn achos ffioedd coleg;"
5.
Yn rheoliad 2, hepgorer paragraffau (2) i (5).
(b) y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol, yn achos swyddogaeth y cyfeirir ati yn adran 44(2) o'r Ddeddf.".
7.
Yn rheoliad 4(2)(a), o flaen y geiriau "Atodlen 1" mewnosoder y geiriau "Rhan 2 o".
(b) myfyriwr cymwys dan y drefn newydd—
(ii) sydd ar gwrs gradd gyntaf amser-llawn (heblaw gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon) na ddechreuodd arno yn union ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i); a (iii) nad yw wedi cymryd cwrs gradd gyntaf amser-llawn ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i) ac o flaen y cwrs presennol;
(c) myfyriwr cymwys dan y drefn newydd—
(ii) sydd ar gwrs gradd anrhydedd amser-llawn na ddechreuodd arno yn union ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i); a (iii) nad yw wedi cymryd cwrs gradd gyntaf amser-llawn ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i) ac o flaen y cwrs presennol; ac
(ch) myfyriwr cymwys dan yr hen drefn sydd ar gwrs pen-ben o fath a ddisgrifir ym mharagraff (a) a (b) o'r diffiniad o gwrs "pen-ben" yn rheoliad 2.".
10.
Ar ôl rheoliad 6(4A) (a fewnosodir gan reoliad 9 uchod), mewnosoder—
11.
Yn rheoliad 6(9) mewnosoder—
(b) ar ôl paragraff (c)—
(c) ar ôl paragraff (9)(ch)—
12.
Yn rheoliad 7(1), yn lle "baragraff (3)" rhodder "baragraffau (3) a (3A)" a hepgorer y geiriau "neu grant at gostau byw".
15.
Yn lle rheoliad 7(4) rhodder—
(b) os yw'r myfyriwr cymwys i dderbyn unrhyw daliad o dan fwrsari gofal iechyd y cyfrifwyd y swm amdano drwy gyfeirio at ei incwm neu lwfans gofal iechyd Albanaidd y cyfrifwyd y swm amdani drwy gyfeirio at ei incwm o ran unrhyw flwyddyn academaidd o'r cwrs; neu (c) os yw'r myfyriwr ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon.".
16.
Ar ôl rheoliad 7(7) mewnosoder—
17.
Yn lle rheoliad 10(2)(a), rhodder y canlynol—
18.
Hepgorer rheoliad 10(2)(b) ac (c). Cymorth Ffioedd yn Gyffredinol 11A. —(1) Ni chaniateir i grant o dan Ran 4 neu fenthyciad o dan Ran 5 o ran blwyddyn academaidd fod yn fwy na'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr o ran y flwyddyn academaidd honno. (2) I gael benthyciad o dan y Rheoliadau hyn rhaid i'r myfyriwr ymrwymo mewn contract gyda'r Cynulliad Cenedlaethol. Myfyrwyr sy'n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd 11B. Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 11C yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—
(b) nad yw'r cyfryw grantiau a benthyciadau ar gael o ran unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd pan ddigwyddodd y digwyddiad perthnasol.
Digwyddiadau
(b) pan gydnabyddir bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn ffoadur neu pan fydd yn dod yn berson sydd â chaniatâd ganddo i ddod i mewn neu aros (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1); (c) pan fydd gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r wladwriaeth honno; (ch) pan fydd y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r GE; (d) pan fydd y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio'n barhaol (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1); (dd) pan fydd y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu (e) pan fydd y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.".
20.
Yn y penawdau ar gyfer Rhan 6 a rheoliad 18 ar ôl y geiriau "gostau byw" mewnosoder y geiriau "a chostau eraill".
(6B) Nid yw paragraff (6A) yn gymwys os y rheswm nad oes gan y myfyriwr hawl i gymorth perthnasol yw oherwydd—
(b) mae'r cwrs gradd yn gwrs hyblyg ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon.
(6C) Ym mharagraff (6A) ystyr "cymorth perthnasol", mewn achos grant o dan reoliad 28, yw grant at ffioedd, neu, yn achos grant o dan reoliad 29 neu 30, yw benthyciad at ffioedd.".
24.
Yn rheoliad 18(8)(b) rhodder yn lle'r geiriau "y'i crybwyllir ym mharagraff 3 o Atodlen 1", y geiriau "fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1", a hepgorer y "neu" sy'n dod o flaen yr is-baragraff hwnnw.
(ch) pan fydd y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio'n barhaol (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1); (d) pan fydd y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu (dd) pan fydd y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.".”;
26.
Yn rheoliad 30(2) ar ôl "1992" mewnosoder y geiriau ", neu os ymdrinnir ag ef fel rhywun sy'n atebol i wneud taliadau o ran annedd a ragnodwyd gan reoliadau a wnaed o dan adran 130(2) o'r Ddeddf honno".
(ch) pan fydd y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio'n barhaol (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1); (d) pan fydd y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu (dd) pan fydd y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.".
32.
Ar ôl rheoliad 44, mewnosoder— 44A. Mae benthyciad ffioedd coleg ar gael i fyfyriwr cymwys yn unol ag Atodlen 3A.".
33.
Ar ôl rheoliad 50(1), mewnosoder—
(b) sy'n fyfyriwr cymwys rhan-amser ond nad oes hawl ganddo i gael cymorth o dan y Rhan hon.".
34.
Yn rheoliad 50(2)(a), o flaen y geiriau "Atodlen 1" mewnosoder y geiriau "Rhan 2 o".
(b) nid yw grant o ran ffioedd ar gael o ran unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd pan ddigwyddodd y digwyddiad perthnasol.
“(13A) Pan fydd un o'r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (d), (dd), (e) neu (f) o baragraff (14) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—
(b) nid yw grant ar gyfer llyfrau, teithio a threuliau eraill ar gael o ran unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd pan ddigwyddodd y digwyddiad perthnasol.
(14) Dyma'r digwyddiadau—
(b) pan gydnabyddir bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn ffoadur neu pan fydd yn dod yn berson sydd â chaniatâd ganddo i ddod i mewn neu aros (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1); (c) pan fydd gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r wladwriaeth honno; (ch) pan fydd y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r GE; (d) pan fydd y wladwriaeth y mae'r myfyriwr yn wladolyn ynddi yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr wedi preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; (dd) pan fydd y myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio'n barhaol (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1); (e) pan fydd y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu (f) pan fydd y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.".
37.
Yn rheoliad 53(5)(e) yn lle'r ffigur "£9.50" rhodder y ffigur "£2.00".
40.
Yn rheoliad 62(3)(a), o flaen y geiriau "Atodlen 1" mewnosoder y geiriau "Rhan 2 o".
45.
Yn lle paragraff 4(2) o Atodlen 4 rhodder—
46.
Ym mharagraff 10(4)(b) a (c) o Atodlen 4 mewnosoder ar ôl y geiriau "yn fwy na £22,560" y geiriau "os yw'r myfyriwr yn fyfyriwr dan yr hen drefn neu'n fwy na £37,900 os yw'r myfyriwr yn fyfyriwr dan y drefn newydd.".
11. —(1) Os oes cyfraniad yn daladwy o dan baragraff 8 neu 9 o ran myfyriwr cymwys annibynnol y mae ganddo bartner, mae'r cyfraniad yn daladwy yn unol â'r is-baragraffau canlynol—
(b) yn ddarostyngedig i'r is-baragraffau canlynol, am unrhyw flwyddyn pryd y mae dyfarniad sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn, Rheoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 2003[3] neu adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968[4] (a dim unrhyw ddyfarniad statudol arall) gan bartner i'r myfyriwr cymwys annibynnol, mae'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys annibynnol yn swm sy'n hafal i hanner y cyfraniad a gyfrifir o dan baragraff 8 neu 9; (c) pe na bai'r cyfraniad a gyfrifir, o ganlyniad i'r dyraniad o dan baragraff (b) o'r is-baragraff hwn, yn cael ei ddileu drwy ei gymhwyso mewn perthynas â dyfarniad statudol y myfyriwr cymwys annibynnol, mae gweddill y cyfraniad yn cael ei gymhwyso yn hytrach i ddyfarniad statudol perthnasol ei bartner os ydynt ill dau yn fyfyrwyr dan yr hen drefn neu os ydynt ill dau yn fyfyrwyr dan y drefn newydd.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), er mwyn cyfrifo'r cyfraniad at ei ddyfarniad statudol, ychwanegir at incwm gweddilliol myfyriwr sy'n rhiant unrhyw swm sy'n weddill—
(b) os yw myfyriwr sy'n rhiant yn rhiant i fwy nag un myfyriwr cymwys, unrhyw swm sy'n weddill ar ôl dyrannu'r cyfraniad i'w blant o dan yr Atodlen hon.
(3) Os oes gan fyfyriwr sy'n rhiant bartner sydd hefyd yn fyfyriwr cymwys y cymerir ei incwm i ystyriaeth wrth asesu'r cyfraniad o ran y plant yn is-baragraff (2), ychwanegir hanner y swm a gyfrifir o dan is-baragraff (2) at incwm gweddilliol y myfyriwr sy'n rhiant.".
Dehongli 1. —(1) At ddibenion yr Atodlen hon—
(ii) ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil; neu (iii) perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;
(b) o ran person cyflogedig Swisaidd, person cyflogedig Swisaidd y ffin a pherson hunan-gyflogedig Swisaidd y ffin neu berson hunan-gyflogedig Swisaidd—
(ii) ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil;
(c) o ran gwladolyn y GE nad yw'n hunangynhaliol—
(ii) disgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil—
(bb) sy'n ddibynyddion ei briod neu ei bartner sifil;
(ch) o ran gwladolyn y GE sy'n hunangynhaliol—
(ii) disgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil—
(bb) sy'n ddibynyddion ei briod neu ei bartner sifil;
(iii) perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;
(d) o ran gwladolyn y Deyrnas Unedig, at ddibenion paragraff 9—
(ii) disgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil—
(bb) sy'n ddibynyddion ei briod neu ei bartner sifil;
(b) sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;
(b) sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;
(b) o ran gwladolyn Swisaidd, person sy'n berson hunan-gyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
(b) sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;
(b) y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros yn unol â hynny; a (c) sydd wedi preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy'r cyfnod y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros;
(b) sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;
mae i "wedi setlo" yr ystyr a roddir i "settled" gan adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971[10];
(b) ymgymryd â chwrs, gan ddiystyru unrhyw wyliau a ddigwyddodd yn y cyfamser, yr ymgymerodd y myfyriwr ag ef yn union cyn ymgymryd â'r cwrs presennol,
i gael ei ystyried fel rhywun sy'n preswylio'n arferol yn y lle y symudodd ohono.
(b) ei briod neu ei bartner sifil; (c) ei riant; neu (ch) yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil,
yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu, yn ôl y digwydd, y tu allan i'r diriogaeth lle mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir.
(b) yn achos aelodau o luoedd rheolaidd y llynges, y fyddin neu'r llu awyr o dan Wladwriaeth AEE neu'r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r diriogaeth sydd yn Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir fel aelodau o'r cyfryw luoedd.
(6) At ddibenion yr Atodlen hon mae ardal—
(b) sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym wedi dod yn rhan o un ardal neu'r llall neu'r ddwy ardal hon,
i'w ystyried fel bai wastad wedi bod yn rhan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig 2. —(1) Person sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—
(b) sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru; (c) sydd wedi preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a (ch) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu'n preswylio yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) at y diben llwyr neu bennaf o dderbyn addysg lawn-amser.
(2) Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson yr ymdrinnir ag ef fel rhywun sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(4).
(b) sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; (c) sydd wedi preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a (ch) mewn achos yr oedd y preswylio y cyfeirir ato ym mharagraff (c) at y diben llwyr neu bennaf o dderbyn addysg lawn-amser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sydd yn Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union o flaen y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
Ffoaduriaid a phersonau sydd â chaniatâd ganddynt i ddod i mewn neu aros
(ii) yn briod, partner sifil, plentyn neu lysblentyn person a grybwyllir ym mharagraff (i); a
(b) yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
5.
Person—
(ii) yn briod, partner sifil, plentyn neu lysblentyn person sydd â chaniatâd ganddo i ddod i mewn neu aros;
(b) yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunan-gyflogedig ac aelodau o'u teulu
(ii) yn berson cyflogedig Swisaidd neu'n berson hunan-gyflogedig Swisaidd; (iii) yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (i) neu (ii); (iv) yn weithiwr y ffin o'r AEE neu yn berson hunan-gyflogedig y ffin o'r AEE; (v) yn berson cyflogedig Swisaidd y ffin neu'n berson hunan-gyflogedig Swisaidd y ffin; neu (vi) yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (iv) neu (v);
(b) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(2) Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys os yw'r person sy'n gwneud cais am gymorth yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraff (1).
(b) wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac (c) â hawl i gymorth yn rhinwedd Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1612/68 ar ryddid gweithwyr i symud[11], fel y'i hestynnir gan Gytundeb yr AEE.
Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl preswylio yn rhywle arall
(b) wedi gadael y Deyrnas Unedig ac arfer hawl preswylio ar ôl iddo fod wedi setlo yn y Deyrnas Unedig; (c) yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf mewn gwirionedd yn dechrau; (ch) wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac (d) mewn achos yr oedd y preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (ch) at y diben llwyr neu bennaf o dderbyn addysg lawn-amser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sydd yn Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union o flaen y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (ch).
(2) At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl preswylio os yw'n wladolyn y Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu Gwladolyn y Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir) neu berson sydd â hawl preswylio parhaol sydd yn y ddau achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth heblaw'r Deyrnas Unedig neu yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig a bod ganddo hawl preswylio parhaol, os yw'n mynd i'r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy'n Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir y mae'n wladolyn ohoni neu y mae'n berson y mae'n aelod o deulu gwladolyn ohoni.
(ii) yn aelod o deulu person o'r fath;
(b) ac mae'n—
(ii) yn ymgymryd â chwrs dynodedig rhan-amser neu gwrs dynodedig ôl-radd yng Nghymru;
(c) wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(2) Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson yr ymdrinnir ag ef fel rhywun sy'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).
(b) yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; (c) wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a (ch) mewn achos yr oedd y preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) at y diben llwyr neu bennaf o dderbyn addysg lawn-amser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sydd yn Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union o flaen y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
(2) Os yw gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn y wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod rhywun yn wladolyn y GE ac nid yn wladolyn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad a fodlonir.
(b) yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; (c) wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac (ch) mewn achos yr oedd y preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) at y diben llwyr neu bennaf o dderbyn addysg lawn-amser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sydd yn Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union o flaen y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).".
Dehongli 1. Yn yr Atodlen hon—
(ii) mae'n arwain at gymhwyster fel gweithiwr cymdeithasol; neu (iii) o ran unrhyw flwyddyn academaidd y mae gan fyfyriwr yr hawl i dderbyn taliad o dan fwrsari gofal iechyd y cyfrifir ei swm drwy gyfeirio at ei incwm neu fwrsari gofal iechyd Albanaidd y cyfrifir ei swm drwy gyfeirio at ei incwm;
(b) ystyr "myfyriwr cymhwysol" ("qualifying student") yw person sy'n bodloni amodau paragraff 3;
Benthyciadau ffioedd coleg sydd ar gael
(b) mae ganddo radd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig; (c) mae'n cymryd cwrs cymhwyso sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006; (ch) mae'n aelod o goleg neu neuadd breifat barhaol Prifysgol Rhydychen neu'n aelod o goleg Prifysgol Caergrawnt; a (d) mae o dan 60 oed ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs cymhwyso.
4.
Nid yw myfyriwr cymwys sy'n dod o fewn paragraff 9 o Atodlen 1 yn gymwys i gael benthyciad ffioedd coleg o dan y Rheoliadau hyn os yw'n preswylio fel arfer yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
(b) nad oes benthyciad ffioedd coleg ar gael o ran unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd pan ddigwyddodd y digwyddiad perthnasol.
8.
Dyma'r digwyddiadau—
(b) pan fydd gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr yn wladolyn y wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r wladwriaeth honno; (c) os yw'r myfyriwr yn aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r GE; (ch) os yw'r myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio'n barhaol fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1; (d) os yw'r myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; (dd) os bydd y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.
9.
Mae benthyciad ffioedd coleg ar gael o ran bob blwyddyn academaidd safonol o'r cwrs cymhwyso ac o ran un flwyddyn academaidd o'r cwrs cymhwyso nad yw'n flwyddyn academaidd safonol.
(b) os bydd y myfyriwr yn trosglwyddo cyn diwedd y flwyddyn academaidd ar ôl gwneud cais am fenthyciad ffioedd coleg, telir y swm y gwnaed cais amdano i'r coleg perthnasol neu neuadd breifat barhaol o ran y cwrs cymhwyso y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo iddo os bodlonir yr amodau ym mharagraff 14 ac nad yw'n gallu cymhwyso ar gyfer benthyciad arall o ran ffioedd coleg mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd honno. (c) os bydd y myfyriwr yn trosglwyddo ar ôl i'r benthyciad ffioedd coleg gael ei dalu a chyn diwedd y flwyddyn academaidd, ni all wneud cais am fenthyciad arall o ran ffioedd coleg mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs cymhwyso y mae'n trosglwyddo iddo.
Cyfrannu
(b) bod cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd wedi dod i ben.
(4) Mae'n ofynnol i'r coleg neu neuadd breifat barhaol anfon cadarnhad o bresenoldeb at y Cynulliad Cenedlaethol ar y ffurf honno y caiff y Cynulliad ei gwneud yn ofynnol a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â thalu'r benthyciad ffioedd coleg o ran y flwyddyn academaidd nes iddo dderbyn y cadarnhad hwnnw oni fydd yn penderfynu oherwydd amgylchiadau eithriadol, y byddai'n briodol i dalu heb dderbyn cadarnhad o bresenoldeb.
(b) y coleg neu neuadd breifat barhaol wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn cychwyn mynychu eto yn ystod y flwyddyn academaidd y mae'r ffioedd coleg yn daladwy ar ei chyfer neu o gwbl.
Gordalu
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006 ("y Prif Reoliadau"). Ceir crynodeb o effaith y prif newidiadau isod. Newidiadau a wneir i weithredu gofynion yr UE (Rheoliadau 4(a), 5, 7, 17 — 22, 24, 25, 29 — 31, 34 — 36, 39 — 42 ac Atodlen 1). Rhaid i fyfyrwyr fodloni meini prawf cymhwystra penodol er mwyn iddi fod yn bosibl iddynt fod yn gymwys i gael cymorth tuag at naill ai eu ffioedd hyfforddi yn unig neu eu ffioedd hyfforddi a chymorth cynhaliaeth. Diwygiwyd y meini prawf hyn ac maent yn cynnwys newidiadau a wnaed wrth weithredu Cyfarwyddeb yr UE 2004/38 ar hawliau gwladolion y GE a'u teuluoedd i symud a phreswylio mewn Aelod-wladwriaethau eraill. Gosodir y meini prawf newydd yn Atodlen 1 ddiwygiedig i'r Prif Reoliadau a amnewidir gan y Rheoliadau hyn. Mae'r newidiadau'n cyflwyno categorïau newydd o fyfyrwyr y mae'n bosibl iddynt fod yn gymwys i gael cymorth. Maent yn cynnwys: • Gwladolion y GE ac aelodau o'u teulu sy'n caffael yr hawl i breswylio'n barhaol yn y DU (ar ôl cyfnod parhaus o bum mlynedd yn preswylio yn y DU) (cymorth ffioedd hyfforddi a chostau byw); • Aelodau o deulu gwladolion y GE sy'n anweithgar yn economaidd sy'n dal heb gaffael yr hawl i breswylio'n barhaol (cymorth ffioedd hyfforddi yn unig); • Personau o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu bersonau hunangyflogedig Swisaidd ac aelodau o'u teulu (cymorth ffioedd hyfforddi a chostau byw); • Perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol gweithwyr mudol o'r AEE neu Swisaidd (cymorth ffioedd hyfforddi a chostau byw); • Gweithwyr "y ffin" a phersonau hunan-gyflogedig "y ffin" (cymorth ffioedd hyfforddi a chostau byw); • Plant gwladolion/gwŷr neu wragedd neu bartneriaid sifil gwladolion Swisaidd (cymorth ffioedd hyfforddi a chymorth cynhaliaeth). Mae'r newid hefyd yn galluogi gwneud taliadau cymorth pan fo myfyrwyr yn caffael yr hawl i breswylio'n barhaol neu'n dod yn un o'r personau canlynol o'r AEE neu Swisaidd: gweithiwr; person hunan-gyflogedig; gweithiwr y ffin neu berson hunan-gyflogedig y ffin neu aelod o deulu person o'r fath neu blentyn gwladolyn Swisaidd yn ystod blwyddyn academaidd. Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud nifer o newidiadau eraill o ganlyniad i'r newidiadau yn yr Atodlen 1 newydd. Benthyciadau ffioedd coleg (Rheoliadau 4(b), 32, 43 ac Atodlen 2) Mae diwygiadau i'r Prif Reoliadau yn cyflwyno ffurf newydd ar gymorth sef benthyciad o ran ffioedd coleg sy'n daladwy gan fyfyriwr cymhwysol i goleg neu neuadd breifat barhaol Prifysgol Rhydychen neu i goleg Prifysgol Caergrawnt mewn cysylltiad â bod yn bresennol i ddilyn cwrs cymhwysol. Newidiadau eraill Diwygir darpariaethau canlynol y Prif Reoliadau, ac ychwanegir darpariaethau newydd fel a ganlyn— • Rheoliad 3 (Darpariaethau canlyniadol): diwygir er mwyn ei gwneud yn glir bod cyfeiriadau yn y Rheoliadau at yr Ysgrifennydd Gwladol i'w darllen fel cyfeiriadau (neu'n cynnwys cyfeiriadau) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru (rheoliad 6); • Rheoliad 6 (Cyfnod cymhwystra): diwygir o ran categorïau penodol o fyfyrwyr cymwys (rheoliadau 8 — 11); • Rheoliad 7: rhai newididau i'r rheolau astudio blaenorol (rheoliadau 12 — 16 a 23); • Rheoliad 11A newydd: mae'n darparu na chaniateir i grant neu fenthciad am ffioedd fod yn fwy na'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr, ac er mwyn cael benthyciad rhaid i'r myfyriwr ymrwymo mewn contract gyda'r Cynulliad Cenedlaethol (rheoliad 19); • Rheoliad 30: newidiadau a wneir i reolau ynghylch cymhwystra am grant cymorth arbennig (rheoliadau 26 — 28); • Rheoliad 50: newidiadau a wneir i reolau ynghylch cymhwystra myfyrwyr rhan-amser fel bod gan y Cynulliad Cenedlaethol bŵer wrth gefn i roi cymhwystra mewn achos nad ymwneir ag ef yn ddatganedig (gan ddwyn y rheolau yn y cyswllt hwn yn unol â'r rhai ar gyfer myfyrwyr llawn-amser) (rheolaiad 33); • Rheoliad 53: newidiadau i symiau penodol sydd i'w didynnu wrth gyfrifo'r cymorth ar gyfer cyrsiau rhan-amser (rheoliadau 37 — 38); • Atodlen 4: newidiadau i'r rheolau sy'n rheoli asesu ariannol cyfraniadau myfyrwyr at cymorth ariannol (rheoliadau 44 — 47). Notes: [1] 1998 p. 30; mewnosodwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147 a Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adran 42. Diwygiwyd adran 42 ac adran 43 gan Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) Atodlen 12. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149)(C.79)).back [2] O.S. 2006/126 (Cy.19).back [6] OJ L158, 30.04.2004, t.77— 123.back [10] 1971 p. 77; mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p. 61).back [11] OJ Rhif L257, 19.10.1968, t.2 (OJ/D— Dn 1968 (II) t.475).back
ISBN 0 11 091388 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 19 July 2006 |