Rheoliadau Cafa-cafa mewn Bwyd (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cafa-cafa mewn Bwyd (Cymru) 2006, ISBN 0110913906. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 18(1)(c), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac a freinir ynddo bellach[2], ac ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor[3], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. O ran y Rheoliadau hyn—
(b) deuant i rym ar 14 Gorffennaf 2006; (c) byddant yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
Gwaharddiad ar werthu etc. bwyd sydd wedi'i wneud o Gafa-cafa neu sy'n ei gynnwys
(b) meddu ar gyfer gwerthu, neu gynnig, arddangos neu hysbysebu ar gyfer gwerthu, neu (c) mewnforio i Gymru o wlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig neu gludo i Gymru o unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig unrhyw fwyd sydd wedi'i wneud o Gafa-cafa neu sy'n ei gynnwys.
(2) Ni fydd y gwaharddiad a osodir gan baragraff (1) yn gymwys os yw'r bwyd sydd wedi'i wneud o Gafa-cafa neu sy'n ei gynnwys yn cael ei fewnforio o Wladwriaeth AEE, os yw'r bwyd—
(b) yn tarddu y tu allan i Ardal Ewropeaidd Economaidd ond y mae mewn cylchrediad rhydd mewn Aelod-wladwriaethau,
ac allforir ef, neu mae i'w allforio i Wladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig.
(b) adran 3 (rhagdybiaeth y bwriedir bwyd i'w fwyta gan bobl); (c) adran 20 (tramgwyddau o ganlyniad i fai person arall); (ch) adran 21 (amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adrannau 14 neu 15 o'r Ddeddf; (d) adran 22 (amddiffyniad o gyhoeddi yng nghwrs busnes); (dd) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol); (e) adran 33(1) (rhwystro etc swyddogion); (f) adran 33(2), gyda'r addasiad bod y cyfeiriad at "any such requirement as is mentioned in subsection 1(b) above" yn cael ei ystyried yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath ag a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y caiff ei chymhwyso gan is-baragraff (e); (ff) adran 35(1) (cosbi am dramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y caiff ei chymhwyso gan is-baragraff (e); (g) adran 35(2) a (3), i'r graddau y maent yn ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y caiff ei chymhwyso gan is-baragraff (f); (ng) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); (h) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll);
(2) Bydd adran 9 o'r Ddeddf[5] (archwilio ac atafaelu bwyd dan amheuaeth) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai bwyd y byddai'n dramgwydd ei werthu oddi tanynt yn fwyd nad oedd yn cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn (yn ddarostyngedig i eithriadau mewn amgylchiadau penodol sy'n ymwneud â mewnforion o Wladwriaethau'r AEE) yn gwahardd gwerthu, meddu gyda'r bwriad o werthu, cynnig, arddangos neu hysbysebu ar gyfer gwerthu, a mewnforio i Gymru o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig neu gludo i Gymru o unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, unrhyw fwyd sydd wedi'i wneud o Gafa-cafa, neu sy'n cynnwys Cafa-cafa (sef planhigyn neu ran o blanhigyn, neu ddarn o blanhigyn o'r fath, sy'n perthyn i'r rhywogaeth Piper methysticum) (rheoliad 3). Gellir trin unrhyw fwyd o'r fath fel bwyd sy'n anaddas i'w fwyta gan bobl a gall fod yn agored i'w atafaelu a'i ddinistrio (rheoliad 5(3)). Mae'r Rheoliadau yn creu tramgwydd o ran eu torri ac maent yn darparu ar gyfer eu gorfodi gan awdurdodau bwyd (rheoliad 4). Maent hefyd yn creu rhagdybiaeth, oni bai bod prawf i'r gwrthwyneb, pan fo rhan o swp, lot neu lwyth o fwyd yn torri'r Rheoliadau, bernir bod y swp, lot neu lwyth cyfan yn torri'r Rheoliadau (rheoliad 6). Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd o ddrafft o'r Rheoliadau yn unol ag Erthygl 8 o Gyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor 98/34/EC sy'n gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau a rheoliadau technegol a rheolau gwasanaethau y Gymdeithas Wybodaeth (OJ Rhif L204, 21.7.1998, t.37), fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor 98/48/EC (OJ Rhif L217, 5.8.1998, t.18). Drwy amryfusedd, ni hysbyswyd ef o'r Rheoliadau Cafa-cafa mewn Bwyd (Cymru) 2002 ac fe'u dirymwyd wedi hynny gan Reoliadau Cafa-cafa mewn Bwyd (Cymru) (Dirymu) 2003. Mae'r Rheoliadau hyn yn cymryd lle Rheoliadau 2002. Paratowyd Arfarniad Effaith Rheoliadol a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW. Notes: [1] 1990 p.16. Diwygiodd O.S. 2004/2990 y diffiniad o "food" yn adran 1 o'r Ddeddf ac fe ddiwygiodd y gofynion ymgynghori yn adran 48 o'r Ddeddf er mwyn bodloni gofynion Rheoliad (EC) Rhif 178/2002.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), fel y caiff ei ddarllen gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999.back [3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1; sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau mewn materion sy'n ymwneud â diogelwch bwyd.back [5] Diwgiwyd adran 9 gan O.S. 2004/3279.back
ISBN 0 11 091390 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 21 July 2006 |