Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) (Rhif 2) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) (Rhif 2) 2006, ISBN 0110913892. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 17(2), 26(1)(a), (2)(e) a (3), a 48 (1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1], ac a freiniwyd ynddo ef bellach[2]. Yn unol ag adran 48(4) o'r Ddeddf honno, mae wedi rhoi ystyriaeth i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn, fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3]. Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Halogion Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2), maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 13 Gorffennaf 2006. Dehongli 2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—
(2) Mae i unrhyw ymadrodd arall a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad y Comisiwn yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r term Saesneg cyfatebol yn Rheoliad y Comisiwn.
(b) os yw'r person hwnnw yn mynd yn groes i Erthygl 2.3, 4.2 neu 4a o Reoliad y Comisiwn.
(2) Y darpariaethau Cymunedol y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
(b) Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 655/2004 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 466/2001 parthed nitrad mewn bwydydd i fabanod a phlant bach; (c) Erthygl 3 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 683/2004 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 466/2001 parthed afflatocsinau ac ocratocsin A mewn bwydydd i fabanod a phlant bach; (ch) Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 123/2005 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 466/2001 parthed ocratocsin A; (d) Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 208/2005 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 466/2001 parthed hydrocarbonau polygylchol aromatig; (dd) Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 856/2005 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 466/2001 parthed tocsinau Fusarium; (e) Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 199/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 466/2001 sy'n gosod lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn bwydydd parthed deucosinau a PCBs sy'n debyg i ddeuocsinau.
Gorfodi
(b) adran 20 (tramgwyddau sy'n codi oherwydd bai person arall); (c) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy), fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 14 neu 15; (ch) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol); (d) adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion); (dd) adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at "any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above" yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (d); (e) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y caiff ei chymhwyso gan is-baragraff (d); (f) adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n berthnasol i dramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (dd); (ff) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); a (g) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) bydd adran 9 o'r Ddeddf (archwilio ac atafaelu bwyd amheus) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai'n darllen fel a ganlyn—
(2) The authorised officer may either—
(ii) either is not to be removed or is to be removed to a place at which there are facilities to carry out sampling in the manner required by Article 1.3 of the Commission Regulation; or
(b) seize the food and remove it in order to have it dealt with by a justice of the peace.
(3) Where the authorised officer exercises the power conferred by subsection (2)(a) above, the authorised officer is, as soon as is reasonably practicable and in any event within 21 days, to determine whether or not the authorised officer is satisfied that the food complies with the requirements referred to in regulation 3(1)(a) of the above Regulations, as appropriate and—
(b) if the authorised officer is not so satisfied, will seize the food and remove it in order to have it dealt with by a justice of the peace.
(4) Where an authorised officer exercises the powers conferred by subsection (2)(b) or (3)(b) above, the authorised officer will inform the person in charge of the food of the intention to have it dealt with by a justice of the peace and—
(b) that justice of the peace may, but need not, be a member of the court before which any person is proceeded against for an offence under regulation 3(1)(a) of the above Regulations in relation to that food.
(5) If it appears to a justice of the peace, on the basis of such evidence as the justice of the peace considers appropriate in the circumstances, that any food falling to be dealt with by the justice of the peace under this section fails to comply with the requirements referred to in regulation 3(1)(a) of the above Regulations the justice of the peace will condemn the food and order—
(b) any expenses reasonably incurred in connection with the destruction or disposal to be defrayed by the owner of the food.
(6) If a notice under subsection (2)(a) above is withdrawn, or the justice of the peace by whom any food falls to be dealt with under this section refuses to condemn it, the food authority will compensate the owner of the food for any depreciation in its value resulting from the action taken by the authorised officer.
(3) Bydd i'r ymadroddion "swyddog awdurdodedig", "awdurdod bwyd", "rhoi ar y farchnad", "Rheoliad y Comisiwn" sy'n cyfateb yn eu tro i "authorised officer", "food authority", "placing on the market", "the Commission Regulation" a ddefnyddir yn adran 9 o'r Ddeddf, i'r graddau y mae'n gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn yn rhinwedd paragraff (2), yr ystyron sydd i'r ymadroddion hynny yn eu trefn yn y Rheoliadau hyn.
Dirymiadau 7. Dirymir Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2006[28]. Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[29] D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 11 Gorffennaf 2006 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn, sydd yn gymwys o ran Cymru, yn dirymu Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/485) (Cy.55) ("Rheoliadau 2006") ac yn eu hailddeddfu gyda newidiadau. Maent yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 466/2001 sy'n gosod lefelau uchaf ar gyfer halogion mewn bwydydd (OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.1, gyda chywiriadau a diwygiadau) ("Rheoliad y Comisiwn"). Ers gwneud Rheoliadau 2006, cafodd Rheoliad y Comisiwn ei diwygio er mwyn—
(b) cyflwyno rheolaethau newydd neu ddiwygiedig yn ymwneud â deuocsinau a swm diocsinau a PCB's sy'n debyg i ddeuocsinau (Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 199/2006, OJ Rhif L32, 4.2.2006, t.34).
2.
Mae'r Rheoliadau yn—
(ii) defnyddio bwyd sy'n cynnwys yr halogion hynny mewn lefelau o'r fath fel cynhwysion wrth gynhyrchu bwydydd penodol, (iii) cymysgu bwydydd nad ydynt yn cydymffurfio â'r lefelau uchaf y cyfeirir atynt uchod gyda bwydydd sydd yn cydymffurfio, (iv) cymysgu bwydydd y mae Rheoliad y Comisiwn yn ymwneud â nhw ac a fwriedir i'w bwyta gyda bwydydd y mae Rheoliad y Comisiwn yn ymwneud â nhw ac y bwriedir eu dosbarthu neu roi triniaeth arall iddynt cyn eu bwyta, neu (v) dadwenwyno drwy driniaeth gemegol fwyd nad yw'n cydymffurfio â'r terfynau a nodwyd yn Rheoliad y Comisiwn (rheoliad 3);
(b) pennu'r awdurdodau gorfodi (rheoliad 4);
3.
Mae Rheoliad y Comisiwn yn pennu dulliau'r Gymuned o samplu a dadansoddi y mae'n rhaid eu defnyddio er mwyn rheoli'n swyddogol lefelau'r sylweddau a gwmpesir ganddo. Ceir y dulliau hynny yn—
(b) Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/63/EC yn sefydlu dulliau'r Gymuned o samplu ar gyfer rheoli swyddogol o weddillion plaleiddiaid mewn cynhyrchion sy'n deillio o blanhigion ac o anifeiliaid ac arnynt (OJ Rhif L187, 16.7.2002, t.30); (c) Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/69/EC sy'n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol ddeuocsinau a phenderfynu ar PCBs sy'n debyg i ddeuocsinau mewn bwydydd (OJ Rhif L209, 6.8.2002, t.5) fel y'u cywirwyd drwy gorigendwm a gyhoeddwyd ar 20 Medi 2002 (OJ Rhif L252, 20.9.2002, t.40), ac fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/44/EC (OJ Rhif L113, 20.4.2004, t.17); (ch) Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/16/EC sy'n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau'r tun sydd mewn bwydydd tun (OJ Rhif L42, 13.2.2004, t.16); (d) Cyfarwyddeb y Comisiwn 2005/10/EC sy'n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau'r benso(a)pyrene sydd mewn bwydydd (OJ Rhif L34, 8.2.2005, t.15), a (dd) Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 401/2006 sy'n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau'r benso(a)pyrene sydd mewn bwydydd (OJ Rhif L70, 9.3.2006, t.12). Mae'r Rheoliad hwn yn diddymu'r Cyfarwyddebau samplu a dadansoddi 98/53/EC, 2002/26/EC, 2003/78/EC a 2005/38/EC, ac yn ei gwneud yn ofynnol darllen unrhyw gyfeiriad at y Cyfarwyddebau hynny yn Rheoliad y Comisiwn fel cyfeiriad at Reoliad y Comisiwn (EC) 401/2006.
4.
Cafodd arfarniad rheoliadol o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes ei baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW. Notes: [1] 1990 p.16.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).back [5] OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.1. Mae Erthygl 1.3 o'r Rheoliad hwn ac Atodiad I iddo yn pennu dulliau'r Gymuned o samplu a dadansoddi y mae'n ofynnol eu defnyddio i reolaethau'n swyddogol lefelau'r sylweddau a gwmpesir gan y Rheoliad. Ceir y dulliau hyn yng Nghyfarwyddebau'r Comisiwn 2001/22/EC, 2002/63/EC, 2002/69/EC, 2004/16/EC a 2005/10/EC ac yn Rheoliad y Comisiwn (EC) 401/2006. Rhoddir mwy o fanylion am yr offerynnau hynny yn y Nodyn Esboniadol i'r offeryn hwn.back [6] OJ Rhif . L313, 30.11.2001, t.60.back [7] OJ Rhif L321, 6.12.2001, t.1.back [8] OJ Rhif . L37, 7.2.2002, t.4.back [9] OJ Rhif . L41, 13.2.2002, t.12.back [10] OJ Rhif L75, 16.3.2002, t.18.back [11] OJ Rhif L80, 23.3.2002, t.42.back [12] OJ Rhif L86, 3.4.2002, t.5.back [13] OJ Rhif L155, 14.6.2002, t.63.back [14] OJ Rhif L203, 12.8.2003, t.1.back [15] OJ Rhif L326, 13.12.2003, t.12.back [16] OJ Rhif L42, 13.2.2004, t.3back [17] OJ Rhif L74, 12.3.2004, t.11.back [18] OJ Rhif L104, 8.4.2004, t.48.back [19] OJ Rhif L106, 15.4.2004, t.3.back [20] OJ Rhif L106, 15.4.2004, t.6.back [21] OJ Rhif L16, 20.1.2005, t.43.back [22] OJ Rhif L25, 28.1.2005, t.3.back [23] OJ Rhif L34, 8.2.2005, t.3.back [24] OJ Rhif L143, 7.6.2005, t.3.back [25] OJ Rhif L293, 9.11.2005, t.11.back [26] OJ Rhif L32, 4.2.2006, t.34.back [28] O.S. 2006/485 (Cy.55).back
ISBN 0 11 091389 2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 19 July 2006 |