Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) (Diwygio) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) (Diwygio) 2006, ISBN 0110913876. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 53(11), 54A(5)(a) a 56(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) (Diwygio) 2006 a daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Gorffennaf 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. (3) Yn y Rheoliadau hyn—
Diwygiadau i Reoliadau 2001
(ch) hepgorer y diffiniad o "is-bwyllgor i bwyllgor safonau".
4.
Yn lle rheoliad 3, rhodder—
(2) Rhaid i is-bwyllgor adran 54A fod yn bwyllgor a chanddo nid llai na thri aelod.".
5.
Yn lle rheoliad 10, rhodder—
(b) aelodau'r cynghorau cymuned hynny,
gynnwys o leiaf un aelod pwyllgor cymunedol.
(b) â chymdeithasau cynghorau cymuned a sefydlwyd (os o gwbl) ar gyfer yr ardal honno, ac sy'n gweithredu oddi mewn iddi.".
6.
Ar ôl rheoliad 18, mewnosoder—
(b) y cyfnod hyd at yr etholiadau cyffredin ar gyfer y cyngor cymuned y mae'r aelod pwyllgor cymunedol yn aelod ohono, sef yr etholiadau nesaf ar ôl i'r person hwnnw gael ei benodi'n aelod pwyllgor cymunedol o'r pwyllgor hwnnw,
pa gyfnod bynnag fo'r byrraf.
7.
Yn lle paragraff (2) o reoliad 21, rhodder—
(3) Wrth iddo ailbenodi aelod annibynnol o dan baragraff (2), nid oes raid i'r awdurdod perthnasol gydymffurfio â'r gofynion a osodir gan reoliadau 13 i 17. (4) Os ailbenodir aelod annibynnol o dan baragraff (2), rhaid i'r tymor olynol arall hwnnw beidio â bod yn fwy na phedair blynedd.".
8.
Ar ôl rheoliad 21, mewnosoder—
(2) Cyn ailbenodi aelod pwyllgor cymunedol o dan baragraff (1) rhaid i'r awdurdod lleol ymgynghori—
(b) â chymdeithasau cynghorau cymuned a sefydlwyd (os o gwbl) ar gyfer yr ardal honno, ac sy'n gweithredu oddi mewn iddi.".
9.
Ar ôl paragraff (9) o reoliad 22, mewnosoder—
(b) wedi'i ethol yn gadeirydd neu'n is-gadeirydd y pwyllgor hwnnw yn ystod tymor swydd cyntaf yr aelod.".
10.
Yn lle rheoliad 24, rhodder—
(b) onid yw o leiaf hanner yr aelodau sy'n bresennol (gan gynnwys y cadeirydd) yn aelodau annibynnol.
(2) Ni chaiff unrhyw fusnes ei drin mewn cyfarfod o is-bwyllgor adran 54A—
(b) onid yw o leiaf hanner yr aelodau sy'n bresennol (gan gynnwys y cadeirydd) yn aelodau annibynnol.
(3) At ddibenion paragraff (1) a (2) mae'r term "cadeirydd" yn cynnwys—
(b) aelod annibynnol sy'n llywyddu'n unol â pharagraff (5) o reoliad 22.".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ("y Ddeddf") yn gwneud darpariaeth o ran ymddygiad aelodau a chyflogeion llywodraeth leol. Mae adran 53(1) o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol bod pob awdurdod perthnasol, sy'n cynnwys yng Nghymru gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, awdurdodau tân ac achub, awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac awdurdodau heddlu ond nad ydynt yn cynnwys cynghorau cymuned, yn sefydlu pwyllgor safonau a chanddo'r swyddogaethau a roddir iddo gan Ran III o'r Ddeddf neu oddi tani. O dan adran 53(11) o'r Ddeddf, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth o ran (ymhlith pethau eraill) maint, cyfansoddiad a thrafodion pwyllgorau safonau awdurdodau perthnasol yng Nghymru, ac eithrio awdurdodau heddlu, ac unrhyw is-bwyllgorau a sefydlir o dan adran 54A neu adran 56 o'r Ddeddf. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 ("Rheoliadau 2001"). Mae rheoliad 3 yn rhoi diffiniad newydd ("is-bwyllgor adran 54A") yn rheoliad 2 o Reoliadau 2001. Mewnosodwyd adran 54A o'r Ddeddf gan adran 113 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. Mae adran 54A o'r Ddeddf yn rhoi'r hawl i bwyllgor safonau awdurdod perthnasol i benodi un neu fwy o is-bwyllgorau at ddibenion cyflawni unrhyw un neu rai o swyddogaethau'r pwyllgor (ac eithrio swyddogaethau o dan adran 55 neu adran 56 o'r Ddeddf). Mae rheoliad 4 yn rhoi rheoliad 3 newydd yn Rheoliadau 2001 sy'n gwneud darpariaeth newydd o ran maint is-bwyllgor a benodir o dan adran 54A o'r Ddeddf (is-bwyllgor adran 54A). Mae rheoliad 5 yn rhoi rheoliad 10 newydd yn Rheoliadau 2001. Mae'r rheoliad 10 newydd hwnnw'n darparu, o ran penodi "aelod pwyllgor cymunedol" yn aelod o bwyllgor safonau awdurdod lleol, mai'r awdurdod lleol hwnnw sydd i'w benodi. Cyn gwneud penodiad o'r fath, mae'n rhaid i'r awdurdod lleol ymgynghori â'r cyrff a bennir yn rheoliad 10(3)(a) a (b). Mae rheoliad 6 yn mewnosod rheoliad 18A newydd yn Rheoliadau 2001. Mae'r rheoliad 18A newydd hwnnw'n gwneud darpariaeth o ran hyd tymor swydd "aelod pwyllgor cymunedol" o bwyllgor safonau awdurdod lleol. Mae rheoliad 7 yn rhoi paragraffau (2), (3) a (4) newydd yn rheoliad 21 o Reoliadau 2001. Mae'r paragraffau newydd hynny'n gwneud darpariaeth o ran ailbenodi aelod annibynnol o bwyllgor safonau. Mae rheoliad 8 yn mewnosod rheoliad 21A newydd yn Rheoliadau 2001. Mae'r rheoliad 21A newydd hwnnw'n gwneud darpariaeth o ran ailbenodi "aelod pwyllgor cymunedol" o bwyllgor safonau awdurdod lleol. Mae rheoliad 21A(2) yn darparu bod yn rhaid i awdurdod lleol, cyn iddo wneud ailbenodiad o'r fath, ymgynghori â'r cyrff a bennir yn rheoliad 21A(2)(a) a (b). Mae rheoliad 9 yn mewnosod paragraff (10) newydd yn rheoliad 22 o Reoliadau 2001. Mae'r paragraff newydd hwnnw'n cadarnhau y caniateir ethol aelod annibynnol o bwyllgor safonau sydd wedi'i ailbenodi i bwyllgor safonau am dymor olynol arall yn gadeirydd neu'n is-gadeirydd y pwyllgor hwnnw. Mae Rheoliad 10 yn gosod rheoliad 24 newydd yn Rheoliadau 2001. Mae'r rheoliad 24 newydd hwnnw'n darparu mai dau aelod (gan gynnwys cadeirydd yr is-bwyllgor hwnnw) yw'r cworwm ar gyfer cyfarfod o is-bwyllgor adran 54A. Mae'r rheoliad newydd hwnnw hefyd yn gwneud yn glir ystyr y term "cadeirydd" yn rheoliad 24(1) a (2). Notes: [1] 2000 p.22; diwygiwyd adran 53(11) gan adran 35, Atodlen 4, paragraffau 1 a 4 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (p.10); a mewnosodwyd adran 54A gan adran 113 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26).back [2] O.S. 2001/2283 (Cy.172), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/2929 (Cy.214).back
ISBN 0 11 091387 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 19 July 2006 |