Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Diwygio) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Diwygio) (Cymru) 2006, ISBN 0110913833. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a dehongli 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Diwygio) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 7 Gorffennaf 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. (3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y Prif Reoliadau" ("the Principal Regulations") yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1997[3]. 2. I'r graddau nad yw'r diwygiadau a wneir i'r Prif Reoliadau gan Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Diwygio) 2006[4] yn gymwys o ran Cymru[5]mae'r diwygiadau hynny drwy hyn yn cael eu cymhwyso o ran Cymru yn ddarostyngedig i ddiwygiadau pellach a wneir gan y Gorchymyn hwn. Diwygio'r Rheoliadau 3. Mae'r Prif Reoliadau yn cael eu diwygio fel a ganlyn. 4. Yn rheoliad 2(1A), hepgorer y geiriau "in relation to England and in relation to Wales for the purposes of regulation 4 only". 5. Yn rheoliad 2(1B), hepgorer y geiriau "in relation to England and in relation to Wales for the purposes of its application to regulation 4 only". 6. Hepgorer rheoliad 2(4). 7. Yn rheoliad 2(4B) hepgorer y geiriau "In relation to England and in relation to Wales for the purposes of regulation 4 only,". 8. Hepgorer rheoliad 2(5). 9. Yn rheoliad 2(5B), hepgorer y geiriau "In relation to England". 10. Hepgorer rheoliad 2(6). 11. Ym mhennawd rheoliad 6A ac yn rheoliad 6A(1) a (2), hepgorer y geiriau "In relation to England" . 12. Hepgorer rheoliad 8(2). 13. Yn yr Atodlen—
(b) ym mharagraffau 1(2), 1(4), 5(2) a 6(2) hepgorer y geiriau "In relation to England and in relation to Wales for the purposes of regulation 4 only,".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1997 ("Rheoliadau 1997") o ran Cymru. Gwnaed Rheoliadau 1997 o dan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983. Datganolwyd y pwerau o dan adran 2 (sy'n ymwneud â dyfarniadau yn ôl disgresiwn) i'r Cynulliad Cenedlaethol o ran Cymru yn 1999 (pan gafodd y Cynulliad ei swyddogaethau cyntaf). Ond ni throsglwyddwyd y pwerau o dan adran 1 (sy'n ymwneud â chodi ffioedd mewn sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch), nes Fehefin 2006. Mae Rheoliadau 1997 yn darparu, mewn achosion penodol, ei bod yn gyfreithlon i wahaniaethu rhwng y personau a grybwyllir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hynny a'r personau na chyfeirir atynt yn yr Atodlen mewn cysylltiad â chodi ffioedd a gwneud dyfarniadau. Yn rhinwedd adran 26 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac adran 29 o Ddeddf Addysg Uwch 2004, nid yw unrhyw amod a osodir i gyfyngu ar symiau ffioedd dysgu o dan y Deddfau hynny yn berthnasol i unrhyw ffioedd sy'n daladwy gan fyfyrwyr ar wahân i'r rhai sy'n disgyn o fewn y dosbarth rhagnodedig o bersonau sydd â chysylltiad penodol â'r Deyrnas Unedig o dan reoliadau a wneir o dan adran 1 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983. Mae'r Atodlen i'r Rheoliadau (fel y'i diwygiwyd) yn amlinellu'r dosbarth o bersonau sydd â'r cysylltiad penodol hwnnw gyda'r Deyrnas Unedig. Mae Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 29 Ebrill 2004 (OJ L158, 30.04.2004, t77-123) yn ymwneud â hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau o'u teuluoedd i symud a phreswylio'n rhydd o fewn tirogaeth yr aelod-wladwriaethau. Bydd rhai categoriau o bersonau nad oedd ganddynt yr hawl yn flaenorol i gael eu trin yn gyfartal â dinasyddion y Deyrnas Unedig o ran ffioedd dysgu a chymorth cynnal bellach yn gymwys o ganlyniad i'r Gyfarwyddeb. Cafodd y newidiadau yr oedd eu hangen er mwyn rhoi effaith lawn i'r Gyfarwyddeb mewn perthynas â ffioedd dysgu a dyfarniadau yn ôl disgresiwn eu gweithredu gan Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Diwygio) 2006 a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Sgiliau. I Gymru y mae'r newidiadau a wneir gan y Rheoliadau hynny yn gymwys i'r graddau y maent yn ymwneud â ffioedd dysgu (nas datganolwyd hyd nes Fehefin 2006). O'u cymhwyso i ddyfarniadau yn ôl disgresiwn (pan fo'r pŵer i wneud rheoliadau eisoes wedi'i ddatganoli), dim ond i Loegr y mae'r newidiadau yn gymwys. Effaith y Rheoliadau presennol yw gwneud y newidiadau diweddarach hynny'n gymwys i Gymru. Notes: [1] 1983 p.40; gwnaed diwygiadau perthnasol gan Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), Atodlen 12, paragraff 91; Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13), Atodlen 8, paragraff 19; Deddf Addysg 1994 (p.30), Atodlen 2, paragraff 7; Deddf Addysg 1996 (p.56), Atodlen 37, paragraff 57 a chan Ddeddf Addysg 2005 (p.18), Atodlen 14, paragraff 9. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf 1983 (ac eithrio'r rhai o dan adran 1), i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 i fod yn effeithiol o 1 Gorffennaf 1999. Trosglwyddwyd y swyddogaethau o dan adran 1 i'r Cynulliad a hynny'n effeithiol o 8 Mehefin 2006: O.S. 2006/1458.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 1997/1972 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/1965, O.S. 1999/229, O.S. 2000/2192, O.S. 2003/2945, O.S. 2003/3280, O.S. 2005/2114 ac O.S 2006/453.back [5] Gwnaed y Rheoliadau hynny o dan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983. Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 2 wedi'u trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol (gweler troednodyn (1) ar dudalen 1), ac felly, nid yw'r diwygiadau a wnaed gan Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Diwygio) 2006 o dan yr adran honno yn gymwys o ran Cymru.back
ISBN 0 11 091383 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 13 July 2006 |