Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2006, ISBN 011091385X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 77, 83, 83A ac 126(4) a pharagraff 1 o Atodlen 12 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2006 a deuant i rym ar 1 Awst 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. (3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001[2]. Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau 2. Yn rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli)—
Diwygio rheoliad 3 o'r Prif Reoliadau
(bb) am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, ffi o £3.00;
(ii) ym mhob achos arall—
(bb) am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, y ffi a bennir yn rheoliad 3(1)(b) o Reoliadau Ffioedd 2000.".
(3) Yn lle is-baragraff (3)(b) rhodder yr is-baragraff a ganlyn—
(bb) am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, ffi o £3.00;
(ii) ym mhob achos arall—
(bb) am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, y ffi a bennir yn rheoliad 3(1A)(b)(ii) o Reoliadau Ffioedd 2000.".
(4) Yn lle is-baragraff (5)(b) rhodder yr is-baragraff a ganlyn—
(ii) ym mhob achos arall, mae'n rhaid i'r ffi a bennir yn rheoliad 3(4) o Reoliadau Ffioedd 2000 gael ei thalu pan gyflenwir y gyfran gyntaf.".
Diwygio rheoliad 8 o'r prif Reoliadau
(ii) yn cyflwyno swp-ddyroddiad sy'n ymwneud â phresgripsiwn amlroddadwy Cymreig, neu (iii) yn glaf cymwys sy'n cyflwyno ffurflen bresgripsiwn gyfatebol a cherdyn hawl dilys, neu (iv) yn glaf cymwys sy'n cyflwyno swp-ddyroddiad cyfatebol sy'n ymwneud â phresgripsiwn amlroddadwy cyfatebol a cherdyn hawl dilys;".
Mewnosod rheoliad 9A yn y prif Reoliadau
9A. —(1) Bydd Bwrdd Iechyd Lleol, pan fydd wedi ei fodloni bod person yn glaf cymwys, yn dyroddi cerdyn (y cyfeirir ato yn y rheoliadau hyn fel "cerdyn hawl") i'r person hwnnw fydd yn ddilys dros gyfnod a bennir gan y Bwrdd Iechyd Lleol. (2) Mae cerdyn hawl a ddyroddir yn rhoi i'r claf cymwys y rhoddir ef iddo—
(b) i'r cleifion cymwys hynny sydd o dan 25 mlwydd oed, hawl i hawlio'r eithriad rhag y ffi a bennir ym mharagraffau (1)(c)(iii) a (iv) o reoliad 8
(3) At ddibenion y Rheoliadau hyn ystyr "claf cymwys" yw person—
(b) sydd yn derbyn gwasanaethau o dan Ran 1 o'r Ddeddf gan ddarparydd sydd wedi contractio gydag Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol i ddarparu gwasanaethau o'r fath; ac
mae'n cynnwys person sy'n gweithredu ar ran person o'r fath.".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001 ("y prif Reoliadau") sy'n darparu ar gyfer codi a chasglu ffioedd am gyffuriau a chyfarpar sy'n cael eu cyflenwi gan fferyllwyr a meddygon sy'n darparu gwasanaethau fferyllol a gweinyddol, a chan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG i gleifion allanol. Mae diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymhwyso'r ffioedd a godir am ddarparu gwasanaethau fferyllol a ddarperir gan fferyllwyr o ran presgripsiynau Cymreig i bresgripsiynau cyfatebol gan bob "claf cymwys" sydd hefyd yn cyflwyno "cerdyn hawl" dilys (a ddyroddir gan Fyrddau Iechyd Lleol). Maent hefyd yn gwneud darpariaeth i gleifion o dan 25 mlwydd oed hawlio esemptiad rhag y ffi pan font yn cyflwyno ffurflen presgripsiwn cyfatebol neu swp-ddyroddiad cyfatebol yn ymwneud â phresgripsiwn amlroddadwy cyfatebol gyda cherdyn hawl dilys. Mae claf yn glaf cymwys os yw'n preswylio yng Nghymru ac yn derbyn gwasanaethau meddygol sylfaenol gan gontractwr sydd wedi contractio i ddarparu gwasanaethau o'r fath i Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol. Notes: [1] 1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i), am y diffiniadau o "prescribed" a "regulations". Diwygiwyd adran 83 gan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995"), adran 2 ac Atodlen 1, paragraff 39, gan O.S. 2000/90, erthygl 3(1) ac Atodlen (1), paragraff 13(1) a (4) a chan Ddeddf lechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43) ("Deddf 2003"), adran 196 ac Atodlen 14, Rhan 4. Mewnosodwyd adran 83A gan Ddeddf Cymorth Gwladol 1988 (p.7) ("Deddf 1988"), adran 14(1) ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf 1990, adran 66(1) ac Atodlen 9, paragraff 18(5)(a) a (b); gan Ddeddf 1995, adran 2(1) ac Atodlen 1, paragraff 40; gan Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17) ("Deddf 2002"), adran 2(5) ac Atodlen 2 paragraffau 1 a 32; gan Ddeddf 2003, adran 184 ac Atodlen 11, paragraffau 7 a 31 ac hefyd gan adran 196 ac Atodlen 14. Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 66(2) a Deddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), adran 65(1) ac Atodlen 4, paragraffau 37(1) a (6); gan Ddeddf 2002, adran 6(3)(c) a chan Ddeddf 2003, adran 184 ac atodlen 11, paragraffau 7 a 38. Diwygiwyd paragraff 1 o Atodlen 12 gan Ddeddf y Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53), adran 25(2) ac Atodlen 5, paragraff 1; gan Ddeddf 1998, adran 16 ac Atodlen 5; gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46), adran 41(10) ac Atodlen 2, paragraff 31 a chan Ddeddf 2003, adran 184 ac Atodlen 11, paragraffau 7 a 44. Trosgwlyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 77, 83, 83A ac 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 a pharagraff 1 o Atodlen 12 iddi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(4), Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001(p.15), adran 68(1), Deddf 2002, adran 40(1) a Deddf 2003, adran 197(1).back [2] O.S.2001/1358 (Cy.86). Mae O.S.2001/2359 (Cy.196), O.S.2004/1018 (Cy.115) ac O.S. 2004/1605 (Cy.164), O.S.2005/427 (Cy.44) ac O.S. 2005/1915 (Cy.158) yn offerynnau diwygio perthnasol.back [3] Mewnosodwyd adran 16A yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 gan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8), adran 2(1).back
ISBN 0 11 091385 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 14 July 2006 |