Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) 2006, ISBN 0110913965. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[1] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd[2]. Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 6 Gorffennaf 2006. Dehongli 2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—
(2) Mae i ymadroddion Saesneg eraill a ddiffinnir yn y Gyfarwyddeb yr un ystyr â'r ymadroddion Cymraeg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn.
(b) caniateir eu diwygio neu eu dirymu, drwy ddatganiad ysgrifenedig pellach, ar unrhyw adeg; (c) rhaid iddynt ddynodi maint y parth brechu sy'n cael ei ddatgan; (ch) rhaid iddynt gyfeirio at y mesurau gofynnol sy'n gymwys yn y parth brechu a dweud a ydynt yn gymwys yn y parth cyfan ynteu mewn rhan ohono; (d) rhaid iddynt ddweud i ba gategorïau o adar y mae'r mesurau yn gymwys iddynt; ac (dd) rhaid iddynt ddweud ar draul pwy y mae'r mesurau i'w cyflawni.
(2) O ran hysbysiadau a ddyroddir o dan y Rheoliadau hyn—
(b) rhaid iddynt bennu a ydynt yn gymwys i'r cyfan neu ran o'r fangre; (c) os ydynt yn gymwys i ran o fangre, rhaid iddynt bennu i ba ran ohoni y maent yn gymwys; (ch) rhaid iddynt gyfeirio at y mesurau gofynnol sy'n gymwys i'r fangre; (d) rhaid iddynt ddweud i ba gategorïau o adar y mae'r mesurau yn gymwys iddynt; ac (dd) rhaid iddynt ddweud ar draul pwy y mae'r mesurau i'w cyflawni.
(3) O ran trwyddedau a roddir o dan y Rheoliadau hyn—
(b) rhaid iddynt fod mewn ysgrifen; (c) caniateir iddynt fod yn gyffredinol neu'n benodol; (ch) caniateir, yn ychwanegol at unrhyw amodau sy'n ofynnol gan y Rheoliadau hyn, eu gwneud yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu eu bod yn angenrheidiol i reoli clefyd; a (d) caniateir eu diwygio, eu hatal neu eu dirymu, mewn ysgrifen, ar unrhyw adeg.
(4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw gamau a wêl yn dda i sicrhau bod datganiadau, hysbysiadau a thrwyddedau yn cael eu dwyn i sylw'r rhai y gallant effeithio arnynt cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(b) os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd neu swyddog arall i'r Cynulliad Cenedlaethol, dangos y drwydded a chaniatáu i gopi neu ddyfyniad ohoni gael ei gymryd; ac (c) os gofynnir iddo wneud hynny, rhoi ei enw a'i gyfeiriad.
(8) Rhaid i berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod trwydded gyffredinol a ddyroddir o dan y Rheoliadau hyn, wneud y canlynol—
(ii) dyddiad y symudiad; (iii) enw a chyfeiriad y fangre gychwynnol; (iv) enw a chyfeiriad y gyrchfan.
(b) dangos, os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd neu swyddog arall i'r Cynulliad Cenedlaethol, y nodyn traddodi a chaniatáu i gopi neu ddyfyniad ohono gael ei gymryd; ac
Gwahardd brechu
(b) rhoi brechlyn yn unol â thystysgrif prawf anifeiliaid a roddwyd o dan reoliad 8 o Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2005[7].
Penderfyniad i wneud brechu brys yn ofynnol
(b) cyflwyno hysbysiad brechu brys i feddiannydd unrhyw fangre lle mae dofednod, adar caeth eraill neu unrhyw gategori o ddofednod neu adar caeth eraill y mae'n credu y dylid eu brechu, yn cael eu cadw.
(2) Yr amod y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud asesiad risg sy'n dangos bod bygythiad sylweddol ac uniongyrchol y byddai ffliw adar yn ymledu yng Nghymru neu i Gymru oherwydd—
(b) brigiad ffliw adar mewn Aelod-wladwriaeth gyfagos; neu (c) bod presenoldeb ffliw adar mewn dofednod neu adar caeth eraill mewn trydedd wlad gyfagos wedi'i gadarnhau.
(3) Bernir bod unrhyw fangre sy'n rhannol y tu mewn ac yn rhannol y tu allan i barth brechu brys yn gyfan gwbl y tu mewn i'r parth hwnnw.
(b) cyflwyno hysbysiad brechu ataliol i feddiannydd unrhyw fangre lle mae dofednod, adar caeth eraill neu unrhyw gategori o ddofednod neu adar caeth eraill y mae'n credu y dylid eu brechu, yn cael eu cadw.
(2) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
(b) bod cynllun brechu ataliol wedi'i gyflwyno i'r Comisiwn ac wedi'i gymeradwyo ganddo yn unol ag Erthyglau 56 a 57 o'r Gyfarwyddeb.
(3) Bernir bod unrhyw fangre sy'n rhannol y tu mewn ac yn rhannol y tu allan i barth brechu ataliol yn gyfan gwbl y tu mewn i'r parth hwnnw.
(b) adran 16A[9] (lladd anifeiliaid sydd wedi'u brechu); ac (c) adran 62A[10] (lladd: pŵer mynediad).
Mesurau sy'n gymwys mewn parth brechu neu i fangre o dan hysbysiad
(b) pan fo'r brechu i'w wneud gan y Cynulliad Cenedlaethol, ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson a awdurdodir ganddo i wneud y brechu gael cydweithrediad.
(2) Ni chaiff neb symud unrhyw ddofednyn, aderyn caeth arall na'u cynhyrchion—
(b) allan o fangre sy'n destun hysbysiad brechu;
ac eithrio o dan awdurdod trwydded.
(b) i ddosbarthiad manwerthol wyau dofednod a symudiadau sy'n dilyn dosbarthiad o'r fath.
(5) Mae paragraffau (2) i (4) yn gymwys heb leihau effaith unrhyw ofyniad neu gyfyngiad arall sy'n gymwys mewn unrhyw ran o barth neu fangre am fod y rhan honno o'r parth neu'r fangre yn dod o fewn parth arall a ddatganwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu am ei bod yn destun hysbysiad arall a gyflwynwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, at ddibenion lleihau'r risg o ymlediad ffliw adar neu at unrhyw ddibenion eraill.
(b) rhaid i berchennog neu yrrwr unrhyw gerbyd neu gyfrwng cludo arall a ddefnyddir i gludo dofednod byw neu adar caeth eraill, wyau dofednod neu gig dofednod o dan drwydded o'r fath lanhau a diheintio, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl eu defnyddio, y cerbyd hwnnw ac unrhyw gyfarpar a ddefnyddiwyd i gludo deunydd o'r fath yn unol â Rhan 1 o Atodlen 3 o'r Gorchymyn Ffliw Adar i'r graddau y mae'n gymwys i gerbydau; (c) rhaid i arolygydd milfeddygol, drwy hysbysiad i berchennog neu yrrwr cerbyd neu gyfrwng cludo arall y cyfeirir ato yn is-baragraff 1(b), ei gwneud yn ofynnol i unrhyw beth a allai fod wedi'i halogi â'r firws ffliw adar ac y mae'n credu nad oes modd iddo gael ei lanhau na'i ddiheintio na'i drin.
(2) O dan is-baragraff 1(b), rhaid diheintio'n unol ag Erthygl 66(4) o'r Gorchymyn Ffliw Adar.
(b) caniatáu i'r ceidwad hwnnw ac unrhyw berson a awdurdodir ganddo gael mynd i'r fangre ar adegau rhesymol i fwydo, tendio neu ddefnyddio'r dofednyn neu'r aderyn caeth arall mewn ffordd wahanol.
(3) Os nad yw'r ceidwad yn gallu neu os nad yw'n fodlon bwydo neu dendio'r dofednyn neu'r aderyn caeth arall, rhaid i'r person sydd â hawl i feddiannau'r fangre gymryd y camau sy'n angenrheidiol i sicrhau bod y dofednyn neu'r aderyn hwnnw yn cael ei fwydo a'i dendio'n iawn.
(b) symud unrhyw gofnodion er mwyn galluogi iddynt gael eu copïo, neu pan gedwir hwy yn electronig, ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu llunio ar ffurf y gellir ei chludo ymaith.
(3) Rhaid i berson sy'n symud cofnodion o dan y rheoliad hwn roi derbynneb ysgrifenedig amdanynt.
(b) adran 64A[11] (pwerau arolygwyr ynglŷn â rhwymedigaethau Cymunedol), ac (c) adran 65(1) i (3) (pŵer i ddal gafael ar lestri ac awyrennau).
(2) Mae adran 65A[12] o'r Ddeddf (arolygu cerbydau) yn gymwys fel petai—
(b) y diffiniad o ddofednod yn adran 87(4) o'r Ddeddf wedi'i estyn i gynnwys pob aderyn; ac (c) pob parth brechu neu fangre a bennwyd mewn hysbysiad brechu wedi'i ddynodi neu wedi'i dynodi cyhyd ag y bydd yn para mewn bodolaeth at ddibenion yr adran honno.
(3) Caiff arolygydd farcio unrhyw aderyn neu beth arall at ddibenion ei adnabod.
(b) adran 67 (dyroddi trwyddedau anwir etc.); (c) adran 68 (dyroddi trwyddedau sy'n wag etc.), (ch) adran 71 (tramgwyddau eraill o ran trwyddedau); (d) adran 71A[14] (erlyniadau: terfyn amser); (dd) adran 73 (tramgwyddau cyffredinol); (e) adran 77 (arian y gellir ei adennill yn ddiannod); ac (f) adran 79(1) i (4) (tystiolaeth a gweithdrefn)
ac fel pe bai'r diffiniad o ddofednod yn adran 87(4) o'r Ddeddf wedi'i estyn i gynnwys pob aderyn.
(b) i lanhau a diheintio unrhyw fangre, neu ran o unrhyw fangre, drwy gyflwyno hysbysiad yn gwneud hynny'n ofynnol i feddiannydd y fangre honno; (c) i ddal gafael mewn lle penodedig ar unrhyw anifail, dofednyn neu aderyn caeth arall neu ei ynysu drwy gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y fangre lle y mae'r anifail, y dofednyn neu'r aderyn caeth arall yn bresennol, neu i'w geidwad; (ch) i wahanu unrhyw anifail, dofednyn neu aderyn caeth arall oddi wrth unrhyw anifeiliaid, dofednod neu adar caeth eraill drwy gyflwyno hysbysiad yn gwneud hynny'n ofynnol i feddiannydd y fangre lle y mae'r anifail, y dofednyn neu'r aderyn yn bresennol, neu i'w geidwad.
Pwerau arolygwyr os ceir methiant
(b) i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran,
bydd y swyddog, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny. 1. Yn yr Atodlen hon ystyr "y drwydded symud" ("the movement licence") yw trwydded a ddyroddir o dan Reoliad 8(2) ar gyfer y symudiad penodol a ddisgrifir yn yr is-baragraff perthnasol o'r Atodlen hon. 2. —(1) Pan fo unrhyw berson yn symud dofednod byw neu adar caeth eraill neu wyau dofednod o fewn parth brechu—
(ii) bod yn rhai sydd wedi'u diheintio cyn eu hanfon yn unol â chyfarwyddiadau a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol; (iii) cael eu cludo'n uniongyrchol i ddeorfa'r gyrchfan; a (iv) bod yn rhai y gellir eu holrhain yn y ddeorfa.
(b) rhaid i wyau darddu o haid ddodwy, sydd wedi'i brechu neu sydd heb ei brechu, ac sydd wedi'i harchwilio gan arolygydd milfeddygol a rhaid eu cludo i—
(ii) sefydliad ar gyfer gweithgynhyrchu cynhyrchion wyau fel a nodir ym Mhennod II o Adran X o Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 853/2004[17] er mwyn iddynt gael eu trafod a'u trin yn unol â Phennod XI o Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 852/2004[18].
(c) rhaid i gywion dydd oed—
(ii) cael eu dodi mewn cwt neu sied dofednod lle nad oes unrhyw ddofednod preswyl.
(ch) rhaid i ddofednod byw neu adar caeth eraill—
(ii) bod wedi'u harchwilio gan arolygydd milfeddygol; a (iii) cael eu dodi mewn cwt neu sied dofednod lle nad oes unrhyw ddofednod preswyl.
(d) rhaid i ddofednod sydd i'w cigydda—
(ii) cael eu hanfon yn uniongyrchol i ladd-dy dynodedig i'w cigydda ar unwaith.
(2) Nid yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys i ddosbarthiad manwerthol wyau dofednod a symudiadau sy'n dilyn dosbarthiad o'r fath. 3. —(1) Pan fo unrhyw berson yn symud dofednod byw neu adar caeth eraill neu wyau dofednod o fangre y tu allan i barth brechu neu fangre nad yw o dan hysbysiad, i fangre o fewn parth brechu neu i fangre sydd o dan hysbysiad—
(ii) bod yn rhai y gellir eu holrhain yn y ddeorfa.
(b) rhaid i wyau gael eu cludo i—
(ii) sefydliad ar gyfer gweithgynhyrchu cynhyrchion wyau fel a nodir ym Mhennod II o Adran X o Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 er mwyn iddynt gael eu trafod a'u trin yn unol â Phennod XI o Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 852/2004.
(c) rhai dodi cywion dydd oed mewn cwt neu sied dofednod lle nad oes unrhyw ddofednod preswyl.
(ii) bod wedi'u brechu ar fferm y gyrchfan os brechiad sy'n ofynnol gan ddatganiad neu hysbysiad o dan reoliad 5(1).
(d) rhaid i ddofednod sydd i'w cigydda gael eu hanfon yn uniongyrchol i ladd-dy dynodedig i'w cigydda ar unwaith.
(2) Nid yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys i ddosbarthiad manwerthol wyau dofednod a symudiadau sy'n dilyn dosbarthiad o'r fath. 4. —(1) Pan fo unrhyw berson yn symud dofednod byw neu adar caeth eraill neu wyau dofednod o fangre o fewn parth brechu, neu o fangre sydd o dan hysbysiad, i fangre y tu allan i barth brechu neu i fangre nad yw o dan hysbysiad—
(ii) bod yn rhai sydd wedi'u diheintio cyn cael eu hanfon yn unol â chyfarwyddiadau a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol; (iii) cael eu cludo'n uniongyrchol i ddeorfa'r gyrchfan; a (iv) bod yn rhai y gellir eu holrhain yn y ddeorfa.
(b) rhaid i wyau darddu o haid ddodwy, sydd wedi'i brechu neu sydd heb ei brechu, ac sydd wedi'i harchwilio gan arolygydd milfeddygol a rhaid iddynt gael eu cludo i—
(ii) sefydliad ar gyfer gweithgynhyrchu cynhyrchion wyau fel a nodir ym Mhennod II o Adran X o Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 er mwyn iddynt gael eu trafod a'u trin yn unol â Phennod XI o Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 852/2004.
(c) rhaid i gywion dydd oed—
(ii) tarddu o wyau deor sy'n bodloni'r amodau a nodir ym mharagraff 2(1)(a), 3(1)(a) neu 4(1)(a); (iii) cael eu dodi mewn cwt neu sied dofednod lle nad oes unrhyw ddofednod preswyl.
(ch) rhaid i ddofednod byw neu adar caeth eraill—
(ii) bod wedi'u harchwilio gan arolygydd milfeddygol; a (iii) cael eu dodi mewn cwt neu sied dofednod lle nad oes unrhyw ddofednod preswyl.
(d) rhaid i ddofednod sydd i'w cigydda—
(ii) cael eu hanfon yn uniongyrchol i ladd-dy dynodedig i'w cigydda ar unwaith.
(2) Nid yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys i ddosbarthiad manwerthol wyau dofednod a symudiadau sy'n dilyn dosbarthiad o'r fath. 5. —(1) Yn achos cig a gafwyd o ddofednod sydd wedi'u brechu ac a gadwyd o fewn parth brechu neu fangre sydd o dan hysbysiad a'r rheini'n ddofednod sydd wedi'u hanfon i'w cigydda, rhaid i'r dofednod hynny—
(b) bod wedi'u harolygu a'u profi gan arolygydd milfeddygol; (c) bod wedi'u harolygu'n glinigol gan arolygydd milfeddygol o fewn 48 awr cyn iddynt gael eu llwytho ac os yw'n briodol rhaid i unrhyw adar dangos clwy yn y fangre fod wedi'u harchwilio gan arolygydd milfeddygol; ac (ch) cael eu hanfon yn uniongyrchol i ladd-dy dynodedig i'w cigydda ar unwaith.
(2) Yn achos cig a gafwyd o ddofednod na chafodd eu brechu, a'r rheini'n ddofednod a gadwyd o fewn parth brechu neu fangre o dan hysbysiad ac a anfonwyd i'w cigydda, rhaid i'r dofednod fod wedi bod drwy broses fonitro gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol. 6. Gwaherddir symud dofednod neu adar caeth eraill a gedwir o fewn parth brechu neu fangre o dan hysbysiad o'r Deyrnas Unedig oni fydd y symud wedi'i awdurdodi gan yr Aelod-wladwriaeth sy'n eu derbyn. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn trosi i Gymru Gyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC ar fesurau Cymunedol i reoli ffliw adar a honno'n Gyfarwyddeb sy'n diddymu Cyfarwyddeb 92/40/EEC (OJ Rhif L10, 14.1.2006, t. 16) i'r graddau y mae'n ymdrin â brechu yn erbyn ffliw adar. Mae Rheoliad 4 yn gosod gwaharddiad cyffredinol ar frechu anifeiliaid yn erbyn ffliw adar ac eithrio pan fo'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae Rheoliadau 5 a 6 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol ddatgan parthau brechu mewn ardaloedd sy'n cynnwys dofednod neu adar caeth eraill y mae'n credu y dylid eu brechu i atal y risg o ymlediad ffliw adar, neu i gyflwyno hysbysiadau brechu ar gyfer mangreoedd lle mae adar o'r fath yn cael eu cadw. Dim ond pan fo asesiad risg wedi'i wneud a bod hwnnw wedi dangos bod risg y byddai ffliw adar yn ymledu yng Nghymru neu i Gymru, neu fod ardaloedd penodol neu adar penodol yn agored beth bynnag i risg ffliw adar, y caniateir cyflawni mesurau o'r fath. Bydd y mesurau hyn yn fesurau brys neu'n fesurau atal, yn dibynnu ar natur y risg. Mae Rheoliad 7 yn estyn y pŵer i frechu anifeiliaid yn adran 16 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (p.22, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002, p.42) ("y Ddeddf") ac o ganlyniad, effaith darpariaethau eraill y Ddeddf o ran brechu. Mae Rheoliad 8 yn darparu ar gyfer mesurau sy'n gymwys mewn parth brechu neu fangre a bennir mewn hysbysiad brechu. Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol bennu yn y datganiad neu'r hysbysiad a yw'n ofynnol i'r brechu gael ei wneud gan feddiannydd y fangre berthnasol neu a yw i gael ei wneud gan y Cynulliad Cenedlaethol ac a yw'n ofynnol cydweithredu. Mae gwaharddiad cyffredinol hefyd ar symud dofednod neu adar caeth eraill yn y parth neu'r fangre, i mewn iddo neu iddi neu allan ohono neu ohoni oni bai bod y symud wedi'i awdurdodi gan drwydded. Mae Rheoliad 9 yn darparu, pan fo gwaith brechu brys yn cael ei wneud cyn bod y Comisiwn wedi cymeradwyo'r cynllun brechu brys, bod rhaid i unrhyw drwydded sy'n caniatáu i ddofednod neu adar caeth eraill gael eu symud osod y gofynion a nodir yn yr Atodlen. Mae Rheoliad 10 yn gwneud darpariaeth ar gyfer adar a ddylai fod wedi'u cynnwys mewn rhaglen frechu ond nad oeddent wedi'u brechu ni waeth beth fo'u rheswm. Mae Rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i feddianwyr ddarparu cyfleusterau, cyfarpar a deunyddiau pan fo'n ofynnol glanhau a diheintio cerbydau yn eu mangreoedd. Mae Rheoliad 12 yn darparu ar gyfer bwydo a thendio anifeiliaid neu ddofednod na ellir eu symud adeg terfynu hawl i feddiannu oherwydd cyfyngiad a osodwyd gan y Rheoliadau. Mae Rheoliadau 13 i 22 yn gwneud darpariaeth sy'n gysylltiedig â thramgwyddau a gorfodi. Yn benodol, mae rheoliad 18 yn cymhwyso darpariaethau cysylltiedig â thramgwyddau sydd yn y Ddeddf fel petai'r Rheoliadau wedi cael pŵer o dan y Ddeddf; o ganlyniad, mae methu â chydymffurfio â'r Rheoliadau yn dramgwydd o dan adran 73 o'r Ddeddf (rheoliad 18(1)(dd)). Mae Rheoliad 18(3) yn darparu y bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored ar gollfarn ddiannod i gyfnod yn y carchar nad yw'n hwy na 3 mis neu i ddirwy nad yw'n fwy na £5000 neu'r ddau. Nid oes arfarniad rheoliadol o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes wedi'i lunio. Gellir cael Nodyn Trosi, sy'n nodi sut y trosir prif elfennau Cyfarwyddeb 2005/94/EC yn y Rheoliadau hyn, oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. Notes: [1] 1972 p.68.back [3] 1981 p.22, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1992/3293 a Deddf Iechyd Anifeiliaid 2002, p.42. Nid yw'r diwygiadau eraill yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back [4] O.S. 2006/1762 (Cy.184).back [5] OJ Rhif L 10, 14.1.2006, t. 16.back [8] Diwygiwyd adran 16 gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 (p.42), adran 7.back [9] Mewnosodwyd adran 16A gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 (p.42), adran 5.back [10] Mewnosodwyd adran 62A gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 (p.42), adran 8.back [11] Mewnosodwyd adran 64A gan Reoliadau Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (Diwygio) 1992 (O.S. 1992/3293), rheoliad 2.back [12] Mewnosodwyd adran 65A gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 (p.42), adran 10.back [13] Mewnosodwyd adran 66A gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 (p.42), adran 8(2).back [14] Mewnosodwyd adran 71A gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 (p.42), adran 14.back [15] Diwygiwyd adran 75 gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 (p.42), adran 13.back [17] OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55.back [18] OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1.back
ISBN 0 11 091396 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 8 August 2006 |