Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2006, ISBN 0110913795. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, a pharagraff 2A o Atodlen 12 iddi[1]. Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 5 Gorffennaf 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. (3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y Rheoliadau Optegol" yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997[2]. Diwygiadau i'r Rheoliadau Optegol 2. Yn rheoliad 19 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio)—
(b) ym mharagraff (3), yn lle "£12.40" rhodder "£12.70".
Diwygiadau i'r Atodlenni i'r Rheoliadau Optegol
(2) Yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau Optegol (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectolau bychain ac arbennig a theclynnau cymhleth)—
(b) ym mharagraff (1)(1)(b), yn lle "£12.80" rhodder "£13.10"; (c) ym mharagraff 1(1)(c), yn lle "£3.60" rhodder "£3.70". (ch) ym mharagraff 1(1)(d), yn lle "£4.10" rhodder "£4.20"; (d) ym mharagraff 1(1)(e), yn lle "£54.10", "£48.00" a "£26.00" rhodder "£55.50", "£49.20" a "£26.60" yn eu trefn; (dd) ym mharagraff (1)(1)(g), yn lle "£54.10" rhodder "£55.50"; (e) ym mharagraff (2)(a), yn lle "£12.40" rhodder "£12.70"; ac (f) ym mharagraff (2)(b), yn lle "£31.30" rhodder "£32.10".
(3) Yn lle Atodlen 3 i'r Rheoliadau Optegol (gwerth talebau — trwsio), rhodder yr Atodlen 3 newydd a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 ("y Rheoliadau Optegol") sy'n darparu ar gyfer gwneud taliadau drwy gyfrwng system dalebau o ran costau a dynnir gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â chyflenwi, ailosod a thrwsio teclynnau optegol. Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 19 i gynyddu gwerth adbrynu taleb a ddyroddir tuag at gost ailosod un lens gyffwrdd ac i gynyddu uchafswm y cyfraniad drwy daleb tuag at gost trwsio ffrâm. Mae rheoliad 3 a'r Atodlen yn diwygio'r Atodlenni i'r Rheoliadau Optegol i gynyddu gwerth talebau a ddyroddir tuag at gostau cyflenwi ac ailosod sbectolau a lensys cyffwrdd, i gynyddu gwerthoedd ychwanegol y talebau ar gyfer prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd a chategorïau arbennig o declynnau ac i gynyddu gwerth y talebau a ddyroddir at drwsio ac ailosod teclynnau optegol. Tua 2.5% yw graddfa'r cynnydd yn y talebau yn y Rheoliadau hyn. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gosod cost ar fusnes. Notes: [1] 1977 p.49.back [2] O.S. 1997/818, fel y'i ddiwygiwyd.back
ISBN 0 11 091379 5
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 12 July 2006 |