Rheoliadau Tir Gofal (Cymru) (Diwygio) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Tir Gofal (Cymru) (Diwygio) 2006, ISBN 011091371X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972[2] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Gofal (Cymru) (Diwygio) 2006. Deuant i rym ar 16 Hydref 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn—
(b) ystyr "y Cyngor Cefn Gwlad" ("the Countryside Council") yw Cyngor Cefn Gwlad Cymru a sefydlwyd gan adran 128 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[4].
Diwygio'r prif Reoliadau
(b) Yn y diffiniad o "the Council Regulation", ar ôl y gair "others" mewnosoder y geiriau canlynol, "as last amended by Council Regulation (EC) No. 1783 / 2003[6], Council Regulation (EC) No. 567 / 2004[7], Council Regulation (EC) No. 583 / 2004[8] and Council Regulation (EC) No. 2223 / 2004[9]". (c) Dilëer y diffiniad o "Countryside Council". (ch) Ar ôl y diffiniad o "interest" mewnosoder y diffiniad canlynol ""the National Assembly" means the National Assembly for Wales;".
Trosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cynllun Tir Gofal (Land in Care) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/1176) "y prif Reoliadau", er mwyn rhoi effaith i drosglwyddo cyfrifoldeb am weinyddu cynllun amaeth-amgylchedd Tir Gofal (Land in Care) "Cynllun Tir Gofal", oddi wrth Gyngor Cefn Gwlad Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd trosglwyddo'r cyfrifoldeb yn effeithiol o'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym. Sefydlwyd y cynllun Tir Gofal o dan y prif Reoliadau ac mae bellach yn gweithredu o fewn fframwaith Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257 / 1999 ar gymorth i ddatblygu gwledig o dan Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (O.J. L160, 26.6.1999, t.80) ("Rheoliad y Cyngor") a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 817 / 2004 gan osod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (O.J. L231, 30.6.2004, t.24). Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi effaith i drosglwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw drwy ddarparu bod pob cyfeiriad at "Countryside Council" yn y prif Reoliadau yn cael eu disodli gan "the National Assembly" (Rheoliad 3(2)). Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu ar gyfer trosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau ynghylch cytundebau'r cynllun Tir Gofal yr ymrwymwyd ynddynt gan y Cyngor Cefn Gwlad o dan y prif Reoliadau, i'r Cynulliad Cenedlaethol (Rheoliad 4). Mae'r Rheoliadau hefyd yn diweddaru'r cyfeiriadau yn y prif Reoliadau at offerynnau Cymunedol penodol a ddiwygiwyd neu a ddisodlwyd ers i'r prif Reoliadau ddod i rym. (Rheoliadau 3 (3)(a) a 3(3)(b). Gwneir mân ddarpariaethau a diwygiadau pellach gan Reoliad 3(3)(c), 3(3)(ch) a Rheoliad 5. Paratowyd arfarniad rheoliadol o ran y Rheoliadau hyn sydd ar gael i'w harchwilio yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Adran yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Notes: [1] O.S. 2005/2766.back [5] O.J. Rhif L231, 30/6/2004, t.24.back [6] O.J. Rhif L270, 21.10.2003, t.70.back [7] O.J. Rhif L090, 27.3.2004, t.1.back [8] O.J. Rhif L091, 30.3.2004, t.1.back [9] O.J. Rhif L379, 24.12.2004, t.1.back [10] O.J. Rhif L214, 13.8.1999, t.31.back
ISBN 0 11 091371 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 10 July 2006 |