Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006, ISBN 0110913698. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 59(2), (3) a (4), 60(6), 63(5) a (6), 65(3) a (4), 83(2), (3) a (4), 84(6), 87(5) a (6), 232(3) a (7), 250(2), 258(2)(b), (5) a (6), 259(2)(c) o Ddeddf Tai 2004[1], a pharagraffau 3 a 6(1)(c) o Atodlen 14 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 30 Mehefin 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran unrhyw HMO[2]yng Nghymru, ac eithrio bloc o fflatiau a gafodd ei drosi y mae adran 257 o'r Ddeddf yn gymwys iddo, ac i unrhyw dŷ [3] yng Nghymru y mae Rhan 3 o'r Ddeddf yn gymwys iddo[4]. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Tai 2004. Personau yr ystyrir eu bod yn ffurfio aelwyd unigol at ddibenion adran 254 o'r Ddeddf: cyflogeion 3. —(1) Pan fo—
(b) mae person arall ("person B") ac unrhyw aelod o deulu person B sy'n byw gyda person B yn meddiannu llety i fyw yn yr un adeilad neu'r un rhan ohono,
dim ond os mai'r amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (2) yw eu hamgylchiadau y mae'r personau hynny i'w hystyried fel petaent yn ffurfio aelwyd unigol.
(b) mae llety byw person A yn cael ei gyflenwi gan berson B neu aelod o'r fath o deulu person B fel rhan o'r gydnabyddiaeth am wneud y gwaith neu am gyflawni'r gwasanaeth; ac (c) nid yw person A yn talu unrhyw rent na chydnabyddiaeth arall o ran y llety byw (heblaw gwneud y gwaith neu gyflawni'r gwasanaeth).
(3) Mae gwaith a wneir fel arfer neu wasanaeth a gyflawnir fel arfer gan unrhyw un o'r rhai a ganlyn i gael ei ystyried yn waith neu'n wasanaeth o natur ddomestig at ddibenion paragraff (2)(a)—
(b) mamaeth; (c) nyrs; (ch) gofalwr; (d) dysgodres; (dd) gwas, gan gynnwys morwyn, bwtler, cogydd neu lanhawr; (e) gyrrwr; (f) garddwr; (ff) ysgrifenydd; neu (g) cynorthwywr personol.
(4) Pan fo person A a person B i gael eu hystyried fel petaent yn ffurfio aelwyd unigol o dan baragraff (1) mae unrhyw aelod o deulu person A sy'n meddiannu'r llety byw gyda pherson A i gael ei ystyried fel petai yn ffurfio aelwyd unigol gyda pherson A, person B ac unrhyw aelod o deulu person B sy'n byw gyda pherson B at ddibenion adran 254 o'r Ddeddf.
(ii) os yw'r adeilad neu ran o adeilad yn cael ei ddarparu gan gyflogwr y person, neu ar ei ran, neu gan asiant neu gyflogai i gyflogydd y person; neu
(b) yn geisiwr lloches neu'n ddibynnydd ceisiwr lloches y darparwyd llety iddo o dan adran 95 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 [7] gyda'r llety hwnnw yn cael ei gyllido yn rhannol neu'n gyfangwbl gan y Gwasanaeth Cenedlaethol i Geiswyr Lloches[8].
(2) Yn y rheoliad hwn—
(ii) unrhyw berson sydd â phermit sy'n dangos, yn unol â'r rheolau mewnfudo, fod y person a enwir yn gymwys, er nad yw'n ddinesydd Prydeinig, i gael mynediad i'r Deyrnas Unedig at ddibenion cymryd cyflogaeth;
(b) ystyr "Cytundeb AEE" ("EEA Agreement") yw'r cytundeb ar yr Ardal Ewropeaidd Economaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992, fel y'i haddaswyd gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993;
(ii) nad yw yn para yn hwy nag wyth mis;
(d) ystyr "rheolau mewnfudo" ("immigration rules") yw'r rheolau a osodir fel y crybwyllir am y tro yn adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971[10]; ac
Adeiladau nad ydynt yn HMOs at ddibenion y Ddeddf (ag eithrio Rhan 1)
(b) yr wybodaeth sy'n ymwneud â deiliad arfaethedig y drwydded neu reolwr arfaethedig yr HMO neu'r tŷ a bennir ym mharagraff 3 o Atodlen 2.
(3) Rhaid i geisydd—
(b) llofnodi'r cais.
(4) Os yw'r ceisydd yn arfaethu i berson arall ddal y drwydded, rhaid i'r ceisydd a deiliad arfaethedig y drwydded ill dau gydymffurfio â'r gofynion ym mharagraff (3).
(b) enw, cyfeiriad, Rhif ffôn ac unrhyw gyfeiriad e-bost neu rif ffacs sydd gan ddeiliad arfaethedig y drwydded (os nad y ceisydd yw deiliad y drwydded); (c) math y cais drwy gyfeirio at a yw'n cael ei wneud o ran HMO y mae'n rhaid ei drwyddedu o dan Ran 2 neu o ran tŷ y mae'n rhaid ei drwyddedu o dan Ran 3 o'r Ddeddf; (ch) cyfeiriad yr HMO neu'r tŷ y mae'r cais yn ymwneud ag ef; (d) enw a chyfeiriad yr awdurdod tai lleol y mae'r cais yn cael ei wneud iddo; ac (dd) y dyddiad y gwneir y cais arno, neu y byddir yn ei wneud arno.
(6) Nid oes dim ym mharagraff (5) yn rhwystro ceisydd rhag rhoi copi o'r cais, na gwybodaeth arall ynglŷn â'r cais, i berson perthnasol.
(b) yn achos cais am drwydded o dan Ran 3 o'r Ddeddf, bod y tŷ yn dŷ nad oedd yn ofynnol i'w drwyddedu o dan ran 2 neu 3 o'r Ddeddf.
(8) Mae paragraff (7) yn gymwys p'un ai a roddodd yr awdurdod tai lleol, yn unol â'r cais, drwydded i'r HMO neu'r tŷ pan nad oedd yn ofynnol i'w drwyddedu ai peidio.
(ii) yn berson sy'n rheoli neu sydd â rheolaeth dros yr HMO neu'r ty hwnnw (ac nad yw'n cwympo o fewn is-baragraff (i)); neu
(b) os yw'r ceisydd yn cynnig yn y cais y dylai'r drwydded gynnwys amodau sy'n gosod cyfyngiad neu rwymedigaeth ar unrhyw berson (ac eithrio deiliad y drwydded), y person hwnnw[11].
(10) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw denant o dan les ag iddi gyfnod heb ddod i ben o dair blynedd neu lai.
(b) cyhoeddi'r hysbysiad ar wefan yr awdurdod tai lleol; ac (c) trefnu iddo gael ei gyhoeddi mewn o leiaf ddau bapur newydd lleol sy'n cylchredeg yn yr ardal ddynodedig neu o'i hamgylch.
(3) O fewn 2 wythnos ar ôl i'r dynodiad gael ei wneud neu ei gadarnhau rhaid i'r awdurdod tai lleol anfon copi o'r hysbysiad at—
(b) unrhyw sefydliad sydd, o fewn gwybodaeth resymol yr awdurdod tai lleol—
(ii) yn cynrychioli asiantaethau rheoli, asiantaethau ystad neu asiantaethau gosod tai o fewn yr ardal ddynodedig; ac
(c) pob sefydliad o fewn ardal yr awdurdod tai lleol y mae'r awdurdod tai lleol yn gwybod neu yn credu ei fod yn darparu cyngor ar faterion landlord a thenant, gan gynnwys—
(ii) canolfannau cyngor ar bopeth; (iii) canolfannau cyngor ar dai; a (iv) unedau personau digartref.
(4) Yn ychwanegol at yr wybodaeth y cyfeirir ati yn adran 59(2)(a), (b) ac (c) neu 83(2)(a), (b) ac (c), rhaid i'r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(b) enw, cyfeiriad, Rhif ffôn a chyfeiriad e-bost—
(ii) y fangre lle gellir archwilio'r dynodiad; a (iii) y fangre lle gellir cael ceisiadau am drwyddedau a chyngor cyffredinol ynddynt;
(c) datganiad sy'n cynghori unrhyw landlord, unrhyw berson sy'n rheoli eiddo neu unrhyw denant sydd o fewn yr ardal ddynodedig i geisio cyngor gan yr awdurdod tai lleol ar y mater a yw'r dynodiad yn effeithio ar eu heiddo; ac
Y gofynion cyhoeddi mewn perthynas â dirymu dynodiadau o dan Ran 2 neu 3 o'r Ddeddf
(b) cyhoeddi'r hysbysiad ar wefan yr awdurdod tai lleol; ac (c) trefnu i'r hysbysiad gael ei gyhoeddi mewn o leiaf ddau bapur newydd lleol sy'n cylchredeg yn yr ardal ddynodedig neu o'i hamgylch yn y Rhif yn nesaf o'r papurau newydd hynny.
(3) Rhaid i'r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(b) crynodeb o'r rhesymau dros y dirymiad; (c) y dyddiad pryd y daw'r dirymiad yn effeithiol; (ch) enw, cyfeiriad, Rhif ffôn a chyfeiriad e-bost—
(ii) y man(nau) lle gellir archwilio'r dirymiad.
Cofrestrau o drwyddedau
(b) enw a chyfeiriad y person sy'n rheoli'r HMO neu'r tŷ trwyddedig; (c) cyfeiriad yr HMO neu'r tŷ trwyddedig; (ch) disgrifiad byr o'r HMO neu'r tŷ trwyddedig; (d) crynodeb o amodau'r drwydded; (dd) dyddiad cychwyn y drwydded a chyfnod ei pharhâd; (e) gwybodaeth gryno ar unrhyw fater yn ymwneud â thrwyddedu'r HMO neu'r ty sydd wedi cael ei gyfeirio at dribiwnlys eiddo preswyl neu at y Tribiwnlys Tiroedd; a (f) gwybodaeth gryno ar unrhyw benderfyniad gan y tribiwnlysoedd y cyfeirir atynt yn is-baragraff (e) sy'n ymwneud â'r HMO neu'r tŷ trwyddedig, ynghyd â'r cyfeirnod a roddwyd i'r achos gan y tribiwnlys.
(2) Mae'r manylion ychwanegol a ganlyn wedi eu rhagnodi ar gyfer pob cofnod mewn cofrestr a sefydlwyd ac sy'n cael ei chynnal o dan adran 232(1)(a) o'r Ddeddf o ran trwydded a roddir o dan Ran 2 o'r Ddeddf—
(b) nifer yr ystafelloedd yn yr HMO trwyddedig sy'n darparu—
(ii) lle byw;
(c) yn achos HMO trwyddedig sydd yn fflatiau—
(ii) nifer y fflatiau sydd heb fod yn hunangynhaliol;
(ch) disgrifiad o amwynderau sy'n cael eu rhannu gan gynnwys nifer pob amwynder; a
Cofrestrau o hysbysiadau eithrio dros dro
(b) cyfeiriad yr HMO neu'r tŷ y mae'r awdurdod tai lleol wedi cyflwyno'r hysbysiad eithrio dros dro mewn perthynas ag ef ac unrhyw gyfeirnod a roddwyd iddo gan yr awdurdod tai lleol; (c) crynodeb o effaith yr hysbysiad; (ch) manylion unrhyw hysbysiadau eithrio dros dro blaenorol a gafodd eu cyflwyno mewn perthynas â'r un HMO neu dy am gyfnod sy'n union cyn yr hysbysiad eithrio dros dro cyfredol; (d) datganiad o'r camau penodol y mae'r person y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn bwriadu eu cymryd gyda golwg ar sicrhau nad yw'n ofynnol bellach i drwyddedu'r HMO neu'r tŷ; (dd) y dyddiad pryd y cyflwynodd yr awdurdod tai lleol y rhybudd eithrio dros dro arno a'r dyddiad pan fydd y rhybudd yn peidio â bod mewn grym; (e) gwybodaeth gryno ar unrhyw fater yn ymwneud â thrwyddedu'r HMO neu'r tŷ sydd wedi cael ei gyfeirio at dribiwnlys eiddo preswyl neu at y Tribiwnlys Tiroedd; ac (f) gwybodaeth gryno ar unrhyw benderfyniad gan y tribiwnlysoedd y cyfeirir atynt yn is-baragraff (e) sy'n ymwneud â'r HMO neu'r tŷ trwyddedig, ynghyd â'r cyfeirnod a roddwyd i'r achos gan y tribiwnlys.
Cofrestrau o orchmynion rheoli
(b) disgrifiad byr o'r HMO neu'r tŷ; (c) y dyddiad pryd y daw'r gorchymyn i rym; (ch) crynodeb o'r rhesymau dros wneud y gorchymyn; (d) crynodeb o delerau'r gorchymyn a'r math o orchymyn a wnaed; (dd) gwybodaeth gryno ar unrhyw gais yn ymwneud â'r HMO neu'r tŷ sydd wedi cael ei wneud i dribiwnlys eiddo preswyl neu i'r Tribiwnlys Tiroedd; ac (e) gwybodaeth gryno ar unrhyw benderfyniad gan y tribiwnlysoedd y cyfeirir atynt yn is-baragraff (dd) sy'n ymwneud â'r HMO neu'r tŷ trwyddedig, ynghyd â'r cyfeirnod a roddwyd i'r achos gan y tribiwnlys.
(2) Mae'r manylion ychwanegol a ganlyn wedi eu rhagnodi ar gyfer pob cofnod mewn cofrestr a sefydlwyd ac sy'n cael ei chynnal o dan adran 232(1)(c) o'r Ddeddf o ran gorchymyn rheoli a wneir o dan adran 102 neu 113 o'r Ddeddf—
(b) nifer yr ystafelloedd yn yr HMO sy'n darparu—
(ii) lle byw;
(c) yn achos HMO sydd yn fflatiau—
(ii) nifer y fflatiau sydd heb fod yn hunangynhaliol; (iii) disgrifiad o'r amwynderau sy'n cael eu rhannu gan gynnwys nifer pob amwynder; (iv) uchafswm nifer yr aelwydydd y caniateir iddynt feddiannu'r HMO; ac (v) uchafswm nifer y personau y caniateir iddynt feddiannu'r HMO.
(3) Mae'r manylion a ganlyn wedi eu rhagnodi ar gyfer pob cofnod mewn cofrestr a sefydlwyd ac sy'n cael ei chynnal o dan adran 232(1)(c) o'r Ddeddf o ran gorchymyn rheoli annedd wag a wneir o dan adran 113(1) neu 136(1) neu (2) o'r Ddeddf—
(b) disgrifiad byr o'r annedd; (c) y dyddiad pryd y daw'r gorchymyn i rym; (ch) crynodeb o'r rhesymau dros wneud y gorchymyn; (d) crynodeb o delerau'r gorchymyn; (dd) gwybodaeth gryno ar unrhyw fater yn ymwneud â'r annedd sydd wedi cael ei wneud i dribiwnlys eiddo preswyl neu i'r Tribiwnlys Tiroedd; ac (e) gwybodaeth gryno ar unrhyw benderfyniad gan y tribiwnlysoedd y cyfeirir atynt yn is-baragraff (dd) sy'n ymwneud â'r annedd, ynghyd â'r cyfeirnod a roddwyd i'r achos gan y tribiwnlys.
Y deddfiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 6(1) yw—
(b) adran 43(4) o Ddeddf Carcharau 1952[15]; (c) Adran 34 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002[16]; (ch) Rheolau Canolfannau Hyfforddi Diogel 1998[17]; (d) Rheolau Carcharau 1999[18]; (dd) Rheolau Sefydliad Troseddwyr Ifanc 2000[19]; (e) Rheolau Canolfan Gadw 2001[20]; (f) Rheoliadau Deddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys (Mangreoedd a Gymeradwyir) 2001 [21]; (ff) Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002[22]; (g) Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002[23]); ac (ng) Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003[24]).
1. Ffurf y datganiad a grybwyllir yn rheoliad 7(1) yw:
Unrhyw berchennog ar y tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef (os nad chi yw hwnnw) h.y. y rhydd-ddeiliad ac unrhyw brif brydleswyr y gwyddoch amdanynt Unrhyw berson arall sy'n denant neu'n ddeiliad prydles hir ar yr eiddo neu ar unrhyw ran ohono (gan gynnwys unrhyw fflat) y gwyddoch amdano ag eithrio tenant statudol neu denant arall sydd â'i brydles neu ei denantiaeth am lai na thair blynedd (gan gynnwys tenantiaeth cyfnod) Deiliad arfaethedig y drwydded (os nad chi yw hwnnw) Yr asiant rheoli arfaethedig (os oes un) (os nad chi yw hwnnw) Unrhyw berson nad yw wedi cytuno i ymrwymo i unrhyw amodau mewn trwydded os rhoddir un.
Enw, cyfeiriad, Rhif ffôn a chyfeiriad e-bost neu rif ffacs (os oes un) deiliad arfaethedig y drwydded (os nad chi fydd hwnnw) P'un ai cais am drwydded HMO o dan Ran 2 yntau cais am drwydded tŷ o dan Ran 3 o Ddeddf Tai 2004 yw hwn Cyfeiriad yr eiddo y mae'r cais yn ymwneud ag ef Enw a chyfeiriad yr awdurdod tai lleol y bydd y cais yn cael ei wneud iddo Y dyddiad y cyflwynir y cais arno.".
2.
—(1) Yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 7(2)(a) yw—
(ii) deiliad arfaethedig y drwydded; (iii) y person sy'n rheoli'r HMO neu'r tŷ; (iv) y person sydd â rheolaeth o'r HMO neu'r tŷ; a (v) unrhyw berson sydd wedi cytuno i ymrwymo i amod a geir yn y drwydded;
(b) cyfeiriad yr HMO neu'r tŷ y gwneir y cais amdano;
(ii) tŷ mewn amlfeddiannaeth; (iii) fflat mewn meddiannaeth unigol; (iv) fflat mewn amlfeddiannaeth; (v) tŷ a droswyd yn fflatiau hunangynhaliol ac nad yw'n cynnwys dim ond fflatiau o'r fath; (vi) bloc o fflatiau a adeiladwyd yn bwrpasol; neu (vii) arall;
(d) manylion HMOs eraill neu dai eraill sydd wedi eu trwyddedu o dan Ran 2 neu 3 o'r Ddeddf y mae deiliad arfaethedig y drwydded yn dal trwydded iddynt p'un ai a ydynt yn ardal yr awdurdod tai lleol y gwneir y cais iddo neu yn ardal unrhyw awdurdod tai lleol arall;
(ii) nifer yr unedau gosod ar wahân; (iii) nifer yr ystafelloedd preswyliadwy (ac eithrio ceginau); (iv) nifer yr ystafelloedd ymolchi a'r ystafelloedd cawod; (v) nifer y toiledau a'r basynau ymolchi; (vi) nifer y ceginau; (vii) nifer y sinciau; (viii) nifer yr aelwydydd sy'n meddiannu'r HMO neu'r tŷ; (ix) nifer y bobl sy'n meddiannu'r HMO neu'r tŷ; (x) manylion ynglŷn â'r offer diogelu rhag tân, gan gynnwys nifer a lleoliadau larymau tân; (xi) manylion ynglŷn â llwybrau dianc rhag tân a hyfforddiant arall diogelu rhag tân a roddir i feddiannwyr; (xii) datganiad bod y dodrefn a ddarperir o dan delerau unrhyw denantiaeth neu drwydded yn yr HMO neu'r tŷ yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion diogelwch a geir mewn unrhyw ddeddfiad; ac (xiii) datganiad bod unrhyw offer nwy yn yr HMO neu'r tŷ yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion diogelwch a geir mewn unrhyw ddeddfiad.
3.
—(1) Yr wybodaeth a grybwyllir yn rheoliad 7(2)(b) yw—
(b) manylion o unrhyw ddyfarniad gan lys neu dribiwnlys o gamwahaniaethu anghyfreithlon gan ddeiliad arfaethedig y drwydded neu gan y rheolwr arfaethedig ar sail rhyw, lliw, hil, tras ethnig neu genedligol neu anabledd wrth redeg unrhyw fusnes neu mewn cysylltiad ag ef; (c) manylion o unrhyw doriad gan ddeiliad arfaethedig y drwydded neu'r rheolwr arfaethedig o unrhyw ddarpariaeth mewn unrhyw ddeddfiad sy'n ymwneud â thai, iechyd y cyhoedd, iechyd yr amgylchedd neu gyfraith landlord a thenant sydd wedi arwain at achos sifil neu achos troseddol sydd wedi arwain at wneud dyfarniad yn erbyn deiliad arfaethedig y drwydded neu'r rheolwr arfaethedig; (ch) gwybodaeth am unrhyw HMO neu dŷ y mae deiliad arfaethedig y drwydded neu'r rheolwr arfaethedig yn berchen arno neu wedi bod yn berchen arno neu'n ei reoli neu wedi bod yn ei reoli ac sydd wedi bod yn ddarostyngedig i—
(ii) unrhyw weithredu gorfodaeth priodol a ddisgrifir yn adran 5(2) o'r Ddeddf;
(d) gwybodaeth am unrhyw HMO neu dŷ y mae deiliad arfaethedig y drwydded neu'r rheolwr arfaethedig yn berchen arno neu wedi bod yn berchen arno neu'n ei reoli neu wedi bod yn ei reoli y gwrthododd awdurdod tai lleol roi trwydded iddo o dan adran 2 neu 3 o'r Ddeddf, neu y dirymodd awdurdod tai lleol drwydded arno o ganlyniad i dorri amodau'r drwydded gan ddeiliad y drwydded; ac
4.
Ffurf y datganiad a grybwyllir yn rheoliad 7(3)(a) yw—
1. Rhaid i bob uned o lety byw mewn HMO gynnwys cyfarpar sy'n gallu cynhesu'r fan yn ddigonol. 2. —(1) Os nad yw'r cyfan neu rai o'r unedau yn y llety i fyw mewn HMO yn cynnwys cyfleusterau bathio a thoiled at ddefnydd unigol pob aelwyd unigol—
(b) os oes pump neu fwy o feddiannwyr yn rhannu'r cyfleusterau hynny mae'n rhaid bod yno—
(ii) o leiaf un ystafell ymolchi (a gaiff gynnwys toiled) sydd â bath sefydlog neu gawod ar gyfer pob pum meddiannydd sy'n rhannu.
(2) Rhaid i bob bath, cawod a basynau golchi dwylo mewn HMO fod wedi ei gyfarparu â thapiau sy'n darparu cyflenwad digonol o ddŵr oer a dŵr poeth yn barhaus. 3. Pan fo'r cyfan neu rai o'r unedau byw o fewn yr HMO heb fod yn cynnwys unrhyw gyfleusterau ar gyfer coginio bwyd—
(b) mae'n rhaid i'r offer a ganlyn fod yn y gegin, a rhaid iddo fod yn addas at y diben a rhaid bod digon ohono ar gyfer nifer y rhai sy'n rhannu'r cyfleusterau—
(ii) cyflenwad digonol o ddŵr oer a dŵr poeth parhaus i bob sinc a gyflenwir; (iii) gosodiadau neu offer ar gyfer coginio bwyd; (iv) socedi trydan; (v) arwynebeddau gwaith ar gyfer paratoi bwyd; (vi) cypyrddau ar gyfer storio bwyd neu daclau cegin neu daclau coginio; (vii) oergelloedd gydag adran rewi ddigonol (neu, os nad yw'r adran rewi yn ddigonol, digon o rewgelloedd ar wahân); (viii) cyfleusterau priodol i gael gwared â gwastraff; a (ix) ffaniau echdynnu priodol, blancedi diffodd tân a drysau rhag tân.
4.
—(1) Pan fo uned o le i fyw yn cynnwys cyfleusterau cegin at ddefnydd aelwyd unigol yn unig, ac nad oes unrhyw gyfleusterau cegin eraill ar gael i'r aelwyd honno, mae'n rhaid darparu yn yr uned honno—
(b) sinc ag iddi gyflenwad digonol o ddŵr oer a dŵr poeth parhaus; (c) arwynebeddau gwaith ar gyfer paratoi bwyd; (ch) digon o socedi trydan; (d) cwpwrdd i storio taclau cegin a llestri; ac (dd) oergell.
(2) Os nad oes yna gyfleusterau ymolchi digonol sy'n cael eu rhannu yn cael eu darparu mewn uned o lety i fyw fel a ddisgrifir ym mharagraff 2, rhaid darparu ystafell wedi'i dylunio a'i hawyru'n ddigonol gyda thoiled a bath neu gawod sefydlog sy'n cyflenwi digon o ddŵr oer a dŵr poeth parhaus at ddefnydd meddiannwyr yr uned honno'n unig naill ai—
(b) yn rhesymol o agos i'r llety i fyw.
5.
Rhaid darparu cyfleusterau ac offer rhagofalon tân priodol o'r math, o'r nifer ac yn y lleoliadau lle'r ystyrir bod eu hangen. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaethau parthed nifer o faterion amrywiol sy'n ymwneud â darpariaethau'r Ddeddf Tai ("y Ddeddf") sef: Rhan 2 (trwyddedu HMOs), Rhan 3 (trwyddedu dethol), Penodau 1 a 2 o Ran 4 (gorchmynion rheoli) ac adran 254 (ystyr HMO) o'r Ddeddf. Maent yn—
Mae arfarniad rheoliadol o'r effeithiau y bydd y Rheoliadau hyn yn eu cael ar gael oddi wrth Yr Uned Sector Preifat, Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (ffôn: 02920825111; e-bost HousingIntranet@wales.gsi.gov.uk). Notes: [1] 2004 p.34. Mae'r pwerau a roddir gan adrannau 59(2), (3) a (4), 60(6), 63(5) a (6), 65(3) a (4), 83(2), (3) a (4), 84(6), 87(5) a (6), 232(3) a (7), 250(2), 258(2)(b), (5) a (6), 259(2)(c) o'r Ddeddf a pharagraffau 3 a 6(1)(c) o Atodlen 14 iddi yn arferadwy, o ran Cymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac, o ran Lloegr, gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Gweler y diffiniad o 'appropriate national authority' yn adran 261(1).back [2] Am ystyr "HMO" gweler adrannau 77 a 254 i 259 o'r Ddeddf.back [3] Am ystyr tŷ ("house") gweler adran 99 o'r Ddeddf.back [4] Gweler adran 79(2) o'r Ddeddf.back [5] O.S. 2004/1756 (Cy.188).back [6] O.S. 2003/237 (Cy.35).back [8] Adran o fewn y Swyddfa Gartref yw'r Gwasanaeth Cynnal Cenedlaethol i Geiswyr Lloches.back [9] O.J.L.257, 19 Hydref 1968, fel y'i diwygiwyd gan EEC 312/76 (O.J. L.39, 14 Chwefror 1976) ac EEC 2434/92 (O.J.L.245, 26 Awst 1992).back [11] Am amodau trwydded gweler adrannau 67 a 90 o'r Ddeddf, ac, yn benodol, adrannau 67(5) a 90(6).back [12] Am ystyr annedd (""dwelling"") gweler adran 132(4)(a) a (b) o'r Ddeddf.back [17] O.S. 1998/472, a ddiwygiwyd gan O.S. 2003/3005.back [18] O.S. 1999/728, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/1794, 2000/2641, 2002/2116, 2003/3301, 2005/869 a 2005/3437.back [19] O.S. 2000/3371, a ddiwygiwyd gan O.S. 2002/2117, 2005/897 a 2005/3438.back [20] O.S. 2001/238. Mae adran 66(4) o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002 yn darparu bod y cyfeiriad at ganolfan gadw i'w ddarllen fel cyfeiriad at ganolfan symud ymaith fel y'i diffinir yn Rhan VIII o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999.back [22] O.S. 2002/324 (Cy.37) wedi'i ddiwygio gan O.S. 2002/2622 (Cy.254), 2002/2935 (Cy.277), 2003/947 (Cy.128), 2003/1004 (Cy.144), 2004/1016 (Cy.133), 2004/1314 (Cy.139), 2004/1756 (Cy.188), 2004/2414 (Cy.222), 2005/1541, 2005/2929 (Cy.214) a 2005/3302 (Cy.256).back [23] O.S. 2002/327 (Cy.40) wedi'i ddiwygio gan O.S. 2002/2622 (Cy.254), 2005/774 (Cy.64), 2005/1541 and 2005/2929 (Cy.214).back [24] O.S. 2003/781 (Cy.92) wedi'i ddiwygio gan O.S. 2004/1016 (Cy.113), 2005/1541 a 2005/2929 (Cy. 214).back
ISBN 0 11 091369 8
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 10 July 2006 |