Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006, ISBN 0110913752. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 25(3)(b), 28(1) ac (8), 36(2), 38(4), 39(2), (3), (5) a (7)(b), 40(3), 41(4), 42(2)(a), (3)(c), (4) a (5), 50(2), (4) ac (8), 52(5)(b), 120(2) a 124(1) a (3) o Ddeddf Addysg 2005[1] a pharagraff 6 o Atodlen 4 iddi, a pharagraffau 2(1), (2) a (4) a 3(1), (2) a (3) o Atodlen 6 iddi, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Medi 2006. Dirymu a diwygio 2. —(1) Dirymir Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 1998[2], Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 1999[3] a Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Diwygio) (Cymru) 2004[4]. (2) Dirymir o ran Cymru Reoliadau Addysg (Arolygwyr Cofrestredig) (Ffioedd) 1992[5]. (3) Yn Rheoliadau Cyfarfod Blynyddol Rhieni (Esemptiadau) (Cymru) 2005[6]—
(b) ym mharagraff (b) o'r rheoliad hwnnw, yn lle "a ragnodwyd yn rheoliad 8(1) o Reoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 1998" rhodder "a ragnodwyd gan reoliadau neu a gyfarwyddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 39(2) neu 42(2) o'r Ddeddf honno".
Dehongli: cyffredinol
(2) Pan fo'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i weithred gael ei gwneud o fewn cyfnod penodedig yn cychwyn ar ddyddiad penodedig mae'r cyfnod yn cychwyn yn union ar ôl y dyddiad hwnnw. Dehongli: Rhan 2 4. —(1) Yn y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn—
(2) Mae i gyfeiriadau yn y Rhan hon at blentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol yr ystyr sydd i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol yn adran 22(1) o Ddeddf Plant 1989[10].
(b) yn achos ysgol nad yw wedi'i harolygu o'r blaen (o dan y naill Ddeddf na'r llall), y dyddiad y derbyniwyd disgyblion gyntaf i'r ysgol.
Hysbysu o arolygiad
(b) yn achos ysgol a gynhelir nad oes ganddi gyllideb ddirprwyedig, cadeirydd y corff llywodraethu; (c) yn achos ysgol a chanddi lywodraethwyr sefydledig, y person sy'n penodi'r llywodraethwyr hynny ac, yn achos ysgol wirfoddol a gynorthwyir sy'n un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru, Eglwys Loegr neu'r Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol (os yw'n wahanol); (ch) yn achos ysgol arbennig nas cynhelir, y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw awdurdod addysg lleol os yw'r Cynulliad neu'r awdurdod yn talu ffioedd o ran darparu addysg ar gyfer unrhyw berson yn yr ysgol; (d) yn achos unrhyw ysgol y mae un o'i disgyblion cofrestredig yn blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol, person sydd yn ei farn ef yn un o swyddogion priodol yr awdurdod lleol hwnnw; ac (dd) yn achos ysgol uwchradd, y cyfryw aelodau o'r gymuned fusnes leol ag y gwêl yr awdurdod priodol yn dda eu cynnwys, o roi sylw, yn arbennig, i ba mor ddymunol yw hysbysu aelodau sy'n cyflogi cyn-ddisgyblion yr ysgol neu sydd wedi eu cyflogi'n ddiweddar, o'r amser y mae'r arolygiad i'w gynnal.
(2) Yn unol â'r diffiniad o "appropriate authority" a gaiff ei gynnwys ym mharagraff 1 o Atodlen 4, yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 8 mae "awdurdod priodol" yn cynnwys perchennog yr ysgol, yn achos ysgol arbennig nas cynhelir.
(b) wrth ddewis amser a lle ar gyfer y cyfarfod, roi sylw i ba mor gyfleus ydynt i'r rhieni; (c) cymryd unrhyw gamau sy'n rhesymol ymarferol i hysbysu'r canlynol yn ysgrifenedig o leiaf dair wythnos ymlaen llaw o'r amser a'r lle y mae'r cyfarfod i'w gynnal—
(ii) yn achos ysgol arbennig nas cynhelir, y Cynulliad Cenedlaethol neu unrhyw awdurdod addysg lleol os yw'r Cynulliad neu'r awdurdod yn talu ffioedd o ran darparu addysg ar gyfer unrhyw berson yn yr ysgol a bod un o rieni'r person hwnnw yn gofyn am gael ei hysbysu;
(ch) peidio â chaniatáu i unrhyw un fod yn bresennol yn y cyfarfod ac eithrio—
(ii) unrhyw berson y mae'r arolygydd sy'n arwain yr arolygiad yn dymuno iddo fod yn bresennol yn y cyfarfod at ddibenion darparu cymorth gweinyddol neu gofnodi'r hyn a ddywedir; (iii) rhieni disgyblion cofrestredig yr ysgol ac, os yw un o'r disgyblion cofrestredig yn blentyn sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol, person sydd ym marn yr awdurdod priodol yn un o swyddogion priodol yr awdurdod lleol hwnnw; (iv) yn achos ysgol arbennig nas cynhelir, person sydd ym marn yr awdurdod priodol yn un o swyddogion priodol y Cynulliad Cenedlaethol neu o unrhyw awdurdod addysg lleol os yw'r Cynulliad neu'r awdurdod yn talu ffioedd o ran darparu addysg ar gyfer unrhyw berson yn yr ysgol a bod un o rieni'r person hwnnw'n gofyn am gael bod yn bresennol; a (v) unrhyw aelod o'r Arolygiaeth sy'n monitro'r arolygiad o dan adran 24(2); a
(d) trefnu i'r arolygydd sy'n arwain yr arolygiad reoli'r cyfarfod ym mhob ffordd arall.
Adroddiadau arolygu
(b) os yw'r arolygydd cofrestredig (yn achos adroddiad gan arolygydd cofrestredig) yn datgan mai dyna'i farn ef ond y datgenir hefyd fod y Prif Arolygydd yn anghytuno â'r farn honno, pum niwrnod gwaith o'r dyddiad y gorffennodd yr awdurdod priodol neu'r perchennog, yn ôl y digwydd, baratoi'r cynllun gweithredu; ac (c) os yw'r person sy'n llunio'r adroddiad yn datgan ei fod o'r farn ei bod yn ofynnol bod camau arbennig yn cael eu cymryd mewn perthynas â'r ysgol neu ei bod yn ofynnol i'r ysgol wella'n sylweddol, a naill ai bod y person hwnnw'n aelod o'r Arolygiaeth neu fod yr adroddiad yn datgan bod y Prif Arolygydd yn cytuno â'r farn honno, deuddydd o'r dyddiad y gorffennodd yr awdurdod priodol neu'r perchennog, yn ôl y digwydd, baratoi'r cynllun gweithredu.
(3) At ddibenion adran 39(3)(c) a 42(3)(c), os paratowyd cynllun gweithredu o ran ysgol a gynhelir neu ysgol arbennig nas cynhelir, rhaid i'r awdurdod priodol neu'r perchennog, yn ôl y digwydd, anfon copïau ohono at y canlynol (yn ychwanegol at y personau a grybwyllir yn adrannau 39(3) i (6) neu 42(3) a (4) yn ôl y digwydd)—
(b) yn achos ysgol uwchradd, at y Cynulliad Cenedlaethol (os nad oes gan y Cynulliad hawl fel arall i gael copi).
(4) At ddibenion cyfrifo'r cyfnod a ragnodwyd gan baragraff (2)(c) nid yw dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Gwener y Groglith a dydd Nadolig nac unrhyw ddiwrnod sy'n wŷl banc i'w cyfrif.
(b) deuddeng niwrnod ar ôl i'r cyfnod a ragnodwyd gan reoliad 10(2) ddod i ben,
pa un bynnag sy'n digwydd gynharaf.
(ii) copi o grynodeb ar gyfer unrhyw berson y darparwyd eisoes gopi o'r crynodeb hwnnw ar ei gyfer; neu
(b) o dan adran 39(7)(b) neu 42(5)(b), copi o gynllun gweithredu ar gyfer unrhyw berson—
(ii) y darparwyd eisoes gopi o'r cynllun ar ei gyfer.
Dehongli: Rhan 3 13. Yn y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn—
(b) nad yw'n ofynnol, gan unrhyw ddeddfiad, ei rhoi'n unol â maes llafur y cytunwyd arno;
Cyfnodau rhwng arolygiadau
(b) yn achos ysgol lle na chynhaliwyd y cyfryw arolygiad o'r blaen (o dan y naill Ddeddf na'r llall), y dyddiad y derbyniwyd disgyblion gyntaf i'r ysgol.
Dewis arolygydd
(ii) copi o grynodeb ar gyfer unrhyw berson y darparwyd eisoes gopi o'r crynodeb hwnnw ar ei gyfer; neu
(b) o dan baragraff 3(3)(b) o Atodlen 6, copi o gynllun gweithredu ar gyfer unrhyw berson—
(ii) y darparwyd eisoes gopi o'r cynllun gweithredu hwnnw ar ei gyfer.
(2) Ni chaniateir i gorff llywodraethu ei gwneud yn ofynnol bod ffi yn cael ei thalu o dan baragraff (1)(a) os yw'r ddogfen sy'n cynnwys y copi o'r adroddiad neu'r crynodeb, yn ôl y digwydd, yn rhan o ddogfen sy'n cynnwys copi o'r adroddiad neu o'r crynodeb y cyfeirir ato yn rheoliad 9 o'r Rheoliadau hyn, neu os yw wedi'i rhwymo wrthi mewn ffordd arall a bod ffi wedi'i thalu o dan reoliad 12 o'r Rheoliadau hyn. Gofyniad am gadw cyfrifon 18. —(1) At ddibenion adran 52(5)(b), ar gyfer pob blwyddyn ariannol y mae awdurdod addysg lleol yn darparu gwasanaeth arolygu ysgolion ynddi, rhaid i'r awdurdod gadw cyfrifon o ran y gwasanaeth a ddarperir ganddynt yn y flwyddyn honno. (2) Yn y rheoliad hwn—
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae Rhan 1 o Ddeddf Addysg 2005 ("Deddf 2005") yn ailddeddfu (gydag addasiadau) Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996 ("Deddf 1996") o ran Cymru. Mae system arolygiadau ysgolion ar wahân (a gwahanol) yn gymwys i Loegr. Fel yn Neddf 1996, ceir yn Neddf 2005 hithau fframwaith statudol ar gyfer arolygu ysgolion, ond mae'n gadael i'r Rheoliadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ymdrin â llawer o'r manylion. Mae'r Rheoliadau hyn, a wneir o dan y darpariaethau a ailddeddfwyd yn Neddf 2005, yn rhagnodi'r manylion hynny. Maent yn atgyfnerthu gan fwyaf y darpariaethau a geir yn Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 1998, fel y'u diwygiwyd, sef y Rheoliadau y maent yn eu disodli. Maent hefyd yn atgyfnerthu Rheoliadau Addysg (Arolygwyr Cofrestredig) (Ffioedd) 1992. Crynhoir isod brif ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn gan dynnu sylw at unrhyw newidiadau arwyddocaol i Reoliadau 1998. Cyfeiriadau at adrannau a Rhannau o Ddeddf 2005 a'r Atodlenni iddi yw'r cyfeiriadau isod yn y Nodyn Esboniadol hwn. Mae Rhan 1 yn ymwneud â materion cyffredinol. Mae rheoliad 2 yn dirymu Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 1998 (fel y'u diwygiwyd) a Rheoliadau Addysg (Arolygwyr Cofrestredig) (Ffioedd) 1992. Mae hefyd yn gwneud diwygiad canlyniadol i Reoliadau Cyfarfod Blynyddol Rhieni (Esemptiadau) (Cymru) 2005. Mae rheoliad 3 yn diffinio termau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau drwyddynt draw. Mae paragraff (3) o'r rheoliad hwnnw (i bob pwrpas) yn cywiro camgymeriad yn Neddf 2005. Mae Rhan 2 yn ymwneud ag arolygiadau ysgolion. Mae rheoliad 4 yn diffinio'r termau a'r ymadroddion a ddefnyddir yn Rhan 2. Mae rheoliad 5 yn rhagnodi ffi o £150 ar gyfer ymgofrestru'n arolygydd cofrestredig o dan adran 25. Mae rheoliad 6 yn darparu bod arolygiadau'n cael eu cynnal bob chwe blynedd o'r amser yr arolygwyd yr ysgol ddiwethaf neu, os nad adolygwyd yr ysgol o'r blaen, o'r amser y derbyniwyd disgyblion gyntaf i'r ysgol. Mae rheoliad 7 yn rhestru'r personau hynny y mae'n rhaid i'r awdurdod priodol eu hysbysu (fel arfer corff llywodraethu'r ysgol — gweler rheoliad 4(1)) ynghylch pryd y mae'r arolygiad i'w gynnal. Mae rheoliad 8 yn nodi'r trefniadau sydd i'w gwneud gan yr awdurdod priodol ar gyfer cynnal cyfarfod rhieni etc cyn arolygiad, ac mae'n darparu mai dim ond y personau hynny a restrir a gaiff fod yn bresennol yn y cyfarfod. Yn ddarostyngedig i hynny, mae'n darparu bod yr arolygydd sy'n arwain yr arolygiad yn rheoli'r cyfarfod. Mae rheoliad 9 yn darparu bod arolygiad i'w gwblhau o fewn pythefnos, a bod adroddiad ar yr arolygiad i'w gwblhau o fewn 35 o ddiwrnodau gwaith (fel a ddiffinnir yn rheoliad 3) i'r dyddiad y cwblhawyd yr arolygiad. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod priodol neu'r perchennog gymryd camau rhesymol ymarferol i sicrhau bod y rhieni'n cael crynodeb o'r adroddiad (y mae gan rieni hawl iddo o dan adran 38 (4) neu 41(4) o'r Ddeddf) o fewn deng niwrnod gwaith i'r amser y mae'r awdurdod neu'r perchennog yn cael yr adroddiad. Yn wahanol i'w ragflaenydd, nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i ysgolion annibynnol (sydd erbyn hyn yn ddarostyngedig i'w harolygu o dan Ddeddf 2002, fel y'i diwygiwyd gan Atodlen 8). Mae rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod priodol neu'r perchennog baratoi cynllun gweithredu o fewn y cyfnod o ddeugain a phump o ddiwrnodau gwaith i'r dyddiad y mae'n cael yr adroddiad, ac iddo anfon copïau i'r personau a'r cyrff hynny sydd â'r hawl i gael copïau o fewn cyfnod a bennir yn y rheoliad hwnnw (sy'n amrywio yn ôl p'un a yw ysgol wedi'i dynodi'n ysgol sy'n peri pryder ai peidio). Y rhai y cyfeirir atynt yn y Ddeddf ac a ragnodir ym mharagraff (3) o reoliad 10 yw'r personau a'r cyrff dan sylw. Yn wahanol i'w ragflaenydd, nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i ysgolion annibynnol (sydd bellach yn ddarostyngedig i'w harolygu o dan Ddeddf 2002, fel y'i diwygiwyd gan Atodlen 8). Mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod addysg lleol baratoi'r datganiad y mae'n ofynnol iddo ei baratoi o dan adran 40(3)(a) o fewn cyfnod a bennir yn y rheoliad hwnnw. Mae rheoliad 12 yn caniatáu codi ffioedd am adroddiadau arolygu, crynodebau a chynlluniau gweithredu (ffioedd nad ydynt yn fwy na'r gost o'u cyflenwi) yn yr achosion a bennir yn y rheoliad hwnnw. Mae Rhan 3 yn ymwneud ag arolygu addysg enwadol. Mae rheoliad 13 yn diffinio'r termau a'r ymadroddion a ddefnyddir yn Rhan 3. Mae rheoliad 14 yn darparu bod y cyfryw arolygiadau yn cael eu cynnal bob chwe blynedd o'r amser yr arolygwyd y ddarpariaeth ddiwethaf neu, os nad adolygwyd y ddarpariaeth o'r blaen, o'r adeg y derbyniwyd disgyblion gyntaf i'r ysgol. Gwneir rheoliad 15 o dan bŵer newydd. Mae'n darparu ar gyfer ymgynghori â'r awdurdod esgobaethol priodol ynghylch dewis arolygydd. Mae rheoliad 16 yn rhagnodi cyfnodau y mae'r cyfryw arolygiadau i'w gwneud ynddynt, y mae adroddiad arolygu a chynllun gweithredu i'w paratoi, ac y mae cynllun gweithredu i'w anfon i'r sawl sydd â hawl i gael copi ohono. Y personau y cyfeirir atynt yn y Ddeddf a'r personau ychwanegol a ragnodir gan baragraff (6), os byddant yn gofyn am gopi, yw'r personau hynny. Mae rheoliad 17 yn rhagnodi achosion pan ganiateir codi ffi am gopi o adroddiad arolygu, crynodeb neu o gynllun gweithredu (ffi nad yw'n fwy na'r gost o'i gyflenwi). Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â gwasanaethau arolygu ysgolion yr awdurdod addysg lleol. Mae rheoliad 18 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod gadw cyfrifon o ran y cyfryw wasanaeth. Notes: [1] 2005 c.18. Am ystyr rheoliadau a rhagnodi gweler adrannau 31, 43 a 50 (8) am "regulations" a "prescribed" .back [4] O.S. 2004/784 (Cy.81).back [6] OS.2005/2911 (Cy.208).back [7] 1998 p.31, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/3037.back [10] 1989 p.41. Diwygiwyd adran 22(1) gan Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22), adran 2(2) o Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p.35) ac adran 116 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(p.38).back
ISBN 0 11 091375 2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 7 July 2006 |