Rheoliadau Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Cymru) 2006, ISBN 011091368X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 234(1) o Ddeddf Tai 2004[1] yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 30 Mehefin 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw dŷ amlfeddiannaeth yng Nghymru heblaw bloc o fflatiau a droswyd y mae adran 257 o'r Ddeddf yn gymwys iddo. Dehongli 2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—
(b) ystyr "gosodion, ffitiadau neu gyfarpar" ("fixtures, fittings or appliances") yw—
(ii) toiledau, baddonau, cawodydd, sinciau, neu fasnau ymolchi neu unrhyw gypyrddau, silffoedd neu ffitiadau a ddarparwyd mewn ystafell ymolchi neu doiled; (iii) cypyrddau, silffoedd neu gyfarpar a ddefnyddir i storio, paratoi neu goginio bwyd; a (iv) peiriannau golchi neu gyfarpar golchi arall;
(c) ystyr "tŷ amlfeddiannaeth" ("HMO") yw tŷ a ddiffinnir gan adrannau 254 i 259 o'r Ddeddf; ac
Dyletswydd rheolwr i roi gwybodaeth i feddiannydd
(b) bod y manylion hynny'n cael eu harddangos mewn lle amlwg yn y tŷ amlfeddiannaeth.
Dyletswydd rheolwr i gymryd camau diogelwch
(b) yn cael ei gynnal a'i gadw mewn cyflwr da.
(2) Rhaid i'r rheolwr sicrhau bod unrhyw gyfarpar diffodd tân a larymau tân yn cael eu cynnal a'u cadw mewn cyflwr da ac sy'n gweithio.
(b) cyflyrau yn y tŷ amlfeddiannaeth o ran strwythur; ac (c) nifer y meddianwyr yn y tŷ amlfeddiannaeth.
(5) Wrth gyflawni'r ddyletswydd a osodir gan baragraff (4) rhaid i'r rheolwr yn benodol—
(b) o ran unrhyw ffenestr y mae ei sil ar lefel y llawr neu'n agos ato, sicrhau bod bariau neu gyfarpar diogelu arall o'r fath fel a all fod yn ofynnol yn cael ei ddarparu i ddiogelu'r meddianwyr rhag perygl damweiniau a allai ddigwydd mewn cysylltiad â'r ffenestri hynny.
(6) Nid yw'r ddyletswydd a osodir gan baragraff (3) yn gymwys os oes gan y tŷ amlfeddiannaeth bedwar meddiannydd neu lai.
(b) bod unrhyw ffitiad dŵr sy'n agored i niwed gan rew yn cael ei ddiogelu rhag niwed gan rew.
(2) Rhaid i'r rheolwr beidio yn afresymol â pheri neu ganiatáu i'r cyflenwad dŵr neu ddraenio a gaiff ei ddefnyddio gan unrhyw feddiannydd yn y tŷ amlfeddiannaeth gael ei fylchu.
(b) cael tystysgrif gan y person sy'n cynnal y prawf, yn pennu canlyniadau'r prawf; ac (c) rhoi'r dystysgrif honno i'r awdurdod tai lleol o fewn 7 niwrnod ar ôl cael cais ysgrifenedig amdani gan yr awdurdod hwnnw.
(4) Rhaid i'r rheolwr beidio yn afresymol â pheri neu ganiatáu i'r cyflenwad dŵr neu drydan a gaiff ei ddefnyddio gan unrhyw feddiannydd yn y tŷ amlfeddiannaeth gael ei fylchu.
(b) yn cael eu cynnal a'u cadw mewn cyflwr diogel ac yn gweithio; ac (c) yn rhesymol glir rhag rhwystr.
(2) Wrth gyflawni'r ddyletswydd a osodir gan baragraff (1) rhaid i'r rheolwr yn benodol sicrhau—
(b) bod canllawiau neu fanisters ychwanegol o'r fath ag sy'n angenrheidiol ar gyfer diogelwch meddianwyr y tŷ amlfeddiannaeth yn cael eu darparu; (c) bod unrhyw orchuddion grisiau yn cael eu gosod yn ddiogel a'u bod yn cael eu cadw mewn cyflwr da; (ch) bod pob ffenestr a dull arall o awyru yn y rhannau cyffredin yn cael eu cadw mewn cyflwr da; (d) bod y rhannau cyffredin yn cael eu gosod gyda ffitiadau goleuo digonol sydd ar gael i'w defnyddio bob amser gan bob meddiannydd yn y tŷ amlfeddiannaeth; ac (dd) yn ddarostyngedig i baragraff (3), bod gosodion, ffitiadau neu gyfarpar a ddefnyddir yn gyffredin gan ddwy aelwyd neu fwy yn y tŷ amlfeddiannaeth yn cael eu cynnal a'u cadw mewn cyflwr da a diogel ac mewn cyflwr gweithio glân.
(3) Nid yw'r ddyletswydd a osodir gan baragraff (2)(dd) yn gymwys o ran gosodion, ffitiadau neu gyfarpar y mae gan y meddiannydd hawl i'w symud o'r tŷ amlfeddiannaeth neu sydd fel arall y tu allan i reolaeth y rheolwr.
(b) y cedwir unrhyw ardd sy'n perthyn i'r tŷ amlfeddiannaeth mewn cyflwr diogel a thaclus; ac (c) bod y waliau terfyn, ffensys a rheiliau (gan gynnwys unrhyw reiliau yn ardal yr islawr), i'r graddau y maent yn perthyn i'r tŷ amlfeddiannaeth, yn cael eu cadw a'u cynnal mewn cyflwr da a diogel fel na fydd yn beryglus i feddianwyr.
(5) Os oes unrhyw ran o'r tŷ amlfeddiannaeth nad yw'n cael ei defnyddio rhaid i'r rheolwr sicrhau bod y rhan honno, gan gynnwys unrhyw gyntedd a grisiau sy'n rhoi mynediad uniongyrchol iddi, yn cael ei chadw'n rhesymol lân ac yn rhydd o sbwriel a llanastr.
(ii) pob un o'r rhannau hynny o'r tŷ amlfeddiannaeth sy'n cynnwys grisiau, cynteddau, coridorau, neuaddau, lobïau, mynedfeydd, balconïau, portshys a stepiau a ddefnyddir gan feddianwyr yr unedau llety i fyw ynddynt yn y tŷ amlfeddiannaeth i allu mynd at ddrysau mynediad eu huned lety berthnasol i fyw ynddi; a (iii) unrhyw ran arall o dŷ amlfeddiannaeth y rhennir y defnydd ohoni gan ddwy aelwyd neu fwy sy'n byw yn y tŷ amlfeddiannaeth, sy'n hysbys i'r landlord.
Dyletswydd rheolwr i gynnal a chadw llety i fyw ynddo
(b) bod unrhyw osodion, ffitiadau neu gyfarpar yn y rhan yn cael eu cynnal a'u cadw mewn cyflwr da ac mewn cyflwr gweithio glân; ac (c) bod pob ffenestr a dulliau eraill o awyru yn cael eu cadw mewn mewn cyflwr da.
(3) Nid yw'r dyletswyddau a osodir o dan baragraff (2) yn ei gwneud yn ofynnol i'r rheolwr wneud unrhyw drwsio y cododd yr angen amdano o ganlyniad i ddefnydd gan y meddiannydd o'r llety i fyw ynddo mewn modd nad yw'n debyg i fodd y byddai tenant yn ei ddefnyddio.
(b) gwneud y trefniadau pellach hynny ar gyfer gwaredu sbwriel a llanastr o'r tŷ amlfeddiannaeth y gall bod angen amdanynt, gan gofio am unrhyw wasanaeth ar gyfer gwaredu o'r fath a ddarperir gan yr awdurdod lleol.
Dyletswyddau meddianwyr tai amlfeddiannaeth
(b) caniatáu i'r rheolwr, o ran unrhyw ddiben sy'n gysylltiedig â chyflawni unrhyw ddyletswydd a osodir ar y rheolwr gan y Rheoliadau hyn, ar bob adeg resymol i fynd i unrhyw lety ar gyfer byw ynddo neu le arall a feddiannir gan y person hwnnw; (c) rhoi i'r rheolwr, ar gais y rheolwr, unrhyw wybodaeth o'r fath y gall y rheolwr yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol at ddibenion cyflawni unrhyw ddyletswydd o'r fath; (ch) cymryd camau rhesymol i osgoi peri niwed i unrhyw beth y mae'r rheolwr o dan ddyletswydd i'w gyflenwi, ei gynnal a'i gadw neu ei drwsio o dan y Rheoliadau hyn; (d) storio a gwaredu llanastr yn unol â'r trefniadau a wneir gan y rheolwr o dan reoliad 9; ac (dd) cydymffurfio â chyfarwyddiadau rhesymol y rheolwr o ran unrhyw fodd i ddianc rhag tân, atal tân a defnyddio cyfarpar tân.
Cyffredinol
(b) sy'n gorfodi'r rheolwr i gymryd unrhyw gamau, mewn cysylltiad â'r materion hynny, sy'n gyfrifoldeb awdurdod lleol neu unrhyw berson arall, heblaw'r camau hynny a all fod yn angenrheidiol i ddwyn y mater yn ddiymdroi i sylw'r awdurdod neu'r person sy'n ymdrin â'r mater.
(2) Mae unrhyw ddyletswydd a osodir gan y Rheoliadau hyn i gynnal a chadw neu drwsio i'w dehongli fel dyletswydd sy'n ei gwneud yn ofynnol bod safon y cynnal a chadw neu'r trwsio yn un sy'n rhesymol o dan yr holl amgylchiadau, gan gymryd i ystyriaeth oed, cymeriad ac oes ragolygol y tŷ a'r ardal lle y mae'r tŷ. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i dai amlfeddiannaeth yng Nghymru ond nid ydynt yn gymwys i flociau o fflatiau a droswyd y mae adran 257 o Ddeddf Tai 2004 yn gymwys iddynt. Mae'r adran honno yn gymwys i adeiladau a gafodd eu trosi'n fflatiau hunangynhaliol ac sy'n fflatiau hunangynhaliol pan nad oedd y gwaith adeiladu a wnaed mewn cysylltiad â'r trosiad yn cydymffurfio â'r safonau adeiladu priodol ac nad yw o hyd yn cydymffurfio â hwy, ac mae llai na dwy ran o dair o'r fflatiau hunangynhaliol wedi'u perchen-feddiannu. Mae'r Rheoliadau yn gosod dyletswyddau ar y person sy'n rheoli tŷ amlfeddiannaeth o ran—
Mae rheoliad 10 yn gosod dyletswyddau ar feddianwyr tŷ amlfeddiannaeth at ddibenion sicrhau bod y person sy'n ei reoli yn gallu cyflawni'r dyletswyddau a osodir ar y rheolwr gan y Rheoliadau hyn yn effeithiol. Notes: [1] 2004 p. 34. Mae'r pwerau a roddir gan adran 234(1) o'r Ddeddf yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac, o ran Lloegr, gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Gweler y diffiniad o "the appropriate national authority" yn adran 261(1) o'r Ddeddf.back [2] I gael ystyr "person managing" gweler adran 263(3) o'r Ddeddf.back
ISBN 0 11 091368 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 7 July 2006 |