Gorchymyn Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth (Disgrifiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth (Disgrifiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2006, ISBN 0110913736. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 55(3) o Ddeddf Tai 2004[1], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth (Disgrifiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 30 Mehefin 2006. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i unrhyw HMO[2] yng Nghymru heblaw bloc o fflatiau a droswyd y mae adran 257 o'r Ddeddf yn gymwys iddo. Dehongli 2. Yn y Gorchymyn hwn—
(b) ystyr "mangre busnes" ("business premises") yw mangre, neu unrhyw ran o fangre, nad yw'n llety i fyw ynddo, neu nad yw'n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â llety i fyw ynddo, nac yn rhan hanfodol ohono.
Disgrifiad o HMOs a ragnodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru
(b) mae wedi'i feddiannu gan bum person neu fwy; ac (c) mae wedi'i feddiannu gan bersonau sy'n byw mewn dwy aelwyd unigol neu fwy.
(3) Rhaid ystyried y lloriau canlynol wrth benderfynu a yw HMO neu unrhyw ran ohono yn cynnwys tri llawr neu fwy—
(ii) os yw wedi'i adeiladu, ei drosi neu'i addasu i'w ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n rhannol fel llety i fyw ynddo; (iii) os yw'n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â, ac fel rhan hanfodol o'r HMO; neu (iv) os ef yw'r unig neu'r prif gofnod i'r HMO ar y stryd;
(b) unrhyw atig—
(ii) os yw wedi'i adeiladu, ei drosi neu'i addasu i'w ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n rhannol fel llety i fyw ynddo, neu (iii) os yw'n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â'r HMO, ac fel rhan hanfodol ohono;
(c) os yw'r llety i fyw ynddo wedi'i leoli mewn rhan o'r adeilad uwchben mangre busnes, gyda phob llawr yn rhan o'r fangre busnes;
(ii) os yw'n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â'r HMO, ac fel rhan hanfodol ohono; ac
(dd) unrhyw lawr arall a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n rhannol fel llety i fyw ynddo neu mewn cysylltiad â'r HMO, ac fel rhan hanfodol ohono.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi disgrifiad o dŷ amlfeddiannaeth ("HMO") y mae Rhan 2 o Ddeddf Tai 2004 ("y Ddeddf") yn gymwys iddo. O dan adran 61(1) o'r Ddeddf, rhaid i bob HMO y mae Rhan 2 o'r Ddeddf yn gymwys iddo fod yn drwyddedig oni bai ei fod yn destun naill ai hysbysiad esemptio dros dro o dan adran 62 o'r Ddeddf neu orchymyn rheoli terfynol neu interim o dan Bennod 1 o Ran 4 o'r Ddeddf. Mae'r Gorchymyn yn gymwys i HMOs yng Nghymru ond nid yw'n gymwys i flociau o fflatiau a droswyd y mae adran 257 o'r Ddeddf yn gymwys iddynt. Mae'r rhain yn adeiladau sydd wedi'u trosi'n fflatiau hunangynhaliol ac sy'n cynnwys fflatiau hunangynhaliol pan nad oedd y gwaith adeiladu a wnaed mewn cysylltiad â'r trosiad yn cydymffurfio â'r safonau adeiladu priodol, ac nad yw o hyd yn cydymffurfio â hwy, ac mae llai na dwy ran o dair o'r fflatiau hunangynhaliol wedi'u perchen-feddiannu. Mae erthygl 3(2) yn nodi'r amodau y mae'n rhaid i HMOs eu bodloni er mwyn bod o ddisgrifiad a ragnodir gan erthygl 3(1). Un o'r amodau yw bod y cyfan neu ran o HMO yn cynnwys tri llawr neu fwy. Mae erthygl 3(3) yn rhestru'r lloriau mewn HMO sydd i'w hystyried wrth gyfrifo a yw'r HMO neu unrhyw ran ohono yn cynnwys tri llawr neu fwy. Mae arfarniad rheoliadol o'r effeithiau y bydd y Gorchymyn hwn yn ei gael ar fusnesau, ar gael o Uned y Sector Preifat, Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, Caerdydd CF10 3NQ (ffôn: 02920825111; e-bost HousingIntranet@wales.gsi.gov.uk). Notes: [1] 2004 p.34. Mae'r pwerau a roddir gan adran 55(3) o'r Ddeddf yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac, o ran Lloegr, gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Gweler y diffiniad o "the appropriate national authority" yn adran 261(1).back [2] Ar gyfer ystyr HMO gweler adrannau 77 a 254 i 259 o'r Ddeddf.back
ISBN 0 11 091373 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 10 July 2006 |