Gorchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) 2006, ISBN 0110913760. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 1 o Ddeddf Gwenyn 1980[1], ac a freiniwyd ynddo bellach, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn— Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Clefydau a Phlâu Gwenyn (Cymru) 2006, daw i rym ar 1 Gorffennaf 2006 ac mae'n gymwys o ran Cymru. Dehongli 2. —(1) Yn y Gorchymyn hwn—
(2) Mae hysbysiad o dan y Gorchymyn hwn—
(b) yn gallu cael ei atal, ei ddiwygio neu ei ddirymu drwy hysbysiad pellach ar unrhyw adeg; (c) yn gallu bod yn ddarostyngedig i amodau.
(3) Nid yw paragraff (2)(c) yn gymwys mewn perthynas â hysbysiad o dan erthygl 10.
(b) bod pla hysbysadwy yn bresennol yn y cwch; neu (c) bod pla hysbysadwy yn bresennol yn yr un fangre neu'r un cerbyd â'r cwch,
hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith o'r ffaith honno.
(b) sy'n darganfod yng nghwrs ei waith,
bla gwenyn y mae'n gwybod neu'n amau ei fod yn bla hysbysadwy hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith o'r ffaith honno.
(b) unrhyw beth arall a allai ledaenu'r clefyd hysbysadwy neu'r pla hysbysadwy.
(2) Caiff perchennog y cwch neu'r person sy'n gyfrifol amdano, er gwaethaf darpariaethau paragraff 4 o'r Atodlen, gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer eu profi mewn labordy samplau o—
(b) unrhyw bla gwenyn er mwyn penderfynu a yw'n bla hysbysadwy; (c) pridd o'r ardal o gwmpas y cwch er mwyn penderfynu a yw wedi'i heintio â phla hysbysadwy.
(3) Os cyflwynir hysbysiad o dan erthygl 6(1) neu (2), bydd y gwaharddiad ar symud yn yr hysbysiad hwnnw'n gymwys yn lle'r gwaharddiad ar symud ym mharagraff 4 o'r Atodlen.
(b) y bydd perchennog y cwch neu'r person sy'n gyfrifol amdano wedi'i hysbysu fod canlyniadau profion ar samplau a gyflwynwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (2) yn cadarnhau nad yw'r deunydd yn y samplau wedi'i heintio neu nad yw'n bla hysbysadwy.
(5) Ni chaiff unrhyw berson sy'n rhoi hysbysiad o dan erthygl 3(2) symud neu ganiatáu symud unrhyw bla gwenyn neu unrhyw beth arall a allai ledaenu'r pla hysbysadwy o'r fangre neu'r cerbyd lle mae'r pla neu'r peth hwnnw.
(b) unrhyw beth arall, yn cynnwys pridd, er mwyn canfod a yw wedi'i heintio â phla hysbysadwy.
(7) Os cyflwynir hysbysiad o dan erthygl 6(1) neu (2), bydd y gwaharddiad ar symud yn yr hysbysiad hwnnw'n gymwys yn lle'r gwaharddiad ar symud ym mharagraff (5).
(b) y bydd y person a roddodd hysbysiad o dan erthygl 3(2) wedi'i hysbysu fod canlyniadau'r profion ar samplau a gyflwynwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff (6) yn cadarnhau nad yw'r deunydd yn y samplau yn bla hysbysadwy neu nad yw wedi'i heintio â phla hysbysadwy.
(9) Rhaid pacio unrhyw sampl a gyflwynir o dan baragraff (2) neu (6) yn y fath fodd ag i osgoi hyd y mae'n bosibl y risg o ledaenu'r haint pan fydd yn cael ei gludo.
(b) unrhyw beth arall a allai ledaenu'r clefyd hysbysadwy neu'r pla hysbysadwy sydd yn y fangre neu'r cerbyd,
hysbysiad yn gwahardd eu symud ac yn gwahardd symud unrhyw blâu gwenyn sydd ynddynt neu sy'n effeithio arnynt, heblaw o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(b) unrhyw beth arall a allai ledaenu clefyd hysbysadwy neu bla hysbysadwy.
(3) Rhaid diddymu hysbysiad a gyflwynwyd yn unol â pharagraff (2) os yw person awdurdodedig yn ddiweddarach yn gallu gweithredu'n ddirwystr ei bwerau i gael mynediad o dan adran 2 o'r Ddeddf yn y fangre neu'r cerbyd.
(b) caiff person awdurdodedig gyflwyno i berchennog neu i'r person sy'n gyfrifol am y cwch hysbysiad yn mynnu fod yn rhaid difa neu drin y cwch, malurion o'r cwch ac unrhyw offer neu bethau eraill a allai ledaenu'r clefyd yn unol â'r hysbysiad; (c) caiff person awdurdodedig gyflwyno i unrhyw berson arall sy'n berchennog neu'n berson sy'n gyfrifol am unrhyw offer neu bethau eraill a allai ledaenu'r clefyd hysbysiad yn mynnu fod yn rhaid eu difa neu eu trin yn unol â'r hysbysiad.
(3) Pan fydd presenoldeb clefyd y gwenyn Ewropeaidd wedi'i gadarnhau mewn cwch—
(b) caiff person awdurdodedig gyflwyno i berchennog neu i'r person sy'n gyfrifol am y cwch hysbysiad yn mynnu fod yn rhaid difa neu drin y cwch, malurion o'r cwch ac unrhyw offer neu bethau eraill a allai ledaenu'r clefyd yn unol â'r hysbysiad; (c) caiff person awdurdodedig gyflwyno i unrhyw berson arall sy'n berchennog neu'n berson sy'n gyfrifol am unrhyw offer neu bethau eraill a allai ledaenu'r clefyd hysbysiad yn mynnu fod yn rhaid eu difa neu eu trin yn unol â'r hysbysiad.
(4) Os, unwaith y bydd unrhyw driniaeth sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad a gyflwynwyd o dan yr erthygl hon wedi ei chyflawni, y bydd person awdurdodedig yn cadarnhau ar sail canlyniad prawf mewn labordy neu ganlyniad prawf pecyn profi yn y maes fod y clefyd hysbysadwy'n parhau'n bresennol, caiff person awdurdodedig gyflwyno hysbysiadau pellach o dan yr erthygl hon.
(b) caiff person awdurdodedig gyflwyno i berchennog neu i feddiannydd y fangre lle mae'r cwch hysbysiad yn mynnu fod yn rhaid trin y pridd o gwmpas y cwch yn unol â'r hysbysiad; (c) caiff person awdurdodedig gyflwyno i unrhyw berson arall sy'n berchennog neu'n berson sy'n gyfrifol am unrhyw offer neu bethau eraill a allai ledaenu'r pla hysbysadwy hysbysiad yn mynnu fod yn rhaid eu difa neu eu trin yn unol â'r hysbysiad.
(3) Pan gadarnheir presenoldeb pla hysbysadwy mewn unrhyw fangre neu gerbyd arall, caiff person awdurdodedig gyflwyno hysbysiad yn mynnu fod yn rhaid difa neu drin unrhyw blâu gwenyn ac unrhyw bethau eraill a allai ledaenu'r pla hysbysadwy yn unol â'r hysbysiad—
(b) i berchennog neu i feddiannydd y fangre, neu i berchennog neu i'r person sy'n gyfrifol am y cerbyd.
(4) Os, unwaith y bydd unrhyw driniaeth sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad a gyflwynwyd o dan yr erthygl hon wedi ei chyflawni, y bydd person awdurdodedig yn cadarnhau ar sail canlyniad prawf mewn labordy neu archwiliad fod y pla hysbysadwy'n parhau'n bresennol, caiff person awdurdodedig gyflwyno hysbysiadau pellach o dan yr erthygl hon.
(b) y dyddiad erbyn yr hwn y mae'n rhaid i'r difa neu'r driniaeth ddigwydd, neu'r cyfnod yn ystod yr hwn y mae'n rhaid i'r driniaeth ddigwydd,
a chaiff ddynodi fod yn rhaid cyflawni'r difa neu'r driniaeth gan berson awdurdodedig, ym mhresenoldeb person awdurdodedig neu o dan arolygiaeth person awdurdodedig.
(b) anfon y cewyll y cludwyd y gwenyn ynddynt o wlad eu tarddiad, y gwenyn sy'n gweini ar y mamwenyn a deunyddiau eraill a ddaeth gyda'r mamwenyn o wlad eu tarddiad i'r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer eu harchwilio mewn labordy ar gyfer presenoldeb pla hysbysadwy.
(3) Yn dilyn yr archwiliad y cyfeirir ato ym mharagraff 2(b), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drefnu i'r cewyll, y gwenyn sy'n gweini ar y mamwenyn a'r deunyddiau eraill y cyfeirir atynt yn y paragraff hwnnw gael eu difa cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol.
(b) rhoi pa bynnag wybodaeth (yn cynnwys gwybodaeth ynghylch nifer, lleoliad ac unrhyw symud a fu ar gychod, gwenyn, diliau, cynhyrchion gwenyn neu offer sydd neu a fu yn ei feddiant neu o dan ei ofal a gwybodaeth ynghylch lleoliad unrhyw blâu gwenyn o fewn y fangre neu'r cerbyd),
i berson awdurdodedig ag y gall y person awdurdodedig hwnnw yn rhesymol eu mynnu er dibenion y Gorchymyn hwn.
(b) bydd wedi'i adael yn ei gartref neu'r cyfeiriad busnes diweddaraf y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwybod amdano ar ei gyfer, neu ei bostio i un o'r llefydd hynny; neu (c) pan fo'r amodau ym mharagraff 14(2) wedi'u cyflawni, bydd wedi'i anfon ato drwy e-bost.
(2) Ystyrir fod hysbysiad a gyflwynwyd i unrhyw berson drwy e-bost wedi'i gyflwyno'n briodol iddo os bydd y person hwnnw—
(b) wedi darparu ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol, mewn ysgrifen, gyfeiriad e-bost i'r diben hwnnw.
Eithriadau 1. Caiff person awdurdodedig gyflwyno i berchennog neu i'r person sy'n gyfrifol am unrhyw gwch, gwenyn, diliau, cynhyrchion gwenyn, falurion cwch neu offer y darganfyddir iddynt fod yn agored i gael eu heintio gan y pla hysbysadwy, hysbysiad sy'n cydymffurfio ag erthygl 9, yn mynnu eu bod yn difa neu drin y pethau hynny yn unol â'r hysbysiad. 2. Caiff person awdurdodedig gyflwyno i berchennog neu i feddiannydd unrhyw fangre lle lleolir cwch y darganfyddir iddo fod yn agored i gael ei heintio hysbysiad sy'n cydymffurfio ag erthygl 9, yn mynnu fod y pridd o gwmpas y cwch yn cael ei drin yn unol â'r hysbysiad. 3. Ni chaiff neb symud, neu ganiatáu symud, unrhyw gwch, gwenyn, plâu gwenyn, diliau, cynhyrchion gwenyn, malurion cwch, offer neu bethau eraill a allai ledaenu'r pla hysbysadwy i mewn i'r ardal heintiedig neu allan ohoni, heblaw o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol. 4. Ni chaiff neb symud, neu ganiatáu symud, unrhyw gwch, gwenyn, plâu gwenyn, diliau, cynhyrchion gwenyn, malurion cwch, offer neu bethau eraill a allai ledaenu'r pla hysbysadwy o'r fangre neu'r cerbyd lle maent, heblaw o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol. 5. Rhaid i berchennog neu'r person sy'n gyfrifol am unrhyw gwch, gwenyn, diliau, cynhyrchion gwenyn neu offer hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag sydd yn rhesymol ymarferol o'i enw a'i gyfeiriad a lleoliad unrhyw gwch, gwenyn, diliau, cynhyrchion gwenyn neu offer sydd yn ei feddiant neu y mae'n gyfrifol amdanynt. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Rheoli Clefydau Gwenyn 1982 (O.S. 1982/107). Mae hefyd yn dirymu Gorchymyn Mewnforio Gwenyn 1997 (O.S. 1997/310). Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn yn darparu ar gyfer hysbysu ynghylch presenoldeb neu amheuaeth o bresenoldeb clefyd hysbysadwy neu bla hysbysadwy i'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae rhoi'r fath hysbysiad yn sbarduno gwaharddiad ar symud pethau a allai ledaenu'r clefyd neu'r pla (erthygl 4). O dan y Gorchymyn mae clefyd y gwenyn Americanaidd a chlefyd y gwenyn Ewropeaidd ill dau yn glefydau hysbysadwy, ac mae chwilen fach y cwch ac unrhyw rywogaeth o'r gwiddonyn Tropilaelaps yn blâu hysbysadwy. Pan fydd gan berson awdurdodedig sail resymol dros amau presenoldeb clefyd hysbysadwy neu bla hysbysadwy, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad yn gwahardd symud rhai eitemau penodol (erthygl 6). Os rhwystrir person awdurdodedig rhag gweithredu ei bwerau i gael mynediad, gall gyflwyno hysbysiad yn gwahardd symud rhai eitemau penodol (erthygl 6(2)). Mae erthygl 7 yn pennu'r mesurau sy'n gymwys pan gadarnheir presenoldeb clefyd hysbysadwy. Mae erthygl 8 yn pennu'r mesurau sy'n gymwys pan gadarnheir presenoldeb pla hysbysadwy. Gall y Cynulliad Cenedlaethol ddatgan drwy hysbysiad fod ardal yn ardal heintiedig os yw wedi'i fodloni fod pla hysbysadwy yn bresennol yn yr ardal honno (erthygl 10). Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu yn yr hysbysiad fod y cyfan neu unrhyw rai o ddarpariaethau'r Atodlen yn gymwys yn y cyfan o'r ardal heintiedig neu ran ohoni. Mae erthygl 11 yn gweithredu darpariaethau Penderfyniad y Comisiwn 2003/881/EC (OJ Rhif L328, 17.12.2003, t.26) fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2005/60/EC (OJ Rhif L25, 28.1.2005, t.64), sy'n gymwys ar gyfer gwenyn ar ôl iddynt gael eu mewnforio i mewn i'r Deyrnas Unedig o drydedd wlad. Mae Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1536 (Cy.153) yn gweithredu'r amodau mewnforio a gynhwysir ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2003/881/EC. Mae erthygl 12 yn mynnu fod yn rhaid darparu cyfleusterau a rhoi gwybodaeth i bersonau awdurdodedig o dan rai amgylchiadau. Mae erthygl 12 hefyd yn gwahardd defnyddio sylweddau a allai gelu presenoldeb clefyd hysbysadwy neu'i wneud yn anodd ei ganfod, oni bai fod hynny'n digwydd yn unol â hysbysiad yn gofyn triniaeth o dan erthygl 7. Mae erthygl 13 yn darparu, os bydd unrhyw berson wedi methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynwyd o dan y Gorchymyn, y caiff person awdurdodedig drefnu gweithredu i gydymffurfio â'r hysbysiad ar draul y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo. Yn unol ag adran 1(7) o Ddeddf Gwenyn 1980 (p.12), mae torri unrhyw un o ddarpariaethau'r Gorchymyn neu unrhyw amod a osodir mewn unrhyw drwydded a roddir o dan y Gorchymyn yn drosedd fydd yn arwain at gosb yn dilyn collfarn ddiannod o ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol (£5000 ar hyn o bryd). Paratowyd arfarniad rheoliadol ar gyfer y Gorchymyn hwn, ac mae ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yr Adran Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. Notes: [1] 1980 c.12. Mewn perthynas ag adran 1 o Ddeddf 1980, trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru, i'r graddau y gellir eu gweithredu mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") yn rhinwedd O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol yr Alban i'r Gweinidog dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan O.S. 1999/3141. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan O.S. 2002/794 a throsglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y gellir eu gweithredu mewn perthynas â Chymru, i'r Cynulliad Cenedlaethol gan O.S. 2004/3044.back [2] OJ Rhif L328, 17.12.2003, t.26, fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2005/60/EC (OJ L25, 28.1.2005, t.64).back
ISBN 0 11 091376 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 7 July 2006 |