Gorchymyn Tai (Cymeradwyo Codau Ymarfer Rheoli) (Llety Myfyrwyr) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Tai (Cymeradwyo Codau Ymarfer Rheoli) (Llety Myfyrwyr) (Cymru) 2006, ISBN 0110913728. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru,drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 233(1) a (4) o Ddeddf Tai 2004[1] ac wedi cymryd camau i ymgynghori â'r personau a grybwyllir yn adran 233(2) (a) a (b), ac wedi ei fodloni gyda'r trefniadau cyhoeddi yn unol ag adran 233(3), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Cymeradwyo Codau Ymarfer Rheoli) (Llety Myfyrwyr) (Cymru) 2006 a a daw i rym ar 7 Gorffennaf 2006. (1) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran mangreoedd yng Nghymru. Cymeradwyo codau ymarfer 2. —(1) Mae'r codau ymarfer a grybwyllir ym mharagraff (2) sy'n gosod safonau ar gyfer ymddygiad ac ymarfer sydd i'w dilyn parthed rheoli—
(b) adeiladau sy'n cwympo o fewn paragraff 4 o Atodlen 14 i Ddeddf Tai 2004 (adeiladau a feddiennir gan fyfyrwyr),
yn rhai a gymeradwyir at ddibenion adran 233 o'r Ddeddf.
(b) Cod Rhwydwaith Achrediad y DU/Cod Safonau Unipol ar gyfer Datblygiadau Mwy ar gyfer Llety i Fyfyrwyr a Reolir ac Sydd Dan Reolaeth Sefydliadau Addysgol (Cymru) dyddiedig 16 Mai 2006[4]; ac (c) Cod Rhwydwaith Achrediad y DU/Cod Safonau Unipol ar gyfer Datblygiadau Mwy ar gyfer Llety i Fyfyrwyr Nas Rheolir Gan ac Nad Ydynt Dan Reolaeth Sefydliadau Addysgol (Cymru) dyddiedig 16 Mai 2006[5].
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn cymeradwyo tri cod ymarfer sy'n gosod safonau ar gyfer ymddygiad ac ymarfer sydd i'w dilyn parthed rheoli tai amlfeddiannaeth ("HMOs") ac adeiladau eraill a feddiennir yn unig neu yn bennaf gan fyfyrwyr amser llawn. Yr adeiladau eraill a grybwyllir yw'r rheiny sy'n cwympo o fewn paragraff 4 o Atodlen 14 i Ddeddf Tai 2004 (sy'n darparu ar gyfer math o adeilad a feddiennir gan fyfyrwyr nad yw yn HMO at ddibenion y Ddeddf honno). Yn achos yr adeiladau hynny, rhaid i fyfyrwyr sy'n eu meddiannu wneud hynny at y diben o ymgymryd â chyrsiau addysg amser llawn mewn sefydliadau addysgol penodedig. Mae Rheoliadau Tai Amlfeddiannaeth (Sefydliadau Addysgol Penodedig) (Cymru) ) 2006 wedi cael eu gwneud er mwyn pennu sefydliadau addysgol at ddibenion paragraff 4 o Atodlen 14. Mae arfarniad rheoliadol o'r effeiithiau y bydd y Gorchymyn hwn yn ei gael ar gael oddi wrth Y Gyfarwyddiaeth Dai, Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF 10 3NQ; e-bost: housing@wales.gsi.gov.uk; intranet: www.wales.gov.uk. Notes: [1] 2004 (p. 34). Mae'r pwerau a roddwyd gan adran 233 o Ddeddf Tai 2004 ("y Ddeddf") yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac, o ran Lloegr, gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Gweler y diffiniad o "appropriate national authority" ("awdurdod cenedlaethol priodol") yn adran 261(1).back [2] Am ystyr "tŷ amlfeddiannaeth" gweler y diffiniad o "house in multiple occupation" yn adrannau 254 i 259 o'r Ddeddf.back [3] Gellir cael copi o'r Cod hwn gan Y Gyfarwyddiaeth Dai, Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ; e-bost: housing@wales.gsi.gov.uk; rhyngrwyd: www.wales.gov.uk, neu Universities UK, Woburn House, 20 Tavistock Square, Llundain WC1H 9HQ; e-bost: info@universitiesuk.ac.uk; rhyngrwyd: www.universitiesUK.ac.uk.back [4] Gellir cael copi o'r cod hwn gan Y Gyfarwyddiaeth Dai, Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ; e-bost: housing@wales.gsi.gov.uk; rhyngrwyd: www.wales.gov.uk, neu The National Administrator, National Codes of Standards, 155-157 Woodhouse Lane, Leeds LS2 3ED: e-bost: nationalcode@unipol.leeds.ac.uk neu nationalcode@anuk.org.uk; rhyngrwyd: neu www.anuk.org.uk/Large Code/. , .back [5] Gellir cael copi o'r cod hwn gan Y Gyfarwyddiaeth Dai, Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ; e-bost: housing@wales.gsi.gov.uk; rhyngrwyd: , neu The National Administrator, National Codes of Standards,, 155-157 Woodhouse Lane, Leeds LS2 3ED: e-bost: nationalcode@unipol.leeds.ac.uk neu nationalcode@anuk.org.uk; rhyngrwyd: www.unipol.org.uk neu www.anuk.org.uk/Large Code/., .back
ISBN 0 11 091372 8
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 7 July 2006 |