Rheoliadau Tai Amlfeddiannaeth (Sefydliadau Addysgol Penodedig) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Tai Amlfeddiannaeth (Sefydliadau Addysgol Penodedig) (Cymru) 2006, ISBN 0110913744. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan baragraff 4(2) o Atodlen 14 o Ddeddf Tai 2004[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tai Amlfeddiannaeth (Sefydliadau Addysgol Penodedig) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 7 Gorffennaf 2006. (1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Sefydliadau addysgol penodedig at ddibenion penodol o fewn Deddf Tai 2004 2. Mae sefydliad addysgol yn un penodedig at ddibenion paragraff 4 o Atodlen 14 i Ddeddf Tai 2004 os yw—
(b) wedi ei restru fel y sefydliad addysgol perthnasol o ran adeilad—
(ii) wedi ei restru yn ail golofn Atodlen 1 i God Rhwydwaith Achrediad y DU/Cod Safonau Unipol ar gyfer Datblygiadau Mwy ar gyfer Llety i Fyfyrwyr a Reolir ac sydd dan Reolaeth Sefydliadau Addysgol (Cynru) dyddiedig 16 Mai 2006[3].
Prifysgol Caerdydd; Prifysgol Morgannwg; Athrofa Addysg Uwch Abertawe; Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd; Prifysgol Cymru, Aberystwyth; Prifysgol Cymru, Bangor; Coleg y Drindod Caerfyrddin; Prifysgol Cymru, Casnewydd; Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan; Prifysgol Cymru, Abertawe. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae atodlen 14 i Ddeddf Tai 2004 ("y Ddeddf") yn disgrifio tai nad ydynt yn dai amlfeddiannaeth ("HMOs") at ddibenion y Ddeddf (ac eithrio Rhan 1). Mae adran 254 o'r Ddeddf yn diffinio HMOs. Mae paragraff 4 o Atodlen 14 i'r Ddeddf yn darparu nad yw adeilad yn HMO at ddibenion y Ddeddf (ac eithrio Rhan 1) os yw'n adeilad a feddiennir yn unig neu yn bennaf gan bersonau sy'n ei feddiannu at ddibenion dilyn cwrs amser llawn o addysg bellach mewn sefydliad penodedig neu mewn sefydliad o fath penodedig, a phan mai'r person sy'n ei reoli neu sydd â rheolaeth drosto yw'r sefydliad dan sylw neu berson penodedig neu berson o fath arbennig. Mae Rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn pennu sefydliadau o'r fath. Mae'r sefydliadau yn rhai penodedig os ydynt yn cael eu rhestru yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn ac os ydynt hefyd yn cael eu rhestru fel rheolwr unrhyw adeilad a restrir mewn atodlen sy'n ffurfio rhan o'r naill neu'r llall o'r codau y cyfeirir atynt yn rheoliad 2(b). Gellir cael copi o God Ymarfer y DU/ Cynhadledd Sefydlog Prifathrawon Prifysgolion (Cymru) gan Y Gyfarwyddiaeth Dai, Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ; e-bost: housing@wales.gsi.gov.uk; rhyngrwyd: www.wales.gov.uk, neu Universities UK, Woburn House, 20 Tavistock Square, Llundain WC1H 9HQ; e-bost: info@universitiesuk.ac.uk; rhyngrwyd: info@universitiesuk.ac.uk. Gellir cael copi o God Rhwydwaith Achrediad y DU/Cod Safonau Unipol (Cymru) gan Y Gyfarwyddiaeth Dai, Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ; e-bost: housing@wales.gsi.gov.uk; rhyngrwyd: www.wales.gov.uk, neu The National Administrator, National Codes of Standards, 155-157 Woodhouse Lane, Leeds LS2 3ED; e-bost: nationalcode@unipol.leeds.ac.uk neu nationalcode@anuk.org.uk; rhyngrwyd: www.unipol.org.uk neu www.anuk.org.uk/Large Code/. Mae arfarniad rheoliadol o'r effeithiau y bydd y Rheoliadau hyn yn ei gael ar gael oddi wrth Y Gyfarwyddiaeth Dai, Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ; e-bost: housing@wales.gsi.gov.uk; intranet: www.wales.gov.uk. Notes: [1] 2004 p. 34. Mae'r pwerau a roddwyd gan baragraff 4(2) o Atodlen 14 o Ddeddf Tai 2004 ("y Ddeddf") yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac o ran Lloegr, gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Gweler y diffiniad o "appropriate national authority" ("awdurdod cenedlaethol priodol") yn adran 261 (1) o'r Ddeddf.back [2] Mae'r Cod Ymarfer hwn wedi cael ei gymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 233 o'r Ddeddf. Gweler Gorchymyn Tai (Cymeradwyo Codau Ymarfer Rheoli) (Llety Myfyrwyr) ( Cymru) 2006 (O.S. 2006/1709 (W.171)).back [3] Mae'r Cod Ymarfer hwn wedi cael ei gymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 233 o'r Ddeddf. Gweler Gorchymyn Tai (Cymeradwyo Codau Ymarfer Rheoli) (Llety Myfyrwyr) (Cymru) Gorchymyn 2006 (O.S. 2006/1709 (Cy.171)).back
ISBN 0 11 091374 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 10 July 2006 |