Rheoliadau Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant (Cymru) 2006, ISBN 0110913779. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 31(2), (4) a (5), 32(2) a (3), 34(1) a 66(1) o Ddeddf Plant 2004[1], a chyda chydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol o ran rheoliad 5(2)(a) i (c), (dd) ac (e)[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant (Cymru) 2006. (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2006. (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Dehongli 2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—
(2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad—
(b) mewn rheoliad at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw sy'n dwyn y Rhif hwnnw; (c) mewn paragraff at is-baragraff â Rhif yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y paragraff hwnnw.
Swyddogaethau Bwrdd o ran ei amcan
(b) cymryd camau sydd â'r nod o godi ymwybyddiaeth ledled ardal y Bwrdd o'r angen i ddiogelu a hybu lles plant a darparu gwybodaeth am y modd y gellir cyflawni hyn; (c) datblygu polisïau a gweithdrefnau sydd â'r diben o gydlynu yr hyn a wneir gan bob corff cynrychioliadol at ddibenion diogelu a hybu lles plant o fewn ardal y Bwrdd, gan gynnwys polisïau a gweithdrefnau o ran—
(ii) camau i'w cymryd pan fo pryderon am ddiogelwch neu les plentyn, gan gynnwys nodi terfynau i ymyriad; (iii) recriwtio a goruchwylio personau sy'n gweithio gyda phlant neu sy'n cael ymwneud â phlant yn rheolaidd; (iv) diogelwch a lles plant a faethir yn breifat.
(ch) adolygu effeithiolrwydd y mesurau a gymerwyd gan bob person neu gorff a gynrychiolir ar y Bwrdd i gydlynu yr hyn a wnânt at ddibenion diogelu a hybu lles plant o fewn ardal y Bwrdd a gwneud pa argymhellion bynnag y gwêl yn dda ar gyfer y personau neu'r cyrff hynny yng ngoleuni'r cyfryw adolygiad;
Adolygiadau achos difrifol
(b) bod plentyn wedi dioddef anaf a allai roi ei fywyd mewn perygl, neu (c) bod plentyn wedi dioddef nam difrifol a pharhaol i'w iechyd neu i'w ddatblygiad.
(2) Caiff Bwrdd gynnal adolygiad achos difrifol yn unol â'r rheoliad hwn os bydd plentyn o fewn ardal y Bwrdd yn dioddef niwed nad yw'n dod o fewn paragraffau 1(a)(b) neu (c).
(b) ar ôl cael yr adroddiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a), llunio adroddiad ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel "adroddiad trosolwg")—
(ii) sy'n argymell erbyn pryd y dylid cyflawni'r camau hynny, ac yn enwi'r personau a ddylai eu cyflawni;
(c) llunio crynodeb heb gynnwys enw neb o bob adroddiad trosolwg a sicrhau ei fod ar gael i'w archwilio ym mhrif swyddfa'r Bwrdd.
(5) Rhaid i'r Bwrdd roi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru—
(b) copi o bob crynodeb heb gynnwys enw neb; ac (c) copi o bob adroddiad trosolwg.
(6) Rhaid i'r Bwrdd roi i bob cynrychiolydd—
(b) oni bai bod y Bwrdd yn ei hystyried yn amhriodol, pob adroddiad trosolwg.
Cynrychiolwyr
(b) onid—
(ii) y prif swyddog addysg, prif swyddog addysg yr awdurdod neu ryw swyddog arall sy'n uniongyrchol atebol i'r prif swyddog addysg ac sydd ar lefel ddigonol o gyfrifoldeb i gynrychioli'r awdurdod yn lle'r prif gyfarwyddwr addysg; (iii) y swyddog a benodwyd gan yr awdurdod yn swyddog â chyfrifoldeb dros gyflawni swyddogaethau'r awdurdod o dan Ran VI neu VII o Ddeddf Tai 1996[9] neu ryw swyddog arall sy'n uniongyrchol atebol i'r person hwnnw ac sydd ar lefel ddigonol o gyfrifoldeb i gynrychioli'r awdurdod yn ei le;
yw cyfarwyddwr arweiniol yr awdurdod dros wasanaethau plant a phobl ifanc.
(2) Rhaid i Fwrdd gynnwys y canlynol fel cynrychiolwyr Partneriaid Bwrdd yr awdurdod gwasanaethau plant—
(ii) y mae'r prif swyddog wedi gosod arno gyfrifoldeb dros ddiogelu a hybu lles plant;
(b) o ran bwrdd prawf lleol ar gyfer unrhyw ardal y mae unrhyw ran ohoni yn dod o fewn ardal y Bwrdd, y Prif Swyddog neu ryw swyddog arall sy'n uniongyrchol atebol i'r Prif Swyddog ac sydd ar lefel ddigonol o gyfrifoldeb i gynrychioli'r bwrdd prawf yn lle'r Prif Swyddog;
(ii) ymarferydd meddygol cofrestredig y gosodwyd arno gyfrifoldebau penodedig o ran amddiffyn plant o fewn ardal y BILl; a (iii) nyrs gofrestredig y gosodwyd arni gyfrifoldebau penodedig o ran amddiffyn plant o fewn ardal y BILl;
(d) o ran Ymddiriedolaeth GIG sy'n darparu gwasanaethau meddygol yn ardal yr awdurdod, heblaw Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, cyfarwyddwr gweithredol arweiniol yr Ymddiriedolaeth dros wasanaethau plant a phobl ifanc neu ryw swyddog arall sy'n uniongyrchol atebol iddo ac sydd ar lefel ddigonol o gyfrifoldeb i weithredu fel cynrychiolydd yr Ymddiriedolaeth yn lle'r cyfarwyddwr gweithredol arweiniol;
(3) Drwy hyn rhagnodir y cynrychiolwyr ym mharagraff (2) at ddibenion adran 31(2) o Ddeddf 2004.
(b) os yw'n ymddiswyddo; (c) os nad yw bellach yn aelod o'r Bwrdd; (ch) os yw'r aelodau drwy benderfyniad y mwyafrif yn penderfynu hynny.
(8) Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau uchod, mae Bwrdd i benderfynu ei weithdrefnau ei hun. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer swyddogaethau Byrddau Lleol Cymru ar gyfer Diogelu Plant o ran yr amcan a osodwyd ar eu cyfer gan adran 32 o Ddeddf Plant 2004, aelodaeth y Byrddau a'u gweithdrefnau. Mae rheoliadau 3 a 4 yn ymdrin â swyddogaethau Byrddau. Mae rheoliad 3 yn rhagnodi swyddogaethau Bwrdd mewn cysylltiad â'i amcan. Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch cynnal adolygiadau achos difrifol. Mae rheoliad 5 yn rhagnodi aelodaeth Bwrdd. Mae rheoliad 6 yn ymdrin â gweithdrefnau Bwrdd ac mae rheoliad 7 yn rhoi swyddogaethau i awdurdodau gwasanaethau plant mewn cysylltiad â'u Bwrdd. Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Hydref 2006. Notes: [1] 2004 p. 31.back [2] Gweler adran 31(4) o Ddeddf 2004 am y gofyniad i gael cydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol.back [3] Mae adran 31(1) o Ddeddf 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod gwasanaethau plant yng Nghymru sefydlu Bwrdd Lleol ar gyfer Diogelu Plant ar gyfer eu hardal. Mae adran 31(9) yn caniatáu i ddau awdurdod neu fwy gyflawni eu dyletswyddau yn eu trefn o dan adran 31(1) drwy sefydlu Bwrdd ar gyfer eu hardal gyfun.back [7] O dan adran 32(1) o Ddeddf 2004, amcan y Bwrdd yw (a) cydlynu yr hyn a wneir gan bob person neu gorff a gynrychiolir ar y Bwrdd at ddibenion diogelu a hybu lles plant yn ardal yr awdurdod a'i sefydlodd; a (b) sicrhau effeithiolrwydd yr hyn a wneir gan bob un o'r personau neu'r cyrff hynny at y dibenion hynny.back [8] Bydd Rheoliadau a wneir o dan adran 26(2) o Ddeddf 2004 yn gwneud darpariaeth benodol o ran cynlluniau plant a phobl ifanc.back
ISBN 0 11 091377 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 14 July 2006 |