Rheoliadau Eitemau Ceramig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Eitemau Ceramig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) 2006, ISBN 0110913868. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(2), 17(1), 26(1)(a), 26(2)(a) a (3), a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1]; Yn unol ag adran 48(4A)[2] o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 mae wedi ystyried cyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac wedi ymghynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar 28 Ionawr 2002 sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3]. Enwi, cychwyn, rhychwantu a dirymu 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Eitemau Ceramig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) 2006, sy'n dod i rym ar 30 Mehefin 2006 ac eithrio rheoliad 3(3)(a) a (b) a 4 sy'n dod i rym ar 30 Mehefin 2007. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. (3) Hepgorir is-baragraff (b) o Atodlen 3 (Diffiniad o gyfraith bwyd berthnasol) yn Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd 2006[4]. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn—
(b) y mae bwriad iddi, yn ei chyflwr gorffenedig, ddod i gyffyrddiad â bwydydd, neu sydd mewn cyffyrddiad â bwydydd, a bwriadwyd hi at y diben hwnnw;
ond nid yw'n cynnwys eitem a gyflenwir fel hynafolyn;
Terfynau ar drosglwyddo plwm a chadmiwm
(b) mewnforio, neu (c) rhoi ar y farchnad,
eitem geramig nad yw'n cydymffurfio â'r gofynion ym mharagraff (1).
(b) amodau'r prawf, ac (c) enw a chyfeiriad y labordy a wnaeth gynnal y prawf, neu (ch) tystiolaeth na wnaeth y deunyddiau a ddefnyddiwyd i wneud yr eitem geramig ddod i gyffyrddiad â phlwm neu gadmiwm.
(4) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i eitem geramig sy'n ail-law.
(b) pob awdurdod iechyd porthladd yn ei ddosbarth.
Tramgwyddau a chosbau
(b) ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu gyfnod yn y carchar nad yw'n fwy na chwe mis, neu'r ddau.
(3) Mewn rheithdrefn am dramgwydd o ran methiant i gydymffurfio â rheoliad 4 mae'n amddiffyniad i brofi bod yr eitem geramig y mae'r tramgwydd yn ymwneud â hi wedi'i rhoi ar y farchnad gyntaf yn y Gymuned cyn 20 Mai 2007.
(b) adran 21(1), (5) a (6) (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy); (c) adran 33 (rhwystro swyddogion etc.); (ch) mae adran 34 o'r Ddeddf (terfyn amser ar gyfer erlyn) yn gymwys i dramgwyddau o dan reoliad 6 fel y mae'n gymwys i dramgwyddau y gellir eu cosbi o dan adran 35(2); (d) adran 35(1)[6], (2) a (3)(b) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33 fel y'i cymhwysir gan y rheoliad hwn; (dd) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); (e) adran 36A[7] (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd); (f) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
Rhaid i'r swm o blwm a/neu gadmiwm a echdynnir yn ystod y prawf a gyflawnir o dan yr amodau a osodir yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 2 beidio â mynd dros y terfynau canlynol:
Pan na fydd eitem geramig yn mynd dros y symiau uchod gan fwy na 50% , cydnabyddir er hynny bod yr eitem honno'n bodloni gofynion y Rheoliadau hyn os oes o leiaf dair eitem arall sy'n dwyn yr un siâp, dimensiynau, addurn a gwydr yn mynd drwy brawf a gyflawnir o dan yr amodau a osodir yn Rhannau 1 a 2 o Atodlen 2 ac nad yw symiau cyfartalog y plwm a/neu'r cadmiwm a echdynnir o'r eitemau hynny yn mynd dros y terfynau a osodwyd, ac nad oes un o'r eitemau hynny'n mynd dros y terfynau hynny gan fwy na 50% . Pan fydd eitem geramig yn llestr ag iddo glawr ceramig, rhaid i'r terfyn plwm a/neu gadmiwm na ddylid mynd drosto (mg/dm² neu mg/litr) fod yr un terfyn ag sy'n gymwys i'r llestr yn unig. Rhaid cynnal profion ar wahân ar y llestr yn unig ac ar arwyneb mewnol y clawr ac o dan yr un amodau; rhaid bod y berthynas rhwng cyfanswm y ddwy lefel echdyniad a geir o'r plwm a/neu gadmiwm yn berthynas briodol i'r arwynebedd neu gyfaint y llestr yn unig. Yr hylif prawf ("efelychydd") 1. 4% (v/v) asid asetig, mewn toddiant o baratowyd yn ffres. Amodau'r prawf 2 —(1) cyflawni'r prawf ar dymheredd o 22 ± 2° am gyfnod o 24 ± 0.5 awr. (2) Pan benderfynir mudiad plwm, rhodder gorchudd ar y sampl mewn modd priodol i'w ddiogelu a gadawer ef yn agored i'r amodau goleuo arferol sydd mewn labordy. (3) Pan benderfynir mudiad cadmiwm neu blwm a chadmiwm, rhodder gorchudd ar y sampl i sicrhau bod yr arwyneb y mae profion i'w cynnal arno yn cael ei gadw mewn tywyllwch llwyr. Llenwi 3 —(1) Samplau y gellir eu llenwi
(b) Dylid llenwi samplau gydag ymyl gwastad neu ymyl sy'n goleddfu fel nad yw'r pellter rhwng arwyneb yr hylif a'r pwynt gorlifo yn ddim mwy na 6mm wrth fesur ar hyd yr ymyl sy'n goleddfu.
(2) Samplau na ellir eu llenwi Amcan a maes cymhwyso 1. Mae'r dull yn caniatáu i'r mudiad penodedig o blwm a/neu gadmiwm gael ei benderfynu. Egwyddor 2. Penderfynir y mudiad penodedig o blwm a/neu gadmiwm drwy ddull dadansoddi drwy gyfrwng offeryn sy'n bodloni perfformiad meini prawf pwynt 4. Adweithyddion 3 —(1) Rhaid bod ansawdd dadansoddol i bob adweithydd, oni phennir fel arall. (2) Os cyfeirir at ddŵr, bydd bob amser yn golygu dŵr a ddistyllwyd neu ddŵr o ansawdd cyfatebol. (3) 4 % (v/v) asid asetig, mewn toddiant dyfrllyd; ychwaneger 40 ml o asid asetig ar ffurf rhew at ddŵr i wneud hyd at 1 000 ml. (4) Toddiannau stoc: paratoer toddiannau stoc sy'n cynnwys 1 000 mg/litr o blwm ac o leiaf 500 mg/litr o gadmiwm yn eu trefn mewn 4 % o doddiant asid asetig, fel y cyfeirir ato yn is-baragraff (3). Meini prawf perfformiad o'r dull dadansoddi drwy gyfrwng offeryn 4 —(1) Rhaid i'r terfyn canfod ar gyfer plwm a chadmiwm fod yn hafal i neu'n is na—
— 0,01 mg/litr ar gyfer cadmiwm.
Diffinnir y terfyn canfod fel y crynodiad o'r elfen yn y 4 % toddiant asid asetig, fel y cyfeirir ato ym mhwynt 3.1, sy'n rhoi signal sy'n hafal i ddwywaith sŵn cefndir yr offeryn.
(b) 0,02 mg/litr ar gyfer cadmiwm.
(3) Adennill: rhaid i'r hyn a adenillir o blwm a chadmiwm a ychwanegwyd at y 4 % o doddiant asid asetig, fel y cyfeirir ato ym mharagraff 3(3), ddod o fewn 80-120 % o'r swm a ychwanegwyd.
(b) Golcher y sampl mewn toddiant sy'n cynnwys sebon hylif yr aelwyd ar dymheredd o tua 40 °C. Rinsier y sampl yn gyntaf mewn dŵr tap ac yna mewn dŵr wedi'i ddistyllu neu ddŵr o ansawdd cyfatebol. Draenier y sampl a'i sychu i osgoi unrhyw staen. Ni ddylid trafod yr arwyneb sydd i'w brofi ar ôl iddo gael ei lanhau.
(2) Penderfynu plwm a/neu gadmiwm—
(b) cyn cymryd y toddiant prawf ar gyfer penderfynu plwm a/neu gadmiwm, homogeneiddier cynnwys y sampl drwy ddull priodol, sy'n osgoi unrhyw golli toddiant neu'n osgoi sgrafellu'r arwyneb sydd i gael ei brofi; (c) cynhalier prawf gwag ar yr adweithydd a ddefnyddir ar gyfer pob cyfres o benderfyniadau; (ch) cynhalier y penderfyniadau ar gyfer plwm a/neu gadmiwm o dan amodau priodol.
1 —(1) Rhaid i'r datganiad ysgrifenedig y cyfeirir ato yn rheoliad 4(1) gynnwys yr wybodaeth ganlynol— (2) enw a chyfeiriad y cwmni a weithgynhyrchodd yr eitem geramig orffenedig ac (os yw'n gymwys) y mewnforiwr a'i mewnforiodd i'r Gymuned; (3) dynodi'r eitem geramig neu'r eitemau ceramig; (4) dyddiad y datganiad; (5) cadarnhad bod yr eitem geramig neu'r eitemau ceramig yn bodloni'r gofynion perthnasol:
(b) yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 84/500/EEC dyddiedig 15 Hydref 1984 ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaeth o ran eitemau ceramig y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd[9] fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/31/EC dyddiedig 29 Ebrill 2005[10]; ac (c) yn Rheoliad (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 27 Hydref ar ddeunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwyd ac sy'n diddymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC a 92/65/EEC[11].
2.
Bydd y datganiad ysgrifenedig yn caniatáu dynodi'n hawdd yr eitem y dyroddwyd ef ar ei chyfer neu'r eitemau y dyroddwyd ef ar eu cyfer a rhaid ei adnewyddu pan fydd newidiadau sylweddol yn y cynhyrchiant yn peri newidiadau ym mudiad plwm a chadmiwm. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i eitemau ceramig y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwyd. Maent yn gosod terfynau ar faint o blwm a chadmiwm a all gael eu trosglwyddo o eitemau o'r fath, ynghyd â gofynion ar gyfer cynnal profion ar drosglwyddo (mudo) o'r fath ac yn ei gwneud yn ofynnol bod tystysgrifau cydymffurfiaeth gydag eitemau ceramig yn y cyfnodau marchnata. 2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 84/500/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau o ran eitemau ceramig y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd (O.J. L.277 o 20.10.84 t.12) fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/31/EC o ran datganiad o gydymffurfio a meini prawf perfformiad o'r dull dadansoddi ar gyfer eitemau ceramig y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd (O.J. L.110 o 30.4.05 t.36). Gweithredwyd y Gyfarwyddeb flaenorol gan Reoliadau Nwyddau Ceramig (Diogelwch) 1988 (O.S. 1988/1647) y mae'r Rheoliadau Eitemau Ceramig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Lloegr) 2006 (O.S. 2006/ 1179 ) yn eu dirymu. 3. Yr oedd Rheoliadau 1988 yn gymwys i'r Deyrnas Unedig. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Gwneir Rheoliadau cyfatebol ar gyfer Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban. 4. Mae rheoliad 2 yn diffinio "eitem geramig". Mae rheoliad 3 ac Atodlen 1 yn gosod terfynau ar y symiau o blwm a chadmiwm y caniateir eu trosglwyddo gan eitem geramig, ac mae Atodlen 2 yn gosod sut y mae'n rhaid cynnal profion ar eitem. Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i ddatganiad o gydymffurfio ysgrifenedig fynd gydag eitem geramig nad yw hyd yn hyn wedi dod i gyffyrddiad â bwyd ym mhob cyfnod marchnata hyd at y cyfnod manwerthu. Gosodir manylion y datganiad yn Atodlen 3. Mae'r Rheoliadau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i weithgynhyrchydd neu fewnforiwr i'r Gymuned gadw dogfennau priodol sy'n dangos bod eitem neu eitemau yn cydymffurfio â gofynion Atodlen 1. 5. Mae rheoliad 5 yn darparu mai awdurdodau bwyd ac awdurdodau iechyd porthladd fydd yn gorfodi'r Rheoliadau yn eu hardaloedd neu ddosbarthau perthnasol. Mae rheoliad 6 yn gosod y cosbau am fethu â chydymffurfio â'r Rheoliadau a'r amddiffyniadau sydd ar gael. Mae rheoliad 7 yn gosod pa ddarpariaeth o Ddeddf Diogelwch Bwyd sydd yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau. 6. Mae arfarniad rheoliadol llawn wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn ac wedi'i roi yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi sy'n ymwneud â'r Rheoliadau hyn. Mae copïau ar gael hefyd oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW. Notes: [1] 1990 p.16.back [2] Mewnosodwyd is-adran (4A) gan baragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28).back [3] O.J. Rhif L 31, 1/2/2002, t.1.back [4] O.S. 2006 Rhif 590(Cy.66).back [6] Diwygiwyd adran 35(1) gan Atodlen 26 paragraff 42 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p.44) o ddyddiad sydd i'w bennu.back [7] Mewnosodwyd adran 52A gan Atodlen 5 paragraff 16 o Ddeddf Safonau Bwyd 1990.back [9] O.J. L277 ar 20.10.84 t.12.back [10] O.J. L110 ar 30.4.05 t.36.back [11] O.J. L338, 13/11/2004 t.4—14.back
ISBN 0 11 091386 8
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 18 July 2006 |