Rheoliadau System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (Cymru) 2006, ISBN 0110913663. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 2, 4 a 250(2)(a) o Ddeddf Tai 2004[1] yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (Cymru) 2006 a deuant i rym ar y 30 Mehefin 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran mangreoedd preswyl yng Nghymru[2]. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn—
Disgrifiadau rhagnodedig o berygl posibl
(b) arolygu unrhyw fangreoedd preswyl gyda golwg ar baratoi cofnod cywir o'u stad a'u cyflwr; ac (c) paratoi a chadw'r cyfryw gofnod yn ysgrifenedig neu ar ffurf electronig.
Difrifoldeb peryglon posibl
(b) ac o roi sylw i unrhyw ganllau a roddir am y tro o dan adran 9 o'r Ddeddf mewn perthynas â'r asesiadau o beryglon posibl, o'r farn ei bod yn briodol cyfrifo pa mor ddifrifol yw'r perygl posibl hwnnw,
rhaid cyfrifo pa mor ddifrifol yw'r perygl posibl hwnnw yn unol â pharagraffau (2) i (4) o'r rheoliad hwn.
(6) At ddibenion y fformiwla ym mharagraff (5)—
(b) O1 yw pwynt graddfa cynrychioliadol yr ystod ganrannol (RSPPR) a gofnodir o dan baragraff (4) mewn perthynas â niwed Dosbarth I; (c) O2 yw pwynt graddfa cynrychioliadol yr ystod ganrannol (RSPPR) a gofnodir o dan baragraff (4) mewn perthynas â niwed Dosbarth II; (ch) O3 yw pwynt graddfa cynrychioliadol yr ystod ganrannol (RSPPR) a gofnodir o dan baragraff (4) mewn perthynas â niwed Dosbarth III; (d) O4 yw pwynt graddfa cynrychioliadol yr ystod (RSPPR) a gofnodir o dan baragraff (4) mewn perthynas â niwed Dosbarth IV.
(7) Yn y rheoliad hwn—
(b) ym mharagraff 2, 3 neu 6(a) o Atodlen 1, yw meddiannydd 65 mlwydd oed neu drosodd; (c) ym mharagraff 7 o Atodlen 1, yw meddiannydd o dan 3 blwydd oed; (ch) ym mharagraff 8 o Atodlen 1, yw meddiannydd 60 mlwydd oed neu drosodd sydd wedi bod mewn cyffyrddiad â radon ers ei enedigaeth; (d) ym mharagraff 11 o Atodlen 1, yw'r meddiannydd ei hun; (dd) ym mharagraff 17, 22, 23 neu 25 o Atodlen 1, yw meddiannydd o dan 5 mlwydd oed; (e) ym mharagraff 19, 20, 21, 24 neu 28 o Atodlen 1, yw meddiannydd 60 mlwydd oed neu drosodd; (f) ym mharagraff 26—
(ii) os gwrthdrawiad ydyw â nodweddion pensaernïol isel, yw meddiannydd 16 mlwydd oed neu drosodd;
(ff) yn unrhyw baragraff arall o Atodlen 1, yw unrhyw feddiannydd; ac
(8) Wrth wneud asesiadau o dan y rheoliad hwn, rhaid i arolygydd roi sylw i unrhyw ganllau a roddir am y tro o dan adran 9 o'r Ddeddf.
Lleithder a thyfiant llwydni 1. Bod mewn cyffyrddiad â gwiddon llwch mewn cartrefi, lleithder, tyfiant llwydni neu dyfiant ffwngaidd. Oerfel gormodol 2. Bod mewn cyffyrddiad â thymheredd isel. Gwres gormodol 3. Bod mewn cyffyrddiad â thymheredd uchel. Asbestos a ffibrau mwynau a weithgynhyrchwyd 4. Bod mewn cyffyrddiad â ffibrau asbestos neu ffibrau mwynau a weithgynhyrchwyd. Bywleiddiaid 5. Bod mewn cyffyrddiad â chemegolion a ddefnyddir i drin pren a thyfiant llwydni. Carbon monocsid a chynhyrchion tanwydd hylosgi 6. Bod mewn cyffyrddiad â'r canlynol—
(b) nitrogen diocsid; (c) sylffwr diocsid a mwg.
Plwm
(b) o garthffosiaeth a draenio.
Cyflenwad dŵr
(b) pethau, hylifau neu anweddau poeth.
Taro yn erbyn neu mynd yn sownd Dosbarth I 1. Niwed Dosbarth 1 yw unrhyw niwed eithafol y gellir yn rhesymol ei rag-weld o ganlyniad i'r perygl posibl dan sylw, gan gynnwys—
(b) canser yr ysgyfaint; (c) mesothelioma a thyfiannau malaen eraill; (ch) parlysu parhaol islaw'r gwddf; (d) niwmonia difrifol a rheolaidd; (dd) colli ymwybyddiaeth yn barhaol; (e) anafiadau o losgiadau 80% .
Dosbarth II
(b) asthma; (c) clefydau resbiriadol anfalaen; (ch) gwenwyno gan blwm; (d) sioc anaffylactig; (dd) cryptosporidiosis; (e) clefyd y llengfilwyr; (f) cnawdnychiant myocardaidd; (ff) trawiad ysgafn; (g) dryswch cronig; (ng) twymyn ddifrifol reolaidd; (h) colli llaw neu droed; (i) torasgwrn difrifol; (j) llosgiadau difrifol; (l) colli ymwybyddiaeth am ddyddiau.
Dosbarth III
(b) llid y ffroenau; (c) pwysedd gwaed uchel; (ch) anhunedd; (d) nam newroseicolegol; (dd) syndrom adeilad afiach; (e) dermatitis rheolaidd a chyson, gan gynnwys dermatitis drwy gyffyrddiad; (f) alergedd; (ff) llid y coluddion; (g) dolur rhydd; (ng) chwydu; (h) straen difrifol cronig; (i) trawiad ysgafn ar y galon; (j) canser malaen y croen ond un y gellir ei drin; (l) colli bys; (ll) torpenglog ac ergydwst difrifol; (m) clwyfau difrifol i'r pen neu i'r corff sy'n torri drwy'r cnawd; (n) llosgiadau difrifol i'r dwylo; (o) anafiadau straen neu ysigiad difrifol; (p) meigryn difrifol a rheolaidd.
Dosbarth IV
(b) anghysur difrifol achlysurol; (c) tyfiannau diniwed; (ch) niwmonia ysgafn achlysurol; (d) torri bys; (dd) ergydwst ysgafn; (e) briwiau cymedrol i'r wyneb neu i'r corff; (f) cleisio difrifol i'r corff; (ff) peswch neu annwyd difrifol rheolaidd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Rhan 1 o Ddeddf Tai 2004 ("y Ddeddf") yn cyflwyno'r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai ("HHSRS"), sef system ar gyfer asesu cyflwr tai ar sail tystiolaeth. Mae adrannau 2 a 4 o'r Ddeddf yn darparu ar gyfer gwneud rheoliadau i ragnodi disgrifiadau o beryglon posibl, y dull o asesu pa mor ddifrifol yw'r peryglon posibl, a'r modd y gwneir arolygiadau o fangreoedd preswyl ac i ba raddau y'u gwneir a hynny i weld a yw peryglon posibl categori 1 neu 2 yn bodoli. Mae'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gymryd camau gorfodi os yw perygl posibl categori 1 yn bodoli ac yn caniatáu cymryd camau yn ôl disgresiwn os yw perygl categori 2 yn bodoli. Mae rheoliad 3 yn rhagnodi disgrifiadau o beryglon posibl gan gyfeirio at fodolaeth materion neu amgylchiadau a restrir yn Atodlen 1. Mae'r materion a'r amgylchiadau hyn yn adlewyrchu proffiliau peryglon posibl a geir yn Atodiad D i'r arweiniad gweithredu a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 9(1)(a) o'r Ddeddf. Mae adran 10 o'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i ymgynghori â'r awdurdod tân ac achub dros yr ardal os yw camau gorfodi i'w cymryd o dan Ran 1 mewn perthynas â pherygl tân posibl a ragnodwyd. Mae rheoliad 4 yn rhagnodi perygl tân posibl at ddibenion adran 10 yn un lle y mae bod mewn cyffyrddiad â thân afreolus a mwg sy'n gysylltiedig ag ef yn arwain at risg posibl o niwed. Mae rheoliad 5 yn darparu ar gyfer y modd y mae mangreoedd i gael eu harchwilio o dan yr HHSRS ac i ba raddau y maent i gael eu harchwilio. Yn benodol, rhaid paratoi cofnod o'r arolygiad a'i gadw naill ai'n ysgrifenedig neu ar ffurf electronig. Mae rheoliad 6 yn rhagnodi dull cyfrifo difrifoldeb peryglon posibl ac mae hwnnw i'w fynegi ar ffurf sgôr rifiadol. Mae rheoliad 7 yn rhagnodi'r bandiau sy'n gymwys i ystod o sgoriau Rhif iadol ac mae rheoliad 8 yn darparu mai perygl posibl categori 1 yw un sy'n dod o fewn bandiau A, B neu C ac mai perygl posibl categori 2 yw un sy'n dod o fewn unrhyw fand arall. Mae Atodlen 2 yn disgrifio pob dosbarth o niwed ac yn cynnwys enghreifftiau o bob dosbarth o niwed. Notes: [1] 2004 p.34.back [2] Mae'r pwerau a roddwyd gan adrannau 2 a 4 o'r Ddeddf yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler y diffiniad o "the appropriate national authority" yn adran 261(1).back [3] Gweler y diffiniad o berygl posibl categori 1 a chategori 2 yn adran 2(1) o'r Ddeddf.back
ISBN 0 11 091366 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 6 July 2006 |