Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006, ISBN 0110913655. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 3(1), (4) a 4A o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967[1], gyda chydsyniad y Trysorlys, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006 a daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Mehefin 2006. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru. Dehongli 2. —(1) Yn y Gorchymyn hwn—
(b) unrhyw swyddog arall o'r Cynulliad Cenedlaethol;
(2) Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran unrhyw dystysgrif neu wasanaeth a ddarperir gan neu ar ran y Comisiynwyr Coedwigaeth.
(b) os yw wedi'i fodloni y dylid dyroddi tystysgrif, dyroddi'r dystysgrif ar ran y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Caiff swyddog awdurdodedig awdurdodi unrhyw berson yn ysgrifenedig i arolygu gronynnau pan fo arolygiad o'r fath yn ofynnol i alluogi'r swyddog hwnnw i ddyroddi'r dystysgrif.
(b) rhoi i'r ceisydd ganlyniadau unrhyw arolygiad neu archwiliad a gynhaliwyd.
Ffioedd am ddyroddi tystysgrifau a darparu gwasanaethau
(b) o ran gwasanaeth cyn-allforio, y ffi a bennir yn ail golofn Atodlen 4.
(2) Rhaid i allforiwr bach dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol—
(ii) os yw cyfanswm y ffioedd o ran unrhyw wasanaethau o dan y Gorchymyn hwn y daeth yn atebol amdanynt yn ystod y flwyddyn ariannol pan wneir y cais ganddo yn fwy na £250, y ffi a bennir yn ail golofn Atodlen 3; a
(b) o ran gwasanaeth cyn-allforio naill ai—
(ii) os yw cyfanswm y ffioedd o ran unrhyw wasanaethau o dan Gorchymyn hwn y daeth yn atebol amdanynt yn ystod y flwyddyn ariannol pan wneir y cais ganddo yn fwy na £250, y ffi a bennir yn ail golofn Atodlen 4.
(3) Yn yr erthygl hon, ystyr "allforiwr bach" ("small exporter") yw person, yn y flwyddyn ariannol pan wneir y cais—
(b) nad yw'n cyflenwi'n drethadwy blanhigion, cynhyrchion planhigion, hadau, pridd neu beiriannau amaethyddol at ddibenion Deddf Treth ar Werth 1994; neu (c) na wnaeth allforio yn y flwyddyn ariannol flaenorol nwyddau a thystysgrif gyda hwy yr oedd cyfanswm eu gwerth yn £5,000 neu fwy.
Tramgwyddau
(b) yn ddi-hid yn gwneud datganiad sy'n anwir mewn manylyn perthnasol; neu (c) yn fwriadol yn methu â datgelu unrhyw wybodaeth berthnasol.
(2) Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol. ![]() ![]()
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 30 Mehefin 2006. Mae'r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth i ddyroddi tystysgrifau ffytoiechydol a thystysgrifau ffytoiechydol ailanfon ar gyfer allforio planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill i drydydd gwledydd i fodloni gofynion rheoliadau ffytoiechydol y gwledydd hynny. Mae erthygl 3 yn darparu ar gyfer gwneud ceisiadau am ddyroddi tystysgrifau ffytoiechydol a thystysgrifau ffytoiechydol ar gyfer ailallforio. Mae erthygl 4 yn darparu ar gyfer gwneud ceisiadau am wasanaethau cyn-allforio a chyflawni'r gwasanaethau hynny gan swyddogion awdurdodedig. Mae erthygl 5 ac Atodlenni 3 a 4 yn rhagnodi'r ffioedd sy'n daladwy gan geiswyr tystysgrifau ffytoiechydol, tystysgrifau ffytoiechydol ar gyfer ailallforio a thalu ffioedd am wasanaethau cyn-allforio. Mae erthygl 6 yn darparu ei bod yn dramgwydd i wneud datganiad anwir gan wybod hynny neu gan fod yn ddi-hid o hynny neu yn fwriadol i fethu â datgelu gwybodaeth berthnasol er mwyn peri bod tystysgrif yn cael ei dyroddi. Mae Arfarniad Rheoliadol wedi cael ei baratoi o ran Gorchymyn hwn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Adran dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. Notes: [1] 1967 p. 8; diwygiwyd adrannau 2(1) a 3(1) a (2) gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68), adran 4(1) ac Atodlen 4, paragraff 8; amnewidiwyd adran 3(4) gan adran 42 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p. 48). O dan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), erthygl 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Iechyd Planhigion 1967, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i'r Ysgrifennydd Gwladol; ac, o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1, trosglwyddwyd y swyddogaethau a drosglwyddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Orchymyn 1978 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back
ISBN 0 11 091365 5
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 6 July 2006 |