Rheoliadau Gweithdrefn Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Gweithdrefn Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2006, ISBN 0110913620. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 250(2)(a) o Ddeddf Tai 2004 ac Atodlen 13 i'r Ddeddf honno[1], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn. Enwi a chychwyn 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gweithdrefn Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2006. (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Mehefin 2006. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn—
(b) person y mae'n rhaid i'r ceisydd ei hysbysu ynghylch y cais yn unol â'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf—
(ii) adran 96(7); (iii) paragraff 11(2) o Atodlen 1; neu (iv) paragraff 14(2) o Atodlen 3;
(c) person y mae'n rhaid i'r tribiwnlys roi iddo'r cyfle i gael ei glywed yn unol â'r darpariaethau canlynol—
(ii) adran 317(2) o Ddeddf 1985;
(ch) yr awdurdod tai lleol pan nad yw'n barti i'r cais;
Cymhwyso
(b) o dan adran 318(1) o Ddeddf 1985 yn achos ceisiadau a wneir ar 23 Mehefin 2006 neu ar ôl hynny; neu (c) o dan unrhyw un o adrannau 269(1), 272(1) neu (2)(a), 272(2)(b), neu 317(1) o Ddeddf 1985 yn achos gorchmynion dymchwel a wneir ar 23 Mehefin 2006 neu ar ôl hynny.
Yr amcan cyffredinol
(b) yn dehongli unrhyw reoliad,
rhaid iddo geisio gweithredu'r amcan cyffredinol o ymdrin yn deg ac yn gyfiawn gyda cheisiadau y mae i benderfynu arnynt.
(b) sicrhau, hyd y mae'n ymarferol, fod y partïon ar yr un gwastad â'i gilydd o safbwynt y weithdrefn a'u bod yn gallu cymryd rhan gyflawn yn yr achos; (c) cynorthwyo unrhyw barti gyda chyflwyno achos y parti hwnnw heb argymell pa lwybr y dylai'r parti hwnnw ei ddilyn; (ch) defnyddio arbenigedd neilltuol y tribiwnlys yn effeithiol; (d) osgoi oedi, i'r graddau y mae hynny'n gydnaws â rhoi ystyriaeth briodol i'r materion dan sylw.
Gofyn am estyn yr amser a ganiateir ar gyfer gwneud cais
(b) rhoi'r rhesymau pam na wnaed y cais cyn diwedd y cyfnod hwnnw ac esbonio unrhyw oedi pellach a fu ers hynny; (c) cynnwys datganiad fod y person sy'n gwneud y cais yn credu fod yr holl ffeithiau a fynegir yn y cais hwnnw'n wir; (ch) bod wedi'i ddyddio a'i lofnodi.
(3) Pan wneir cais am ganiatâd y cyfeirir ato ym mharagraff (1), rhaid i'r ceisydd ar yr un pryd anfon i'r tribiwnlys y cais cyflawn y mae'n gofyn am y caniatâd hwnnw ar ei gyfer.
(b) enw a chyfeiriad yr ymatebydd pan fydd y ceisydd yn gwybod y manylion hynny neu, os nad yw'n eu gwybod, disgrifiad o gysylltiad yr ymatebydd â'r fangre; (c) cyfeiriad y fangre; (ch) cysylltiad y ceisydd â'r fangre; (d) rhesymau'r ceisydd dros wneud y cais, gan gynnwys pa rwymedi a geisir; (dd) pan fo'r ceisydd yn gwybod hynny, enw a chyfeiriad unrhyw berson sydd â buddiant; (e) datganiad fod y ceisydd yn credu fod y ffeithiau a fynegir yn y cais yn wir; (f) ar gyfer pob cais y mae paragraff yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo, y dogfennau a bennir yn is-baragraff (2) o'r paragraff hwnnw.
(2) Gellir hepgor unrhyw rai o'r manylion sy'n ofynnol o dan baragraff (1) neu liniaru'r gofynion ar eu cyfer, os yw'r tribiwnlys wedi'i fodloni—
(b) na fyddir felly'n rhagfarnu, ac na fydd tebygolrwydd o ragfarnu, achos unrhyw barti i'r cais.
(3) Caiff un aelod cymwysedig o'r panel[6] weithredu'r pŵer a roddir o dan baragraff (2).
(b) anfon copi o'r cais ac o bob dogfen a ddaeth gydag ef i'r ymatebydd.
(2) Heblaw mewn achos y mae rheoliad 9 yn gymwys iddo, rhaid i'r tribiwnlys hefyd anfon at yr ymatebydd hysbysiad sy'n pennu'r dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid i'r ymatebydd anfon yr ateb a grybwyllir yn rheoliad 8.
(b) pan na fyddant eisoes wedi'u cynnwys yn y cais, enw a chyfeiriad pob person sydd â buddiant y mae'r ymatebydd yn gwybod amdanynt; (c) y cyfeiriad y dylid anfon dogfennau iddo at ddibenion yr achos.
Ceisiadau brys am awdurdodi gorchymyn rheoli dros dro
(b) y bydd yr awdurdod tai lleol drwy wneud y gorchymyn rheoli dros dro cyn gynted ag y bo modd (ar y cyd, pan fo hynny'n gymwys, â pha bynnag fesurau eraill ag y mae'r awdurdod tai lleol yn bwriadu eu gweithredu) yn gallu cymryd camau priodol yn syth i atal neu i leihau'r bygythiad yn sylweddol.
(4) Rhaid i'r tribiwnlys hysbysu'r partïon a phob person sydd â buddiant y mae ei enw a'i gyfeiriad wedi'u hysbysu iddo—
(b) o'r rhesymau pam yr ymddengys i'r tribiwnlys bod yr amgylchiadau eithriadol yn bodoli; (c) ynghylch unrhyw ofyniad y mae'n rhaid i barti ei fodloni cyn y gwrandawiad (ch) o'r dyddiad y cynhelir y gwrandawiad llafar brys.
(5) Ni chaiff dyddiad y gwrandawiad fod yn llai na 4 diwrnod ar ôl y dyddiad pryd yr anfonir yr hysbysiad ynghylch y gwrandawiad llafar brys.
(b) os nad yw wedi'i fodloni felly—
(ii) rhoi pa bynnag gyfarwyddiadau ag y tyb sy'n briodol.
(7) Caiff un aelod cymwysedig o'r panel—
(b) penderfynu ar ddyddiad y gwrandawiad llafar brys.
(8) Pan fydd tribiwnlys yn gorchymyn gwrandawiad llafar brys, nid yw'r darpariaethau ynghylch hysbysu a gynhwysir yn y rheoliadau canlynol yn gymwys i'r cais—
(b) rheoliad 25(3) a (4) (hysbysu ynghylch gwrandawiad).
Cais gan berson i'w drin fel ceisydd neu ymatebydd
(b) rhaid iddo fod mewn ysgrifen; (c) rhaid iddo gynnwys rhesymau dros wneud y cais; ac (ch) rhaid iddo bennu pa un ai a yw'r parti posibl yn dymuno cael ei drin—
(ii) fel ymatebydd.
(3) Cyn gynted ag sy'n ymarferol ar ôl iddo benderfynu pa un ai a fydd yn caniatáu ynteu'n gwrthod cais o dan baragraff (1), rhaid i'r tribiwnlys—
(b) anfon copi o'r hysbysiad i'r partïon sydd wedi'u cynnwys yn yr achos yn barod.
(4) Rhaid trin unrhyw barti posibl y caniateir ei gais o dan baragraff (1) fel ceisydd neu ymatebydd at ddibenion rheoliadau 4, 9, 11, 13 i 37 a 39 i 41.
(b) wedi'u gwneud mewn perthynas â dau neu ragor o fangreoedd y mae gan yr un partïon fuddiant ynddynt ac y mae materion tebyg neu gysylltiedig i'w penderfynu arnynt ynglŷn â hwy.
(2) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, gall y tribiwnlys orchymyn y dylid penderfynu ar y cyd ynglŷn â—
(b) materion neu ystyriaethau penodol sy'n codi yn y ceisiadau.
Talu ffioedd
(b) esboniad o'r weithdrefn pan fo person am wneud cais am gael ymuno yn yr achos fel ceisydd neu ymatebydd; ac (c) unrhyw wybodaeth neu ddogfen arall sy'n briodol ym marn y tribiwnlys.
(2) Caiff y tribiwnlys sicrhau fod gwybodaeth neu ddogfennau'n cael eu darparu o dan baragraff (1) drwy—
(b) mynnu bod parti'n gwneud hynny drwy orchymyn a wneir o dan reoliad 16(2).
(3) Pan ddarperir gwybodaeth a dogfennau i berson sydd â buddiant yn unol â pharagraff (1) ond—
(b) nad yw'r person sydd â buddiant yn ymateb,
ni fydd unrhyw ddyletswydd bellach ar y tribiwnlys i sicrhau darparu gwybodaeth neu ddogfennau i'r person hwnnw.
(b) copi o unrhyw ddogfen sy'n cynnwys canlyniadau unrhyw ymholiadau perthnasol a wnaed gan y tribiwnlys neu ar ran y tribiwnlys at ddibenion yr achos.
(2) Mewn gwrandawiad, os nad yw parti eisoes wedi derbyn dogfen berthnasol, neu gopi o ddogfen berthnasol, neu ddetholiadau digonol neu fanylion o ddogfen berthnasol, yna oni bai bod—
(b) bod y tribiwnlys yn ystyried fod gan y person hwnnw gyfle digonol i ymdrin â'r materion y mae'r ddogfen yn ymwneud â hwy heb fod y gwrandawiad yn cael ei ohirio,
rhaid i'r tribiwnlys ohirio'r gwrandawiad am gyfnod y mae'n ystyried fydd yn rhoi cyfle digonol i'r person hwnnw ymdrin â'r materion hynny.
(b) yn fater rhagarweiniol i benderfyniad neu'n fater sy'n gysylltiedig â phenderfyniad.
Methiant i gydymffurfio â gorchymyn i ddarparu gwybodaeth a dogfennau
(b) caiff y tribiwnlys hysbysu'r partïon ei fod yn bwriadu cynnal gwrandawiad llafar.
(3) Pan wneir cais neu pan roir hysbysiad o dan baragraff (2), rhaid i'r tribiwnlys roi hysbysiad o wrandawiad yn unol â rheoliad 25.
(b) yn caniatáu am y tro unrhyw rwymedi y byddai ganddo bŵer i'w ddyfarnu yn ei benderfyniad terfynol.
(2) Pan fo'r tribiwnlys yn gwneud gorchymyn dros dro heb yn gyntaf ganiatáu cyfle i'r partïon wneud sylwadau ynghylch gwneud y gorchymyn, caiff parti ofyn am amrywio'r gorchymyn dros dro neu ei ddiddymu.
(b) mewn ysgrifen; neu (c) drwy unrhyw ddull arall ag y gall tribiwnlys ei ganiatáu.
(4) Rhaid cofnodi gorchymyn dros dro cyn gynted ag y bo modd mewn dogfen y mae'n rhaid iddi, heblaw yn achos gorchymyn a wnaed gyda chytundeb yr holl bartïon, roi'r rhesymau dros y penderfyniad i wneud y gorchymyn.
(b) mewn ysgrifen; neu (c) drwy unrhyw ddull arall ag y gall tribiwnlys ei ganiatáu.
(4) Rhaid i'r parti sy'n gwneud y cais bennu'r cyfarwyddiadau a geisir a'r rhesymau dros eu ceisio.
(b) yn fater rhagarweiniol i benderfyniad neu'n fater cysylltiedig â phenderfyniad.
(6) Ym mharagraff (5), ystyr "cyfarwyddyd gweithdrefnol" ("procedural direction") yw unrhyw gyfarwyddyd heblaw un o'r rhai a ddynodir ym mharagraffau (a) i (e) o adran 230(5) o'r Ddeddf.
(b) unrhyw fangre arall y gallai ei harchwilio gynorthwyo'r tribiwnlys i benderfynu ynghylch y cais; (c) yr ardal o gwmpas y fangre.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3)—
(b) caiff aelod o'r Cyngor ar Dribiwnlysoedd sy'n gweithredu yn rhinwedd hynny fod yn bresennol ar adeg unrhyw archwiliad.
(3) Mae gwneud archwiliad a mynychu archwiliad yn amodol ar sicrhau unrhyw ganiatâd sydd ei angen.
(b) darparu copi o'r crynodeb ysgrifenedig hwnnw ar gyfer pob parti arall o leiaf 7 diwrnod cyn—
(ii) y dyddiad a hysbyswyd o dan reoliad 18 pryd y byddir yn penderfynu ynghylch y cais heb wrandawiad llafar.
(3) Rhaid i grynodeb ysgrifenedig yr arbenigwr o dystiolaeth yr arbenigwr—
(b) cynnwys manylion o gymwysterau'r arbenigwr; (c) cynnwys datganiad fod yr arbenigwr yn deall dyletswydd yr arbenigwr i gynorthwyo'r tribiwnlys ynghylch y materion sydd o fewn arbenigedd yr arbenigwr, a'i fod wedi cydymffurfio â hynny, a'i fod yn deall bod y ddyletswydd honno'n bwysicach nag unrhyw ddyletswydd tuag at y person y derbyniodd yr arbenigwr gyfarwyddiadau oddi wrtho neu y mae'r arbenigwr wedi'i gyflogi neu'i dalu ganddo.
(4) Pan fo tribiwnlys yn rhoi cyfarwyddyd, o dan ei bŵer cyffredinol yn adran 230(2) o'r Ddeddf, na all parti roi tystiolaeth arbenigol ger ei fron heb ei ganiatâd, caiff bennu fel amod i'r caniatâd hwnnw—
(b) bod yn rhaid i'r arbenigwr fynychu gwrandawiad i roi tystiolaeth lafar; neu (c) bod yn rhaid i'r partïon gyfarwyddo'r arbenigwr ar y cyd.
Cynhadledd rheoli achos
(b) estyn yr amser a bennir gan y Rheoliadau hyn neu o danynt ar gyfer cyflawni unrhyw weithred, hyd yn oed os bydd yr amser a benodwyd wedi dod i ben—
(ii) pan fyddai peidio ag estyn yr amser yn esgor ar anghyfiawnder sylweddol;
(c) caniatáu defnyddio ffôn, cyswllt fideo, neu unrhyw ddull arall o gyfathrebu—
(ii) at ddibenion cynhadledd rheoli achos neu wrandawiad;
(ch) mynnu fod unrhyw berson sy'n rhoi tystiolaeth ysgrifenedig yn cynnwys gyda'r dystiolaeth honno ddatganiad wedi'i lofnodi fod y person yn credu fod y ffeithiau a ddatgenir yn y dystiolaeth yn wir;
(2) Caiff y tribiwnlys weithredu ei bwerau o dan y Rheoliadau hyn mewn ymateb i gais i wneud hynny neu o'i benderfyniad ei hun.
(b) dyfarniad sydd i'w wneud heb wrandawiad llafar.
Hysbysu ynghylch gwrandawiad
(b) yr adeg y gwneir y cais; ac (c) cyfleustra'r partïon.
Y gwrandawiad
(b) caiff unrhyw berson sy'n ymddangos gerbron y tribiwnlys wneud hynny un ai'n bersonol neu drwy gynrychiolydd y person hwnnw; (c) mae gan y partïon yr hawl—
(ii) i alw tystion; (iii) i holi unrhyw dyst; a (iv) i annerch y tribiwnlys ynghylch y dystiolaeth a'r gyfraith ac yn gyffredinol ynghylch pwnc y cais; ac
(ch) caiff y tribiwnlys dderbyn tystiolaeth o unrhyw ffaith sy'n ymddangos iddo ei bod yn berthnasol, hyd yn oed os byddai'r dystiolaeth yn annerbyniadwy mewn achos gerbron llys barn, ac ni chaiff wrthod unrhyw dystiolaeth a gyflwynir mewn da bryd sy'n dderbyniadwy o dan y gyfraith ac sy'n berthnasol ac yn angenrheidiol a heb ei chael mewn ffordd amhriodol.
(2) Mewn gwrandawiad, caiff tribiwnlys os yw wedi'i fodloni ei bod yn gyfiawn ac yn rhesymol gwneud hynny, ganiatáu i barti ddibynnu ar resymau nas datganwyd o'r blaen ac ar dystiolaeth nad oedd ar gael o'r blaen neu nas dygwyd gerbron o'r blaen.
(b) yr adeg y gwneir y cais; ac (c) cyfleustra'r partïon.
Gwrandawiad cyhoeddus neu'n breifat
(b) na ddylid cyhoeddi unrhyw un o'r materion canlynol—
(ii) enwau a manylion a allai arwain at adnabod y personau sy'n ymwneud â'r achos; neu (iii) tystiolaeth benodol a roddir yn ystod yr achos.
Personau sydd â'r hawl i fod yn bresennol mewn gwrandawiad a gynhelir yn breifat
(b) aelod o'r Cyngor ar Dribiwnlysoedd sy'n gweithredu yn rhinwedd y swydd honno; (c) staff y Gwasanaeth Tribiwnlys; (ch) unrhyw berson arall a gaiff ganiatâd y tribiwnlys gyda chytundeb y partïon.
(2) Ni chaiff yr un o'r personau a bennir ym mharagraff (1) gymryd unrhyw ran yn y gwrandawiad neu drafodaethau o'r fath.
(b) nad yw wedi'i fodloni fod yna reswm da pam y methodd ymddangos.
Penderfyniadau'r Tribiwnlys wrth ddyfarnu ynghylch ceisiadau
(b) yn achos absenoldeb neu analluogrwydd y Cadeirydd, aelod arall o'r tribiwnlys.
(9) Rhaid anfon copi o unrhyw ddogfen penderfyniad, a chopi o unrhyw gywiriad yr ardystiwyd iddo o dan baragraff (7) i bob parti.
(b) yn datgan os oes yna unrhyw ran o'r cais, ac os felly pa ran, sydd eto i'w benderfynu arno; ac (c) yn cadarnhau fod copi o'r hysbysiad fod y cais yn cael ei dynnu'n ôl wedi'i roi i'r holl bartïon eraill ac yn nodi'r dyddiad pryd y gwnaed hynny.
(3) O dan unrhyw un o'r amgylchiadau a nodir ym mharagraff (4), ni fydd tynnu'r cais yn ôl yn effeithiol hyd y bydd un o'r camau gweithredu ym mharagraff (5) wedi'i gyflawni.
(b) parti wedi gwneud ymrwymiad i'r tribiwnlys; (c) taliad wedi'i orchymyn i'r parti sy'n tynnu'n ôl, boed hynny i'w ddigolledu, fel iawndal, fel costau, i ad-dalu ffioedd neu unrhyw beth arall; (ch) parti wedi gwneud cais am orchymyn i ad-dalu ffioedd.
(5) Y camau gweithredu a grybwyllir ym mharagraff (3) yw—
(b) bod y parti sy'n tynnu'n ôl wedi hysbysu'r holl bartïon o'i fwriad i dynnu'n ôl y cais ac—
(ii) bod y tribiwnlys wedi rhoi cyfarwyddiadau o'r fath.
(6) Wrth roi cyfarwyddiadau o dan baragraff (5)(b)(ii), gall y tribiwnlys osod pa bynnag amodau ag y tyb sy'n briodol.
(b) ar ôl hynny mewn ysgrifen i swyddfa'r tribiwnlys.
(3) Rhaid gwneud cais am ganiatâd i apelio o fewn y cyfnod o 21 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r dyddiad a nodir yn yr hysbysiad o'r penderfyniad fel y dyddiad pryd y rhoddwyd y rhesymau dros y penderfyniad.
(b) nodi at ba benderfyniad a pha dribiwnlys y mae'r cais am ganiatâd i apelio yn cyfeirio; (c) datgan y seiliau y bwriada'r apelydd ddibynnu arnynt yn yr apêl.
(5) Rhaid cofnodi penderfyniad y tribiwnlys ynghylch cais am ganiatâd i apelio, ynghyd â'r rhesymau dros hynny, mewn ysgrifen, a rhaid i'r tribiwnlys anfon copi o'r penderfyniad a'r rhesymau i'r apelydd ac i'r partïon eraill i'r cais sy'n wrthrych i'r apêl.
(b) os caiff ei anfon mewn unrhyw ffordd arall i gyfeiriad priodol y person; (c) yn ddarostyngedig i baragraff (2), os caiff ei anfon, gyda chaniatâd ysgrifenedig y person, at y person hwnnw—
(ii) drwy wasanaeth danfon dogfennau preifat.
(2) At ddibenion paragraff (1)(c), ystyrir bod cynrychiolydd cyfreithiol y person wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig os dangosir y cyfeirnod neu'r cyfeiriad ar gyfer cyfathrebu drwy ffacs neu'n electronig neu drwy system danfon dogfennau preifat ar bapur ysgrifennu'r cynrychiolydd cyfreithiol.
(b) yn achos cwmni corfforedig neu gorff arall sydd wedi'i gofrestru yn y Deyrnas Unedig, cyfeiriad y swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r cwmni neu'r corff; (c) yn achos unrhyw berson arall, ei gyfeiriad arferol neu'r cyfeiriad olaf y gwyddys amdano ar ei gyfer.
(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys—
(ii) wedi marw a heb unrhyw gynrychiolydd personol; neu (iii) y tu allan i'r Deyrnas Unedig; neu
(b) os am unrhyw reswm arall na ellir yn rhwydd ddarparu hysbysiad neu ddogfen arall yn unol â'r Rheoliadau hyn.
(5) Pan fo paragraff (4) yn gymwys, caiff y tribiwnlys—
(b) rhoi cyfarwyddiadau i gyflwyno'r hysbysiad neu'r ddogfen ym mha ffurf bynnag arall (pa un ai drwy hysbysebu mewn papur newydd neu fel arall) neu drwy ba ddull bynnag arall ag y tyb y tribiwnlys sy'n briodol.
(6) Pan fo'r Ddeddf neu'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol fod yn rhaid i barti ddarparu tystiolaeth fod y parti hwnnw wedi darparu dogfen i unrhyw berson, caiff y parti hwnnw fodloni'r gofyniad drwy ddarparu tystysgrif wedi'i lofnodi yn cadarnhau fod y ddogfen wedi'i chyflwyno'n unol â gofynion y rheoliad hwn.
(b) y seiliau pam y mae â'i fryd ar wrthod y cais; (c) y dyddiad (heb fod yn llai na 21 diwrnod ar ôl y dyddiad pryd yr anfonwyd yr hysbysiad) cyn y gall y tribiwnlys wrando ar y ceisydd ynghylch y cwestiwn a ddylid gwrthod y cais.
(4) Ni chaniateir gwrthod cais o dan baragraff (1) oni bai—
(b) pan fo'r ceisydd yn gwneud y fath gais, bod y tribiwnlys wedi gwrando ar y ceisydd a'r ymatebydd, neu pa un bynnag ohonynt sy'n mynychu'r gwrandawiad, ar gwestiwn gwrthod y cais.
Afreoleidd-dra
(b) bod enw'r llofnodydd yn ymddangos o dan y llofnod yn y fath fodd ag y gellir adnabod y llofnodydd.
Ceisiadau yn ymwneud â hysbysiadau gwella 1. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 10(1) o Atodlen 1 i'r Ddeddf (apêl yn erbyn hysbysiad gwella) heblaw cais y cyfeirir ato ym mharagraff 2. (2) Y dogfennau penodedig yw—
(b) y datganiad o resymau; ac (c) os mai sail neu un o seiliau'r cais yw mai un o'r ffyrdd o weithredu a grybwyllir ym mharagraff 12(2) o Atodlen 1 i'r Ddeddf yw'r ffordd orau o weithredu ynglŷn â'r perygl, datganiad yn nodi beth yw'r ffordd o weithredu honno ynghyd â rhesymau'r ceisydd dros ystyried mai dyna'r ffordd orau o weithredu.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
(b) y datganiad o resymau; (c) os mai sail neu un o seiliau'r cais yw mai un o'r ffyrdd o weithredu a grybwyllir ym mharagraff 12(2) o Atodlen 1 i'r Ddeddf yw'r ffordd orau o weithredu ynglŷn â'r perygl, datganiad yn nodi beth yw'r ffordd o weithredu honno ynghyd â rhesymau'r ceisydd dros ystyried mai dyna'r ffordd orau o weithredu; (ch) enw a chyfeiriad unrhyw berson a ddylai, fel un o berchnogion y fangre, ym marn y ceisydd weithredu fel sy'n ofynnol o dan yr hysbysiad gwella neu dalu'r cyfan neu ran o gostau'r gweithredu hwnnw ("y perchennog arall"); (d) prawf fod copi o'r cais wedi ei gyflwyno i'r perchennog arall; (dd) datganiad yn cynnwys y manylion canlynol—
(ii) y rheswm pam y mae'r ceisydd yn tybio y dylai'r perchennog arall weithredu fel hynny neu dalu'r cyfan neu ran o gost y gweithredu hwnnw; a (iii) pan mai sail y cais yw y dylai'r perchennog arall dalu'r cyfan neu ran o gost y gweithredu, amcangyfrif o'r gost honno o weithredu a'r gyfran o'r gost y mae'r ceisydd yn tybio y dylai'r perchennog arall ei thalu.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
(b) y datganiad o resymau; ac (c) copi o benderfyniad yr awdurdod tai lleol i amrywio neu wrthod amrywio neu ddirymu hysbysiad gwella (yn cynnwys unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd gan yr awdurdod tai lleol mewn cysylltiad â'i hysbysiad o benderfyniad).
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
(b) y paragraff hwnnw pan fydd wedi'i gymhwyso gydag addasiadau o dan adran 42 o'r Ddeddf (apêl yn erbyn galwad awdurdod tai lleol am ad-dalu costau a ddaeth i'w ran wrth gymryd camau adfer brys).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(b) yr hysbysiad o ddatganiad o resymau; (c) copi o'r hysbysiad a gyflwynwyd gan yr awdurdod tai lleol o dan baragraff 4 o Atodlen 3 i'r Ddeddf (hysbysiad ynghylch bwriad awdurdod tai lleol i fynd i mewn i fangre i gymryd camau gweithredu penodol heb gytundeb); (ch) copi o alwad yr awdurdod tai lleol am gostau; (d) pan wneir y cais ar y sail a grybwyllir ym mharagraff 11(4) o'r Atodlen honno, manylion y cynnydd y dibynnir arno ei fod wedi'i wneud tuag at gydymffurfio â'r hysbysiad.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
(b) y datganiad o resymau; ac (c) hysbysiad o benderfyniad yr awdurdod tai lleol i wrthod caniatáu defnydd penodol o'r cyfan neu ran o'r fangre.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
(b) y datganiad o resymau; (c) copi o'r les berthnasol; (ch) datganiad o enw a chyfeiriad unrhyw barti arall i'r les ac enw a chyfeiriad unrhyw barti i les isradd.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r parti arall i'r les.
(b) y datganiad o resymau; ac (c) os mai un o seiliau'r cais yw mai un o'r ffyrdd arall o weithredu a grybwyllir ym mharagraff 8(2) o Atodlen 2 i'r Ddeddf yw'r ffordd orau o weithredu ynglŷn â'r perygl, datganiad yn nodi beth yw'r ffordd o weithredu honno a rhesymau'r ceisydd dros farnu mai dyna'r ffordd orau o weithredu.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
(b) y datganiad o resymau; (c) copi o benderfyniad yr awdurdod tai lleol i amrywio neu i wrthod amrywio neu ddirymu gorchymyn gwahardd (yn cynnwys unrhyw ddogfennau a ddosbarthwyd gan yr awdurdod tai lleol mewn cysylltiad â'i hysbysiad o benderfyniad).
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
(b) y datganiad o resymau.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
(b) y datganiad o resymau.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
(b) y paragraff hwnnw fel y'i cymhwysir gydag addasiadau gan adran 42 o'r Ddeddf.
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(b) y datganiad o resymau; (c) copi o'r galwad am dreuliau a gyflwynwyd o dan baragraff 9 o'r Atodlen honno; (ch) copi o unrhyw hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff 12 o'r Atodlen honno; (d) prawf fod yr hysbysiad wedi'i gyflwyno i'r person dan sylw fel y crybwyllir ym mharagraff 14(2) o'r Atodlen honno.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r person y mae'r awdurdod tai lleol yn ceisio adennill treuliau a llog oddi wrtho.
(b) y datganiad o resymau; ac (c) os mai sail neu un o seiliau'r cais yw mai un o'r ffyrdd arall o weithredu a grybwyllir yn adran 269A(2) o Ddeddf 1985 yw'r ffordd orau o weithredu ynglŷn â'r perygl, datganiad yn nodi beth yw'r ffordd o weithredu honno a rhesymau'r ceisydd dros farnu mai dyna'r ffordd orau o weithredu.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
(b) y datganiad o resymau; ac (c) datganiad yn nodi—
(ii) y swm (os unrhyw beth) a godwyd drwy werthu deunyddiau; a (iii) y swm y mae'r awdurdod tai lleol am ei adennill oddi wrth berson sy'n un o berchnogion y fangre.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y fangre[9].
(b) y datganiad o resymau; ac (c) datganiad o beth yw—
(ii) dyletswyddau ac atebolrwyddau pob un o'r perchnogion mewn perthynas â chynnal a chadw ac atgyweirio o dan unrhyw gyfamod neu gytundeb, boed hwnnw'n ddatganedig neu ymhlyg.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r perchennog y mae'r ceisydd yn ceisio cyfraniad ganddo tuag at dreuliau'r awdurdod tai lleol.
(b) y datganiad o resymau; (c) copi o'r les berthnasol; ac (ch) datganiad o enw a chyfeiriad unrhyw barti arall i'r les ac enw a chyfeiriad unrhyw barti i les isradd.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r parti arall i'r les.
(ii) amcangyfrif o gostau'r gwaith; a (iii) amserlen ar gyfer cychwyn a chwblhau'r gwaith;
(b) pan wneir y cais ar y sail a grybwyllir yn adran 318(1)(b) o Ddeddf 1985, manylion—
(ii) cymeradwyaeth yr awdurdod tai lleol i'r cynllun.
(c) datganiad o sefyllfa ariannol y ceisydd yn cynnwys datgelu faint o arian sydd ar gael i dalu costau arfaethedig y gwaith;
(3) Yr ymatebwyr penodedig yw—
(b) perchennog y fangre[10].
Ceisiadau'n ymwneud â thrwyddedu tai amlfeddiannaeth
(b) copi o'r hysbysiad o benderfyniad yr awdurdod tai lleol o dan adran 62(6) o'r Ddeddf.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
(ii) copi o unrhyw sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â'r hysbysiad; (iii) un ai—
(bb) pan fo'r awdurdod tai lleol yn dibynnu ar ddarpariaethau adran 74 o'r Ddeddf, prawf fod y person priodol wedi'i gael yn euog o drosedd o dan adran 72(1) o'r Ddeddf; a
(iv) dogfen sy'n dangos y budd-dal tai a dalwyd gan yr awdurdod tai lleol mewn perthynas â meddiant y fangre yn ystod y cyfnod pryd yr honnir i drosedd o'r fath gael ei chyflawni; neu
(b) pan wneir y cais gan feddiannydd—
(ii) tystiolaeth fod y meddiannydd wedi gwneud taliadau cyfnodol mewn perthynas â meddiant o'r fangre yn ystod y cyfnod pryd yr honnir fod trosedd o'r fath yn cael ei chyflawni.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r person priodol [11].
(b) copi o hysbysiad yr awdurdod tai lleol o'i benderfyniad i beidio â dirymu datganiad tai amlfeddiannaeth.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
(ii) copi o'r drwydded; a
(b) pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ganiatáu trwydded, copi o hysbysiadau'r awdurdod tai lleol o dan baragraffau 5 ac 8 o'r Atodlen honno.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
(b) pan fo'r cais yn ymwneud â phenderfyniad i wrthod amrywio trwydded, copi o hysbysiadau'r awdurdod tai lleol o dan baragraffau 19 a 21 o'r Atodlen honno; (c) pan fo'r cais yn ymwneud â phenderfyniad i ddirymu trwydded, copi o hysbysiadau'r awdurdod tai lleol o dan baragraffau 22 a 24 o'r Atodlen honno; (ch) pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ddirymu trwydded, copi o hysbysiadau'r awdurdod tai lleol o dan baragraffau 26 a 28 o'r Atodlen honno; a (d) ym mhob achos, copi o'r drwydded.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
(b) copi o hysbysiad yr awdurdod tai lleol o'i benderfyniad o dan adran 86(6) o'r Ddeddf.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
(ii) copi o unrhyw sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â'r hysbysiad; (iii) un ai—
(bb) pan fo'r awdurdod tai lleol yn dibynnu ar ddarpariaethau adran 97 o'r Ddeddf, prawf fod y person priodol wedi'i gael yn euog o drosedd o dan adran 95(1) o'r Ddeddf; a
(iv) dogfen sy'n dangos y budd-dal tai a dalwyd gan yr awdurdod tai lleol mewn perthynas â meddiant y fangre yn ystod y cyfnod pryd yr honnir i drosedd o'r fath gael ei chyflawni; neu
(b) pan wneir y cais gan feddiannydd—
(ii) tystiolaeth fod y meddiannydd wedi gwneud taliadau cyfnodol mewn perthynas â meddiant o'r fangre yn ystod cyfnod pryd yr honnir fod trosedd o'r fath yn cael ei chyflawni.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r person priodol[12].
(ii) copi o'r drwydded; a
(b) pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ganiatáu trwydded, copi o hysbysiadau'r awdurdod tai lleol o dan baragraffau 5 ac 8 o'r Atodlen honno.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
(b) pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i amrywio trwydded, copi o hysbysiadau'r awdurdod tai lleol o dan baragraffau 19 a 21 o'r Atodlen honno; (c) pan fo'r cais yn ymwneud â phenderfyniad i ddirymu trwydded, copi o hysbysiadau'r awdurdod tai lleol o dan baragraffau 22 a 24 o'r Atodlen honno; (ch) pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ddirymu trwydded, copi o hysbysiadau'r awdurdod tai lleol o dan baragraffau 26 a 28 o'r Atodlen honno; a (d) ym mhob achos, copi o'r drwydded.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
(b) datganiad o'r materion sy'n berthnasol i ystyriaeth y tribiwnlys o—
(ii) y graddau y cydymffurfiwyd ag unrhyw god ymarfer a gymeradwywyd o dan adran 233 o'r Ddeddf; a (iii) pan fo'r awdurdod tai lleol yn gofyn am ymdrin â'r cais fel mater brys o dan reoliad 9, datganiad sy'n rhoi digon o fanylion i alluogi'r tribiwnlys i ffurfio barn ynghylch a yw'n ymddangos fod yr amgylchiadau eithriadol a grybwyllir ym mharagraff (3) o'r rheoliad hwnnw'n bodoli.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw person perthnasol yn ôl y diffiniad o "relevant person" ym mharagraff 8(4) a pharagraff 35 o Atodlen 6 i'r Ddeddf.
(b) datganiad o'r materion sy'n berthnasol i ystyriaeth y tribiwnlys ynghylch a yw'r amodau yn adran 103(3) a (4) o'r Ddeddf wedi'u bodloni; ac (c) pan fo'r awdurdod tai lleol yn gofyn am ymdrin â'r cais fel mater brys o dan reoliad 9, datganiad sy'n rhoi digon o fanylion i alluogi'r tribiwnlys i ffurfio barn ynghylch a yw'r amgylchiadau eithriadol a grybwyllir ym mharagraff (3) o'r rheoliad hwnnw'n bodoli.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw person perthnasol fel y'i diffinnir ym mharagraff 8(4) a pharagraff 35 o Atodlen 6 i'r Ddeddf.
(b) copi o'r hysbysiad o apêl o dan baragraff 24 o Atodlen 6 i'r Ddeddf yn erbyn gwneud gorchymyn rheoli terfynol.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r ceisydd sydd wedi gwneud yr apêl perthnasol.
(b) copi o'r cyfrifon a gadwyd gan yr awdurdod tai lleol yn unol ag adran 110(6).
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
(b) copi o'r gorchymyn rheoli terfynol newydd a wnaed i ddisodli'r gorchymyn hwnnw; ac (c) copi o'r hysbysiad o apêl o dan baragraff 24 o Atodlen 6 i'r Ddeddf yn erbyn gwneud y gorchymyn rheoli terfynol newydd.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r ceisydd sydd wedi gwneud yr apêl perthnasol.
(b) datganiad yn rhoi manylion hawliau ac atebolrwyddau (yn cynnwys perchnogaeth) pob un o'r personau sydd â buddiant yn y dodrefn.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r person arall sydd â buddiant yn y dodrefn.
(b) copi o'r hysbysiad a gyflwynwyd gan yr awdurdod tai lleol o dan baragraff 7(2)(b) o Atodlen 6 i'r Ddeddf; (c) pan fo'r cais yn ymwneud ag amodau'r gorchymyn rheoli, datganiad sy'n pennu pob amod a wrthwynebir, ynghyd â'r rhesymau dros y gwrthwynebiad; ac (ch) pan wneir y cais ar y sail a ddynodir ym mharagraff 24(3) o Atodlen 6 i'r Ddeddf, datganiad o'r materion yn adran 110(5) (sy'n ymwneud â thalu rhenti dros ben ac ati) sy'n berthnasol i'r sail honno.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
(b) pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i amrywio gorchymyn rheoli, copi o hysbysiadau'r awdurdod tai lleol o dan baragraffau 14 ac 16 o'r Atodlen honno; (c) pan fo'r cais yn ymwneud â phenderfyniad i ddirymu gorchymyn rheoli, copi o hysbysiadau'r awdurdod tai lleol o dan baragraffau 17 ac 19 o'r Atodlen honno; ac (ch) pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ddirymu gorchymyn rheoli, copi o hysbysiadau'r awdurdod tai lleol o dan baragraffau 20 a 22 o'r Atodlen honno; a (d) ym mhob achos—
(ii) copi o'r hysbysiad a gyflwynwyd gan yr awdurdod tai lleol o dan baragraff 7(2)(b) o Atodlen 6 i'r Ddeddf.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
(b) copi o hysbysiad yr awdurdod tai lleol o'i benderfyniad i'r trydydd parti yn unol ag adran 128(2) o'r Ddeddf; ac (c) datganiad yn rhoi manylion llawn—
(ii) swm yr iawndal a hawlir oherwydd y tarfu hwnnw.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
(b) datganiad o dystiolaeth—
(ii) fod yr awdurdod tai lleol wedi ystyried yr hawliau a'r buddiannau a ddynodir yn adran 133(4) o'r Ddeddf; ac
(c) pan fo'r awdurdod tai lleol, yn unol ag adran 133(3) o'r Ddeddf, wedi hysbysu'r perchennog perthnasol ei fod yn ystyried gwneud gorchymyn rheoli tŷ gwag dros dro, copi o'r hysbysiad hwnnw.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r perchennog perthnasol[14].
(b) copi o hysbysiad yr awdurdod tai lleol o'i benderfyniad i'r trydydd parti yn unol ag adran 138(4) o'r Ddeddf; ac (c) datganiad yn rhoi manylion llawn—
(ii) swm yr iawndal a hawlir oherwydd y tarfu hwnnw.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
(b) copi o'r hysbysiad o apêl o dan baragraff 26 o Atodlen 7 i'r Ddeddf yn erbyn gwneud gorchymyn rheoli tŷ gwag dros dro.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r ceisydd sydd wedi gwneud yr apêl perthnasol.
(b) copi o'r les neu'r drwydded berthnasol, neu os nad yw honno ar gael, tystiolaeth o fodolaeth y les neu'r drwydded; ac (c) datganiad yn cynnwys y manylion canlynol—
(ii) tystiolaeth o faterion y mae'n rhaid i'r tribiwnlys gael ei fodloni yn eu cylch o dan baragraff 22(1)(b) o Atodlen 7 i'r Ddeddf; a (iii) swm yr iawndal (os unrhyw beth) y mae'r awdurdod tai lleol yn fodlon ei dalu o ganlyniad i derfynu'r les neu'r drwydded, yn cynnwys manylion ynghylch sut y cyfrifwyd yr iawndal hwnnw.
(3) Yr ymatebwyr penodedig yw'r partïon i'r les neu'r drwydded.
(b) copi o'r cyfrifon a gedwir gan yr awdurdod tai lleol yn unol â pharagraff 5(6) o Atodlen 7 i'r Ddeddf.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
(b) copi o'r hysbysiad o apêl o dan baragraff 26 o Atodlen 7 i'r Ddeddf yn erbyn gwneud gorchymyn rheoli tŷ gwag terfynol.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r ceisydd sydd wedi gwneud yr apêl perthnasol.
(b) pan fo'r cais yn ymwneud ag amodau'r gorchymyn rheoli, datganiad yn pennu pob amod a wrthwynebir, ynghyd â'r rhesymau dros y gwrthwynebiad; ac (c) pan wneir y cais ar y sail a bennir ym mharagraff 26(1)(c) o Atodlen 6 i'r Ddeddf, datganiad o'r materion ym mharagraff 5(5)(a) a (b) (sy'n ymwneud â thalu rhenti dros ben etc) sy'n berthnasol i'r sail honno.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
(b) pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i amrywio gorchymyn rheoli tŷ gwag dros dro neu derfynol, copi o hysbysiadau'r awdurdod tai lleol o dan baragraffau 14 ac 16 o'r Atodlen honno; (c) pan fo'r cais yn ymwneud â phenderfyniad i ddirymu gorchymyn rheoli tŷ gwag dros dro neu derfynol, copi o hysbysiadau'r awdurdod tai lleol o dan baragraffau 17 ac 19 o'r Atodlen honno; ac (ch) pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ddirymu gorchymyn rheoli tŷ gwag dros dro neu derfynol, copi o hysbysiadau'r awdurdod tai lleol o dan baragraffau 20 a 22 o'r Atodlen honno; a (d) ym mhob achos copi o'r gorchymyn rheoli tŷ gwag dros dro neu derfynol (yn ôl y digwydd).
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
(b) pan fo'r trydydd parti wedi gofyn am iawndal o dan adran 138 o'r Ddeddf copi o hysbysiad yr awdurdod tai lleol o'i benderfyniad i'r trydydd parti yn unol ag isadran (4) o'r adran honno; ac (c) datganiad yn rhoi manylion llawn—
(ii) swm yr iawndal a hawlir oherwydd y tarfu hwnnw.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol.
(b) pan fu i'r awdurdod tai lleol wrthod amrywio hysbysiad gorlenwi, copi o benderfyniad yr awdurdod tai lleol.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r awdurdod tai lleol. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn rheoleiddio'r weithdrefn sydd i'w dilyn ar gyfer ceisiadau ac apelau (y cyfeirir atynt ynghyd fel ceisiadau) a wneir i dribiwnlys eiddo preswyl o dan Ddeddf Tai 2004 ("y Ddeddf") neu o dan Ran 9 o Ddeddf Tai 1985 ("Deddf 1985"). Mae'r ceisiadau hyn yn ymwneud â'r darpariaethau, neu'n gysylltiedig â'r darpariaethau, yn y Ddeddf a Deddf 1985 ynghylch pwerau awdurdod tai lleol mewn perthynas â chyflwr tai a gorfodi safonau tai, yn cynnwys gweithredu adfer brys; gorchmynion dymchwel a chlirio slymiau; rheoleiddio tai amlfeddiannaeth; rheoli anheddau ac anheddau gweigion; a gorlenwi. Mae adrannau 229 a 230 o'r Ddeddf yn darparu ar gyfer cyfansoddiad tribiwnlysoedd a'u pwerau cyffredinol. Mae Atodlen 13 i Ddeddf 2004 yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru y pŵer i wneud rheoliadau mewn perthynas â gweithdrefn tribiwnlysoedd eiddo preswyl ac yn dynodi cwmpas y rheoliadau gweithdrefn hynny. Mae rheoliad 2 yn diffinio termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau. Mae'r diffiniad o "ymatebydd" ("respondent") yn cyfeirio at is-baragraff (3) o bob paragraff yn yr Atodlen i'r Rheoliadau. Mae rheoliad 3 yn dynodi'r achosion y mae'r Rheoliadau'n gymwys iddynt. Mae rheoliad 4 yn nodi'r amcan cyffredinol o ymdrin yn deg ag yn gyfiawn â phob cais. Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaethau mewn perthynas â cheisiadau am estyn yr amser ar gyfer gwneud cais, yn yr achosion hynny pan fo'r Ddeddf yn rhoi'r pŵer i dribiwnlys ganiatáu'r fath estyniad. Mae rheoliad 6 yn rhoi manylion y wybodaeth sydd i'w chynnwys gyda chais, ac yn pennu dogfennau ychwanegol sy'n ofynnol ar gyfer ceisiadau penodol, fel y'u rhestrir yn is-baragraff (2) o bob paragraff yn yr Atodlen i'r Rheoliadau. Mae rheoliad 7 yn darparu mewn perthynas â chydnabod cais gan dribiwnlys ac anfon hysbysiad at yr ymatebydd sy'n pennu'r dyddiad erbyn pryd y dylai'r ymatebydd anfon ateb i'r tribiwnlys. Mae rheoliad 8 yn ymdrin ag ateb yr ymatebydd. Mae rheoliad 9 yn caniatáu i'r tribiwnlys gynnal gwrandawiad llafar ar fyr rybudd pan fo awdurdod tai lleol wedi gwneud cais am awdurdodi gorchymyn rheoli dros dro o dan adran 102(4) neu (7) o'r Ddeddf, a phan ei bod yn ymddangos i'r tribiwnlys ar sail y wybodaeth a gyflwynir gyda'r cais fod amgylchiadau eithriadol penodedig yn bodoli. Mae rheoliad 10 yn ymdrin â cheisiadau gan berson am gael ymuno fel parti i'r achos. Mae rheoliad 11 yn pennu'r amgylchiadau pan ellir penderfynu ar y cyd ynglŷn â dau neu ragor o geisiadau gwahanol, neu ynghylch materion penodol sy'n codi mewn ceisiadau gwahanol. Mae rheoliad 12 yn darparu, pan na fydd y ffi ar gyfer gwneud cais wedi ei thalu o fewn 14 diwrnod, y dylid ystyried fod y cais wedi'i dynnu yn ôl oni bai fod yna sail resymol dros beidio â gwneud hynny. Mae rheoliad 13 yn galluogi cyflawni'r ddyletswydd i ddarparu dogfen drwy ei darparu i gynrychiolydd parti neu i gynrychiolydd person sydd â buddiant pan ofynnir hynny mewn ysgrifen. Mae rheoliad 14 yn mynnu fod y tribiwnlys yn sicrhau fod personau sydd â buddiant yn cael eu hysbysu ynghylch y cais ac yn derbyn esboniad ynghylch y weithdrefn ar gyfer gwneud cais am gael ymuno fel parti. Mae rheoliad 15 yn ymdrin â dosbarthu dogfennau perthnasol gan y tribiwnlys. Mae rheoliadau 16 a 17 yn ymdrin â phwerau'r tribiwnlys i orchymyn darparu gwybodaeth a dogfennau a gyda methiant i gydymffurfio â gorchymyn o'r fath. Mae rheoliad 18 yn galluogi'r tribiwnlys i benderfynu ynglŷn â chais heb wrandawiad llafar. Rhaid rhoi rhybudd o 14 diwrnod o leiaf i'r partïon o'r bwriad i weithredu yn y ffordd hon. Mae gan y partïon yr hawl i ofyn am wrandawiad llafar. Caiff un aelod cymwysedig o'r panel benderfynu ei bod yn briodol cynnal gwrandawiad llafar. Mae rheoliad 19 yn darparu ar gyfer gorchmynion dros dro, heblaw yn achos penderfynu ynghylch cais o dan adran 102(4) neu (7) o'r Ddeddf. Mae rheoliad 20 yn gwneud darpariaeth weithdrefnol mewn perthynas â chyfarwyddiadau o dan bŵer cyffredinol y tribiwnlys yn adran 230(2) o Ddeddf 2004. Mae rheoliad 21 yn ymdrin ag archwilio'r fangre a'i chyffiniau. Mar rheoliad 22 yn darparu ar gyfer rhoi tystiolaeth arbenigol gerbron y tribiwnlys. Mae rheoliad 23 yn galluogi'r tribiwnlys i gynnal cynhadledd rheoli achos (a ddiffinnir fel ei bod yn cynnwys adolygiad cyn treial) gyda rhybudd o ddim llai na 14 diwrnod i'r partïon, neu gyfnod byrrach os bydd y partïon yn cytuno. Mae rheoliad 24 yn rhoi manylion y gweddill o bwerau rheoli achos y tribiwnlys. Mae rheoliad 24(1)(a) yn galluogi'r tribiwnlys i estyn yr amser a bennir yn y Rheoliadau ar gyfer cyflawni'r gwahanol gamau yn yr achos. Mae rheoliad 25 yn ymdrin â hysbysu ynghylch dyddiad, amser a lleoliad gwrandawiad, ac mae rheoliad 26 yn rhoi'r pŵer i'r tribiwnlys i ohirio gwrandawiad. Mae rheoliad 27 yn nodi pwerau'r tribiwnlys yn ystod gwrandawiad ac mae rheoliad 28 yn darparu ar gyfer o dan ba amodau y gellir cynnal gwrandawiad yn breifat fel eithriad i'r rheol gyffredinol y dylid cynnal gwrandawiadau'n gyhoeddus. Mae rheoliad 29 yn nodi'r personau sydd â'r hawl i fod yn bresennol mewn gwrandawiadau a gynhelir yn breifat ac yn ystod trafodaethau'r tribiwnlys ar gyfer penderfynu ynghylch y cais. Mae rheoliad 30 yn galluogi'r tribiwnlys i fwrw ymlaen â gwrandawiad yn absenoldeb parti sy'n methu ag ymddangos. Mae rheoliad 31 yn nodi sut a phryd y bydd y tribiwnlys yn cyhoeddi ac yn cofnodi penderfyniadau a'r rhesymau drostynt. Mae rheoliad 32 yn darparu na chaiff y tribiwnlys ddyfarnu costau o dan ei bwerau a gynhwysir ym mharagraff 5 o Atodlen 13 i Ddeddf 2004 heb ganiatáu'r hawl i'r parti dan sylw gyflwyno sylwadau. Uchafswm y costau y gellir eu dyfarnu yw £500. Mae rheoliad 33 yn pennu sut y gellir tynnu cais yn ôl yn rhannol neu'n gyfan gwbl, ac yn pennu'r amgylchiadau pryd y mae angen caniatâd y tribiwnlys i dynnu cais yn ôl. Mae rheoliad 34 yn darparu ar gyfer gorfodi penderfyniad tribiwnlys yn y llys sirol, gyda chaniatâd y llys. Mae rheoliad 35 yn cynnwys darpariaethau'n ymwneud â cheisiadau i dribiwnlys eiddo preswyl am ganiatâd i apelio i'r Tribiwnlys Tiroedd. Mae rheoliad 36 yn mynnu fod y tribiwnlys yn gwneud y trefniadau priodol pan fo ar unrhyw berson sy'n cymryd rhan yn yr achos angen gwasanaeth cyfieithu, dehongli, neu gymorth arall i'w galluogi i gyfranogi'n effeithiol yn yr achos. Mae rheoliad 37 yn pennu'r gofynion ar gyfer darparu hysbysiadau neu ddogfennau y mae'r Rheoliadau'n awdurdodi eu darparu. Mae'r ddarpariaeth yn cynnwys yr amgylchiadau dan y rhai y bydd cyfathrebu drwy ffacs neu gyfathrebu electronig, megis e-bost, neu gan wasanaeth dosbarthu preifat, megis Cyfnewid Dogfennau, yn dderbyniol. Mae rheoliad 38 yn darparu os yw'r amser a ddynodir gan y Rheoliadau hyn ar gyfer cyflawni unrhyw weithred yn dod i ben ar benwythnos neu ddiwrnod o wyliau cyhoeddus, y bydd y weithred wedi'i chyflawni mewn pryd os y'i gwneir ar y diwrnod gwaith nesaf ar ôl hynny. Mae rheoliad 39 yn rhoi i'r tribiwnlys y pŵer i wrthod yn rhannol neu'n gyfan gwbl unrhyw gais a ystyrir yn wacsaw, yn flinderus, neu mewn unrhyw ffordd arall yn gamddefnydd o broses y tribiwnlys, ar ôl rhoi rhybudd o 21 diwrnod o leiaf i'r ceisydd. Mae rheoliad 40 yn datgan na fydd afreoleidd-dra ar ran y partïon ynddo'i hun yn peri fod yr achos yn ddi-rym. Mae rheoliad 41 yn caniatáu atgynhyrchu llofnod yn fecanyddol neu mewn ffordd arall, ar yr amod yr ychwanegir enw'r person sy'n llofnodi o dan y llofnod mewn modd sy'n sicrhau y gellir adnabod y person. Mae'r Atodlen i'r Rheoliadau'n rhestru'r ceisiadau y gellir eu gwneud i dribiwnlys eiddo preswyl ac yn pennu ar gyfer pob un y dogfennau ychwanegol y mae'n rhaid eu cynnwys gyda chais, ac yn nodi'r personau y gellir eu henwi fel ymatebwyr i'r cais. Pennir y ffioedd sy'n daladwy ar gyfer rhai ceisiadau penodol i dribiwnlys eiddo preswyl yn Rheoliadau Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Ffioedd) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1642 (W.157)), sy'n dod i rym ar yr un dyddiad â'r Rheoliadau hyn. Paratowyd arfarniad rheoliadol mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn, ac mae ar gael o Uned y Sector Preifat, Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (ffôn 02920825111; e-bost: HousingIntranet@wales.gsi.gov.uk). Notes: [1] 2004 p.34. Mae'r pŵer i wneud rheoliadau o dan Atodlen 13, mewn perthynas â Chymru, wedi'i roi i Gynulliad Cenedlaethoil Cymru ac mewn perthynas â Lloegr, i'r Ysgrifennydd Gwladol, gweler y diffiniad o "appropriate national authority" yn adran 261 o Ddeddf Tai 2004.back [2] Am ystyr "local housing authority" gweler adran 261(4) o'r Ddeddf.back [3] Am ystyr "interim management order" gweler adran 101(3) o'r Ddeddf, ac ar gyfer awdurdodiadau i wneud gorchymyn o'r fath, gweler adran 102(4) a (7).back [6] Am ddiffiniad "single qualified member of the panel" gweler paragraffau 6(2) i (4) o Atodlen 13 i Ddeddf Tai 2004.back [7] Am ddiffiniad "single qualified member" yn y cyd-destun hwn, gweler paragraff 10(4) o Atodlen 13 i'r Ddeddf.back [9] Gweler adran 322 o Ddeddf 1985, sy'n diffinio "owner" mewn perthynas â mangre.back [10] Gweler adran 322 o Ddeddf 1985, sy'n diffinio "owner" mewn perthynas â mangre.back [11] Gweler adran 73(1) o'r Ddeddf ar gyfer diffiniad o "the appropriate person".back [12] Gweler adran 73(1) o'r Ddeddf ar gyfer diffiniad o "the appropriate person".back [13] Gweler adran 130(11) ar gyfer diffiniad o "relevant landlord".back [14] Gweler adran 132(4)(c) ar gyfer y diffiniad o "relevant proprietor".back
ISBN 0 11 091362 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 3 July 2006 |