Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006, ISBN 011091354X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 75 a 104(1) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991[1] ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol o ran Cymru[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1 —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 2 Hydref 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn:
Ffioedd Arolygu
(b) mwy nag un darn a gloddir ond nid mwy na phump ac, yn achos gwaith sy'n ymwneud â phibellau cyswllt a llinellau cyswllt, dim mwy na 10 darn a gloddir, ar yr amod ym mhob achos–
(ii) bod pob darn a gloddir yn rhan o'r un gwaith, (iii) bod pob darn a gloddir yn cael ei gloddio o fewn cyfnod o 10 niwrnod gwaith, (iv) bod pob darn a gloddir o fewn 500 metr i bob darn arall a gloddir; a (v) nad yw hyd cyfan yr holl ddarnau a gloddir yn fwy na 200 metr gyda'i gilydd; neu
(c) yn achos cloddio darn sy'n fwy na 200 metr o hyd, pob darn a gloddir o 200 metr o hyd o fewn y darn hwnnw a gloddir neu falans y cyfryw ddarn.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn, dyma'r cyfnodau gwaith:–
(b) y cyfnod o chwe mis yn cychwyn ar y diwrnod y cwblheir y gwaith adfer dros dro neu'n barhaol; ac (c) y cyfnod o dri mis yn union cyn diwedd–
(ii) mewn unrhyw achos arall, 2 flynedd o ddyddiad gorffen y gwaith adfer parhaol.
(5) At ddibenion y rheoliad hwn, ac eithrio fel y darperir ym mharagraff (6) isod, nifer yr unedau arolygu cyfrifadwy mewn blwyddyn yw cyfartaledd nifer yr unedau arolygu ar gyfer yr ymgymerydd fesul blwyddyn wedi'i gyfrifo dros y tair blynedd sy'n dod yn syth o flaen y flwyddyn honno.
(b) Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2002[5]. (c) Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2004[6].
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Archwilio) 1992 ("Rheoliadau 1992") fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2001 ("Rheoliadau 2001"), Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2002 ("Rheoliadau 2002") a Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2004 ("Rheoliadau 2004") yn rhagnodi cynllun ar gyfer talu gan ymgymerwyr am arolygiadau o'u gwaith gan awdurdodau strydoedd. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau 1992, Rheoliadau 2001, Rheoliadau 2002 a Rheoliadau 2004 i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru ac yn ailddeddfu'r Rheoliadau hynny i roi effaith i'r newidiadau a ganlyn:
(b) Ailddiffinnir "uned arolygu", yn achos clystyrau o ddim mwy na 5 o ddarnau a gloddir (neu ddim mwy na 10 pan fo'r gwaith yn ymwneud â phibellau neu linellau cyswllt) fel y bo dau ofyniad, sef bod yr holl ddarnau a gloddir yn yr un stryd, a'u bod yn rhan o'r un gwaith, yn cael eu rhoi yn lle gofyniad blaenorol bod pob darn a gloddir yn yr achosion hyn yn ddarostyngedig i un hysbysiad o ddyddiad cychwyn: rheoliad 3(3). (c) Yn lle'r pum "Cyfnod gwaith"a geir yn Rheoliadau 1992 ceir bellach dri: rheoliad 3(4). (ch) Yn lle "niferoedd amcangyfrifedig yr unedau arolygu"ceir "nifer cyfrifadwy yr unedau arolygu", sef nifer cyfartalog yr unedau arolygu cyfrifadwy ar gyfer yr ymgymerydd hwnnw yn ystod y tair blynedd flaenorol: rheoliad 3(5). Mae rheoliadau 3(6) a (7) yn darparu bod ymgymerwyr newydd i amcangyfrif nifer yr unedau arolygu y maent yn arfaethu eu cynhyrchu yn y tair blynedd gyntaf.
Notes: [1] 1991 p.22. Nid yw'r diwygiad a wneir i adran 75 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 gan adran 58(2) o Deddf Rheoli Traffig 2004 wedi'i ddwyn i rym eto.back [2] Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 1992/1688. Cafodd y Rheoliadau hyn eu dirymu o ran Lloegr gan O.S. 2002/2092.back [4] O.S. 2001/2681 (Cy.222).back [5] O.S. 2002/3181 (Cy.297).back [6] O.S. 2004/1809 (Cy.196).back
ISBN 0 11 091354 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 21 June 2006 |