Rheoliadau Iawndal Enseffalopathi Sbyngffurf Trosglwyddadwy (TSE) Defaid a Geifr (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Iawndal Enseffalopathi Sbyngffurf Trosglwyddadwy (TSE) Defaid a Geifr (Cymru) 2006, ISBN 0110913574. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud y Rheoliadau canlynol o dan y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[1]. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cael ei ddynodi at ddibenion yr adran honno mewn perthynas â mesurau ym meysydd milfeddygol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd[2]. Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Yr enw ar y Rheoliadau hyn fydd Rheoliadau Iawndal Enseffalopathi Sbyngffurf Trosglwyddadwy (TSE) Defaid a Geifr (Cymru) 2006, meant yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 14 Mehefin 2006. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn berthnasol i anfieiliaid a gedwir ar gyfer pwrpasau ymchwil mewn mangreoedd a gymeradwyir ar gyfer y pwrpas hynny o dan Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006[3]. Dehongli 2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn–
(2) Mae gan ymadroddion nad ydynt wedi eu diffinio yn y Rheoliadau hyn ac sydd yn ymddangos yn Rheoliad TSE y Gymuned yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd ganddynt at ddibenion Rheoliad TSE y Gymuned.
(b) £90 mewn unrhyw achos arall.
(3) Lle nad oes cadarnhad ei fod wedi cael ei effeithio gan TSE, yr iawndal yw'r uchaf o'r–
(b) swm y bo'n ymddangos i'r Cynulluiad Cenedlaethol ar ôl ystyried yr wybodaeth a ddarparwyd gan berchennog yr anifail, ac unrhyw wybodaeth arall sy'n berthnasol, ei fod yn adlewyrchu gwerth yr anifail ar y farchnad, yn ddarostyngedig i uchafswm o £400 am bob anifail.
Iawndal am anifeiliaid sy'n cael eu lladd neu y bo eu cynhyrchion yn cael eu dinistrio ar ôl cadarnhau TSE Iawndal
(a) Lle bo'r Cynulliad Cenedlaethol wedi rhoi rhanddirymiad o dan bwynt 9 o Atodiad VII I Reoliad TSE y Gymuned £30 yw'r iawndal am ddafad fenyw os caiff ei lladd ar ôl y flwyddyn gyntaf o'r cyfnod rhanddirymiad. (b) Lle bo'r Cynulliad Cenedlaethol wedi rhoi rhanddirymiad yn unol â'r pwynt hwnnw mewn perthynas ag unrhyw hwrdd mewn praidd, £25 yw'r iawndal am unrhyw oen yn y ddiadell honno sydd wedi cael ei ladd ar ôl y flwyddyn gyntaf o'r cyfnod rhanddirymiad. Nodyn ynglŷn â'r cyfraddau Ar neu ar ôl 14 Mehefin 2006
(ii) os oedd yr anifail y telir iawndal amdano yn ddiadell neu'r gyr cyn 14 Mehefin 2006;
a
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn darparu swm yr iawndal sydd yn daladwy pan fo dafad neu afr yn cael ei gigydda yn dilyn ei heintio gyda TSE. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu bod swm yr iawndal sydd yn daladwy ar gigydda dafad neu afr yn ddibynol ar unai yw'r ddafad neu afr yn Anifail y credir iddo gael ei heintio neu y lleddir yr anifail wedi iddo gael ei gadarnhau fel anifail sydd wedi ei heintio â TSE. Os yw perchennog anifail a leddir yn dilyn cadarnhad ei fod wedi ei heintio â TSE o'r farn fod yr iawndal sydd i'w dalu yn afresymol, yna gall y perchennog hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol a chael prisiad. Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn fod yr iawndal sydd i'w dalu i berchennog anifail a leddir wedi derbyn cadarnhad ei fod wedi ei heintio â TSE, gall gael prisiad. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu darpariaethau Rheoliadau TSE (Cymru) na chafodd eu dirymu gan Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006. Mae arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi ac wedi ei roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau gan yr Adran Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Notes: [1] 1972 p.68back [4] OJ Rhif L147, 31.5.2001, tud 1.back
ISBN 0 11 091357 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 23 June 2006 |