Rheoliadau Iawndal Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (BSE) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Iawndal Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (BSE) (Cymru) 2006, ISBN 0110913566. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud y Rheoliadau canlynol o dan y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[1]. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cael ei ddynodi at ddibenion yr adran honno mewn perthynas â mesurau ym meysydd milfeddygol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd[2]. Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Yr enw ar y Rheoliadau hyn fydd Rheoliadau Iawndal Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol (BSE) (Cymru) 2006, maent yn gymwys i Gymru ac yn dod i rym ar 14 Mehefin 2006. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn berthnasol i anifeiliaid a gedwir ar gyfer pwrpasau ymchwil mewn mangreoedd a gymeradwyir ar gyfer y pwrpas hynny o dan reoliadau Eneffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006[3]. Dehongli 2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn–
Iawndal am anifeiliaid buchol sy'n cael eu cigydda oherwydd TSE
(b) pan fo anifail i'w ladd o dan Atodlen 3 o Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006, a bod yr anifail wedi ei brisio ar gyfer pwrpasau iawndal, ond fod yr anifail yn marw (neu yn cael ei ladd am resymau eraill) wedi prisio; neu (c) lle bo anifail yn ddarostyngedig i gyfyngiad symud o dan Atodlen 3 o Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006 a bod yn rhaid ei ladd fel mater o frys, a bod milfeddyg wedi datgan yn ysgrifenedig y byddai'r anifail fel arall wedi bod yn addas i'w fwyta gan bobl yn unol â Phennod VI o Adran I o Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 o Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid[5], ac os felly yr iawndal yw gwerth y corff (gan gynnwys y gwaed a'r croen).
Swm yr iawndal sy'n daladwy
(b) yn achos unrhyw anifail buchol eraill, yn y mis blaenorol
(2) Anifail pedigri yw anifail sydd wedi cael tystysgrif pedigri gan sefydliad neu gymdeithas bridwyr sy'n cyflawni amodau Penderfyniad y Cyngor 84/247/EEC sy'n gosod y meini prawf ar gyfer cydnabod sefydliadau a chymdeithasau bridwyr sy'n cadw llyfrau buches ar gyfer anifeiliaid bridio pur o'r rhywogaeth buchol[6].
Eithriadau i'r swm o iawndal sydd yn daladwy 5. —(1) Lle bo'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn nad yw'r data i gyfrifo'r pris cyfartalog yn ddigonol, yna mae'n rhaid iddo dalu iawndal–
(b) pris y farchnad, am yr anifail unigol.
(2) Ar gyfer byfflo neu bison, yr iawndal yw pris y farchnad. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn darparu swm yr iawndal sydd yn daladwy pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn peri cigydda anifail buchol o dan Atodlen 3 o Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu mai swm yr iawndal sydd yn daladwy ar gigydda anifail buchol yw y pris cyfartalog a dalwyd ym Mhrydain Fawr ar gyfer oed a chategori yr anifail yn y chwe mis blaenorol yn achos anifail pedigri, ac ar gyfer unrhyw anifail buchol arall yn y mis blaenorol. Yr iawndal ar gyfer Byffalo a Buail yw pris y farchnad. Mae arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi ac wedi ei roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau gan yr Adran Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Notes: [1] 1972 p.68.back [4] O.S. 1998/871, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/2969 ac O.S. 1999/1339.back [5] OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22.back [6] OJ Rhif L125, 12.05.1984, t.58.back
ISBN 0 11 091356 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 23 June 2006 |