Rheoliadau Salmonela mewn Heidiau o Frwyliaid (Pwerau Arolygu) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Salmonela mewn Heidiau o Frwyliaid (Pwerau Arolygu) (Cymru) 2006, ISBN 0110913558. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1]at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo yn rhinwedd yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Salmonela mewn Heidiau o Frwyliaid (Pwerau Arolygu) (Cymru) 2006; maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 14 Mehefin 2006. Dehongli 2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn–
(2) Mae i ymadroddion a ddiffinnir ym Mhenderfyniad y Comisiwn yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn.
(b) nifer ac amserau cylchdroeon yr heidiau o frwyliaid ar y daliad; ac (c) math cynhyrchu'r brwyliaid ar y daliad.
(2) Mae unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.
(b) statws brechu'r brwyliaid ar y daliad yn erbyn Salmonela; ac (c) a yw cyffuriau gwrthficrobaidd wedi'u defnyddio.
(2) Yn ychwanegol at ei hawl o dan baragraff (1), caiff arolygydd fynd i mewn i unrhyw ddaliad er mwyn gorfodi'r Rheoliadau hyn.
(b) archwilio unrhyw gofnodion ar ba ffurf bynnag, gan gynnwys cofnodion cyfrifiadurol, a chymryd cop•au o'r cofnodion hynny; (c) holi unrhyw berson; ac (ch) cymryd gydag ef unrhyw berson, cerbyd neu gyfarpar y mae'n barnu ei bod yn angenrheidiol i roi'r Rheoliadau hyn ar waith neu i'w gorfodi.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr "arolygydd" yw unrhyw berson a benodir i fod yn arolygydd at ddibenion y Rheoliadau hyn gan y Cynulliad Cenedlaethol neu awdurdod lleol.
(b) heb esgus rhesymol, yn methu â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae'r person hwnnw yn rhesymol yn ei gwneud yn ofynnol iddo ei roi neu ei rhoi er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn; (c) yn rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw wybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol; neu (ch) yn methu, heb esgus rhesymol, â dangos cofnod, pan ofynnir iddo wneud hynny, i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith, yn euog o dramgwydd.
Y gosb
(b) unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath,
bydd ef, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu pŵer mynediad i arolygwyr i ymgymryd â'r samplu sy'n ofynnol o dan Benderfyniad y Comisiwn 2005/636/EC (ynghylch cyfraniad ariannol gan y Gymuned at arolwg gwaelodlin o ba mor gyffredin y mae Salmonela spp. mewn heidiau o frwyliaid Gallus gallus ac mae hwnnw'n arolwg sydd i'w gynnal yn yr Aelod-wladwriaethau) i ddarganfod pa mor gyffredin y mae Salmonela spp. mewn brwyliaid. Mae rheoliad 3 yn darparu bod y Cynulliad Cenedlaethol yn gyfrifol am ddethol daliadau i'w samplu at ddibenion Penderfyniad y Comisiwn. Mae Rheoliad 4 yn darparu bod rhaid i feddiannydd daliad neu'r person sydd â gofal dros ddaliad roi gwybodaeth, os gofynnir iddo wneud hynny, i'r Cynulliad Cenedlaethol er mwyn cynorthwyo'r Cynulliad Cenedlaethol i ddethol y daliadau sydd i'w cynnwys yn yr arolwg. Mae rheoliad 5 yn darparu pwerau amrywiol i arolygwyr, gan gynnwys pŵer mynediad a phŵer i gymryd samplau o ddeunydd ysgarthol, i archwilio cofnodion ac i holi unrhyw berson. Mae rheoliad 6 yn creu tramgwyddau am rwystro arolygydd rhag arfer ei bwerau o dan y Rheoliadau hyn ac mae rheoliad 7 yn nodi'r gosb sy'n gymwys. Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaethau o ran tramgwyddau gan gyrff corfforaethol. Mae rheoliad 9 yn darparu y gall y Rheoliadau hyn gael eu gorfodi gan yr awdurdod lleol. Mae arfarniad rheoliadol am yr effaith a gaiff yr offeryn hwn ar gostau busnes wedi'i baratoi a gellir cael cop•au gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. Notes: [1] O.S. 2005/2766.back [3] OJ Rhif L 228, 3.9.2005, t.14.back
ISBN 0 11 091355 8
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 21 June 2006 |