Gorchymyn Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 (Cychwyn) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 (Cychwyn) 2006, ISBN 0110913442. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 12 a 13 o Ddeddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006[1] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi a dehongli 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Trafnidiaeth (Cymru) 2006 (Cychwyn) 2006. (2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006. Y diwrnod penodedig 2. —(1) Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir ym mharagraff (2) isod i rym ar 26 Mai 2006. (2) Mae'r darpariaethau fel a ganlyn–
(b) Adran 2 (Strategaeth Drafnidiaeth Cymru) (c) Adran 3 a'r Atodlen (cynlluniau trafnidiaeth lleol) (ch) Adran 4 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau trafnidiaeth) (d) Adran 5 (cyd-awdurdodau trafnidiaeth) (dd) Adran 6 (cymorth ariannol: swyddogaethau trafnidiaeth lleol) (e) Adran 7 (darparu gwasanaethau trafnidiaeth cyhoeddus i deithwyr) (f) Adran 8 (Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru) (ff) Adran 9 (swyddogaethau'r Pwyllgor) (g) Adran 10 (canllawiau a chyfarwyddiadau i'r Pwyllgor) (ng) Adran 11 (cymorth ariannol: gwasanaethau trafnidiaeth awyr)
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 (p.6) ("y Ddeddf"). Cyfeiriadau at adrannau o'r Ddeddf neu at Atodlenni iddi yw cyfeiriadau at adrannau neu at Atodlenni. Effaith y Ddeddf yw darparu ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru bwerau ychwanegol ym maes trafnidiaeth a fydd, ynghyd â'i bwerau presennol, yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddatblygu a rhoi ar waith, ar y cyd ag awdurdodau lleol a chyrff eraill yng Nghymru, system drafnidiaeth ddiogel, integredig, effeithlon ac economaidd i wasanaethu Cymru. Mae adran 1 yn rhoi dyletswydd drafnidiaeth gyffredinol ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddatblygu polisïau ar gyfer gwasanaeth trafnidiaeth diogel, cynaliadwy ac effeithlon yng Nghymru, i gynnwys darpariaethau ar gyfer cerddwyr a seiclwyr. Mae adran 2 yn rhoi ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru y gofyniad am iddo gynhyrchu Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, sy'n rhoi manylion ei bolisïau trafnidiaeth, ac am iddo adolygu'r Strategaeth yn rheolaidd. Mae adran 3 yn deddfu'r Atodlen i'r Ddeddf. Mae'r Atodlen yn diwygio Rhan 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (p.38) sy'n ymwneud â chynlluniau trafnidiaeth lleol. Mae'r Atodlen yn gwneud y diwygiadau angenrheidiol er mwyn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau trafnidiaeth lleol yng Nghymru gynnwys yn eu cynlluniau trafnidiaeth lleol eu polisïau ar gyfer rhoi Strategaeth Drafnidiaeth Cymru ar waith yn eu hardaloedd. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau trafnidiaeth lleol yng Nghymru gyflwyno eu cynlluniau trafnidiaeth lleol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru er mwyn iddo eu cymeradwyo. Mae adran 4 yn rhoi pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gyfarwyddo dau neu fwy o awdurdodau lleol yng Nghymru i ymrwymo i drefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau trafnidiaeth ar y cyd. Mae adran 5 yn rhoi pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sefydlu, drwy Orchymyn, gyd-awdurdodau trafnidiaeth, a fyddai'n gyrff corfforaethol, i alluogi awdurdodau lleol i gyflawni swyddogaethau trafnidiaeth ar y cyd o fewn eu hardaloedd. Mae adran 6 yn rhoi pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i roi cymorth ariannol i gyd-awdurdodau trafnidiaeth ac i awdurdodau lleol i'w cynorthwyo i gyflawni eu swyddogaethau trafnidiaeth. Mae adran 7 yn rhoi pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sicrhau bod unrhyw wasanaeth trafnidiaeth cyhoeddus i deithwyr yn cael ei ddarparu at ddiben bodloni gofynion trafnidiaeth gyhoeddus na fyddent yn cael eu bodloni fel arall. Mae adran 8 yn rhoi pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sefydlu Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru. Mae adran 9 yn darparu manylion ynghylch swyddogaethau Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru. Mae adran 10 yn rhoi pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddyroddi canllawiau a chyfarwyddiadau i Bwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru ynghylch sut y dylai gyflawni ei swyddogaethau. Mae adran 11 yn rhoi pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i roi cymorth ariannol i wasanaethau trafnidiaeth awyr yng Nghymru mewn amgylchiadau pan na fyddai'r gwasanaethau yn cael eu darparu ac eithrio gyda'r cymorth hwn. Notes: [1] 2006 p.5back
ISBN 0 11 091344 2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 1 June 2006 |