Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig, Ardaloedd Cadwraeth a Sylweddau Peryglus) (Diwygiadau sy'n ymwneud â Thir y Goron) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig, Ardaloedd Cadwraeth a Sylweddau Peryglus) (Diwygiadau sy'n ymwneud â Thir y Goron) (Cymru) 2006, ISBN 0110913515. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 82B(8) a 93 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990[1] a chan adran 30B(2), (3) ac (8)(b) o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn[3]: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig, Ardaloedd Cadwraeth a Sylweddau Peryglus) (Diwygiadau sy'n ymwneud â Thir y Goron) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 7 Mehefin 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Diwygio Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 2. —(1) Diwygir Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990[4]fel a ganlyn. (2) Ar ôl rheoliad 5A (cyhoeddusrwydd ar gyfer ceisiadau sy'n effeithio ar osodiad adeiladau rhestredig) mewnosoder–
5B. —(1) Subject to paragraph (2), where an application under section 82B(2)[5](urgent works relating to Crown development) of the Act is made to the National Assembly in respect of any building the National Assembly must–
(ii) naming a place within the locality where a copy of the application, and of all plans and other documents submitted with it, will be open to inspection by the public at all reasonable hours during the period of 21 days beginning with the date of publication of the notice, and (iii) stating the address of the website where a copy of the application, and of all plans and other documents submitted with it, will be open to inspection by the public during that period, together with the place on the website where such documents may be accessed, and how they may be accessed, and
(b) for not less than 7 days display on or near the said building a notice containing the same particulars as are required to be contained in the notice to be published in accordance with sub-paragraph (a).
(2) Paragraph (1) does not apply to any application for listed building consent to carry out works affecting only the interior of a Grade II (unstarred) listed building which when last notified to the authority by the National Assembly as a building of special architectural or historic interest was classified as a Grade II (unstarred) listed building.".
Diwygio Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1992
(b) yn y nodiadau i Ran 2, ar ôl "1999"yn nodyn (c) mewnosoder "or, in the case of applications for deemed consent under section 30B, 7 Mehefin 2006"; ac (c) yn y nodyn i Ran 5, ar ôl "section 11(7)"mewnosoder ", or, as the case may be, section 30B(8)".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn addasu darpariaethau a geir mewn dwy set o Reoliadau i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny yn ymwneud â chaniatâd adeilad rhestredig, ardal gadwraeth neu sylweddau peryglus ac y mae a wnelont â thir y Goron. Diwygiodd adran 83 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ("Deddf 2004") Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 drwy fewnosod adran 82B newydd ynddi. Mae hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer ceisiadau brys am waith ar adeiladau ar dir y Goron sy'n rhestredig neu sydd mewn ardaloedd cadwraeth ac yn darparu i geisiadau o'r fath gael eu gwneud yn uniongyrchol i'r Ysgrifennydd Gwladol. Mae adran 82B(8) yn gosod dyletswydd ar yr Ysgrifennydd Gwladol i roi cyhoeddusrwydd i'r cais yn unol ag unrhyw ofynion a ragnodwyd. Yn unol â hyn, mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (O.S. 1990/1519) i ragnodi'r gofynion hynny i roi cyhoeddusrwydd (rheoliad 2). Diwygiodd adran 79 o Ddeddf 2004 Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 drwy fewnosod adran 30B newydd. Mae'r adran honno, o ran darpariaeth drosiannol, yn barnu bod caniatâd sylweddau peryglus wedi cael ei roi mewn perthynas â sylweddau peryglus sy'n bresennol ar dir y Goron cyn y dyddiad y mae Rhan 7 o Ddeddf 2004 (sy'n cymhwyso'r Deddfau Cynllunio i'r Goron) yn cael ei chychwyn. Mae adran 30B yn ei gwneud yn ofynnol i gais gael ei wneud am yr hyn a fernir yn ganiatâd sylweddau peryglus yn y ffurf ragnodedig a chan gynnwys yr wybodaeth ragnodedig. Mae hefyd yn darparu y gall yr hyn a fernir yn ganiatâd fod yn ddarostyngedig i amodau penodol — gan gynnwys unrhyw amod sy'n rhagnodedig. Yn unol â hynny, mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1992 (O.S. 1992/656) er mwyn rhagnodi ffurf a chynnwys y cais a'r amodau y bydd yr hyn a fernir yn ganiatâd yn ddarostyngedig iddynt (rheoliad 3). Yn rhinwedd erthygl 3 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672), ynghyd ag adran 118(3) o Ddeddf 2004, mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol yn y materion hyn bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Ni luniwyd asesiad effaith reoleiddiol lawn ar gyfer yr offeryn hwn, gan nad yw'r offeryn yn effeithio o gwbl ar gostau busnesau, elusennau, cyrff gwirfoddol na'r sector cyhoeddus. Notes: [1] 1990 p. 9. Mewnosodwyd adran 82B gan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5), adran 83(1). Gweler adran 91 i gael ystyr "prescribed".back [2] 1990 p.10. Mewnosodwyd adran 30B gan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, adran 79(3). Gweler adran 39(2) i gael ystyr "prescribed".back [3] Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 i"r graddau yr maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 ac Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y"u hestynnwyd gan adran 118(3) o Ddeddf 2004.back [5] Mewnosodwyd adran 82B gan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5), adran 83(1).back [6] O.S. 1992/656. Gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 1999/981.back
ISBN 0 11 091351 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 20 June 2006 |