Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2006, ISBN 0110913469. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin Y Gymuned Ewropeaidd. Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn– Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2006; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 31 Mai 2006. Diwygiadau i Reoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2005 2. —(1) Diwygir Reoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2005[3]yn unol â pharagraff (2). (2) Ar ôl paragraff 20 yn Rhan VIII o Atodlen 1 mewnosoder–
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rhan VIII o Atodlen 1 i Reoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/666) ("Rheoliadau 2005"). Mae Rheoliadau 2005 yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC sy'n gosod yr egwyddorion sy'n llywodraethu trefniadaeth gwiriadau milfeddygol ar gynhyrchion sy'n dod i'r Gymuned o drydydd gwledydd (OJ Rhif L24, 30.1.98, t.9). Diwygir Rhan VIII o Atodlen 1 er mwyn rhoi effaith i'r cyfyngiadau ar fewnforio cynhyrchion sy'n deillio o adar a geir ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2006/7/EC, sy'n ymwneud â mesurau gwarchod penodol mewn perthynas â mewnforio plu o drydydd gwledydd penodol (OJ Rhif L5, 10.01.2006, t.17) fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2006/183/EC (OJ Rhif L65, 7.3.2006, t.49). Mewnosodir cyfeiriadau at Benderfyniad y Comisiwn 2006/7/EC (fel y'i diwygiwyd) ym mharagraff 21 o Ran VIII o Atodlen 1. Mae Atodlen 1 i Reoliadau 2005 yn rhestru offerynnau'r Gymuned sy'n gosod amodau ar gyfer mewnforio cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid i'r Gymuned. Mae Rheoliad 15 o Reoliadau 2005 yn gwahardd dod â chynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid i Gymru os nad ydynt yn cydymffurfio â'r amodau mewnforio hyn. Ni chafodd Arfarniad Rheoliadol ei baratoi ar gyfer y rheoliadau hyn. Notes: [1] O.S. 2005/2766.back [3] O.S. 2005/666 (Cy.56).back
ISBN 0 11 091346 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 6 June 2006 |