Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled 'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael ir cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2006, ISBN 0110913507. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 3(3D), 4(2)(ba) a (d), 4A, 14(3) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 31 Mai 2006. Diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000 2. Mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000[3]yn cael eu diwygio fel a ganlyn–
4A. —(1) Nid yw'r Cyngor i gymryd bod unrhyw berson yn addas i fod yn athro neu'n athrawes os yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr wedi gwrthod cais am i'r person gael ei gofrestru a hynny am y rheswm nad oedd Cyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr yn fodlon ei fod yn addas i fod yn athro neu'n athrawes o dan adran 3(3B) o Ddeddf 1998[5]. (2) Rhaid i'r Cyngor gymryd bod unrhyw berson yn addas i fod yn athro neu athrawes os yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr wedi ei gofrestru a bod Cyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr ar adeg cofrestru'r person yn fodlon ei fod yn addas i fod yn athro neu'n athrawes o dan adran 3(3B) o Ddeddf 1998. Hysbysu o'r penderfyniad 4B. —(1) Rhaid i'r Cyngor gyflwyno i'r sawl sy'n gwneud cais am gael ei gofrestru hysbysiad o'i benderfyniad i ganiatáu neu i wrthod y cais. (2) Os gwrthodir y cais cofrestru, rhaid i'r hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) nodi ar ba sail y gwnaed y penderfyniad, ac os sail gwrthod y cais oedd nad oedd y Cyngor yn fodlon bod y ceisydd yn addas i fod yn athro neu'n athrawes rhaid iddo hysbysu'r ceisydd o'i hawl i apelio i'r Uchel Lys yn erbyn y penderfyniad a wnaed, ac o beth yw'r cyfnod o amser ar gyfer gwneud apl o'r fath. Apelau 4C. Mae gan unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad i wrthod cais am gofrestru a wnaed mewn perthynas ag ef ar y sail nad oedd y Cyngor yn fodlon bod y ceisydd yn addas i fod yn athro neu'n athrawes yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i'r Uchel Lys o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y cyflwynwyd iddo hysbysiad o'r penderfyniad. Cyflwyno Hysbysiadau 4CH. —(1) Caniateir i hysbysiad y mae'n ofynnol ei gyflwyno i berson o dan reoliad 4B–
(ii) cael ei anfon drwy'r post at y person hwnnw i'r cyfeiriad a roddwyd i'r Cyngor gan y person; neu (ii) cael ei anfon ato ar ffurf ffacsimili neu bost electronig neu drwy ddull tebyg sy'n caniatáu cynhyrchu dogfen sy'n cynnwys testun yr ohebiaeth, os yw'r person hwnnw'n gwneud cais ysgrifenedig i ddogfennau gael eu cyflwyno iddo drwy'r cyfryw ddull, ac os felly bernir bod y ddogfen wedi'i hanfon pan yw'n dod i law'r person hwnnw ar ffurf ddarllenadwy.
(2) At ddibenion rheoliad 4C cymerir bod hysbysiad o benderfyniad y Cyngor wedi'i gyflwyno i'r person y cafodd yr hysbysiad ei wneud mewn perthynas ag ef–
(ii) os cafodd ei anfon at y person hwnnw i'r cyfeiriad a roddodd y person i'r Cyngor, a hynny drwy wasanaeth post sy'n ceisio traddodi dogfennau drwy'r post erbyn y diwrnod gwaith nesaf fan bellaf ym mhob achos neu yn y mwyafrif o achosion, neu os cafodd ei adael yn y cyfeiriad hwnnw, ar yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y'i hanfonwyd neu y'i gadawyd; (iii) os cafodd ei anfon at y person hwnnw i'r cyfeiriad a roddodd y person i'r Cyngor drwy wasanaeth post ac eithrio un sy'n ceisio traddodi dogfennau drwy'r post erbyn y diwrnod gwaith nesaf fan bellaf ym mhob achos neu yn y mwyafrif o achosion, ar y pedwerydd diwrnod ar ôl y diwrnod y'i hanfonwyd; neu (iv) os y'i cyflwynwyd yn unol â chais o dan baragraff (1)(iii), ar yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y'i hanfonwyd."; ac
(c) yn Atodlen 1, o flaen paragraff 1 mewnosoder–
(d) ar ôl paragraff 11 o Atodlen 2 mewnosoder y paragraff canlynol–
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Deddf Addysg 2002 yn cyflwyno gofyniad am i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ("y Cyngor") benderfynu a yw'r sawl sy'n gwneud cais am gael ei gofrestru gyda'r Cyngor yn addas i fod yn athro neu'n athrawes. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000 ("Rheoliadau 2000") sydd yn ddiwygiadau a wneir yn bennaf yn sgil y gofyniad newydd hwn. Maent yn darparu ar gyfer cymhwyso gan y Cyngor benderfyniadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr mewn perthynas â pha mor addas yw person i fod yn athro neu athrawes. Maent yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor anfon at bob un sy'n gwneud cais am gael ei gofrestru hysbysiad o benderfyniad y Cyngor i gofrestru'r ceisydd neu i beidio â'i gofrestru. Os yw'r Cyngor yn gwrthod cofrestru ceisydd, bydd yr hysbysiad yn esbonio sail y penderfyniad a'r hawl i apelio. Mae'r diwygiadau yn rhoi hawl i apelio i'r Uchel Lys i unrhyw berson y gwrthodwyd ei gofrestru ar sail addasrwydd. Mae'r diwygiadau hefyd yn darparu ar gyfer rhoi i gyflogwyr ac i Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban a Chyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon wybodaeth ynghylch penderfyniadau ar addasrwydd. Bydd yr wybodaeth yn cynnwys ym mha le y mae'r person wedi'i gofrestru, y dyddiad y'i cofrestrwyd (sef y dyddiad y penderfynodd y Cyngor fod y person yn addas i fod yn athro neu'n athrawes), os bydd y Cyngor yn penderfynu nad oedd yn berson addas, y ffaith honno, ac os rhoddir yr wybodaeth i Gyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban a Chyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon, fanylion ynghylch sail y penderfyniad. Dim ond diweddaru'r cyfeiriad at y rheoliadau sy'n diffinio "corff priodol" sef y rheoliadau a adwaenir bellach fel Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005 a wna'r diwygiad a wneir (gan reoliad 2(a)) i reoliad 2 o Reoliadau 2000. Notes: [1] 1998 p.30. Mae adrannau 2 i 7 yn gymwys mewn perthynas â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adran 9. Mewnosodwyd adrannau 3(3D), 4(2)(ba) a 4A gan baragraffau 3(5), 4(2) a 5 yn y drefn honno o Atodlen 12 i Ddeddf Addysg 2002 (p.32). Diwygiwyd adran 4(3) gan baragraff 77 o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002 (p.32.). I weld ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 43(1).back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 211 o Ddeddf Addysg 2002 (p.32).back [3] O.S. 2000/1979 (Cy. 140) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/2496 (Cy.200), O.S. 2004/1741 ac O.S. 2005/69.back [4] O.S. 2005/1818(Cy.146).back [5] Mewnosodwyd adran 3(3B) o Ddeddf 1998 gan baragraff 3(5) o Ddeddf Addysg 2002 (p.32).back
ISBN 0 11 091350 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 19 June 2006 |