Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2006, ISBN 0110913485. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 7(1) a (4) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau o'r farn y gall Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, o ystyried ei amcanion cyffredinol, gyflawni'n briodol y swyddogaethau ychwanegol a roddir drwy hyn ar ôl cyflawni unrhyw ymgynghori y mae o'r farn ei fod yn briodol, yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi a chychwyn 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2006 a daw i rym ar 31 Mai 2006. Diwygio Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000 2. Mae Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000[3]yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn—
(b) yn Rhan II o'r Atodlen, ar ôl paragraff 20, mewnosoder—
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000. Mae'r Gorchymyn hwnnw'n ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ("y Cyngor") gadw cofnodion mewn perthynas â chategorïau penodedig o bersonau. Mae'r Gorchymyn hwn yn ychwanegu at y categorïau hynny bersonau sy'n anghymwys i'w cofrestru oherwydd nad yw'r Cyngor yn fodlon eu bod yn addas i fod yn athrawon. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor gynnwys manylion yn ei gofnodion yn nodi ar ba sail y penderfynwyd nad yw person yn addas i fod yn athro neu'n athrawes. Notes: [1] 1998 p.30. Mae'r darpariaethau perthnasol yn gymwys o ran Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adrannau 8 a 9 o'r Ddeddf a Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 (O.S. 1998/2911).back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 2000/1941 (Cy.139), a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/2497 (Cy.201) ac O.S. 2005/68 (Cy.6).back [4] Mewnosodwyd adran 3(3B) o Ddeddf 1998 gan baragraff 3(5) o Atodlen 12 i Ddeddf Addysg 2002 (p.32).back
ISBN 0 11 091348 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 9 June 2006 |