Gorchymyn Deddf Addysg 2005 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Addysg 2005 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2006, ISBN 0110913388. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 120(2) a 125(4) o Ddeddf Addysg 2005[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi a dehongli 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2005 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2006. 2. —(1) Yn y Gorchymyn hwn–
(2) Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf 2005 ac at Atodlenni iddi.
1. Mae paragraffau 2 i 5 o'r Atodlen hon yn gymwys er i adran 60 (Diddymu Deddf 1996) gael ei dwyn i rym gan erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn. 2. Pan fo'r adroddiad diweddaraf ar arolygiad ysgol wedi'i wneud o dan Ddeddf 1996 a phan fo'r adroddiad hwnnw wedi nodi bod gofyn cymryd camau arbennig mewn perthynas â'r ysgol, mae'r adroddiad hwnnw i'w drin yn adroddiad ar arolygiad a nododd fod gofyn cymryd camau arbennig o dan Ran 1 o Ddeddf 2005 at ddibenion–
(b) adrannau 14 i 19 o Ddeddf 1998 (ymyrryd mewn ysgolion sy'n peri pryder).
3.
Pan fo'r adroddiad diweddaraf ar arolygiad o ysgol yn un a wnaed o dan y Ddeddf honno ac a nododd fod gan yr ysgol wendidau difrifol, mae'r adroddiad hwnnw i'w drin yn adroddiad ar arolygiad a nododd fod yr ysgol yn un yr oedd gofyn ei gwella'n sylweddol o dan Ran 1 o Ddeddf 2005 at ddibenion–
(b) adrannau 14 i 19 o Ddeddf 1998.
4.
Pan fo'r adroddiad diweddaraf ar arolygiad ysgol yn un a wnaed o dan Ddeddf 1996 ac a nododd fod gan yr ysgol ddosbarth chwech diffygiol, mae'r adroddiad hwnnw i'w drin yn adroddiad arolygiad a nododd fod gofyn gwella sylweddol ar ddosbarth chwech yr ysgol at ddibenion adran 113 o Ddeddf 2000 ac Atodlen 7 iddi (fel y'i diwygiwyd gan adran 46 o Ddeddf 2005 ac Atodlen 5 iddi). (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Dyma'r gorchymyn cychwyn cyntaf o dan Ddeddf Addysg 2005 ("Deddf 2005") i gael ei wneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'n dwyn i rym holl ddarpariaethau Deddf 2005 sy'n gofyn am orchymyn gan y Cynulliad Cenedlaethol i'w dwyn i rym, ac eithrio adran 101 ac Atodlen 16 (a diwygiadau canlyniadol perthynol a diddymiadau yn Atodlenni 18 a 19) ynghylch ariannu ysgolion a gynhelir, ac adran 70 (a diwygiad canlyniadol perthynol yn Atodlen 12) ynghylch cynigion i gau ysgolion cynradd gwledig. Er hynny, dygir adrannau 41 a 42 i rym yn unig wrth eu cymhwyso i ysgolion arbennig o'r math y cyfeirir ato yn adran 28(2)(d). Ar wahân i ddarpariaethau sy'n ymwneud â gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru ac a ddygir i rym gan y Gorchymyn ar 1 Ebrill 2007 (gweler Atodlen 3), dygir y darpariaethau a ddygir i rym gan y Gorchymyn i rym ar 1 Medi 2006 (gweler Atodlenni 1 a 2). Dygir y darpariaethau a restrir yn Atodlen 1 i rym o ran Cymru yn unig. Am resymau technegol, mae'r rhai a restrir yn Atodlenni 2 a 3 yn cael eu dwyn i rym o ran Cymru a Lloegr, ond at ddibenion ymarferol, nid ydynt yn gymwys yn Lloegr. Mae disgrifiad cryno isod o'r darpariaethau a ddygir i rym gan y Gorchymyn. Yn yr hyn a ganlyn, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf 2005 ac at Atodlenni iddi. Darpariaethau yn Rhan 1 a ddygir i rym gan y Gorchymyn Gan mwyaf, mae darpariaethau ar wahân (a gwahanol) yn gymwys i Gymru i'r rhai sy'n gymwys i Loegr. Mae penodau 1 a 2 o Ran 1 o Ddeddf 2005, a ddaeth i rym pan gafwyd y Cydsyniad Brenhinol (7 Ebrill 2005) yn ddarpariaethau newydd nad ydynt yn gymwys ond i Loegr. O ran Lloegr, maent yn disodli'r gyfraith sy'n ymwneud ag arolygiadau ysgolion yn Neddf Arolygiadau Ysgolion 1966 ("Deddf 1996"). Yn rhinwedd adran 62 gellir cyflwyno system debyg i Gymru os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu gwneud hynny ac ar adeg y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei phenderfynu. Yn y cyfamser, mae darpariaethau Rhan 1 (gan gynnwys Atodlenni 1 - 9) a ddygir i rym gan y Gorchymyn hwn gan mwyaf yn ailddeddfu Deddf 1996 fel y mae'n gymwys i Gymru. Diddymir y Ddeddf honno yn ei chyfanrwydd gan adran 60. Ar wahân i'r darpariaethau a ailddeddfir, mae'r darpariaethau a ddygir i rym gan y Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer arolygu'r gwasanaethau gyrfaoedd, ac yn gwneud rhai diwygiadau (diwygiadau canlyniadol at ei gilydd) i amrywiol ddeddfiadau sy'n ymwneud ag arolygiadau (gan gynnwys deddfiadau sy'n ymwneud ag arolygu dosbarthiadau chwech; gwarchod plant, gofal dydd ac addysg feithrin; ac ysgolion annibynnol) - Atodlenni 5 i 9. Ymhlith y newidiadau sylweddol y mae– • darpariaeth newydd ar gyfer arolygu gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru (adrannau 55 - 57) • pwerau i'r Cynulliad Cenedlaethol i roi cyngor ar benodi neu ddiswyddo Prif Arolygydd Cymru, ac i sefydlu bwrdd cynghori i roi cyngor ynghylch swyddogaethau'r Prif Arolygydd (adrannau 19 a 22) • newidiadau yn y ddarpariaeth ar gyfer ysgolion sy'n peri pryder; yn enwedig, yn y ffordd y mae'r ysgolion hynny i'w categoreiddio mewn adroddiadau arolygu (Pennod 5 o Ran 1) • O ran arolygiadau o addysg grefyddol, mae gofyniad newydd i ysgolion eglwysig ymgynghori â phersonau a bennir mewn rheoliadau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol cyn dewis arolygydd (adran 50) • darpariaeth newydd sy'n galluogi gwneud adroddiadau cyfunol o ran arolygiadau a wneir o dan Ddeddf 2005 ac amryw o ddeddfiadau eraill sy'n ymwneud ag addysg a phlant (adran 59) Darpariaethau yn Rhannau 2 a 4 a ddygir i rym gan y Gorchymyn Mae adran 71 yn diwygio adran 31 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 i wneud ymgynghori yn ofynnol o ran cynigion penodol sy'n ymwneud ag ysgol arbennig a gynhelir. Mae adran 73 yn diffinio termau a ddefnyddir yn Rhan 2. Mae adran 105 yn mewnosod adran 28A newydd yn Neddf Addysg 2002 sy'n rhoi pwerau cyfyngedig i ysgolion a gynhelir gynnig cyrsiau addysg uwch i'w disgyblion. Mae adran 106 yn mewnosod adran 89(1A) newydd yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ynghylch trefniadau derbyn ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Mae adran 115 yn diwygio adran 29(3) o Ddeddf Addysg 2002 (ynghylch pŵer corff llywodraethu ysgol i gyfarwyddo disgyblion i fynychu darpariaeth addysgol amgen). Mae adran 116 yn mewnosod adran newydd 444ZA yn Neddf Addysg 1996 ynghylch methiant â sicrhau bod disgyblion yn mynychu'r ysgol a hysbysiadau cosb. Mae adran 117 yn cyflwyno Atodlen 18 sy'n diwygio amryw o ddeddfiadau. Mae adran 118 yn diffinio "the 2002 Act" at ddibenion Rhan 4. Mae adran 123 yn cyflwyno Atodlen 19 (Diddymu). Darpariaethau trosiannol ac arbedion Mae Atodlen 4 yn cynnwys darpariaethu trosiannol ac arbedion. Notes: [1] 2005 p.18.back
ISBN 0 11 091338 8
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 23 May 2006 |