Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.
Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.
Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.
Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 10 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2006, ISBN 0110913477. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.
I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 1336 (Cy.129) (C.44)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 10 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2006
Wedi'i wneud
16 Mai 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adran 216(4)(b) a (5) o Ddeddf Addysg 2002[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a dehongli 1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 10 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2006.
2.
Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym o ran Cymru.
3.
Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlenni iddi.
Y diwrnod penodedig 4.
—(1) 31 Mai 2006 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
(2) Mae Rhan 2 o'r Atodlen honno (Darpariaeth drosiannol) yn gymwys.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2].
Adran 148, i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 12 isod
Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru a'r General Teaching Council for England
Yn Atodlen 12, Rhan 1, paragraff 3(1), paragraff 3(5) i'r graddau y mae'n mewnosod is-adrannau (3B) a (3D) o adran 3 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, a pharagraff 4(2) a (5).
Diwygiadau i Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998
Rhan
2
Darpariaeth drosiannol
Hyd oni chaiff paragraff 3(5) o Atodlen 12 ei ddwyn i rym yn llawn o ran Cymru, mae adran newydd 3(3B) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (y caiff ei mewnosod gan baragraff 3(5) o Atodlen 12 ei ddwyn i rym gan y Gorchymyn hwn) i gael effaith fel pe byddai'r geiriau "provisional registration or full" wedi'u hepgor, ac fel pe byddid wedi rhoi yn lle'r geiriau "relevant time" y geiriau "time of registration".
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym (ar 31 Mai 2006), o ran Cymru, ddarpariaethau Atodlen 12 i Ddeddf Addysg 2002 a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn. Mae Atodlen 12 yn diwygio adrannau 3 a 4 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998. Mae'r adrannau hynny'n gymwys i'r General Teaching Council for England ac, yn rhinwedd adran 9 o'r Ddeddf honno, i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru. Prif effaith y diwygiadau a gaiff eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yw y bydd Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, wrth ystyried cais cofrestru, yn gallu gwrthod y cais os nad yw'n fodlon bod y rhai sy'n gwneud cais am gael eu cofrestru yn addas i fod yn athrawon. Mae'r darpariaethau y daethpwyd â hwy i rym hefyd-
• yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru y pŵer i wneud rheoliadau ar yr amod bod, neu nad yw, unrhyw ddisgrifiad a ragnodwyd o bersonau yn eu gwneud yn bersonau addas i fod yn athrawon;
• yn galluogi'r cyfryw reoliadau i ddarparu bod gan y rhai sy'n gwneud cais am gael eu cofrestru gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ac y mae eu ceisiadau'n cael eu gwrthod yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniad y Cyngor;
• yn galluogi'r cyfryw reoliadau i ddarparu yr hysbysir y rhai sy'n gwneud cais am gael eu cofrestru gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru o benderfyniad y Cyngor ac o'u hawl i apelio.
NODYN AM ORCHMYNION CYCHWYN BLAENOROL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym o ran Cymru gan orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Atodlen 13, paragraffau 1 i 3, 5, 6, 7(1) a (3) ac 8
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 14, paragraffau 1 i 7
1 Medi 2004
2004/1728 (Cy.172)
Atodlen 16, paragraffau 1 i 3
1 Rhagfyr 2003
2003/2961 (Cy.278)
Paragraffau 4 i 9
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 17, paragraffau 5(1) i (4), (6) a 6 i 8
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 18, paragraffau 1, 4, 5 a 7,
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Paragraff 8 (yn rhannol),
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Paragraffau 13 i 15,
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Paragraffau 2, 3, 6, 8 (yn llawn), 9 i 12 ac 16 i 18
1 Medi 2003
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 19
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
Atodlen 20
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
Atodlen 21 (yn rhannol)
1 Hydref 2002
2002/2439
(yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)
1 Awst 2003
2003/1667
(yn rhannol)
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
(yn rhannol)
4 Rhagfyr 2003
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
1 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
9 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
31 Mawrth 2004
2004/912 (Cy.95)
(yn rhannol)
1 Awst 2004
2004/1728 (Cy.172)
(yn rhannol)
1 Medi 2004
2004/1728 (Cy.172)
(yn rhannol)
31 Mai 2005
2005/1395 (Cy.109)
(yn rhannol)
31 Hydref 2005
2005/2910 (Cy.207)
(yn rhannol)
9 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 22 (yn rhannol)
1 Hydref 2002
2002/2439
(yn rhannol)
9 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)
1 Awst 2003
2003/1718 (Cy.185)
(yn rhannol)
1 Medi 2003
2002/3185 (Cy.301), 2003/1718 (Cy.185) a 2003/1667
(yn rhannol)
4 Rhagfyr 2003
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
1 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
9 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
31 Mawrth 2004
2004/912 (Cy.95)
(yn rhannol)
1 Awst 2004
2004/912 (Cy.95)
(yn rhannol)
1 Medi 2004
2004/1728 (Cy.172)
(yn rhannol)
31 Mai 2005
2005/1395 (Cy.109)
(yn rhannol)
31 Hydref 2005
2005/2910 (Cy.207)
(yn rhannol)
1 Ebrill 2006
2006/879 (Cy.84)
Mae amryw o ddarpariaethau Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym o ran Lloegr gan yr Offerynnau Statudol a ganlyn: O.S. 2002/2002 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2018), O.S. 2002/2439 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/606 (wedi'i ddirymu) a 2003/2992), O.S. 2002/2952, O.S. 2003/124, O.S. 2003/1115, O.S. 2003/1667, O.S. 2003/2071 ac O.S. 2004/1318.