Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru) (Datgymhwyso Gwyddoniaeth yng Nghyfnod Allweddol 4) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru) (Datgymhwyso Gwyddoniaeth yng Nghyfnod Allweddol 4) 2006, ISBN 0110913419. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 112 a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002[1], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru) (Datgymhwyso Gwyddoniaeth yng Nghyfnod Allweddol 4) 2006 a deuant i rym ar 1 Awst 2006. (2) Maent yn gymwys i ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn unig. Dehongli 2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn–
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at ofynion Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru ar gyfer gwyddoniaeth yn y pedwerydd cyfnod allweddol yn gyfeiriadau at ofynion adran 106(1) o Ddeddf 2002 i'r graddau y maent yn gymwys i wyddoniaeth[4].
(b) os yw'r cymhwyster yn gymhwyster mewn gwyddoniaeth yn yr NQF ar y lefel mynediad, ar lefel 1 neu ar lefel 2.
Dyddiad Dod i Ben y Rheoliadau (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddisgyblion yng nghyfnod allweddol 4 (sef, yn fras, disgyblion 14 – 16 oed) sy'n mynychu ysgolion cymunedol, ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol, ac ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion arbennig sefydledig (ac eithrio ysgolion a gynhelir mewn ysbytai) yng Nghymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn datgymhwyso gofynion Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru ar gyfer gwyddoniaeth mewn perthynas â disgybl os yw pennaeth yr ysgol wedi'i fodloni bod y disgybl yn dilyn cwrs sy'n arwain at gymhwyster allanol a gymeradwywyd o dan y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol ar lefel mynediad, ar lefel 1 neu ar lefel 2. Y gofynion a ddatgymhwysir yw'r rhai a bennir yn adran 106 o Ddeddf Addysg 2002, sy'n darparu bod y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer cyfnod allweddol 4 i gynnwys gwyddoniaeth (ymhlith pynciau eraill) a'i fod i bennu targedau cyrhaeddiad, rhaglenni astudio a threfniadau asesu ar gyfer y pwnc hwnnw. Mae'r targedau cyrhaeddiad a'r rhaglenni astudio ar gyfer gwyddoniaeth wedi'u cynnwys ar hyn o bryd mewn Dogfen o'r enw ‘Science in the National Curriculum' (ISBN 07504 24028), y mae cop•au ohoni ar gael o The Stationery Office Limited. Nid oes unrhyw drefniadau asesu. Mae'r datgymhwyso yn gymwys am gyfnod cyfyngedig o 2 flynedd (sy'n dod i ben ar ddiwedd Gorffennaf 2008). Notes: [1] 2002 p.32. ystyr ‘Regulations' (o ran Cymru) yw rheoliadau sy'n cael eu gwneud gan y Cynulliad Cenedlaethol; gweler adran 212(1).back [2] Gweler adran 27 o Ddeddf Addysg 1997, p.44. Gweler O.S. 2005/3239 ynghylch diddymu ACCAC a throsglwyddo ei swyddogaethau i'r Cynulliad Cenedlaethol.back [3] Gweler O.S. 2005/3239 ynghylch diddymu ACCAC a throsglwyddo ei swyddogaethau i'r Cynulliad Cenedlaethol. Yr awdurdodau cyfatebol yw Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm (Lloegr) a'r Cyngor dros Gwricwlwm, Arholiadau ac Asesu (Gogledd Iwerddon). Rhestrir y cymwysterau yn ôl categori a lefel. Gellir gweld y Fframwaith ar www.qca.org.uk.back [4] Mae'r targedau cyrhaeddiad a'r rhaglenni astudio cyfredol wedi'u nodi yn y Ddogfen ‘Science in the National Curriculum' (ISBN 07504 24028), sydd ar gael o The Stationery Office Limited. Nid oes unrhyw drefniadau asesu.back
ISBN 0 11 091341 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 23 May 2006 |