Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Troisannol) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Troisannol) (Cymru) 2006, ISBN 0110913353. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 103(3), (4) a (5) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("Deddf 2000")[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi, cymhwyso a dehongli 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2006. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru. (3) Yn y Gorchymyn hwn–
Y diwrnod penodedig
(b) adran 48 (hawliau cilffyrdd cyfyngedig); (c) adran 49 (darpariaethau atodol at adrannau 47 a 48); (ch) adran 50 (hawliau preifat dros gilffyrdd cyfyngedig); (d) adran 51 (diwygiadau sy'n ymwneud â mapiau a datganiadau diffiniol a chilffyrdd cyfyngedig) i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r darpariaethau yn Atodlen 5 y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (dd) ac (e) isod; (dd) yn Rhan I–
(ii) paragraff 5 (dim arolygon nac adolygiadau pellach o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad at Gefn Gwlad 1949); (iii) paragraff 6 (effaith map a datganiad diffiniol); (iv) paragraff 9 (dehongli Rhan III);
(e) Rhan II;
Darpariaethau trosiannol (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol Rhan II o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("Deddf 2000") ar 11 Mai 2006 o ran Cymru. Mae adrannau 47 i 50 o Ddeddf 2000 yn rhoi i'r cyhoedd hawliau cilffyrdd cyfyngedig o ran ‘ffyrdd a ddefnyddir yn llwybrau cyhoeddus' ("FfDdLlCau") sydd i'w hadnabod yn lle hynny fel cilffyrdd cyfyngedig. Hawliau cilffyrdd cyfyngedig yw hawl tramwy ar droed, hawl tramwy ar gefn ceffyl neu'n tywys ceffyl, a hawl tramwy ar gyfer cerbydau nad ydynt yn gerbydau a yrrir yn fecanyddol. Nid yw rhoi hawliau cilffyrdd cyfyngedig yn nacáu bodolaeth hawl tramwy ar gyfer cerbydau a yrrir yn fecanyddol nac unrhyw hawl arall (erthygl 2). O dan adrannau 53 a 54 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p.69) ("Deddf 1981") mae'n ofynnol i awdurdodau arolygu wneud gorchmynion diwygio mapiau diffiniol. Mae Gorchmynion a wneir o dan adran 53 o Ddeddf 1981 yn ymwneud â dyletswydd awdurdod o dan yr adran honno i adolygu'r map a'r datganiad diffiniol yn barhaus, ac maent yn cael eu gwneud o ganlyniad i ddigwyddiadau penodol a nodir yn yr adran honno. Mae a wnelo un o'r digwyddiadau hynny ag awdurdod yn cael hyd i dystiolaeth sydd, wrth ei hystyried ynghyd â phob tystiolaeth berthnasol arall sydd ar gael, yn dangos y dylid newid y disgrifiad o briffordd benodol ar fap a datganiad diffiniol. Mae Gorchmynion a wneir o dan adran 54 o Ddeddf 1981 yn ymwneud â dyletswydd awdurdod o dan yr adran honno i ailddosbarthu FfDdLlCau yn llwybrau ceffylau, llwybrau troed neu gilffyrdd sy'n agored i bob traffig. "Gorchmynion perthnasol" at ddibenion adran 48(9) o Ddeddf 2000 yw gorchmynion yn y dosbarth cyntaf sy'n ymwneud â FfDdLlCau a gorchmynion yn yr ail ddosbarth ac yn unol â gofynion yr adran honno nid oes dim yn adran 47 nac yn adran 48 o Ddeddf 2000 yn effeithio ar weithredu adran 53 nac adran 54 o Ddeddf 1981 nac ar Atodlen 14 neu 15 iddi mewn perthynas â'r gorchmynion hynny pan wnaed y gorchmynion hynny, neu pan wnaed cais am y gorchmynion hynny, cyn 11 Mai 2006 (erthygl 5). Mae adran 54 o Ddeddf 1981 yn peidio â bod yn effeithiol ac o ganlyniad i hynny caiff awdurdodau arolygu eu rhyddhau o'r ddyletswydd i ailddosbarthu FfDdLlCau a osodir gan yr adran honno (erthygl 2). Mae adran 51 o Ddeddf 2000 ac Atodlen 5 iddi yn gwneud diwygiadau canlyniadol a pherthnasol i ddeddfwriaeth sylfaenol (erthygl 2). Mae cychwyn adran 57 at ddibenion gwneud paragraff 23(8) o Atodlen 6 i Ddeddf 2000 yn effeithiol yn rhoi pŵer i arolygwyr ddyfarnu costau o ran gwrandawiadau a gynhelir o dan baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Priffyrdd 1980 (darpariaethau ynghylch gwneud, cadarnhau, dilysrwydd a dyddiad gweithrediad gorchmynion penodol sy'n ymwneud â llwybrau troed a llwybrau ceffylau), ac mae'n cymhwyso adran 322A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8) (gorchmynion sy'n ymwneud â chostau pan na fo gwrandawiad neu ymchwiliad yn cael ei gynnal) o ran gwrandawiadau neu ymchwiliadau lleol a gynhelir o dan y paragraff hwnnw. Daethpwyd â'r ddarpariaeth hon i rym i'r graddau y mae'n ymwneud â gorchmynion i gau neu wyro priffyrdd penodol a'r priffyrdd hynny yn croesi tir a feddiennir at ddibenion ysgol gan erthygl 3 o Orchymyn Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1314 (Cy. 96) (C.58)) (erthygl 2). Mae cychwyn adran 69(2) o Ddeddf 2000 yn estyn y diffiniad o "agricultural land" a geir yn adran 147 o Ddeddf 1980 at ddibenion pŵ er yr awdurdod cymwys o dan yr adran honno i awdurdodi codi camfeydd (sticlau), clwydi (giatiau, ietau), neu weithiau eraill mewn perthynas â thir o'r fath ac i dir o'r fath gael ei ddefnyddio at ddibenion amaethyddol (erthygl 2). Mae adran 102 o Ddeddf 2000 ac Atodlen 16 iddi yn peri diddymiadau canlyniadol i ddarpariaethau penodol o Ddeddf 1981. Y map a'r datganiad diffiniol ar gyfer unrhyw ardal yw'r cofnod cyfreithiol o hawliau tramwy'r cyhoedd a baratoir ac a adolygir gan yr awdurdod arolygu ar gyfer yr ardal honno (y cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol y mae ei ardal yn cynnwys yr ardal honno). Gellir edrych ar y map a'r datganiad diffiniol yn swyddfeydd y cyngor ar bob adeg resymol. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Daethpwyd â darpariaethau canlynol Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 i rym yng Nghymru gan orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn–
Gwnaed y Gorchmynion Cychwyn canlynol o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 o ran Lloegr–
Notes: [1] 2000 c.37.back
ISBN 0 11 091335 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 17 May 2006 |