Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2006, ISBN 0110913345. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 93(2)(b) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enw 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2006. Cychwyn 2. I'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, daw adrannau 19 i 22 a 24 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 i rym ar 11 Mai 2006. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2] D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 10 Mai 2006 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym yng Nghymru ar 11 Mai 2006 adrannau 19 i 22 a 24 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 ("Deddf 2003"), sy'n ymwneud â chontractau rhianta a gorchmynion rhianta ar gyfer disgyblion ysgol. Mae adran 19 yn darparu bod cyrff llywodraethu ysgolion ac awdurdodau addysg lleol yn ymrwymo i gontractau rhianta gyda rhiant disgybl neu blentyn. Mae adran 20 yn darparu ar gyfer yr amgylchiadau pan gaiff awdurdod addysg lleol wneud cais i lys ynadon am orchymyn rhianta, ar gyfer amgylchiadau pan gaiff y llys wneud gorchymyn ac ar gyfer cynnwys ac effaith gorchymyn. Mae adran 21 yn gwneud darpariaeth atodol. Mae adran 22 yn darparu ar gyfer hawl i apelio i Lys y Goron yn erbyn gwneud gorchymyn rhianta. Mae adran 24 yn ddarpariaeth ddehongli. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn y tabl isod wedi'u dwyn i rym o ran Cymru a Lloegr gan Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Mae darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn y tabl isod wedi'u dwyn i rym o ran Cymru gan Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Notes: [1] 2003 p.38.back
ISBN 0 11 091334 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 17 May 2006 |