Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006, ISBN 011091340X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn gan arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 8, 20 a 190 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[1] ac a freinir bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y gellir eu harfer o ran Cymru [2]. Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 3 Gorffennaf 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn–
(b) ei swyddog monitro; (c) prif swyddog statudol a grybwyllir ym mharagraff (a), (c) neu (d) o adran 2(6) o Ddeddf 1989, neu (ch) prif swyddog anstatudol (yn ystyr adran 2(7) Deddf 1989);
ac mae unrhyw gyfeiriad at benodi neu benodiad arfaethedig prif swyddog yn cynnwys cyfeiriad at gyflogi neu gyflogi arfaethedig y cyfryw swyddog dan gontract cyflogaeth;
Rheolau sefydlog yn ymwneud â phrif swyddogion
(ii) ddarpariaethau sydd yn cael yr un effaith, neu (iii) ddarpariaethau sydd yn ymgorffori effaith y darpariaethau hynny a addaswyd fel y darperir ar eu cyfer yn Rhan 2 o'r Atodlen honno; a
(b) addasu unrhyw reolau sefydlog sydd yn bodoli ar hyn o bryd i'r graddau y bo hynny'n angenrheidiol i gydymffurfio â'r darpariaethau hynny;
ac ni ddylent wedi hynny amrywio rheolau sefydlog a wnaed neu a addaswyd felly ac eithrio o ran ymgorffori darpariaeth a gaiff yr effaith a ddisgrifir yn Rhan 2 o'r Atodlen honno neu ddarpariaethau sy'n cael yr un effaith.
(b) addasu unrhyw reolau sefydlog sy'n bodoli eisoes i'r graddau y bo hynny'n angenrheidiol i gydymffurfio â'r darpariaethau hynny.
(2) Y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw–
(b) llofnodi cofnodion yr awdurdod perthnasol.
Trefniadau gweithredol- rheolau sefydlog yn ymwneud â staff
(b) lle bo eu corff gweithredol ar y ffurf a bennir yn adran 11(3) o Ddeddf 2000 (arweinydd a chabinet gweithredol), ymgorffori mewn rheolau sefydlog yn ymwneud â'i staff y darpariaethau a osodir yn Rhan 2 o Atodlen 3 neu ddarpariaethau sydd yn cael yr un effaith; ac (c) lle bo eu corff gweithredol ar y ffurf a bennir yn adran 11(4) o Ddeddf 2000 (maer a rheolwr gweithredol cyngor), ymgorffori mewn rheolau sefydlog yn ymwneud â'i staff y darpariaethau a osodir yn Rhan 2 o Atodlen 3 neu ddarpariaethau sydd yn cael yr un effaith; ac (ch) addasu unrhyw rai o'u rheolau sefydlog sy'n bodoli eisoes i'r graddau y bo hyn yn angenrheidiol i gydymffurfio â'r darpariaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a), (b) ac (c).
(2) Pan fo awdurdod perthnasol wedi ymgorffori darpariaethau mewn rheolau sefydlog fel ym mharagraff (1) rhaid iddo, lle bwriada newid ei drefniadau gweithredol fel y bydd y corff gweithredol ar ffurf wahanol, wneud amrywiadau i'w reolau sefydlog i'r graddau y bo hyn yn angenrheidiol i gydymffurfio â'r darpariaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a), (b), (c) neu (d) o baragraff (1), pa un bynnag sydd yn gymwys, ar neu cyn y dyddiad pryd y dechreua weithredu'r trefniadau gweithredol newydd hynny.
(b) addasu unrhyw rai o'i rheolau sefydlog sy'n bodoli eisoes i'r graddau y bo hyn yn angenrheidiol i gydymffurfio â'r darpariaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a).
Rheolau sefydlog yn ymwneud â staff
(b) addasu unrhyw rai o'i rheolau sefydlog sy'n bodoli eisoes i'r graddau y bo hyn yn angenrheidiol i gydymffurfio â'r darpariaethau hynny.
Ymchwilio i gamymddwyn honedig
(b) ei swyddog monitro; neu (c) ei brif swyddog cyllid,
("y swyddog perthnasol"), yn ôl y digwydd, rhaid i'r awdurdod perthnasol benodi pwyllgor ("pwyllgor ymchwilio") i ystyried y camymddwyn honedig.
(b) bod yn wleidyddol gytbwys yn unol ag adran 15 o Ddeddf 1989; a
rhaid iddo, cyn pen 1 mis ar ôl ei benodiad, ystyried yr honiad o gamymddwyn a phenderfynu a ddylid ymchwilio iddo ymhellach.
(b) gofyn i'r swyddog perthnasol neu unrhyw berson arall y mae'n ystyried sy'n briodol i roi iddo yr wybodaeth honno, yr esboniad hwnnw neu'r dogfennau hynny y mae'n ystyried sy'n angenrheidiol o fewn terfyn amser penodedig; ac (c) derbyn sylwadau ysgrifenedig neu lafar oddi wrth y swyddog perthnasol neu unrhyw berson arall y mae'n ystyried sy'n briodol.
(4) Os yw'n ymddangos i'r pwyllgor ymchwilio y dylai honiad o gamymddwyn gan y swyddog perthnasol gael ei ymchwilio ymhellach, rhaid iddo benodi person ("y person annibynnol dynodedig") at ddibenion y rheol sefydlog sy'n ymgorffori'r darpariaethau yn Atodlen 4 (neu ddarpariaethau sy'n cael yr un effaith).
(b) os nad oes cytundeb o'r fath, y person hwnnw a enwebir at y diben gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(6) O ran y person annibynnol dynodedig–
(ii) bod unrhyw ataliad dros dro o'r fath i barhau ar ôl i'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff 3 o Atodlen 4 ddod i ben (neu mewn darpariaethau sy'n cael yr un effaith); (iii) bod telerau unrhyw ataliad dros dro o'r fath sydd wedi digwydd i'w hamrywio yn unol â'r cyfarwyddyd; neu (iv) nad oes camau i'w cymryd (p'un ai gan yr awdurdod perthnasol neu unrhyw bwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog sy'n gweithredu ar ran yr awdurdod perthnasol) o ran camau disgyblu neu gamau disgyblu pellach yn erbyn y swyddog perthnasol heblaw camau a gymerir ym mhresenoldeb, neu gyda chytundeb, y person annibynnol dynodedig, cyn bod adroddiad wedi'i lunio o dan is-baragraff (ch);
(b) caiff arolygu unrhyw ddogfennau sy'n ymwneud ag ymddygiad swyddog perthnasol sydd ym meddiant yr awdurdod perthnasol, y mae gan yr awdurdod y pŵ er i awdurdodi'r person annibynnol dynodedig i'w harchwilio;
(ii) yn argymell unrhyw gamau disgyblu sy'n ymddangos yn briodol i'r awdurdod perthnasol eu cymryd yn erbyn y swyddog perthnasol, a
(d) rhaid iddo heb fod yn hwyrach na'r amser y llunnir yr adroddiad o dan is-baragraff (ch), anfon copi o'r adroddiad at y swyddog perthnasol.
(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), rhaid i'r swyddog perthnasol a'r awdurdod perthnasol, ar ôl ymghynghori â'r person annibynnol dynodedig, geisio cytuno ar amserlen y mae'r person annibynnol dynodedig i ymgymryd â'i ymchwiliad yn unol â hi.
(b) y darpariaethau a osodir ym mharagraff 4 o Ran 1 o Atodlen 1 i Reoliadau 1993 (neu ddarpariaethau sydd yn cael yr un effaith) a ymgorfforwyd yn rheolau sefydlog yr awdurdod perthnasol; neu (c) rheoliad 9 fel y'i cymhwysir gan baragraff (1),
gellir parhau i'w wneud wedi'r dyddiad hwnnw gan, i neu mewn perthynas â'r swyddog hwnnw yn unol â'r darpariaethau y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraffau (a), (b) neu (c), pa un bynnag sy'n briodol. 1. Lle bwriada'r awdurdod perthnasol benodi prif swyddog (o fewn ystyr Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006), ac na fwriedir gwneud y penodiad yn unig o blith ei swyddogion presennol, rhaid iddo wneud y canlynol–
(ii) unrhyw gymwysterau neu nodweddion y ceisir eu cael yn y person a benodir;
(b) trefnu i'r swydd gael ei hysbysebu yn y fath fodd fel y bydd yn debygol o ddod i sylw personau sy'n gymwys i ymgeisio amdani; ac
2.
—(1) Lle hysbysebwyd swydd yn ôl darpariaeth paragraff 1(b), rhaid i'r awdurdod perthnasol weithredu fel a ganlyn–
(b) ddewis rhestr fer o'r cyfryw ymgeiswyr cymwys a chyfweld y rhai ar y rhestr fer.
(2) Lle nad ymgeisiodd unrhyw berson cymwys, neu os bydd yr awdurdod perthnasol yn ailhysbysebu'r swydd, rhaid i'r awdurdod perthnasol wneud trefniadau pellach i hysbysebu yn unol â pharagraff 1(b)."
1. Gall y rheolau sefydlog wneud y darpariaethau canlynol–
(b) gellir penodi unrhyw brif swyddog gan bwyllgor neu is-bwyllgor o'r awdurdod perthnasol, neu gydbwyllgor perthnasol.
2.
Gall y rheolau sefydlog wneud darpariaeth, lle bo dyletswyddau prif swyddog yn cynnwys cyflawni swyddogaethau dau neu fwy o awdurdodau perthnasol yn rhinwedd adran 101(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972–
(b) gellir penodi unrhyw brif swyddog gan y cyfryw gydbwyllgor, is-bwyllgor o'r pwyllgor hwnnw neu bwyllgor neu is-bwyllgor o unrhyw rai o'r awdurdodau perthnasol hynny.
3.
Gellir eithrio o gymhwyso paragraff 1 a 2–
(b) unrhyw benodiad yn rhinwedd adran 9 (cymhorthwyr i grwpiau gwleidyddol) y Ddeddf, ac (c) unrhyw benodiad yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan baragraff 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (cymhorthydd y maer).
1. —(1) Lle, yn union wedi cymryd pleidlais mewn cyfarfod o gorff perthnasol, bo unrhyw aelod o'r corff hwnnw yn mynnu hynny, rhaid cofnodi yng nghofnodion trafodion y cyfarfod hwnnw a fwriodd y person hwnnw bleidlais dros y cwestiwn neu yn erbyn y cwestiwn neu a ataliodd y person hwnnw rhag pleidleiso. (2) Yn y paragraff hwn, ystyr "corff perthnasol" ("relevant body") yw'r awdurdod perthnasol, pwyllgor neu is-bwyllgor o'r awdurdod perthnasol neu gyd-bwyllgor neu is-bwyllgor perthnasol o'r cyfryw bwyllgor. 2. Lle mewn perthynas ag unrhyw gyfarfod o'r awdurdod perthnasol y bydd y cyfryw gyfarfod nesaf yn gyfarfod a elwir dan baragraff 3 (cyfarfodydd arbennig) o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, rhaid trin cyfarfod dilynol nesaf yr awdurdod perthnasol (sef cyfarfod a elwir heb fod o dan y paragraff hwnnw) fel cyfarfod addas at ddibenion paragraff 41(1) a (2) (llofnodi cofnodion) yr Atodlen honno[11]."
2.
Yn amodol ar baragraffau 3 a 5, rhaid cyflawni swyddogaeth penodi a diswyddo aelod o staff yr awdurdod perthnasol, a chymryd camau disgyblu yn ei erbyn, ar ran yr awdurdod perthnasol, gan y swyddog a ddynodwyd dan adran 4(1) o Ddeddf 1989 (dynodiad ac adroddiadau pennaeth gwasanaeth taledig) fel pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod neu gan swyddog a enwebwyd gan bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod.
(b) prif swyddog statudol o fewn ystyr adran 2(6) o Ddeddf 1989[14] (swyddi â chyfyngiad gwleidyddol); (c) prif swyddog anstatudol o fewn ystyr adran 2(7) o Ddeddf 1989; (ch) dirprwy brif swyddog o fewn ystyr adran 2(8) o Ddeddf 1989; (d) person a benodwyd yn rhinwedd adran 9 o Ddeddf 1989[15] (cymhorthwyr i grwpiau gwleidyddol); neu (dd) person a benodwyd yn rhinwedd rheoliadau o dan baragraff 6 Atodlen 1 i Ddeddf 2000 (cymhorthydd y maer); (e) person y mae rheoliadau a wneir o dan adran 35(4) a (5) (darpariaeth o ran penodi, disgyblu, atal dros dro a diswyddo athrawon a staff eraill mewn ysgolion a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol) o Ddeddf Addysg 2002[16] yn gymwys iddo.
4.
—(1) Lle bo pwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog yn cyflawni, ar ran yr awdurdod perthnasol, swyddogaeth penodi neu ddiswyddo swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod, rhaid i'r awdurdod perthnasol gymeradwyo'r penodiad hwnnw cyn cynnig y penodiad neu, pa un bynnag sy'n briodol, rhaid cymeradwyo'r diswyddo hwnnw cyn rhoi rhybudd diswyddo.
(b) rhaid nad yw mwy na hanner aelodau o'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw yn aelodau o weithrediaeth yr awdurdod perthnasol.
5.
Nid oes unrhyw beth ym mharagraff 2 yn atal person rhag gweithredu fel aelod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlwyd gan yr awdurdod perthnasol i ystyried apêl gan aelod o staff yr awdurdod perthnasol yn erbyn unrhyw benderfyniad sy'n ymwneud â diswyddo, neu gymryd camau disgyblu yn erbyn, yr aelod hwnnw o'r staff."
2.
Yn amodol ar baragraffau 3 a 5, rhaid i swyddogaethau penodi a diswyddo, a chymryd camau disgyblu yn erbyn, aelod o staff yr awdurdod perthnasol, ar ran yr awdurdod perthnasol, gael eu cyflawni gan y swyddog a ddynodwyd o dan adran 4(1) o Ddeddf 1989 (dynodiadau ac adroddiadau pennaeth gwasanaeth taledig) fel pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod neu gan swyddog a enwebwyd gan bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod.
(b) prif swyddog statudol o fewn ystyr adran 2(6) o Ddeddf 1989[19] (swyddi â chyfyngiad gwleidyddol); (c) prif swyddog anstatudol o fewn ystyr adran 2(7) o Ddeddf 1989; (ch) dirprwy brif swyddog o fewn ystyr adran 2(8) o Ddeddf 1989; (d) person a benodwyd yn rhinwedd adran 9 o Ddeddf 1989[20] (cymhorthwyr i grwpiau gwleidyddol); neu (dd) person y mae rheoliadau a wneir o dan adran 35(4) a (5) (darpariaeth o ran penodi, disgyblu, atal dros dro a diswyddo athrawon a staff eraill mewn ysgolion a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol) o Ddeddf Addysg 2002[21] yn gymwys iddo.
4.
—(1) Lle bo pwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog, ar ran yr awdurdod perthnasol, yn cyflawni swyddogaeth penodi neu ddiswyddo swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod, rhaid i'r awdurdod perthnasol gymeradwyo'r penodiad hwnnw cyn gwneud cynnig o benodiad neu, yn ôl y digwydd, rhaid cymeradwyo'r diswyddiad cyn rhoi rhybudd diswyddo.
(b) rhaid nad yw mwy na hanner aelodau o'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw yn aelodau o gorff gweithredol yr awdurdod perthnasol.
5.
Nid oes unrhyw beth ym mharagraff 2 yn atal person rhag gweithredu fel aelod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlwyd gan yr awdurdod perthnasol i ystyried apêl gan–
(b) aelod o staff yr awdurdod perthnasol yn erbyn unrhyw benderfyniad yn ymwneud â diswyddo, neu gymryd camau disgyblu yn erbyn, yr aelod hwnnw o'r staff."
2.
Yn amodol ar baragraffau 3 a 4, rhaid i swyddogaeth penodi a diswyddo, a chymryd camau disgyblu yn erbyn, aelod o staff yr awdurdod perthnasol gael ei chyflawni, ar ran yr awdurdod perthnasol, gan reolwr y cyngor neu gan swyddog a enwebwyd gan reolwr y cyngor.
(b) rhywun a benodwyd yn rhinwedd adran 9 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[24] (cymhorthwyr i grwpiau gwleidyddol); neu (c) rhywun a benodwyd yn rhinwedd rheoliadau dan baragraff 6 Atodlen 1 i Ddeddf 2000 (cymhorthydd y maer); neu (ch) person y mae Rheoliadau a wneir o dan adran 35(4) a (5) (darpariaeth o ran penodi, disgyblu, atal dros dro a diswyddo athrawon a staff eraill mewn ysgolion a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol) o Ddeddf Addysg 2002[25] yn gymwys iddo.
4.
Nid oes dim ym mharagraff 2 yn atal person rhag gwasanaethu fel aelod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlwyd gan yr awdurdod perthnasol i ystyried apêl gan aelod o staff yr awdurdod perthnasol yn erbyn unrhyw benderfyniad yn ymwneud â diswyddo, neu gymryd camau disgyblu yn erbyn, yr aelod hwnnw o'r staff."
2.
Yn amodol ar baragraffau 3 a 5, rhaid i swyddogaeth penodi a diswyddo, a chymryd camau disgyblu yn erbyn, aelod o staff yr awdurdod perthnasol, ar ran yr awdurdod perthnasol, gael ei chyflawni gan y swyddog a ddynodwyd o dan adran 4(1) o Ddeddf 1989 (dynodiadau ac adroddiadau pennaeth gwasanaeth taledig) fel pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod neu gan swyddog a enwebwyd gan bennaeth gwasanaeth yr awdurdod.
(b) prif swyddog statudol o fewn ystyr adran 2(6) o Ddeddf 1989[27] (swyddi â chyfyngiad gwleidyddol); (c) prif swyddog anstatudol o fewn ystyr adran 2(7) o Ddeddf 1989; (ch) dirprwy brif swyddog yn ystyr adran 2(8) o Ddeddf 1989; neu (d) person a benodwyd yn rhinwedd adran 9 o Ddeddf 1989[28] (cymhorthwyr i grwpiau gwleidyddol); neu (dd) person y mae rheoliadau a wneir o dan adran 35(4) a (5) (darpariaeth o ran penodi, disgyblu, atal dros dro a diswyddo athrawon a staff eraill mewn ysgolion a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol) o Ddeddf Addysg 2002[29] yn gymwys iddo.
4.
Lle bo pwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog, ar ran yr awdurdod perthnasol, yn cyflawni swyddogaeth penodi neu ddiswyddo swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod, rhaid i'r awdurdod perthnasol gymeradwyo'r penodiad hwnnw cyn gwneud cynnig o benodiad neu, pa un bynnag sy'n briodol, rhaid cymeradwyo'r diswyddo cyn rhoi rhybudd diswyddo.
2. Ni ellir cymryd camau disgyblu parthed pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod (oni fo pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod hefyd yn rheolwr cyngor yr awdurdod), ei swyddog monitro neu ei brif swyddog cyllid, ac eithrio camau a ddisgrifir ym mharagraff 3, gan yr awdurdod perthnasol, neu gan bwyllgor, is-bwyllgor, cydbwyllgor lle cynrychiolir yr awdurdod perthnasol neu gan unrhyw un sy'n gweithredu ar ran yr awdurdod perthnasol, ac eithrio yn unol ag argymhelliad mewn adroddiad a wnaed gan berson annibynnol dynodedig dan reoliad 9 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006 (ymchwilio i gamymddwyn honedig). 3. Y cam a grybwyllir ym mharagraff 2 yw atal dros dro y swyddog at ddibenion ymchwilio i'r camymddwyn honedig sy'n peri'r cam hwn; rhaid i unrhyw atal dros dro o'r fath fod ar gyflog llawn, a rhaid iddo derfynu ddim hwyrach nac ar derfyn dau fis yn cychwyn ar y diwrnod y daw'r atal dros dro i rym."
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adrannau 8, 20 a 190 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 ("Deddf 1989") ac maent yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau perthnasol ymgorffori darpariaethau penodol yn eu rheolau sefydlog sydd yn ymwneud â'u staff, cyfarfodydd a'u trafodion. Mae Rheoliad 3 ac Atodlen 1 yn ei gwneud yn ofynol i awdurdodau perthnasol wneud y cyfryw ddarpariaeth mewn perthynas â phenodi prif swyddogion. Mae Rheoliad 4 ac Atodlen 2 yn ei gwneud yn ofynnol i reolau sefydlog gael eu gwneud mewn perthynas â chofnodi pleidleisiau, a llofnodi cofnodion mewn cyfarfodydd arbennig. Mae'n ofynnol i awdurdodau perthnasol yng Nghymru wneud neu addasu rheolau sefydlog fel eu bod yn cynnwys y darpariaethau a osodir yn y Rheoliadau, neu ddarpariaethau fydd yn cael yr un effaith. Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ("Deddf 2000") yn gwneud darpariaeth i awdurdodau lleol ffurfio cynigion i weithredu trefniadau gweithredol (lle mae rhai o swyddogaethau'r awdurdod yn gyfrifoldeb corff gweithredol) neu, yn achos rhai awdurdodau, i weithredu trefniadau amgen. Yn achos trefniadau gweithredol, rhaid i gorff gweithredol yr awdurdod lleol fod ar un o'r ffurfiau a bennir yn adran 11 o Ddeddf 2000. Rhaid i awdurdod perthnasol sydd yn gweithredu trefniadau gweithredol fod â rheolau sefydlog sydd yn ymwneud â'i staff sy'n cynnwys y darpariaethau a osodir yn Atodlen 3. Rhaid i'r rheolau sefydlog fod yn rhai priodol ar gyfer ffurf penodol y corff gweithredol (fel y'u gosodir yng ngwahanol Rannau Atodlen 3) ac, os bydd i'r ffurf honno newid, rhaid amrywio'r rheolau sefydlog yn unol â hynny (rheoliad 5). Rhaid i awdurdod perthnasol sydd yn gweithredu trefniadau amgen fod â rheolau sefydlog ynglŷn â'i staff sydd yn cynnwys y darpariaethau a osodir yn Rhan 4 Atodlen 3 (neu ddarpariaethau sydd yn cael yr un effaith) (rheoliad 6). Nid ymdrinnir â phenodi, disgyblu, atal dros dro a diswyddo athrawon a staff eraill mewn ysgol a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol yn y Rheoliadau hyn ond mewn rheoliadau a wneir o dan adran 35(4) a (5) o Ddeddf Addysg 2002 (gweler, ar hyn o bryd, Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006 (O.S. 2006/ 873 (Cy.81)). Rhaid i awdurdod perthnasol, yng nghyswllt camau disgyblu yn erbyn pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod, ei swyddog monitro neu ei brif swyddog cyllid, wneud rheolau sefydlog yn ymgorffori'r darpariaethau a osodir yn Atodlen 4 (neu ddarpariaethau sydd yn cael yr un effaith). Rhaid gwneud y cyfryw reolau sefydlog ddim hwyrach na chyfarfod arferol cyntaf yr awdurdod perthnasol a ddaw wedi'r diwrnod y daw'r Rheoliadau hyn i rym (rheoliad 8). Mae Rheoliad 9 yn darparu ar gyfer ystyriaeth gan bwyllgor ymchwilio o honiad o gamymddwyn a wneir yn erbyn pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod (oni fo pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod hefyd yn rheolwr cyngor yr awdurdod), ei swyddog monitro neu ei brif swyddog cyllid ac mae'n rhagnodi gweithdrefn ar gyfer ymchwiliad pellach gan berson annibynnol, a dylid dilyn y weithdrefn hon lle'r honnir camymddwyn gan bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod, ei swyddog monitro neu ei brif swyddog cyllid y mae'r pwyllgor ymchwilio, ar ôl iddo ystyried y mater, o'r farn y dylid ymchwilio iddo ymhellach. Cynhwyswyd darpariaethau tebyg yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) 1993 ("Rheoliadau 1993") mewn perthynas â phennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod. Wedi i'r awdurdod perthnasol ystyried yr adroddiad a baratowyd dan baragraff 6(ch), rhaid i'r awdurdod perthnasol wedyn gydymffurfio â'r gweithdrefnau statudol ar gyfer gwrandawiadau disgyblu. Mae Rheoliad 10 yn dirymu Rheoliadau 1993 i'r graddau eu bod yn ymestyn i Gymru (ond nid mewn perthynas ag Awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru). Mae Rheoliad 11 yn cynnwys darpariaethau trosiannol mewn perthynas â rheolau sefydlog sydd yn bodoli eisoes ar gyfer camau disgyblu a waned o dan Reoliadau 1993. Notes: [1] 1989 p.42. Diwygiwyd adran 8 gan O.S. 2002/803 (Cy. 88).back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 8, 20 a 190, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672 ); gweler y cofnod yn Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.back [7] Is-adran (1) o adran 5 (fel y'i diwygiwyd).back [8] Gweler paragraff 42 Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.back [9] Ni chaiff swyddog monitro na phrif swyddog cyllid awdurdod fod yn rheolwr cyngor. Gweler paragraff 13(b) ac (c) Atodlen 1 i Ddeddf 2000.back [11] Diwygiwyd paragraff 41 gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42).back [14] Diwygiwyd adran 2(6) gan baragraff 95 o Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996 (p.56), paragraff 3(a), (b) ac (c) o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 2004 (p.31), ac Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21).back [15] Mae diwygiadau i adran 9 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back [19] Diwygiwyd adran 2(6) gan baragraff 95 o Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996 (p.56), paragraff 3(a), (b) ac (c) o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 2004 (p.31), ac Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21).back [20] Mae diwygiadau i adran 9 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back [23] Penodir rheolwr y cyngor i'r corf gweithredu gan yr awdurdod. Gweler adran 11(4)(b) a (10) o Dddeddf 2000.back [24] 1989 p.42. Mae diwygiadau i adran 9 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back [27] Diwygiwyd adran 2(6) gan baragraff 95 o Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996 (p.56), paragraff 3(a), (b) ac (c) o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 2004 (p.31), ac Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21).back [28] Mae diwygiadau i adran 9 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
ISBN 0 11 091340 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 23 May 2006 |