Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2006, ISBN 0110913329. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 551 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 1 Awst 2006. Diwygio Rheoliadau 2. —(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003[3]fel a ganlyn. (2) Yn adran 3, yn nhrefn briodol yr wyddor mewnosoder–
(3) Yn lle rheoliad 5, rhodder–
(b) hyfforddiant ynghylch newidiadau arfaethedig i Gwricwlwm Cenedlaethol Cymru[5]; (c) hyfforddiant ynghylch cynigion y Cynulliad Cenedlaethol sydd yn ei gylchlythyr 37/2004 o dan y teitl "Llwybrau Dysgu 14- 19"[6]ar gyfer ymestyn ystod yr opsiynau dysgu sydd ar gael i bobl ifanc 14- 19 oed (gan gynnwys datblygu rôl Anogwr Dysgu i gynorthwyo gyda dysgu pobl ifanc, a datblygu Cynllun Llwybrau Dysgu cynhwysfawr).
(2) Bydd paragraff (1) yn effeithiol o ran dim mwy na phedair sesiwn ysgol ym mhob un o'r blynyddoedd ysgol y mae'r paragraff hwnnw yn gymwys ar eu cyfer.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 yn gymwys i ysgolion a gynhelir gan awdurdodau addysg lleol ac i ysgolion arbennig (os cynhelir hwy felly ai peidio). Maent yn darparu (ymysg pethau eraill) bod diwrnod ysgol sydd fel arfer i'w rannu'n ddwy sesiwn (gydag egwyl yn y canol), a bod ysgolion (heblaw ysgolion meithrin) yn cyfarfod am o leiaf 380 o sesiynau yn ystod unrhyw flwyddyn ysgol. Yr oedd rheoliad 5 o'r Rheoliadau hynny (rheoliad sydd bellach wedi darfod) yn darparu bod nifer benodedig o sesiynau ysgol yn y blynyddoedd ysgol 2003/4, 2004/5, 2005/6 a neilltuwyd ar gyfer ffurfiau penodedig o hyfforddi athrawon yn cael eu cyfrif yn sesiynau pan gyfarfu'r ysgol. Mae'r Rheoliadau hyn yn amnewid rheoliad 5 newydd sydd, yn fras, yn darparu bod hyd at bedair sesiwn ym mhob un o flynyddoedd ysgol 2006/7 a 2007/8 yn cyfrif fel sesiynau pan gyfarfu'r ysgol os cawsant eu neilltuo i ddarparu ffurfiau penodol o hyfforddiant. Yn fras, y ffurfiau o hyfforddiant sy'n cyfrif yw hyfforddiant ynghylch– • paratoi a gweithredu cynlluniau a anelir at hwyluso disgyblion i bontio rhwng cyfnodau allweddol a rhwng ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd (gan gynnwys, yn yr ail achos, y cynlluniau statudol y mae angen eu llunio o dan adran 198 o Ddeddf Addysg 2002), • newidiadau sydd i ddod yn y Cwricwlwm Cenedlaethol, a • cynlluniau'r Cynulliad ar gyfer ymestyn opsiynau dysgu ar gyfer pobl ifanc 14- 19 oed. Notes: [1] 1996 p.56. Mewnosodwyd adran 551(1A) gan baragraff 39 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44), a diwygiwyd adran 551(2) gan baragraff 166 o Atodlen 30 ac Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 579(1).back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau"r Ysgrifennydd Gwladol i"r Cynulliad Cenedlaethol gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 2003/3231 (Cy.311).back [5] Gweler Rhan 7 o Ddeddf Addysg 2002.back [6] Gellir gweld y cylchlythyr hwn yn www.learning.wales.gov.uk.back
ISBN 0 11 091332 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 9 May 2006 |