Gorchymyn Hawliau Bridwyr Planhigion (Dirwyn i Ben Esemptiad o Ddefnydd Blaenorol) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Hawliau Bridwyr Planhigion (Dirwyn i Ben Esemptiad o Ddefnydd Blaenorol) (Cymru) 2006, ISBN 0110913337. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 9(6) o Ddeddf Amrywogaethau Planhigion 1997[1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2] ar ôl ymgynghori â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn gynrychioliadol o'r personau y mae'n debygol yr effeithir arnynt yn sylweddol, yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Hawliau Bridwyr Planhigion (Dirwyn i Ben Esemptiad o Ddefnydd Blaenorol) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 12 Mai 2006. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru. Dirwyn i Ben Esemptiad o Ddefnydd Blaenorol 2. Mae adran 9(5) o Ddeddf Amrywogaethau Planhigion 1997 yn peidio â chael effaith. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3] D. Elis-Thoma Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 3 Mai 2006 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 12 Mai 2006. Mae'r Gorchymyn yn dirwyn i ben yr esemptiad o ddefnydd blaenorol yn adran 9(5) o Ddeddf Amrywogaethau Planhigion 1997. Paratowyd Arfarniad Rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Adran dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. Notes: [1] 1998 p.38.back [2] 1997 p.66. gweler adran 49(1) i gael y diffiniad o "the Ministers".back [3] Trosglwyddodd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672) swyddogaethau"r Gweinidogion o dan adran 9 o Ddeddf Amrywogaethau Planhigion 1997, i"r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back
ISBN 0 11 091333 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 9 May 2006 |