Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.
Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.
Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.
Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006, ISBN 0110913434. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.
I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud y Rheoliadau canlynol o dan y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[1].
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cael ei ddynodi[2] at ddibenion yr adran honno mewn perthynas â mesurau ym meysydd milfeddygol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd.
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cynnal yr ymgynghori sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu'r Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau mewn perthynas â diogelwch bwyd[3].
RHAN 1
Darpariaethau cyffredinol
Enwi, cymhwyso a chychwyn 1.
Yr enw ar y Rheoliadau hyn fydd Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006, maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 3 Mai 2006.
ystyr "anifail buchol" ("bovine animal") yw gwartheg yn cynnwys buail a byfflo (gan gynnwys byfflos dwr);
ystyr "arolygydd" ("inspector") yw arolygydd a benodwyd o dan reoliad 16, ac ystyr "arolygydd milfeddygol" ("veterinary inspector") yw milfeddyg a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn arolygydd;
ystyr "awdurdod lleol" ("local authority") yw cyngor unrhyw sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr "BSE" ("BSE") yw enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy;
ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
mae gan "pasbort gwartheg" ("cattle pasport") yr un ystyr ag sydd yn Rheoliadau Adnabod Gwartheg 1998[4];
ystyr "lladd-dy" ("slaughterhouse") a (ac eithrio yn Atodlen 6, paragraff 10(2)(c)) "safle torri" ("cutting plant") yw adeilad–
(a) sydd wedi'i gymeradwyo neu ei gymeradwyo'n amodol gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd o dan Erthygl 31(2) o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â rheolau swyddogol a wnaed i sicrhau bod cydymffurfio gyda chyfraith bwydydd a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid yn cael ei ddilysu[5]; neu
(b) sy'n gweithredu fel y cyfryw o dan Erthygl 4(5) o Reoliad (EC) Rhif 853/2004 o Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid[6]hyd nes y ceir cymeradwyaeth o'r fath;
ystyr "Rheoliad TSE y Gymuned" ("Community TSE Regulation") yw Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a dileu rhai mathau o enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy[7], fel y'i diwygiwyd gan, ac fel y'i darllenwyd gyda'r offerynnau sydd wedi eu nodi yn Atodlen 1; ac
ystyr "TSE" ("TSE") yw ensepalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy.
(2) Mae gan ymadroddion nad ydynt wedi eu diffinio yn y Rheoliadau hyn ac sydd yn ymddangos yn Rheoliad TSE y Gymuned yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd ganddynt at ddibenion Rheoliad TSE y Gymuned.
Penodi awdurdod cymwys 3.
Y Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliad TSE y Gymuned ac eithrio pan nodir yn wahanol yn y Rheoliadau hyn.
Eithriadau ar gyfer ymchwil 4.
—(1) Nid yw'r darpariaethau yn Atodlenni 2 i 6 yn gymwys o ran anifeiliaid a gedwir at ddibenion ymchwil mewn safleoedd sydd wedi'u cymeradwyo at y pwrpas hwnnw o dan y rheoliad hwn gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Os bydd buwch, dafad neu afr a gedwir mewn safle ymchwil sydd wedi'i gymeradwyo neu os bydd ei epil yn marw neu'n cael ei ladd, rhaid i'r meddiannydd ei waredu fel sgil-gynnyrch anifeiliaid Categori 1 yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau iechyd am sgil-gynhyrchion anifeiliaid nad ydynt wedi eu bwriadu i'w bwyta gan bobl[8], ac mae peidio â gwneud hyn yn drosedd.
RHAN 2
Cyflwyno Atodlenni
Monitro TSE 5.
Mae Atodlen 2 (monitro TSE) yn effeithiol.
Rheoli a dileu TSE mewn gwartheg 6.
Mae Atodlen 3 (rheoli a dileu TSE mewn gwartheg) yn effeithiol.
Rheoli a dileu TSE mewn defaid a geifr 7.
Mae Atodlen 4 (rheoli a dileu TSE mewn defaid a geifr) yn effeithiol.
Bwydydd anifeiliaid 8.
Mae Atodlen 5 (bwydydd anifeiliaid) yn effeithiol.
Deunydd risg penodedig, cig sydd wedi ei adennill trwy ddulliau mecanyddol a dulliau cigydda a chyfyngiadau ar anfon i Aelod-wladwriaethau eraill ac i drydydd gwledydd. 9.
Mae Atodlen 6 (deunydd risg penodedig, cig sydd wedi ei adennill trwy ddulliau mecanyddol a dulliau cigydda) ac Atodlen 7 (cyfyngiadau ar anfon i Aelod- wladwriaethau eraill ac i drydydd gwledydd) yn effeithiol.
RHAN 3
Gweinyddu a gorfodi
Cymeradwyo, awdurdodi, trwyddedu a chofrestru 10.
—(1) Mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi cymeradwyaeth, awdurdod, trwydded neu gofrestriad o dan y Rheoliadau hyn os yw'n fodlon y cydymffurfir â darpariaethau Rheoliad TSE y Gymuned a'r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i hyn fod yn ysgrifenedig, a rhaid nodi–
(a) cyfeiriad y safle;
(b) enw'r meddiannydd; a'r
(c) diben y mae'n cael ei ganiatáu ar ei gyfer.
(3) Gall fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau sydd eu hangen er mwyn–
(a) sicrhau y cydymffurfir â darpariaethau Rheoliad TSE y Gymuned a'r Rheoliadau hyn; neu
(b) amddiffyn iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid.
(4) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gwrthod rhoi cymeradwyaeth, awdurdod, trwydded neu gofrestriad, neu'n rhoi un ohonynt yn ddarostyngedig i amodau, mae'n rhaid iddo–
(a) roi ei resymau mewn ysgrifen; ac
(b) egluro hawl yr ymgeisydd i wneud sylwadau ysgrifenedig i berson a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(5) Yna mae'r weithdrefn apelio yn rheoliad 14 yn gymwys.
Dyletswydd y meddiannydd 11.
Mae meddiannydd unrhyw safle sydd wedi cael cymeradwyaeth, caniatâd, trwydded neu gofrestriad o dan y Rheoliadau hyn yn troseddu os nad yw ef neu hi yn sicrhau bod–
(a) y safleoedd yn cael eu cynnal a'u cadw a'u gweithredu yn unol ag–
(i) unrhyw amod o'r cymeradwyaeth, awdurdod, trwydded neu gofrestriad; a
(ii) gofynion Rheoliad TSE y Gymuned a'r Rheoliadau hyn; a
(b) bod unrhyw berson a gyflogir ganddo ef neu hi, ac unrhyw berson yr awdurdodir iddo neu iddi fynd mewn i'r safle, yn cydymffurfio â'r amodau a'r gofynion hynny.
Atal a diwygio 12.
—(1) Gall y Cynulliad Cenedlaethol atal neu ddiwygio'r gymeradwyaeth, awdurdod, trwydded neu gofrestriad a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn os–
(a) bydd unrhyw un o'r amodau a roddwyd heb eu cyflawni; neu
(b) os yw wedi'i fodloni nas cydymffurfir â darpariaethau Rheoliad TSE y Gymuned neu ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i atal neu ddiwygiad–
(a) fod yn effeithiol ar unwaith os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried fod hynny yn angenrheidiol i ddiogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid; ac
(b) fel arall ni fydd yn effeithiol am o leiaf 21 diwrnod.
(3) Rhaid i hysbysiad am atal neu ddiwygio–
(a) fod mewn ysgrifen;
(b) nodi pryd y daw yn effeithiol;
(c) rhoi'r rhesymau; ac
(ch) egluro hawl y person sydd wedi'i hysbysu i wneud sylwadau ysgrifenedig i berson a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(4) Yna mae'r weithdrefn apelio yn rheoliad 14 yn gymwys.
(5) Os na fydd yr atal neu'r diwygio yn effeithiol ar unwaith ac y gwneir sylwadau o dan reoliad 14, ni chaiff fod yn effeithiol tan benderfyniad terfynol y Cynulliad Cenedlaethol oni bai fod y Cynulliad yn ystyried bod rhaid i'r atal neu'r diwygio fod yn effeithiol cyn hynny er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid.
Dirymu caniatâd, etc. 13.
—(1) Gall y Cynulliad Cenedlaethol ddirymu cymeradwyaeth, awdurdod, trwydded neu gofrestriad a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn os yw wedi'i fodloni na fydd y safle yn cael ei redeg yn unol â Rheoliad TSE y Gymuned neu'r Rheoliadau hyn ac os yw–
(a) wedi'i atal ar hyn o bryd a bod y cyfnod ar gyfer apelio o dan reoliad 14 wedi dod i ben neu bod yr ataliad wedi cael ei gadarnhau yn dilyn apêl o'r fath;
(b) wedi'i atal yn flaenorol ac y bu anghydffurfio pellach gyda Rheoliad TSE y Gymuned neu'r Rheoliadau hyn; neu
(c) wedi'i fodloni nad yw'r meddiannydd bellach yn defnyddio'r safle at y pwrpas y rhoddwyd caniatâd ar ei gyfer.
(2) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn dirymu o dan baragraff (1)(b) neu (1)(c) mae'r weithdrefn apelio yn rheoliad 14 yn gymwys ond mae'r dirymu yn parhau mewn grym yn ystod y weithdrefn apelio.
Y weithdrefn apelio 14.
—(1) Lle bo'r rheoliad hwn yn gymwys, gall person wneud sylwadau ysgrifenedig ynglŷn â phenderfyniad i berson a benodwyd at y pwrpas gan y Cynulliad Cenedlaethol o fewn 21 diwrnod o roi hysbysiad o'r penderfyniad
(2) Rhaid i'r person a benodir roi adroddiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi hysbysiad ysgrifenedig i'r apelydd o'i benderfyniad terfynol a'r rhesymau amdano.
Prisio 15.
—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo rhaid cael prisiad o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Caiff y perchennog a Chynulliad Cenedlaethol Cymru gytuno ar y cyfryw brisiad.
(3) Os na all y perchennog a'r Cynulliad Cenedlaethol gytuno ar y cyfryw brisiad, cânt benodi prisiwr ar y cyd.
(4) Os na all y perchennog a'r Cynulliad Cenedlaethol gytuno ar bwy fydd y prisiwr, rhaid i Lywydd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig enwebu'r prisiwr, a rhaid i'r perchennog a'r Cynulliad Cenedlaethol ill dau dderbyn yr enwebiad.
(5) Rhaid i'r prisiwr gyflawni'r prisiad a'i gyflwyno ynghyd ag unrhyw wybodaeth a dogfennaeth berthnasol arall i'r Cynulliad Cenedlaethol, a rhoi copi i'r perchennog.
(6) Mae gan y perchennog a chynrychiolydd y Cynulliad Cenedlaethol ill dau yr hawl i fod yn bresennol mewn prisiad.
(7) Mae'r prisiad yn rhwymo'r perchennog a'r Cynulliad Cenedlaethol ill dau.
Penodi arolygwyr 16.
Mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol a'r awdurdod lleol benodi arolygwyr at bwrpas gorfodi'r Rheoliadau hyn ac eithrio fel y nodwyd yn Atodlen 6.
Pwerau i gael mynediad 17.
—(1) Mae'n rhaid i arolygwr, ar ôl dangos, lle bo'r angen, dogfen ddilys yn dangos ei awdurdod, gael yr hawl ar bob awr resymol, i fynd mewn i unrhyw safle (gan gynnwys unrhyw safle domestig os yw'n cael ei ddefnyddio at unrhyw bwrpas mewn cysylltiad â Rheoliad TSE y Gymuned a'r Rheoliadau hyn) er mwyn sicrhau y cydymffurfir â Rheoliad TSE y Gymuned a'r Rheoliadau hyn; ac yn y rheoliad hwn mae "safle"yn cynnwys unrhyw gerbyd, cynhwysydd neu strwythur (symudol neu beidio).
(2) Gydag ef neu hi gall arolygwr fynd â–
(a) unrhyw bersonau eraill yr ystyria bod eu hangen; ac
(b) unrhyw gynrychiolydd o'r Comisiwn Ewropeaidd sy'n gweithredu at ddiben gorfodi rhwymedigaeth Gymunedol.
(3) Os bydd arolygydd yn mynd mewn i unrhyw safle sydd heb ei feddiannu mae'n rhaid iddo ei adael wedi ei ddiogelu yr un mor effeithiol yn erbyn mynediad anawdurdodedig ag yr oedd pan aeth iddo.
(ii) corff anifail, ac unrhyw rannau o'r corff (gan gynnwys y gwaed a'r croen) ac unrhyw semen, embryo neu ofwm; neu
(iii) brotein anifeiliaid neu fwydydd anifeiliaid a all gynnwys protein anifeiliaid,
a'u gwaredu fel bo'r angen;
(b) cynnal unrhyw ymholiadau, ymchwiliadau, archwiliadau a phrofion;
(c) casglu, corlannu ac archwilio unrhyw anifail ac at y pwrpas hwn gall fynnu bod ceidwad unrhyw anifail o'r fath yn trefnu i gasglu a chorlannu'r anifail;
(ch) archwilio unrhyw gorff anifail ac unrhyw rannau o'r corff (gan gynnwys y gwaed a'r croen) ac unrhyw semen, embryo neu ofwm;
(d) archwilio unrhyw ran o'r safle, unrhyw gyfarpar, cyfleuster, gwaith neu weithdrefn;
(dd) cymryd unrhyw samplau;
(e) cael hawl gweld unrhyw gofnodion, a'u harchwilio a'u copïo (ym mha bynnag ffurf y maent) er mwyn penderfynu a gydymffurfir â'r Rheoliadau hyn, gan gynnwys cofnodion a gedwir o dan Reoliad TSE y Gymuned a'r Rheoliadau hyn, neu gymryd y cofnodion er mwyn eu copïo;
(f) cael mynediad at unrhyw gyfrifiadur a'i archwilio a gwirio ei weithrediad, ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sy'n cael ei ddefnyddio neu wedi cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad ag unrhyw gofnod; ac at y diben hwn, efallai bydd rhaid i unrhyw berson sy'n gyfrifol am, neu'n gysylltiedig â gweithrediad y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd, roi cymorth iddo fel sy'n ofynnol yn rhesymol (gan gynnwys rhoi unrhyw gyfrinair angenrheidiol) a, lle cedwir cofnod ar gyfrifiadur, gall fod yn ofynnol i'r cofnodion gael eu cynhyrchu mewn ffurf y gellid eu cymryd ymaith;
(ff) marcio unrhyw beth (gan gynnwys anifail) yn electronig neu fel arall, at ddiben adnabod; a
(g) cloi neu selio unrhyw gynhwysydd neu storfa.
(2) Mae unrhyw berson sy'n difwyno, dileu neu'n tynnu unrhyw farc neu sêl, neu'n tynnu unrhyw glo, fel sy'n gymwys o dan baragraff (1) yn euog o drosedd.
(3) Nid yw arolygwr yn atebol yn bersonol am unrhyw beth y gwna–
(a) wrth weithredu'r Rheoliadau hyn neu ar y perwyl o'u gweithredu; ac
(b) o fewn cwmpas ei gyflogaeth,
os yw'n gweithredu yn y gred onest bod ei ddyletswydd o dan y Rheoliadau hyn yn ei gwneud hi'n ofynnol neu'n rhoi'r hawl iddo wneud hynny; ond nid yw hyn yn effeithio ar unrhyw atebolrwydd sydd gan ei gyflogwr.
Hysbysiadau 19.
—(1) Os oes rhaid, am unrhyw reswm sy'n gysylltiedig â gorfodi Reoliad TSE y Gymuned neu'r Rheoliadau hyn, gall arolygwr roi hysbysiad i–
(a) berchennog neu geidwad unrhyw anifail;
(b) person sydd â chorff neu unrhyw ran o gorff anifail (gan gynnwys y gwaed a'r croen) neu unrhyw semen, embryo neu ofwm yn ei feddiant; neu'r
(c) person sydd ag unrhyw brotein anifeiliaid neu fwydydd anifeiliaid a all cynnwys protein anifeiliaid yn ei feddiant.
(2) Mae'n rhaid i'r hysbysiad fod yn ysgrifenedig, a rhoi'r rhesymau pam bod yr hysbysiad yn cael ei gyflwyno.
(3) Gall yr hysbysiad–
(a) wahardd symud unrhyw anifail i'r safle neu o'r safle a nodwyd yn yr hysbysiad;
(b) nodi'r rhannau hynny o'r safle y gall anifail gael mynediad iddynt neu beidio a chael mynediad iddynt;
(c) ei gwneud hi'n ofynnol i unrhyw anifail gael ei ladd neu ei gigydda;
(ch) gwahardd neu ei gwneud hi'n ofynnol symud corff unrhyw anifail neu unrhyw ran o gorff (gan gynnwys gwaed a chroen) unrhyw anifail, unrhyw brotein anifeiliaid neu fwydydd anifeiliaid a all gynnwys protein anifeiliaid, ac unrhyw semen, embryo neu ofwm anifeiliaid i'r safle neu o'r safle sydd wedi ei nodi yn yr hysbysiad;
(d) ei gwneud hi'n ofynnol gwaredu corff neu unrhyw ran o'r corff (gan gynnwys gwaed a chroen) unrhyw anifail (boed yr anifail yr oedd yn ofynnol ei gadw ai peidio,) ac unrhyw semen, embryo neu ofwm fel sydd wedi ei nodi yn yr hysbysiad;
(dd) ei gwneud hi'n ofynnol gwaredu unrhyw brotein anifeiliaid neu fwydydd anifeiliaid a all fod yn cynnwys protein anifeiliaid neu nodi sut y maent i'w cael eu defnyddio; neu
(e) ei gwneud hi'n ofynnol ail-alw unrhyw brotein anifeiliaid neu fwydydd anifeiliaid a all fod yn cynnwys protein anifeiliaid.
(4) Os bydd arolygwr yn amau bod unrhyw safle, cerbyd neu gynhwysydd y mae Rheoliad TSE y Gymuned neu'r Rheoliadau hyn yn berthnasol iddynt yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd, gall roi hysbysiad i'r meddiannydd neu'r person sy'n gyfrifol am y safle, y cerbyd neu gynhwysydd yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r person hwnnw lanhau a diheintio'r safle, y cerbyd neu'r cynhwysydd yn gyfan neu unrhyw ran ohono ac unrhyw gyfarpar sy'n gysylltiedig.
(5) Gall hysbysiad nodi sut mae cydymffurfio â'r hysbysiad, a nodi'r terfynau amser.
(6) Mae'n rhaid cydymffurfio â hysbysiad ar draul y person y mae'r hysbysiad wedi ei roi iddo, ac os na chydymffurfir â'r hysbysiad gall arolygwr drefnu y cydymffurfir â'r hysbysiad ar draul y person hwnnw.
(7) Mae peidio â chydymffurfio â hysbysiad yn drosedd.
Hysbysiadau yn cyfyngu ar symud 20.
—(1) Os cyflwynir hysbysiad yn cyfyngu ar symud, gall arolygydd ar ôl hynny ganiatáu symud gydag awdurdod trwydded.
(2) Mae'n rhaid i berson sy'n cludo o dan awdurdod trwydded gario'r drwydded gydag ef yn ystod symud, a'i ddangos ar gais i arolygydd, ac mae peidio â gwneud hynny yn drosedd.
(a) yn rhwystro arolygydd sy'n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn yn fwriadol;
(b) heb achos rhesymol, yn peidio â rhoi unrhyw gymorth neu wybodaeth i arolygydd sy'n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn neu'n peidio â darparu unrhyw gyfleusterau y mae'r arolygydd yn mynnu'n rhesymol iddo eu rhoddi neu eu darparu er mwyn i'r arolygydd weithredu ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn;
(c) yn rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol i arolygydd sy'n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn; neu
(ch) yn peidio â chyflwyno cofnod pan mae'n ofynnol iddo wneud hynny gan arolygydd sy'n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn.
Cosbau 22.
Mae person sy'n euog o drosedd o dan y Rheoliadau hyn yn agored–
(a) i ddirwy o ddim mwy na'r mwyafswm statudol neu i garchar am dymor o dri mis neu'r ddau, ar gollfarn ddiannod; neu
(b) i ddirwy neu i garchar am dymor o ddim mwy na dwy flynedd, neu'r ddau, ar gollfarniad ar dditment.
Troseddau gan gyrff corfforaethol 23.
—(1) Lle bo corff corfforaethol yn euog o drosedd o dan y Rheoliadau hyn, ac y profir bod y drosedd honno wedi ei chyflawni gyda chaniatâd neu oddefiad, neu ei bod wedi ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran–
(a) unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson tebyg arall o'r corff corfforaethol; neu
(b) unrhyw berson a oedd yn cymryd arno ei fod yn gweithredu mewn unrhyw allu o'r fath,
y mae ef neu hi, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r drosedd.
(2) At bwrpas paragraff (1), ystyr "cyfarwyddwr", mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei fusnes yn cael ei reoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.
Gorfodi 24.
—(1) Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gorfodi Atodlen 2 mewn lladd-dai a safleoedd torri.
(2) Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn gorfodi Atodlen 6 mewn lladd-dai a safleoedd torri.
(3) Fel arall mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gorfodi gan yr awdurdod lleol.
(4) Gall y Cynulliad Cenedlaethol, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad arbennig neu unrhyw achos arbennig, roi cyfarwyddyd bod rhaid i ddyletswydd gorfodi a roddir ar awdurdod lleol o dan y rheoliad hwn gael ei weithredu gan y Cynulliad Cenedlaethol ac nid gan yr awdurdod lleol.
Diwygiad i Reoliadau TSE (Cymru) 2002 25.
Ym mharagraff 17(1) o Atodlen 6A i Reoliadau TSE (Cymru) 2002[9]yn lle'r geiriau "yr atodlen hon" rhodder y geiriau "atodlen 4 i Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006".
Dirymu 26.
Diddymir y darpariaethau sydd yn Atodlen 8 yn ogystal â'r rheoliadau canlynol.
(a) Rheoliadau Cynhyrchu Colagen Buchol y Bwriedir i Bobl ei Fwyta yn y Deyrnas Unedig (Cymru) 2005[10];
(b) Rheoliadau Bucholion a Chynhyrchion Buchol (Masnach) 1999[11].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[12]
Offerynnau sy'n berthnasol i Reoliad TSE y Gymuned
Mae Rheoliad TSE y Gymuned wedi cael ei ddiwygio gan, a rhaid ei ddarllen gyda–
1.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1248/2001 yn diwygio Atodiadau III, X a XI i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas ag arolygaeth epidemiolegol ac arbrofi ensepalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy[13];
2.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1326/2001 yn gosod mesurau trosiannol i ganiatáu newid drosodd i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyfer atal, rheoli a dileu rhai mathau o enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy, a diwygio Atodiadau VII a XI i'r Rheoliad hwnnw[14];
3.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 270/2002 yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â deunydd risg penodedig ag arolygaeth epidemiolegol ar gyfer enseffalopathïau sbyngffurf tros-glwyddadwy ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1326/2001 mewn perthynas â bwydo anifeiliaid a rhoi defaid a geifr a'u cynhyrchion ar y farchnad[15];
4.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1494/2002 yn diwygio Atodiadau III, VII a XI i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â monitro enseffalopathïau sbyngffurf mewn gwartheg, dileu enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy, symud deunydd risg penodedig a rheolau ar gyfer mewnforio anifeiliaid byw a chynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid[16];
5.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 260/2003 yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â dileu ensffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy mewn defaid a geifr a rheoliadau ar gyfer y fasnach mewn defaid a geifr byw ac embryonau gwartheg[17];
6.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 650/2003 yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â mewnforio defaid a geifr byw[18];
7.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1053/2003 yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â phrofion cyflym[19];
8.
Deddf yn ymwneud ag amodau dod â Gweriniaeth Tsiec, gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithuania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia ac y Weriniaeth Slofac yn aelod wledydd a newidiadau i'r Cytundebau y cafodd yr Undeb Ewropeaidd ei sefydlu arnynt[20];
9.
Rheoliad (EC) Rhif 1128/2003 o Senedd Ewrop a'r Cyngor yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 mewn perthynas ag ymestyn y cyfnod ar gyfer mesurau trosiannol[21];
10.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1139/2003 yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â monitro rhaglenni a deunydd risg penodedig[22];
11.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1234/2003 yn diwygio Atodiadau I, IV a XI i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 1326/2001 mewn perthynas ag enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy a bwydo anifeiliaid[23];
12.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1809/2003 yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â rheolau ar gyfer mewnforio gwartheg byw a chynhyrchion sy'n dod o wartheg, defaid a geifr o Costa Rica a Caledonia Newydd[24];
13.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1915/2003 yn diwygio Atodiadau VII, VIII a IX i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â masnachu a mewnforio defaid a geifr a'r mesurau yn dilyn cadarnhau ensepalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy mewn gwartheg, defaid a geifr[25];
14.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2245/2003 yn diwygio Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â monitro enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy mewn defaid a geifr[26];
15.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 876/2004 yn diwygio Atodiad VIII i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â masnach mewn defaid a geifr ar gyfer bridio[27];
16.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1471/2004 yn diwygio Atodiad XI i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â mewnforio cynhyrchion carw o Ganada a'r Unol Daleithiau[28];
17.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1492/2004 yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â mesurau dileu enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy mewn gwartheg, defaid a geifr, masnachu a mewnforio semen ac embryonau defaid a geifr a deunydd risg penodedig[29];
18.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1993/2004 yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â Phortiwgal[30];
19.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 36/2005 yn diwygio Atodiadau III a X i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas ag arolygaeth epidemiolegol ar gyfer enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy mewn gwartheg, defaid a geifr[31];
20.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 214/2005 yn diwygio Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â monitro enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy mewn geifr[32];
21.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 260/2005 yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â phrofion cyflym[33];
22.
Rheoliad (EC) Rhif 932/2005 o Senedd Ewrop a'r Cyngor yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 yn gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a dileu rhai mathau o enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy mewn perthynas ag ymestyn y cyfnod ar gyfer mesurau trosiannol[34];
23.
Penderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC yn gwahardd rhoi cynhyrchion sy'n deillio o wartheg a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 ar y farchnad at unrhyw bwrpas ac yn eithrio anifeiliaid o'r fath o rai mesurau rheoli a dileu arbennig a osodwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001[35];
24.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1292/2005 yn diwygio Atodiad IV i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â maeth anifeiliaid[36]; a
25.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1974/2005 yn diwygio Atodiadau X a XI i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â labordai cyfeirio cenedlaethol a deunydd risg penodedig[37].
26.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 253/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran profion cyflym a mesurau i ddileu TSE mewn anifeiliaid o deulu'r ddafad a'r afr[38];
27.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 339/2006 sy'n diwygio Atodiad XI i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran y rheolau ar fewnforio anifeiliaid buchol byw a chynnyrch sy'n dod o anifeiliaid buchol, ac o anifeiliaid o deulu'r ddafad a'r afr[39]; a
28.
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 657/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor mewn perthynas â'r Deyrnas Unedig ac yn dirymu Penderfyniad y Cyngor 98/256/EC a Phenderfyniadau 98/351/EC ac 1999/514/EC[40].
(b) bod canlyniadau'r profion yn cael eu derbyn, naill ai drwy ffacs neu drwy ddulliau electronig eraill; ac
(c) yn dilyn canlyniad positif neu ddim-prawf (fel y disgrifiwyd ym mharagraff 5(3)), bod popeth sy'n ofynnol i'w waredu yn unol â phwynt 6(4) neu 6(5) o Ran I o Bennod A o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned neu o dan yr Atodlen hon yn cael ei adnabod a'i waredu yn unol â hynny.
(a) nad yw'n cael ei fwydo i unrhyw anifeiliaid sy'n cael eu ffermio;
(b) nad yw'n cael ei storio neu ei drin mewn rhannau o'r safle lle –
(i) mae gan anifeiliaid sy'n cael eu ffermio fynediad atynt; neu
(ii) mae bwydydd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid sy'n cael eu ffermio yn cael eu storio neu eu trin;
(c) nad yw'n dod i gysylltiad â–
(i) bwydydd anifeiliaid y caniateir iddynt gael eu bwydo i anifeiliaid sy'n cael eu ffermio; neu
(ii) drin cyfarpar a ddefnyddir mewn cysylltiad ag unrhyw fwydydd anifeiliaid o'r fath; ac
(ch) nad yw anifeiliaid sy'n cael eu ffermio byth yn cael mynediad at fwydydd anifeiliaid anwes, ac nad ydynt yn cael mynediad at wrtaith organig neu ddeunydd gwella pridd hyd nes y bydd wedi cael ei ddefnyddio ar y tir a bod y cyfnod dim pori a nodir yn rheoliad 11 o Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid 2003 wedi dod i ben.
(b) gweithiwr cynorthwyol swyddogol sydd â chymwysterau yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 i weithredu yn y swyddogaeth honno, wedi ei benodi gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac yn gweithio o dan awdurdod a chyfrifoldeb milfeddyg swyddogol; neu
(c) unrhyw berson arall a benodir at y pwrpas gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
(3) Gall penodiad fel arolygydd fod yn gyfyngedig i bwerau a dyletswyddau sydd wedi eu nodi yn y penodiad.
(4) Mae gan unrhyw berson sy'n gweithredu pwerau arolygydd o dan yr Atodlen hon yr amddiffyniad a nodir yn rheoliad 18(3).
(b) sy'n gweithredu fel mangre o'r fath o dan Erthygl 4(5) o Reoliad (EC) Rhif 835/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid[48]hyd onis cymeradwyir felly.
(4) Mae peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn drosedd.
(ii) y cyfryw asiant lliwio arall ag y gallo'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Asiantaeth Safonau Bwyd ei gymeradwyo'n ysgrifenedig; a
(b) rhaid taenu'r staen yn y fath fodd fel y bo'r lliwiad yn hollol weladwy ac yn parhau'n hollol weladwy–
(i) dros y cyfan o'r wyneb a dorrwyd a'r rhan fwyaf o'r pen yn achos pen dafad neu afr; a
(ii) yn achos pob deunydd risg penodedig arall, dros wyneb cyfan y deunydd.
(3) Ni fydd y paragraff hwn yn gymwys o ran unrhyw ddeunydd risg penodedig y bwriedir ei ddefnyddio yn ôl fel y darperir yn Erthygl 1(2)(b) ac (c) o Reoliad TSE y Gymuned.
Cyfyngiadau ar anfon i Aelod-wladwriaethau eraill ac i drydydd gwledydd
Cyfyngiadau ar anfon i Aelod-wladwriaethau eraill ac i drydydd gwledydd
1.
Mae i unrhyw berson anfon, neu gynnig anfon, y canlynol i Aelod-wladwriaethau eraill neu i drydydd gwledydd yn dramgwydd–
(a) anifeiliaid buchol a gafodd eu geni neu eu magu yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996;
(b) cig neu chynhyrchion yn deillio o anifeiliaid buchol a gafodd eu geni neu eu magu yn y Deyrnas Unedig ar ôl 31 Gorffennaf 1996 a'u cigydda cyn 15 Mehefin 2005; neu
(c) asgwrn cefn anifeiliaid buchol a gafodd eu geni neu eu magu yn y Deyrnas Unedig ar ôl 31 Gorffennaf 1996 a'u cigydda cyn 3 Mai 2006 a chynhyrchion yn deillio o'r cyfryw asgwrn cefn.
Allforio i drydydd gwledydd
2.
Yn unol â pharagraff olaf pwynt 13 yn Rhan A o Atodiad XI i Reoliad TSE y Gymuned, mae allforio i drydedd wlad bennau anifeiliaid buchol neu anifeiliaid o deulu'r ddafad neu'r afr neu gig ffres sy'n dod ohonynt, a'r rheini'n cynnwys deunydd risg penodedig, yn dramgwydd.
Rheoliadau Protein Anifeiliaid wedi'i Brosesu (Cymru) 2001
O.S. 2001/2780
Rheoliadau TSE (Cymru) 2002 ac eithrio rheoliadau 8,9,84,93,Rhan III o Atodlen 1, RHEOLIAD 17 o Ran IV o Atodlen 6A a rheoliadau 4 ac 8 o Atodlen 7, sydd yn ymwneud â talu iawndal wedi cigydda anifeiliaid Buchol a Defaid a Geifr sydd wedi eu heintio â TSE
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn dirymu ac yn ail-wneud gyda diwygiadau Rheoliadau TSE (Cymru) 2002, a oedd yn gorfodi Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 o Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod rheolau i atal, rheoli a dileu rhai mathau o sbyngffurf trosglwyddadwy (OJ Rhif L 147, 31.5.2001, tud. 1) fel y'i diwygiwyd gan, ac fel y'i darllennir gyda, darpariaethau Atodlen 1 (" Rheoliad TSE y Gymuned").
Nid yw darpariaethau iawndal rheoliadau TSE (Cymru) 2002 yn cael eu dirymu ac maent yn parhau mewn grym hyd nes bod darpariaethau iawndal newydd yn dod i rym i dalu iawndal am BSE mewn anuifeiliaid buchol a TSE mewn defaid a geifr
Y Prif Reoliadau
Mae'r Rheoliadau yn darparu mai'r Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliad TSE y Gymuned (ac eithrio yn Atodlen 6, lle mai'r Asiantaeth Safonau Bwyd yw'r awdurdod cymwys) (rheoliad 3) ac yn darparu eithriad ar gyfer ymchwil (rheoliad 4).
Mae'r darpariaethau yn Rhan 2 yn cyflwyno'r Atodlenni.
Mae Rhan 3 yn ymwneud â gweinyddu a gorfodi.
Mae Rheoliadau 10 i 14 yn ymwneud â chymeradwyo, awdurdodi, trwyddedu a chofrestru, dyletswyddau'r meddiannydd, atal, diwygio a dirymu cymeradwyaeth, etc., a gweithdrefn apelio. Mae Rheoliad 15 yn ymwneud â phrisio.
Mae Rheoliadau 16 i 18 yn rhoi pwerau i'r Cynulliad Cenedlaethol a'r awdurdod lleol i benodi arolygwyr, ac i ddelio â phwerau mynediad a phwerau arolygwyr. Mae Rheoliad 19 yn darparu ar gyfer gweithdrefn hysbysu, ac mae rheoliad 20 yn darparu ar gyfer trwyddedau sy'n caniatáu symud yn ystod cyfnod cyfyngu ar symud.
Mae Rheoliadau 21 i 23 yn ymwneud â rhwystro arolygwr, cosbau, a throseddau gan gorff corfforaethol. Mae person sy'n euog o drosedd o dan y Rheoliadau hyn yn atebol–
(a) ar gollfarn ddiannod, am ddirwy o ddim mwy na'r mwyafswm statudol neu garchar am dymor o dri mis neu'r ddau, neu
(b) ar gollfarn ar dditment, am ddirwy neu garchar am dymor o ddim mwy na dwy flynedd neu'r ddau.
Mae Rheoliadau 24 yn delio â gorfodi.
Mae Rheoliad 25 yn delio â diwygiadau i Reoliadau TSE (Cymru) 2002, ac mae Rheoliad 26 yn delio â dirymiadau.
Atodlen 1
Mae Atodlen 1 yn rhestru darpariaethau sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 a rhaid darllen y Rheoliad gyda'r Atodlen.
Atodlen 2
Mae Atodlen 2 yn ymwneud â monitro ar gyfer TSE. Mae paragraff 1 yn darparu ar gyfer hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol am stoc trig sydd raid eu profi am TSE o dan y Rheoliad TSE y Gymuned. Mae paragraff 2 yn ei gwneud hi'n drosedd i draddodi anifail sydd dros yr oedran i ladd-dy i'w fwyta gan bobl, ac i gigydda anifail o'r fath i'w fwyta gan bobl. Mae paragraff 3 yn darparu ar gyfer samplu coesyn yr ymennydd mewn gwartheg penodedig.
Mae paragraff 4 yn creu gofyniad i unrhyw un sy'n cigydda anifeiliaid dros 30 mis oed ar gyfer eu bwyta gan bobl i gael Dull Gofynnol o Weithredu.
Mae paragraff 5 yn darparu ar gyfer cadw cynhyrchion a'u gwaredu, ac mae paragraff 6 yn ymwneud ag iawndal.
Mae paragraffau 7 i 14 yn nodi'r gofynion sylfaenol sydd raid eu cynnwys mewn Dull Gofynnol o Weithredu.
Atodlen 3
Mae Atodlen 3 yn ymwneud â rheoli a dileu TSE mewn gwartheg. Mae paragraff 1 yn darparu ar gyfer hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol am anifail dan amheuaeth. Mae paragraffau 2 a 3 yn darparu ar gyfer cyfyngu ar a chigydda'r anifail sydd dan amheuaeth. Mae paragraffau 4 a 5 yn ymwneud ag epil a chohortau'r anifail sydd dan amheuaeth. Mae paragraff 6 yn ymwneud ag iawndal am anifail sy'n marw o dan gyfyngiadau, ac mae paragraff 7 yn ymwneud â rhoi anifail ar y farchnad.
Atodlen 4
Mae Atodlen 4 yn ymwneud â rheoli a dileu TSE mewn defaid a geifr. Mae paragraff 1 yn darparu ar gyfer hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol am anifail sydd dan amheuaeth. Mae paragraffau 2 a 3 yn darparu ar gyfer cyfyngu a chigydda'r anifail sydd dan amheuaeth. Mae paragraffau 4 a 5 yn ymwneud â chyfyngiadau symud. Mae paragraffau 6 i 8 yn darparu ar gyfer gweithredu yn dilyn cadarnhad. Mae paragraff 9 yn darparu ar gyfer amser i apelio, ac mae paragraff 10 yn darparu ar gyfer lladd a dinistrio. Mae paragraffau 11 i 13 yn ymwneud ag anifeiliaid heintiedig o ddaliad arall, pori cyffredin ac aml-ddiadellau ar ddaliad. Mae paragraff 14 yn ymwneud â meddianwyr dilynol y tir.
Mae paragraffau 15 i 21 yn nodi'r weithdrefn sydd i'w dilyn ar ôl lladd neu ddinistrio'r anifeiliaid. Mae paragraff 15 yn cyfyngu ar gyflwyno anifeiliaid i ddaliad. Mae paragraff 16 yn rheoleiddio'r defnydd o gynnyrch cenhedlol defaid, ac mae paragraff 17 yn cyfyngu ar symud anifeiliaid o ddaliad.
Mae paragraff 18 yn nodi pa bryd mae'r amser sy'n ymwneud â chyfyngiadau yn dechrau. Mae paragraff 19 yn darparu ar gyfer hysbysu am anifeiliaid sy'n marw tra eu bod dan gyfyngiadau. Mae paragraff 20 yn ymwneud â rhoi epil ar y farchnad, ac mae paragraff 21 yn ei gwneud hi'n ofynnol i hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol cyn gall y perchennog draddodi defaid dros 18 mis ar gyfer eu cigydda.
Mae paragraff 22 yn ymwneud â rhanddirymiadau o'r gofyniad i ladd a dinistrio defaid a geifr.
Atodlen 5
Mae Atodlen 5 yn ymwneud â bwydydd anifeiliaid. Mae paragraffau 1 i 3 yn gwahardd bwydo bwydydd penodedig i anifeiliaid cnoi cil ac anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil, ac yn darparu ar gyfer eithriadau. Mae paragraffau 4 a 5 yn darparu ar gyfer cyfyngiadau symud a chigydda anifeiliaid sydd dan amheuaeth o fod wedi cael eu bwydo gyda bwydydd gwaharddedig, ac mae paragraff 6 yn darparu ar gyfer iawndal. Mae paragraff 7 yn gwahardd anifeiliaid dan gyfyngiadau rhag cael eu cigydda i'w bwyta gan bobl.
Mae paragraffau 8 a 9 yn rheoleiddio cynhyrchu a defnyddio blawd pysgod i'w fwydo i anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil. Mae paragraffau 10 a 11 yn rheoleiddio bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys ffosffad deucalsiwm neu ffosffad tricalsiwm. Mae paragraffau 12 a 13 yn rheoleiddio bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys cynnyrch gwaed a blawd gwaed.
Mae paragraff 14 yn darparu ar gyfer newidiadau o ran defnyddio cyfarpar. Mae paragraffau 15 a 16 yn rheoli gweithgynhyrchu, storio a chludo protein anifeiliaid wedi'i brosesu a chynhyrchion sy'n ei gynnwys. Mae paragraff 17 yn rheoli allforio, ac mae paragraff 18 yn rheoleiddio gwrtaith sy'n deillio o brotein anifeiliaid. Mae paragraff 19 yn ymwneud â chofnodion, ac mae paragraff 20 yn ymwneud â thrawshalogi.
Atodlen 6
Mae Atodlen 6 yn ymwneud â deunydd risg penodedig, cig sydd wedi'i adennill trwy ddulliau mecanyddol a dulliau cigydda. Mae paragraff 1 yn penodi'r Asiantaeth Safonau Bwyd fel yr awdurdod cymwys ar gyfer yr Atodlen hon. Mae paragraff 2 yn gosod dyletswyddau penodol ar awdurdodau lleol mewn perthynas â siopau cig. Mae paragraff 3 yn darparu ar gyfer hyfforddi staff lladd-dai, safleoedd torri a staff siopau cig.
Mae paragraff 4 yn ymwneud â chig sydd wedi'i adennill trwy ddulliau mecanyddol, mae paragraff 5 yn ymwneud â phithio, mae paragraff 6 yn ymwneud â chynaeafu tafodau, ac mae paragraff 7 yn ymwneud â chynaeafu cig y pen.
Mae paragraff 8 yn rheoli tynnu deunydd risg penodedig, ac mae paragraffau 9 a 10 yn ymwneud â gwartheg a defaid a geifr mewn lladd-dy.
Mae paragraff 11 yn ymwneud â stampiau wyn a geifr ifanc.
Mae paragraff 12 yn ymwneud â thynnu llinyn asgwrn y cefn mewn defaid a geifr.
Mae paragraff 13 yn darparu ar gyfer awdurdodi safleoedd torri, ac mae paragraff 15 yn rheoli tynnu deunydd risg penodedig mewn safleoedd torri.
Mae paragraff 16 yn ymwneud â thynnu llinyn asgwrn y cefn sydd yn ddeunydd risg penodedig mewn safleoedd torri nad sydd wedi eu hawdurdodi o dan baragraff 13.
Mae paragraff 14 yn ymwneud ag awdurdodi a chofrestru siopau cig, ac mae paragraff 17 yn rheoli tynnu deunydd risg penodedig mewn siopau o'r fath.
Mae paragraff 18 yn ymwneud â chig o aelod wladwriaethau eraill.
Mae paragraffau 19 ac 20 yn ei gwneud hi'n ofynnol i staenio deunydd risg penodedig, ac mae paragraff 21 yn darparu ar gyfer diogelwch deunydd risg penodedig.
Mae paragraff 22 yn gwahardd cyflenwi deunydd risg penodedig i'w fwyta gan bobl.
Atodlen 7
Mae Atodlen 7 yn ymwneud â danfon anifeiliaid buchol byw a chynhyrchion sy'n deillio ohonynt i aelod Wladwriaethau eraill ac i drydydd gwledydd.
Atodlen 8
Mae Atodlen 8 yn dirymu Rheoliadau.
Mae arfarniad rheoliadol wedi cael ei baratoi a'i roi yn llyfrgell y Cynulliad Cenedlaethol. Gellir cael copïau oddi wrth Adran yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.