Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Bracla a Choety Uchaf) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Bracla a Choety Uchaf) 2006, ISBN 0110913302. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Gan fod Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru, wedi cyflwyno adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[1], dyddiedig Awst 2005 ar ei adolygiad o ran o'r ffin rhwng Cymunedau Bracla a Choety Uchaf ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ynghyd â chynigion a luniwyd ganddo arnynt; A chan fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i'r cynigion hynny heb newidiadau; A chan fod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru; Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd bellach wedi eu breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent i'w harfer o ran Cymru[2], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi a Chychwyn 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Bracla a Choety Uchaf) 2006. (2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2006, sef y diwrnod penodedig at ddibenion Rheoliadau 1976, ac eithrio fod y Gorchymyn hwn, at y dibenion a osodir yn Rheoliad 4 o Reoliadau 1976, yn dod i rym ar y diwrnod ar (tm)l iddo gael ei wneud. Dehongli 2. Yn y Gorchymyn hwn—
Newid Ffiniau Cymunedau (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn, sydd wedi ei wneud yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn rhoi effaith i gynigion a wnaed gan y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru. Effaith y cynigion hyn yw y bydd dwy ardal yn cael eu trosglwyddo o gymuned Coety Uchaf i gymuned Bracla ac y bydd un ardal yn cael ei throsglwyddo o gymuned Bracla i gymuned Coety Uchaf wedi i'r Gorchymyn hwn ddod i rym. Mae'r ffin rhwng Ward Gymunedol Pendre a Ward Gymunedol Coety yng nghymuned Coety Uchaf yn cael ei newid i gyfateb â'r; ffin gymunedol newydd fel y'i dangosir ar y map ffiniau ac, ymhellach, caiff y ffin rhwng Ward Gymunedol Pendre a Ward Gymunedol Coety ei newid fel y dangosir ar y map ffiniau. Mae printiau o'r map ffiniau yn dangos y ffiniau newydd wedi eu hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn Swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn y Swyddfeydd Dinesig, Angel Street, Pen-y-bont ar Ogwr ac yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd. Mae Rheoliadau Newid Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'u diwygiwyd) y cyfeirir atynt yn Erthyglau 1(2) a 2 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol ac atodol ynglyön ag effaith a gweithredu gorchmynion megis y rhain. Mae yna newidiadau canlyniadol i adrannau etholaethol Pendre a Bracla i gyfateb â'r; ffin gymunedol newydd. Notes: [1] 1972 p.70.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1.back [3] O.S. 1976/246 fel y'i diwygiwyd gan amryfal offerynnau statudol ond nad yw'r diwygiadau hynny'n berthnasol i'r offeryn statudol hwn.back
ISBN 0 11 091330 2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 4 May 2006 |