Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2006, ISBN 011091323X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 1, 7(1), 8(1), 15(4), 25, 32(2), 83(2), 87(2) a 88(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2006 a daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 2 Mai 2006. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru. Dirymu 2. Mae Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru a Lloegr) 1984[2] a Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 1990[3] drwy hyn wedi'u dirymu i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru. Dehongli 3. —(1) Yn y Gorchymyn hwn:—
Estyn y diffiniad o "disease" a phŵer i gigydda o achos twbercwlosis
(b) hyd y cwblheir yr ymchwiliad milfeddygol o dan erthygl 7 a chyflwyno unrhyw hysbysiad o dan yr erthygl honno—
(ii) ei ynysu i'r graddau y mae hynny'n ymarferol oddi wrth anifeiliaid buchol eraill; a (iii) arfer rhagofalon mewn perthynas â llaeth a gynhyrchwyd gan yr anifail hwnnw fel pe bai hysbysiad o dan erthygl 7 wedi'i gyflwyno'n barod.
(2) Rhaid i filfeddyg sy'n amau fod anifail a archwiliwyd ganddo yng nghwrs ei waith yn anifail yr effeithiwyd arno, neu'n anifail a allai fod felly, hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol yn ddi-oed.
(b) sydd yng nghwrs ei waith fel milfeddyg yn archwilio unrhyw garcas o'r fath; neu (c) sydd yng nghwrs ei ddyletswyddau'n archwilio'r fath garcas i unrhyw ddiben;
cyn gynted ag y bydd yn amau y gallai'r carcas fod wedi'i effeithio arno gan dwbercwlosis, hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol.
(b) lle bo hynny'n briodol, yn cymryd camau i sicrhau nad yw'r llaeth a gynhyrchwyd gan yr anifail yn cael ei gymysgu â llaeth arall a'i fod yn cael ei ferwi neu ei sterileiddio mewn ffordd arall, a bod unrhyw lestr y bu'r llaeth hwnnw mewn cysylltiad ag ef cyn ei drin felly yn gorfod cael ei lanhau'n drwyadl a'i sgaldio gyda stêm neu ddŵr berwedig cyn y defnyddir y teclyn eto; ac (c) yn sicrhau na chaiff unrhyw anifail buchol ei symud i'r fangre neu allan ohoni, neu i unrhyw ran o'r fangre a bennir yn yr hysbysiad neu allan o'r fath ran, heblaw o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd.
Profi ar gyfer twbercwlosis
(b) cyflawni unrhyw brawf perthnasol ar gyfer twbercwlosis arno; neu (c) penderfynu ar werth yr the anifail mewn achos pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu peri ei gigydda o dan adran 32 o'r Ddeddf wedi'i chymhwyso o ran twbercwlosis,
ac yn arbennig rhaid iddo drefnu ar ei draul ei hun i gasglu, corlannu a chadw unrhyw anifail o'r fath yn ddiogel os gofynnir hynny.
(b) bod canlyniadau'r prawf wedi'u darllen gan arolygydd, a hynny gyda chanlyniad negyddol.
(6) Ni chaiff unrhyw berson ymyrryd â gweinyddu neu ddarllen prawf perthnasol.
(b) anifeiliaid buchol sydd o dan 6 wythnos oed ar ddyddiad y symud; (c) anifeiliaid buchol sydd wedi bod yn bresennol yn y fangre am ddim mwy na 30 diwrnod ar ddyddiad y symud; (ch) anifeiliaid buchol sy'n ddarostyngedig i brofion blynyddol rheolaidd am y rhesymau canlynol yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd yn unig—
(ii) eu bod yn rhan o fuches y mae'r Arolygiaeth Hylendid Llaeth wedi'i chymeradwyo ar gyfer gwerthu llaeth buwch crai ar gyfer ei yfed yn syth i'r defnyddiwr terfynol, un ai drwy fanwerthu llaeth potel neu fel rhan o fusnes arlwyo ar y fferm; (iii) eu bod yn rhan o fuches y defnyddir llaeth buwch crai yn rheolaidd ohoni ar gyfer cynhyrchu caws heb ei basteureiddio neu unrhyw gynhyrchion llaeth eraill heb eu pasteureiddio;
(d) anifeiliaid buchol sydd mewn canolfan gasglu semen wedi'i chymeradwyo.
(3) At ddibenion paragraff (1), dyddiad y prawf yw dyddiad y pigiad gyda thwbercwlin.
(b) dangos y cofnod hwnnw pan fo arolygydd yn gofyn hynny.
Symudiadau a Ganiateir
(b) unrhyw symudiad o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd milfeddygol.
Gwaharddiadau
(b) na fydd y ceidwad yn gwasgaru unrhyw tail nac yn chwistrellu neu'n gwasgaru unrhyw slyri o unrhyw le a ddefnyddiwyd gan unrhyw anifail o'r fath heblaw yn unol â gofynion yr hysbysiad; (c) na fydd y ceidwad yn symud unrhyw tail, slyri neu unrhyw wastraff anifail arall o'r fangre heblaw o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd; (ch) bod y ceidwad yn cymryd y fath gamau ag sy'n rhesymol ymarferol i rwystro unrhyw anifail buchol yn y fangre rhag heintio unrhyw anifail buchol a gedwir mewn unrhyw fangre gyffiniol; (d) bod y ceidwad yn trefnu ynysu unrhyw anifail neu anifeiliaid buchol sydd wedi'u pennu yn yr hysbysiad mewn unrhyw ran neu rannau o'r fangre a bennir; (dd) bod y ceidwad yn sicrhau na chaiff unrhyw ran neu rannau o'r fangre a bennir yn yr hysbysiad eu defnyddio gan unrhyw anifail buchol sydd yn y fangre, neu gan ba bynnag anifail neu anifeiliaid a bennir; (e) bod y ceidwad ar ei draul ei hun, ac o fewn pa amser bynnag ac ym mha fodd bynnag ag a bennir yn yr hysbysiad, yn glanhau ac yn diheintio pa bynnag ran neu rannau o'r fangre a bennir; (f) bod y ceidwad yn glanhau ac yn diheintio pob teclyn a phob eitem arall a ddefnyddiwyd ar gyfer ac o gwmpas anifail y mae'r hysbysiad yn berthnasol iddo o fewn pa amser bynnag ac ym mha fodd bynnag ag a bennir yn yr hysbysiad.
(2) Os yw unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad iddo o dan baragraff (1) yn methu â chydymffurfio â gofynion yr hysbysiad, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, heb ragfarnu unrhyw achos a allai ddeillio o'r methiant hwnnw, gyflawni neu beri cyflawni gofynion yr hysbysiad, a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill cyfanswm unrhyw dreuliau a ddaeth yn rhesymol i ran y Cynulliad Cenedlaethol wrth adfer y methiant oddi wrth y person a fethodd â chydymffurfio.
(ii) yn ôl i'r fangre y daethpwyd â'r anifail ohoni i'r sioe, arddangosfa, marchnad, arwerthiant neu ffair; neu (iii) i ba bynnag fangre arall a gymeradwyir gan yr arolygydd milfeddygol ar gyfer y diben;
(b) drwy gyflwyno hysbysiad i'r person sy'n gyfrifol am y fangre fynnu—
(ii) ei fod ar ei draul ei hun, ac o fewn pa amser bynnag ac ym mha fodd bynnag ag a ddynodir yn yr hysbysiad—
(bb) yn cael gwared ar unrhyw tail, slyri neu wastraff anifeiliaid arall, gwellt, sarn neu ddeunydd arall sydd wedi dod i gysylltiad ag anifail o'r fath, neu a allai fod wedi dod i gysylltiad ag ef.
(2) Pan symudir anifail buchol yn unol â pharagraff (1)(a)(ii) neu (iii) rhaid ei ynysu'n syth ac ni chaniateir ei symud eto heblaw o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd.
(b) gwahardd symud anifeiliaid i'r fangre honno neu oddi arni, heblaw o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd.
(2) At ddibenion paragraff (1) uchod, mae "anifail" ("animal") yn golygu unrhyw fath o famal heblaw dyn, ond nid anifail buchol.
(b) rhaid i'r person sy'n gyfrifol am yr anifail sy'n cael ei symud o dan awdurdod trwydded, pan ofynnir hynny gan arolygydd o dan y Gorchymyn hwn, roi ei enw a'i gyfeiriad a rhaid iddo ddangos y drwydded a chaniatáu cymryd copi ohoni.
Gorfodi Caniateir y symudiadau canlynol heb brofion cyn symud: Symud ar gyfer cigydda 1. Symud anifail buchol yn uniongyrchol ar gyfer ei gigydda. Symud i farchnadoedd cigydda 2. Symud anifail buchol yn uniongyrchol i farchnad o'r hon y mae pob anifail yn mynd yn uniongyrchol i'w gigydda. Symud i unedau pesgi wedi'u heithrio 3. Symud anifail buchol yn uniongyrchol i uned besgi wedi'i heithrio, sef uned besgi sydd wedi'i chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer derbyn anifeiliaid buchol nad ydynt wedi derbyn prawf ar gyfer twbercwlosis cyn eu symud yn unol â'r Gorchymyn hwn. Symud i farchnadoedd wedi'u heithrio 4. Symud anifail buchol yn uniongyrchol i farchnad wedi'i heithrio, sef marchnad sydd wedi'i chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer derbyn anifail buchol nad ydynt wedi derbyn profion ar gyfer twbercwlosis cyn eu symud yn unol â'r Gorchymyn hwn, ar yr amod ei fod un ai'n cael ei ddychwelyd yn uniongyrchol i'r fangre y daeth ohoni, neu'n uniongyrchol i uned besgi a esemptiwyd neu a gymeradwywyd neu'n uniongyrchol i'w gigydda. Symudiadau i ganolfannau casglu wedi'u cymeradwyo 5. Symud anifail buchol yn uniongyrchol i ganolfan gasglu wedi'i chymeradwyo, sef canolfan gasglu sydd wedi'i chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer derbyn anifeiliaid buchol sy'n dod o fangreoedd sydd dan gyfyngiadau symud mewn perthynas â thwbercwlosis. Symud i unedau pesgi wedi'u cymeradwyo 6. Symud anifail buchol yn uniongyrchol i uned besgi wedi'i chymeradwyo, sef uned besgi sydd wedi'i chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer derbyn anifeiliaid buchol sy'n dod o fangreoedd sydd dan gyfyngiadau symud mewn perthynas â thwbercwlosis. Tir comin 7. —(1) Symud anifail buchol rhwng tiroedd dros ba rai y mae gan berchennog neu geidwad yr anifail hawl tir comin cofrestredig ac—
(b) mangre sydd wedi'i meddiannu gan unrhyw berson arall sydd â hawl tir comin cofrestredig dros y tir hwnnw ac y mae'r hawl tir comin cofrestredig fel arfer yn cael ei harfer mewn perthynas â hi.
(2) Symud anifail buchol rhwng mangre sydd wedi'i meddiannu gan berchennog neu geidwad yr anifail ac y mae hawl tir comin cofrestredig fel arfer yn cael ei harfer mewn perthynas â hi, a mangre sydd wedi'i meddiannu gan unrhyw berson arall sydd â hawl tir comin cofrestredig dros y tir hwnnw ac y mae hawl tir comin cofrestredig y person arall hwnnw fel arfer yn cael ei harfer mewn perthynas â hi. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn dirymu ac yn ailddeddfu Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru a Lloegr) 1984 gyda newidiadau. Mae hefyd yn cyflwyno gorfodaeth i brofi rhai anifeiliaid cyn eu symud. Mae'r prif newidiadau fel a ganlyn: Cynhwysir adweithydd o fewn y diffiniad o anifail a amheuir yn hytrach nag o anifail yr effeithiwyd arno. Cafodd y diffiniad o fangre a oedd yn eithrio mannau cadw dros dro megis marchnadoedd ei ddileu. Mae'r diffiniad o fangre sy'n gymwys i'r Gorchymyn hwn yn Neddf Iechyd Anifeiliaid 1981. Mae'r diffiniad o garcas ac arolygydd ac arolygydd milfeddygol hefyd yn Neddf Iechyd Anifeiliaid 1981. Newidiwyd y diffiniad o anifail buchol i gynnwys byfflo a bual. Mae eithriadau yn y Gorchymyn blaenorol yn ymwneud ag anifeiliaid a gafodd eu mewnforio wedi'u dileu. O dan erthygl 5, rhaid hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol ynghylch anifail yr effeithiwyd arno neu yr amheuir ei fod wedi'i effeithio arno, ac ni ddylid bellach hysbysu'r awdurdod lleol na'r heddlu. Mae'r ddyletswydd i hysbysu ynghylch carcasau yn erthygl 6 yn gymwys ar gyfer pob anifail a ffermir, gan gynnwys anifeiliaid buchol, a hefyd anifeiliaid anwes. Mae ffurflenni A a B yn atodlen 1 i'r Gorchymyn blaenorol wedi'u dileu. Rhaid i hysbysiadau o dan y Gorchymyn hwn gydymffurfio â'r darpariaethau cyffredinol yn adran 83 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 a gyda darpariaethau erthygl 20. Mae erthygl 20 hefyd yn darparu y gall trwyddedau o dan y Gorchymyn fod yn gyffredinol neu'n benodol. Mae erthygl 8 yn eglurhau pŵer y Cynulliad Cenedlaethol i'w gwneud yn ofynnol i brofi ar gyfer twbercwlosis erbyn dyddiad penodol. Mae hyn yn gymwys mewn perthynas â phrofi buchesau'n rheolaidd yn unol ag amlder profi'r plwyf lle'u lleolir a hefyd mewn perthynas â phrofi ychwanegol a all fod yn ofynnol at wahanol ddibenion, er enghraifft pan fo anifeiliaid wedi cael eu symud heb brofion cyn symud. Mae erthygl 8 hefyd yn eglurhau pŵer y Cynulliad Cenedlaethol i osod cyfyngiadau ar symud yn achos methiant i brofi erbyn dyddiad a benodwyd. Pan fo prawf croen wedi'i wneud ond heb eto wedi cael ei ddarllen, neu pan fo prawf gwaed wedi'i gymryd ond nad yw'r canlyniad eto'n wybyddus, mae erthygl 8(5) yn gwahardd symud anifail hyd nes y ceir canlyniad prawf negyddol. Mae'n drosedd i ymyrryd ag unrhyw brawf ar gyfer twbercwlosis (erthygl 8(6)). Mae erthygl 9 yn cyflwyno gofyniad i gynnal prawf croen ar anifeiliaid buchol cyn eu bod yn symud o un fangre i un arall. Rhaid cynnal prawf croen ar bob anifail buchol ar gyfer twbercwlosis a hynny gyda chanlyniad negyddol ddim mwy na 60 diwrnod cyn eu symud. Nid yw'r gofyniad hwn yn gymwys i anifeiliaid sy'n dod o fewn un o'r categorïau a restrir yn erthygl 9(2). Mae'r Atodlen i'r Gorchymyn yn nodi'r symudiadau a eithrir o'r gofyniad i brofi cyn symud. Yn ychwanegol, ceidw arolygydd milfeddygol y disgresiwn i awdurdodi rhai symudiadau heb brawf cyn symud (erthygl 11(b)). Mae erthygl 10 yn gosod dyletswydd i gadw cofnodion o rai profion ar gyfer twbercwlosis. Mewnosodwyd darpariaethau'n ymwneud â thail a slyri yn erthygl 15 (rhagofalon yn erbyn lledaenu haint). Mae erthygl 19 yn gosod dyletswydd i hysbysu'r Asiantaeth Labordai Milfeddygol fod M.bovis yn bresennol, pan fo hwnnw wedi'i ddarganfod mewn unrhyw sampl labordy, heblaw pan fydd wedi'i gyflwyno'n fwriadol yng nghwrs ymchwil. Cyfeiriad yr Asiantaeth Labordai Milfeddygol yw: TB Diagnostic Laboratory, The Veterinary Laboratories Agency, Woodham Lane, New Haw, Addlestone, Surrey, KTl5 3NB. Mae torri'r Gorchymyn yn drosedd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 gyda chosb yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno. Paratowyd Arfarniad Rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth Adran yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. Notes: [1] 1981 p.22. Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd i "the Ministers", i'r graddau y gellid eu harfer gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
ISBN 0 11 091323 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 21 April 2006 |