Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2006, ISBN 0110913205. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22(4) a (5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn. Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau a Symiau at Anghenion Personol) (Diwygio) (Cymru) 2006. (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 10 Ebrill 2006. (3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y Prif Reoliadau" ("the Principal Regulations") yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992[3]. (4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Symiau y mae eu hangen at anghenion personol 2. Y swm y mae awdurdod lleol yn rhagdybio y bydd ei angen ar berson at ei anghenion personol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948[4] yw £20.00 yr wythnos. Dirymu 3. Mae Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2005[5] drwy hyn wedi'u dirymu. Diwygio rheoliad 2 o'r Prif Reoliadau 4. Ym mharagraff (1) o reoliad 2 o'r Prif Reoliadau (dehongli), yn y diffiniad o "liable relative", yn lle "or former spouse", rhodder ", former spouse, civil partner or former civil partner". Diwygio rheoliad 20A o'r Prif Reoliadau 5. Ym mharagraff (2) o reoliad 20A o'r Prif Reoliadau yn lle'r ffigur "£21,000" rhodder y ffigur "£21,500". Diwygio rheoliad 28A o'r Prif Reoliadau 6. Ym mharagraff (2) o reoliad 28A o'r Prif Reoliadau (cyfrifo incwm tariff o gyfalaf - Cymru)—
(b) yn lle'r ffigur "£21,000" rhodder y ffigur "£21,500".
Diwygio Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau
(ii) yn is-baragraff (1)(b), ar (tm)l "spouse's maintenance" mewnosoder "or his civil partner for that civil partner's maintenance";
(b) ym mharagraff 17[7]—
(ii) yn is-baragraffau (3) a (4) yn lle'r ffigur "£7.20" rhodder y ffigur "£7.50" ym mhob man y mae'n ymddangos.
Diwygio Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r swm wythnosol y mae awdurdodau lleol i ragdybio, yn niffyg amgylchiadau arbennig, y bydd ar breswylwyr, sydd mewn llety a drefnwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948, ei angen at eu hanghenion personol. O 10 Ebrill 2006 ymlaen, rhagdybir y bydd ar bob preswylydd o'r fath angen £20.00 yr wythnos. Yn ail, mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 ("y Prif Reoliadau"). Mae'r Prif Reoliadau'n penderfynu'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn asesu gallu person i dalu am y llety a drefnwyd ar ei gyfer o dan Ran 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948. Mae'r diwygiadau yn darparu i bartneriaid sifil gael eu trin yn yr un modd ‰ phobl briod ac i daliadau cymorth mabwysiadu o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 gael eu diystyru fel cyfalaf ac fel incwm. Mae codiadau blynyddol hefyd yn y terfynau cyfalaf a'r diystyriad ar gyfer y rhai sy'n cael credyd pensiwn. Notes: [1] 1948 p.29. Gweler adrannau 35(1) a 64(1) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i gael y diffiniadau o "the minister" a "prescribed" yn y drefn honno ac erthygl 2 o Orchymyn yr Ysgrifennydd Gwladol dros Wasanaethau Cymdeithasol 1968 (O.S.1968/1699) a drosglwyddodd holl swyddogaethau'r Gweinidog Iechyd i'r Ysgrifennydd Gwladol.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(4) a (5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 1992/2977 fel y'i diwygiwyd gan gyfres o offerynnau dilynol.back [5] O.S. 2005/ 663 (Cy.53).back [6] Wedi'i fewnosod gan O.S. 1996/602 a'i ddiwygio gan O.S. 1997/485.back [7] Wedi'i ddiwygio gan O.S. 2003/2530.back
ISBN 0 11 091320 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 12 April 2006 |