Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2006, ISBN 0110913248. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 55(2) i (6) a (7A), 143(1) a (2), a pharagraff 12 i Atodlen 7A a pharagraffau 1 ac 8 i Atodlen 11 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] ac sydd bellach wedi eu breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ac ar ôl ymgynghori â'r Cyngor Tribiwnlysoedd fel sy'n ofynnol gan adran 8 o Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992[2]: Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 5 Ebrill 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Dehongli 2. —(1) Diwygir Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Cymru) 2005[3] fel a ganlyn. (2) Yn rheoliad 8(3), ar ôl y geiriau "service on him", rhodder "or her". (3) Yn rheoliad 13(3), ar ôl y geiriau “ "supplied to him", rhodder "or her". (4) Yn rheoliad 25(7), yn lle'r geiriau "paragraph 6(a)", rhodder "paragraph (6)(a)". (5) Yn rheoliad 26—
(b) yn lle'r gair "chairman's", rhodder "chairperson's".
(6) Yn rheoliad 30(1), yn lle'r gair "chairman", rhodder "chairperson" yn y ddau fan lle y digwydd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio'r Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Cymru) 2005. Mae'r Rheoliadau hynny yn ymwneud â newidiadau i'r rhestri ardrethu annomestig (a gaiff eu llunio o dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988) gan swyddogion prisio, cynigion ar gyfer newidiadau o'r fath gan bersonau eraill ac apeliadau i dribiwnlys prisio os cyfyd anghytundeb ynglŷn â chynnig rhwng y swyddog prisio a pherson arall. Mae'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn tynnu'r cyfeiriadau at y Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio a'r Dreth Gymuned 1989 (O.S. 1989/439) a ddatgymhwyswyd o ran tribiwnlysoedd yng Nghymru gan Reoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) 1995 (O.S. 1995/3056), ac yn mewnosod darpariaethau sy'n niwtral o ran rhyw os oes eu hangen (Rheoliad 2). Notes: [1] 1988 p.41. Mewnosodwyd adran 55(7A) gan baragraff 30(5) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). Cafodd y pwerau hyn eu dirprwyo, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn Atodlen 1.back [3] O.S. 2005/758 (Cy.63).D. Elis-Thomasmgv1 13-3-06back
ISBN 0 11 091324 8
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 21 April 2006 |