Gorchymyn Pwyllgor Rhanbarthol Amddiffyn Rhag Llifogydd Cymru (Cyfansoddiad) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Pwyllgor Rhanbarthol Amddiffyn Rhag Llifogydd Cymru (Cyfansoddiad) 2006, ISBN 0110913167. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 16A o Ddeddf yr Amgylchedd 1995[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi, cychwyn a dehongli 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pwyllgor Rhanbarthol Amddiffyn Rhag Llifogydd Cymru (Cyfansoddiad) 2006 a daw i rym pan ddaw Gorchymyn 2005 i rym[2]. (2) Yn y Gorchymyn hwn—
Cyfansoddiad
(b) dau aelod wedi eu penodi gan yr Asiantaeth; ac (c) un aelod wedi ei benodi gan bob grwŵp a bennir yng ngholofn 1 o'r Atodlen, neu ar ran bob grwŵp, y mae cynghorau'r siroedd a'r bwrdeistrefi sirol a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen yn gynghorau cyfansoddol ohono.
(2) Mae'r penodiadau o dan baragraff (1)(c) i gael eu gwneud gan y cynghorau ym mhob grwŵp yn gweithredu ar y cyd mewn perthynas â'r aelod a benodir dros y grwŵp hwnnw.
(b) yn lle "a term of four years" rhodder "a term ending with 31 May 2010".
Dirymu
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Pwyllgorau Asiantaeth yr Amgylchedd yw pwyllgorau rhanbarthol amddiffyn rhag llifogydd, ac fe'u sefydlwyd gan adran 14 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 ("Deddf 1995"). Mae adran 16A(3) o Ddeddf 1995 yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad") benderfynu cyfanswm nifer aelodau pwyllgor Cymreig a'r dull o'u dewis ac i benodi cadeirydd ac aelodau eraill o'r pwyllgor (gan gynnwys y sawl fydd yn eu penodi). Caiff y Cynulliad wneud gorchymyn o'r fath dan adran 16A(3) os cyfyd yr amodau a ganlyn: fod y cyfan neu'r rhan fwyaf o ardal y pwyllgor yng Nghymru; ac nad oes yna gynllun amddiffyn rhag llifogydd lleol mewn grym mewn perthynas ag ardal y pwyllgor (adran 16A(2)). Mewn perthynas â phwyllgor nad yw ei ardal yn gyfangwbl yng Nghymru, dim ond gyda chytundeb yr Ysgrifennydd Gwladol y gellir arfer y pwŵer i wneud gorchymyn o'r fath ac mae offeryn statudol sy'n cynnwys gorchymyn o'r fath yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan y naill Dyŵneu'r llall o'r Senedd (adran 16A(6)). Mae'r Gorchymyn hwn yn ymwneud â phwyllgor y bydd ei ardal yn gyfangwbl yng Nghymru o 1 Ebrill 2006 ymlaen[6] ac nad oes, mewn perthynas â hi, gynllun amddiffyn rhag llifogydd lleol mewn grym[7]. Yn unol â hynny, nid yw'n ddarostyngedig i gytundeb yr Ysgrifennydd Gwladol nac yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan y naill Dyŵneu'r llall o'r Senedd. Oherwydd yr ystyriaethau uchod, mae erthygl 1 yn darparu bod dyfodiad y Gorchymyn hwn i rym yn ddibynnol ar fod aliniad ardal y pwyllgor gydag arwynebedd Cymru yn dod i rym ar 1 Ebrill 2006. Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn yn darparu bod y Cynulliad i benodi wyth aelod ar y pwyllgor, gan gynnwys y cadeirydd; bod Asiantaeth yr Amgylchedd i benodi dau aelod (ni chaiff yr un ohonynt fod yn aelod o'r Asiantaeth); a bod awdurdodau lleol i benodi cyfanswm o wyth aelod (i'w penodi gan gynghorau'n gweithio ar y cyd i benodi un aelod ar gyfer pob grwŵp o awdurdodau lleol a bennir yn yr Atodlen). Os nad yw grwŵp o gynghorau, sy'n gweithio ar y cyd, yn gallu penodi aelod, caiff y Cynulliad benodi'r aelod hwnnw ar ran y cynghorau. Mae erthygl 3 yn darparu bod tymor swydd yr aelodau cyntaf a benodir gan y cynghorau cyfansoddol o dan y Gorchymyn hwn i gychwyn yn Ebrill, yn hytrach nag ym Mehefin fel y darperir yn Atodlen 5 i Ddeddf 1995, a'u bod i barhau hyd 31 Mai 2010. Ar ôl hynny, bydd y penodiadau yn cychwyn ym Mehefin. Mae erthygl 4 yn dirymu Gorchymyn Pwyllgor Rhanbarthol Amddiffyn Rhag Llifogydd (Rhanbarth Cymru) 1996 (O.S. 1996/538). Notes: [1] 1995 p.25. Mewnosodwyd adran 16A gan adran 67 o Ddeddf Dwör 2003 (p.37) (Aelodaeth o bwyllgorau rhanbarthol amddiffyn rhag llifogydd yng Nghymru).back [2] Cafodd Gorchymyn 2005 ei wneud ar 24 Medi 2005, a'i osod gerbron y Senedd ar 3 Tachwedd 2005 a daw i rym ar 1 Ebrill 2006.back [4] O.S. 1996/538 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1996/1007 ac O.S 2005/3047).back [6] Mae Gorchymyn Pwyllgorau Rhanbarthol Amddiffyn Rhag Llifogydd Cymru, Hafren-Trent a Gogledd-Orllewin Lloegr (Newid Ffiniau) 2005 (O.S. 2005/3047), sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2006, yn newid ffin ardal Pwyllgor Rhanbarthol Amddiffyn Rhag Llifogydd Cymru, er mwyn peri iddi gydweddu ag arwynebedd Cymru.back [7] Dirymodd Gorchymyn Cynllun Amddiffyn Rhag Llifogydd Cymru 1996 (Dirymu) 2005 (O.S. 2005/548), a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2005, y cynllun amddiffyn rhag llifogydd oedd mewn grym mewn perthynas ag ardal y pwyllgor hwn.back
ISBN 0 11 091316 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 10 April 2006 |