Gorchymyn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Gwerth Gorau) (Pŵer i Fasnachu) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Gwerth Gorau) (Pŵer i Fasnachu) (Cymru) 2006, ISBN 0110913140. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 95, 96 a 123 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Gwerth Gorau) (Pŵer i Fasnachu) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 1 Ebrill 2006. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru[2] sydd—
(b) yn awdurdodau Parciau Cenedlaethol; ac (c) yn awdurdodau tân ac achub a sefydlwyd drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004[3] neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddo.
Pŵer i fasnachu mewn gweithgareddau sy'n gysylltiedig â swyddogaethau
(b) cymeradwyo'r achos busnes hwnnw.
(3) Rhaid i awdurdod gwerth gorau adennill costau unrhyw lety, nwyddau, gwasanaethau, staff neu unrhyw beth arall y mae'n ei gyflenwi i gwmni[5] yn unol ag unrhyw gytundeb neu drefniant i hwyluso'r broses o arfer y pwŵer a roddir gan baragraff (1).
(b) y buddsoddiad a'r adnoddau eraill sy'n ofynnol i sicrhau'r amcanion hynny; (c) unrhyw risgiau y gallai'r busnes eu hwynebu a pha mor sylweddol yw'r risgiau hynny; ac (ch) canlyniadau ariannol disgwyliedig y busnes, ynghyd ag unrhyw ddeilliannau perthnasol eraill y disgwylir i'r busnes eu sicrhau.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru sy'n gynghorau sir, yn gynghorau bwrdeistref sirol, yn awdurdodau Parciau Cenedlaethol neu'n awdurdodau tân ac achub. Mae erthygl 2 yn awdurdodi awdurdod gwerth gorau y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo i fasnachu ym maes unrhyw un o'i swyddogaethau cyffredin yn ddarostyngedig i amodau sy'n ei gwneud yn ofynnol i achos busnes gael ei baratoi a'i gymeradwyo ymlaen llaw, ac i unrhyw gostau a dynnir gan yr awdurdod gael eu hadennill, sef costau o ran unrhyw beth y mae'n ei gyflenwi, gan gynnwys llety, nwyddau, gwasanaethau neu staff, i gwmni y mae'r pŵer masnachu yn cael ei arfer drwyddo. O dan adran 95(4) o'r Ddeddf, rhaid i'r pŵer i fasnachu gael ei arfer drwy gwmni. Notes: [1] 2003 p.26.back [2] Gweler adran 124 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i gael y diffiniad o "best value authority".back [4] Gweler adran 95(7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i gael ystyr "ordinary functions".back [5] Gweler adran 95(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i gael ystyr "company".back
ISBN 0 11 091314 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 10 April 2006 |