Gorchymyn Diddymu Proffesiynau Iechyd Cymru 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Diddymu Proffesiynau Iechyd Cymru 2006, ISBN 0110913159. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 5 o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diddymu Proffesiynau Iechyd Cymru 2006 a daw i rym ar 1 Ebrill 2006. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru. (3) Yn y Gorchymyn hwn—
Diddymu Proffesiynau Iechyd Cymru
(b) bydd aelodau o staff PIC sydd yn union cyn y dyddiad hwnnw yn dal contract cyflogi gyda PIC ac sy'n delio'n llwyr neu'n bennaf â swyddogaethau awdurdod goruchwylio lleol yn cael eu trin fel petaent wedi trosglwyddo o PIC ac yn gyflogedig gan y Cynulliad Cenedlaethol; (c) bydd aelodau o staff PIC sydd yn union cyn y dyddiad hwnnw yn dal contract cyflogaeth gyda PIC ac sy'n delio'n llwyr neu'n bennaf â sicrhau ansawdd cyrsiau nyrsio a bydwreigiaeth naill ai ar ran y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn cael eu trin fel petaent wedi trosglwyddo o PIC ac yn gyflogedig gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Trosglwyddo pob eiddo a chofnod
(b) bydd y les y cyfeirir ati yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol; (c) bydd y cofnodion a ddelir gan PIC mewn perthynas ag arfer swyddogaeth dyfarndaliadau myfyrwyr a roddir o dan adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd Cyhoeddus 1968[5] yn cael eu trosglwyddo i Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg.
Gorfodi hawliau a throsglwyddo rhwymedigaethau
(b) gosod copi ohonynt fel y'u hardystiwyd gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, ynghyd ag adroddiad arnynt.
Mangreoedd swyddfa ar ail lawr Golate House, Heol Eglwys Fair, Caerdydd a gynhwysir mewn les dyddiedig 9 Hydref 1997 ac a wnaed rhwng Dovey Estates Ltd(1) a Bwrdd Cenedlaethol Cymru dros Nyrsio Bydwreigiaeth a Gwasanaethau Ymwelwyr Iechyd ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru(2). (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu ar 1 Ebrill 2006 y corff a adwaenir fel Proffesiynau Iechyd Cymru ac a sefydlwyd o dan adran 4 o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003. Mae'r Gorchymyn yn dirymu'r Gorchmynion a bennir yn erthygl 3 ac yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff, eiddo a chofnodion. Mae yna hefyd ddarpariaeth ar gyfer dirwyn i ben faterion y corff. Notes: [1] 2003 p.4.back [3] O.S. 2004/551 (Cy.55).back [4] O.S. 2004/550 (Cy.54).back
ISBN 0 11 091315 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 10 April 2006 |