Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2006, ISBN 0110913124. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Adran 156(4) o Ddeddf Tai 1985[1] sydd bellach wedi eu breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn[2]: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 31 Mawrth 2006. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru. Corff penodedig 2. Pennir bod Church House Trust plc (Cwmni Rhif 0980698) yn sefydliad benthyca cymeradwy at ddibenion adran 156 o Ddeddf Tai 1985 (blaenoriaeth arwystlon)[3]. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4] D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 28 Mawrth 2006 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu Church House Trust plc (Cwmni Rhif 0980698) yn sefydliad benthyca cymeradwy at ddibenion adran 156 o Ddeddf Tai 1985 (blaenoriaeth arwystlon ar warediadau o dan yr hawl i brynu) yn ychwanegol at y cyrff a bennir yn yr adran honno neu mewn Gorchmynion blaenorol o dan yr adran honno. Mae adran 156 yn darparu bod yr ymrwymiad i ad-dalu disgownt a all godi o dan gyfamod gan y tenant sy'n ofynnol gan adran 155 o Ddeddf 1985 yn ffurfio arwystl cyfreithiol ar y tŷ annedd ond bod gan arwystl cyfreithiol sy'n gwarantu swm a fenthycir i'r tenant gan sefydliad benthyca cymeradwy er mwyn i'r tenant allu arfer ei hawl i brynu flaenoriaeth drosto. Mae cyrff o'r fath hefyd yn dod yn sefydliadau benthyca cymeradwy at ddibenion adran 36 o Ddeddf 1985 (blaenoriaeth arwystlon ar warediadau gwirfoddol gan awdurdodau lleol) ac adran 12 o Ddeddf Tai 1996 (blaenoriaeth arwystlon ar warediadau gwirfoddol gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig). Yn ychwanegol, gan fod adran 156 o Ddeddf Tai 1985 yn cael ei chymhwyso gan adran 171A o'r Ddeddf honno at achosion lle diogelir hawl tenant i brynu a chan adran 17 o Ddeddf Tai 1996 at achosion lle mae gan denant hawl i gaffael o dan adran 16 o'r Ddeddf honno, daw'r cyrff penodedig yn sefydliadau benthyca cymeradwy at ddibenion yr hawliau hynny. Notes: [1] 1985 p.68; cafodd adran 156(4) ei diwygio gan baragraff 106 o Atodlen 17 i Ddeddf Tai 1988 (p.50), gan baragraff 22(1)(c) o Atodlen 18 a Rhan XIII o Atodlen 19 i Ddeddf Tai 1996 (p.52), gan adran 140 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) a pharagraff 5 o Atodlen 16 iddi a chan Orchymyn Deddf Gwasanaethau Ariannol a Marchnadoedd 2000 (Diwygiadau Canlyniadol a Dirymiadau) 2001 (O.S. 2001/3649).back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] Cafodd adran 156 ei diwygio hefyd gan adran 24(1) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 (p.63) a pharagraffau 1(2) a (5) o Atodlen 5 iddi, gan adran 120(3) a (4) o Ddeddf Diwygio Prydlesoedd, Tai a Datblygiad Trefol 1993 (p.28) a chan adran 135 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (p.9) ac Atodlen 13 iddi.back
ISBN 0 11 091312 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 7 April 2006 |