Gorchymyn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (Ymchwiliadau Safonau) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (Ymchwiliadau Safonau) 2006, ISBN 0110913175. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 70(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[1]: Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (Ymchwiliadau Safonau) 2006 a daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2006. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru. (3) Yn y Gorchymyn hwn—
Cymhwyso darpariaethau Deddf 2000
(b) at Fwrdd Safonau Lloegr yn gyfeiriad at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; (c) at Loegr yn gyfeiriad at Gymru; (ch) at adran 59 yn gyfeiriad at adran 69; a (d) at yr Ysgrifennydd Gwladol yn gyfeiriad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cymhwyso darpariaethau yn Neddf 2000 gydag addasiadau
(b) berson arall sy'n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon neu'n cynorthwyo'r Ombwdsmon
mewn perthynas ag arfer swyddogaethau'r Ombwdsmon o dan Ran III o Ddeddf 2000 fraint absoliwt.
Adran 60(4) 1. Mae adran 60(4) o Ddeddf 2000 (Cynnal ymchwiliadau) yn gymwys fel petai'r canlynol yn cael ei roi yn lle'r is-adran honno—
(b) may, where that Ombudsman is precluded from conducting an investigation by paragraph (a), authorise any person to conduct such an investigation in relation to that member or co-opted member (or former member or co-opted member), to the extent so authorised, under paragraph 13 of Schedule 1 to the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2005.".
Adran 60(5)
(b) y geiriau "section 69, the Public Services Ombudsman for Wales" yn cael eu rhoi yn lle "section 59"; (c) y canlynol yn cael ei roi yn lle paragraff (a)—
(b) the member or co-opted member (or former member or co-opted member) against whom the allegation is made;
(ii) where section 69(1)(b) applies, the member or co-opted member (or former member or co-opted member) concerned; and
(ch) ym mharagraff (b), "; and" yn cael ei roi yn lle'r atalnod llawn; a
Adran 60(6)
(b) y geiriau "or paragraph 3(2) of Schedule 4 or any breach falling within paragraph 3(3) of that Schedule" yn cael eu hepgor.
Adran 62(4)
(b) y geiriau "that Ombudsman" yn cael eu rhoi yn lle "such an officer"; ac (c) ym mharagraff (a), y geiriau "the National Assembly for Wales or" yn cael eu rhoi ar ôl "the authority concerned and".
Adran 63(1)
(b) ym mharagraff (a), y geiriau ", the Public Services Ombudsman for Wales" yn cael eu hepgor; ac (c) ym mharagraff (f), y paragraff canlynol yn cael ei fewnosod—
Adran 63(2)
(b) y gair "Wales" yn cael ei roi yn lle "England"; (c) y geiriau "the Public Services Ombudsman for Wales" yn cael eu rhoi yn lle "any ethical standards officer"; ac (ch) y geiriau "his or (as the case may be)" yn cael eu hepgor.
Adran 26(2) 1. Bydd adran 26(2) o Ddeddf 2005 (Cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth) yn gymwys fel pe bai'r paragraff canlynol yn cael ei fewnosod ar ôl paragraff (j),—
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) O dan adran 70 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, (fel y'i diwygiwyd) ("Deddf 2000"), caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud darpariaeth mewn perthynas ag ymchwiliadau safonau o dan adran 69 o'r Ddeddf honno gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ("Yr Ombwdsmon"). Mae'r ymchwiliadau hyn yn ymwneud ag ymddygiad aelodau neu aelodau cyfetholedig o awdurdod perthnasol yng Nghymru pan fo honiad wedi'i wneud fod aelod neu aelod cyfetholedig o'r fath wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol neu y gall fod wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad o'r fath. Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer cymhwyso adrannau 60 i 63 o Ddeddf 2000 ac adrannau 26 i 32 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 ("Deddf 2005") i ymchwiliadau safonau. Mewn rhai achosion, cymhwysir darpariaethau yn yr adrannau hynny gydag addasiadau. Mae erthygl 2 (drwy gyfeirio at Atodlen 1 i'r Gorchymyn) yn cymhwyso adrannau 60(1); 61; 62(1) i (3), (5), (6) ac (8) i (11); a 63(3) o Ddeddf 2000 at ymchwiliad safonau o dan adran 69 o'r Ddeddf honno. Mae erthygl 3 (drwy gyfeirio at Atodlen 2 i'r Gorchymyn) yn cymhwyso adrannau 60(4) i (6), 62(4) a 63(1) a (2) o Ddeddf 2000 at ymchwiliad safonau o dan adran 69 o'r Ddeddf honno yn y ffurf wedi'i haddasu a restrir yn Atodlen 2. Mae erthygl 4, drwy addasu'r darpariaethau yn adran 26 o Ddeddf 2005 (sy'n ymwneud â datgelu gwybodaeth gan yr Ombwdsmon), yn caniatáu i'r Ombwdsmon ddatgelu gwybodaeth a gafwyd mewn cysylltiad ag ymchwiliad o dan Ran 2 o Ddeddf 2005 at ddibenion ymchwiliad safonau o dan adran 69 o Ddeddf 2000 (ac mae Atodlen 3 i'r Gorchymyn yn cyfeirio at hynny). Yn rhinwedd erthygl 5, mae braint absoliwt, at ddibenion y gyfraith ddifenwi, yn cael ei hestyn i ddatganiadau aelodau o staff yr Ombwdsmon, personau sy'n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon a phersonau sy'n cynorthwyo'r Ombwdsmon gydag arfer swyddogaethau'r Ombwdsmon o dan Ran III o Ddeddf 2000. Mae erthygl 6 yn dirymu Gorchymyn Comisiynydd Lleol yng Nghymru (Ymchwiliadau Safonau) 2001. Notes: [1] 2000 p.22. Diwygir adran 70(2) gan baragraff 14(a) o Atodlen 4 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 ac mae O.S. 2005/2800 (Cy.199) (C.116) yn cyfeirio at hynny.back [3] O.S. 2001/2286 (Cy.174).back
ISBN 0 11 091317 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 10 April 2006 |